Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer sesiwn wybodaeth Grant Cyfalaf 2024 i 2025.
Cynnwys
Cefndir
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad agored ar 28 Tachwedd 2023 rhwng 1 i 2pm (rhithwir drwy Teams), er mwyn rhoi cyflwyniad i’r Grant Cyfalaf VAWDASV 2024 i 2025 a'r blaenoriaethau ar gyfer cyllido.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn gwybodaeth bersonol (enw a chyfeiriad e-bost) y rhai sy'n bresennol pan fyddant yn cofrestru eu diddordeb drwy e-bostio: CTP.Cyllid@llyw.cymru.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth?
Bydd yr wybodaeth bersonol (manylion cyswllt) a ddarperir gennych yn cael ei chadw er mwyn darparu gwybodaeth am y broses ymgeisio ar gyfer Grant Cyfalaf VAWDASV 2024 i 2025.
Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio i anfon dolen Teams atoch ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad. Ni fydd yn bosibl i Lywodraeth Cymru na chynrychiolwyr eraill weld unrhyw wybodaeth bersonol drwy Teams, ac eithrio'r enw arddangos rydych yn dewis ei ddarparu er mwyn cael mynediad at Teams.
Pan fyddwch yn cofrestru eich diddordeb yn y digwyddiad, byddwch yn cael cyfle hefyd i ddweud wrthym a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch i gymryd rhan yn y cyfarfod. Os ydych am ofyn am unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer y cyfarfod, yna bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich enw a'ch cyfeiriad e-bost er mwyn gohebu â chi.
Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio’ch data?
The Welsh Government (‘we’) will be the data controller for the personal data you provide to participate in this event and will process it in the exercise of our public task and the official authority vested in us for the administration of the event.
Your rights in relation to your information
Llywodraeth Cymru (‘ni’) fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol yr ydych yn eu darparu a byddwn yn eu prosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus ac o dan yr awdurdod swyddogol a roddwyd inni i gyflawni gwaith gweinyddol y digwyddiad.
Am ba mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth?
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r defnydd ohoni, neu os ydych chi'n dymuno arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Tim Cyllid Cymunedau a Threchu Tlodi
Cyfarwyddiaeth Cymunedau a Threchu Tlodi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: CTP. Cyllid@llyw.cymru
I gael gwybod mwy am eich hawliau o ran gwybodaeth, cysylltwch â:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru