Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Fel Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Gweinidogion Cymru, mae Adran 22 Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn mynnu ein bod yn paratoi cynllun blynyddol sy’n nodi sut rydym yn bwriadu arfer swyddogaethau’r rôl hon yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol.

Ein cynllun blynyddol ar gyfer 2025 i 2026 yw ein cynllun blynyddol terfynol fel Cynghorwyr Cenedlaethol ac mae’n dangos ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Rydym yn gwneud hyn yng nghyd-destun y Ddeddf a strategaeth VAWDASV 2022 i 2026, sy’n darparu’r amcanion a’r mecanweithiau er mwyn i’r llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus gyflawni’r ymrwymiad i fynd i’r afael â VAWDASV a chyflawni’r uchelgais i “wneud Cymru’r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw”

Rydym yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar draws amrywiaeth eang o fforymau yn ogystal â chadeirio’r Grŵp Cyfeirio Arbenigol, a ffurfiwyd o’r sector arbenigol annibynnol a’r Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr Cenedlaethol sy’n cyd-fynd â’r Glasbrint VAWDASV. 

Drwy ein presenoldeb mewn fforymau perthnasol a’n hymgysylltiad uniongyrchol â darparwyr a goroeswyr arbenigol, rydym yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn ymwybodol o gynnydd, arferion gorau a’r heriau sy’n dal i fodoli yng Nghymru o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae maint y mater hwn yn aruthrol. Bellach, mae Trais yn erbyn Menywod wedi cael ei flaenoriaethu fel bygythiad cenedlaethol, ochr yn ochr â bygythiadau fel terfysgaeth a throseddau cyfundrefnol difrifol, o dan y Gofyniad Plismona Strategol 2023. Yn fwyaf diweddar, dywedodd datganiad plismona cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar 23 Gorffennaf 2024 fod cynnydd o bron i 40% wedi bod mewn trais yn erbyn menywod a merched (VAWG) rhwng 2018 a 2023 a’i fod bellach yn cael ei gydnabod fel ‘argyfwng cenedlaethol’. Cofnododd yr heddlu dros filiwn o droseddau yn erbyn menywod neu ferched rhwng 2022 a 2023 ac amcangyfrifir y bydd o leiaf un fenyw o bob 12, dros ddwy filiwn, yn dioddef troseddau Trais yn erbyn Menywod a Merched bob blwyddyn.

Drwy gydol 2024-2025, gwelwyd cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau VAWDASV arbenigol yng Nghymru. Mae gwasanaethau arbenigol ledled Cymru’n nodi nifer uwch o atgyfeiriadau, gyda llawer yn profi capasiti estynedig wrth iddynt weithio i ddarparu ymyriadau hanfodol, llety diogel, cymorth iechyd meddwl, a chwnsela. Roedd Adroddiad Cyflwr y Sector 2023 i 2024 Cymorth i Fenywod Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2024 yn nodi bod gwasanaethau arbenigol yng Nghymru wedi gweld cynnydd o 28% mewn adroddiadau o gam-drin ariannol gan oroeswyr sy’n defnyddio gwasanaethau yn y gymuned rhwng 2021 i 2022 a 2022 i 2023. Mae’r cynnydd hwn yn y galw yn tynnu sylw at fregusrwydd parhaus llawer o oroeswyr, sy’n wynebu rhwystrau sylweddol o ran ceisio sicrhau eu diogelwch a’u hadferiad. I’r rheini y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt, nid oes erioed cymmaint o frys wedi bod am y cymorth, a heb gyllid digonol a pharhaus, bydd gwasanaethau arbenigol yn parhau i fod dan gryn straen.

Yr Heriau mae Goroeswyr yn eu Hwynebu yng Nghymru

Mae goroeswyr yng Nghymru yn parhau i wynebu amryw o heriau sy’n effeithio ar eu taith tuag at ddiogelwch ac adferiad:

  • Mynediad Cyfyngedig at Lety Diogel: mae prinder llochesi a dewisiadau tai fforddiadwy yn peri rhwystrau sylweddol i oroeswyr sy’n ceisio gadael amgylcheddau camdriniol. Mae llawer o oroeswyr, yn enwedig y rheini sydd â phlant, yn ei chael yn anodd dod o hyd i lety addas dros dro neu’n barhaol, gan orfodi rhai i ddychwelyd i sefyllfaoedd anniogel.
  • Anghenion Cymorth Iechyd Meddwl: yn aml, mae angen cymorth iechyd meddwl wedi’i deilwra ar oroeswyr i ymdopi â thrawma yn sgil camdriniaeth, ond mae mynediad at y gwasanaethau hyn yn dal i fod yn anghyson. Mae’r galw mawr am wasanaethau iechyd meddwl wedi arwain at amseroedd aros hirach, sy’n golygu nad oes gan rai goroeswyr fynediad ar unwaith at gymorth seicolegol hanfodol.
  • Dibyniaeth Economaidd: mae rhwystrau ariannol yn her gyffredin i oroeswyr nad oes ganddynt efallai’r adnoddau i sefydlu annibyniaeth. Mae cam-drin economaidd, ansefydlogrwydd swyddi, a mynediad cyfyngedig at fudd-daliadau’n gwaethygu eu dibyniaeth ar bartneriaid camdriniol, gan lesteirio ymhellach eu gallu i dorri’n rhydd.
  • Trais Rhywiol: fel yr adroddwyd yn eang, nid yw’r rhan fwyaf o achosion a gofnodwyd yn mynd ymlaen i gael eu herlyn, gan greu rhwystrau sylweddol i oroeswyr sy’n ceisio cyfiawnder. Ar ben hynny, mae gwasanaethau trais rhywiol yng Nghymru’n nodi’r angen brys am fwy o gyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cymorth arbenigol
  • Rhwystrau Diwylliannol ac Ieithyddol: mae goroeswyr o gymunedau lleiafrifol neu gefndiroedd mudol yn aml yn wynebu rhwystrau diwylliannol, ieithyddol neu gyfreithiol ychwanegol wrth geisio cymorth. Mae angen hanfodol am wasanaethau hygyrch sy’n sensitif yn ddiwylliannol i sicrhau nad oes unrhyw oroeswr yn cael ei adael ar ôl.

Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru

Rhaid i awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Tân ac Achub ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru, a restrir fel ‘awdurdodau perthnasol’ yn Neddf VAWDASV 2015, gymryd rhan lawn mewn dull systemau cyfan gyda’r bwriad o gyfrannu at ddiben y Ddeddf. Mae’r ffrwd waith Dull System Gyfan Cynaliadwy wedi canolbwyntio ar y gwaith hwn. Fodd bynnag, cyfyngedig yw’r gynrychiolaeth a’r ymgysylltiad ac nid yw’r cynnydd wedi bod fel y byddem yn dymuno. Mae goroeswyr wedi bod yn glir yn eu cais am lwybrau clir ar gyfer cymorth mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy’n rhoi’r baich arnom ni, nid y dioddefwyr, i adnabod ac ymateb i’r gamdriniaeth maen nhw wedi’i ddioddef.  

Mae’r heddluoedd yng Nghymru wedi parhau â’u hymdrechion i wella cyfraddau ymateb a chanlyniadau i oroeswyr. Mae cynnydd wedi’i wneud o ran hyfforddi swyddogion i adnabod arwyddion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ymateb yn sensitif i oroeswyr, ac ymdrin yn effeithiol â drwgweithredwyr. Fodd bynnag, mae graddfa a chymhlethdod digwyddiadau o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn golygu bod angen dull gweithredu cryfach, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle gall goroeswyr deimlo’n ynysig ac yn llai abl i gael gafael ar gymorth.

Mae’r angen am ymdrechion ar y cyd rhwng yr heddlu, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r system gyfiawnder, sydd wrth gwrs yn fater a gedwir yn ôl, yn parhau i fod yn hollbwysig. Mae goroeswyr yn iawn i gredu y dylai gweithwyr proffesiynol, gwasanaethau a systemau weithio gyda’i gilydd i ddarparu’r hyn sydd ei angen arnynt ac ar yr adeg y mae ei angen arnynt. 

Yr Angen am Ddull ar Draws y System yn Wyneb Ansicrwydd o ran Cyllid

Mae’r sefyllfa gyllido bresennol yn parhau’n ansicr, gan beri risg sylweddol i gynaliadwyedd gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Mae llawer o’r gwasanaethau y mae goroeswyr yn dibynnu arnynt yn cael eu hariannu drwy grantiau tymor byr, sy’n golygu nad oes modd i ddarparwyr gynllunio y tu hwnt i’r tymor byr. Mae’r diffyg hwn o ran cyllid sefydlog yn arbennig o heriol i sefydliadau arbenigol, sy’n dibynnu ar adnoddau cyson i ddarparu cymorth o safon ac i gadw staff medrus a/neu golli arbenigedd yn y darparwyr arbenigol a chan ddarparwyr arbenigol.

Dull gweithredu ar draws y system, sy’n cael ei gefnogi gan fodel cyflawni’r glasbrint, yw’r ateb gorau o hyd ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau hyn. Drwy feithrin cydweithio rhwng pob rhan o’r system, yr heddlu, iechyd, gofal cymdeithasol, tai a gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol, mae’r dull hwn yn creu ymateb cadarn y gellir ei addasu i ddiwallu anghenion goroeswyr. Mae’n hanfodol cael buddsoddiad hirdymor a chydlynol ar draws sectorau i gyflawni’r weledigaeth hon a sicrhau bod gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gynaliadwy ac yn hygyrch.

Ein nod a’n blaenoriaethau

Fel Cynghorwyr Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf VAWDASV 2015, mae ein cynllun yn amlinellu’r nodau a’r blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod rhwng 2025 a 2026. Eleni, gan adlewyrchu uchelgais ein nod a’n bod bellach ar fisoedd olaf ein tymor fel Cynghorwyr Cenedlaethol, mae ein nod yn cyd-fynd â’n cynllun blaenorol i ganolbwyntio ar ymateb system gyfan i VAWDASV gyda gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau o fewn y Ddeddf. 

Dyma ein nod ar gyfer 2025 i 2026:

  • Gweithio gyda’r holl randdeiliaid i sicrhau bod y Ddeddf a’r Strategaeth yn cael eu cyflawni yn y ffordd fwyaf effeithiol fel bod gennym ymateb system gyfan a Chymru gyfan sy’n gweithio tuag at ddileu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r nod hwn, rydym wedi nodi’r blaenoriaethau canlynol:

  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni’r uchelgais a’r gwaith sydd ei angen ar draws Llywodraeth Cymru gan sicrhau bod camau gweithredu trawslywodraethol gwybodus yn cael eu cymryd.
  • Ymgysylltu â’r holl randdeiliaid a pharhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Gweinidogion a thîm cyflawni’r Glasbrint i wella profiad dioddefwyr a goroeswyr a thynnu sylw at fylchau a phrofiad gwael mewn gwasanaethau.
  • Gweithio gyda’r sector arbenigol yng Nghymru i dynnu sylw at eu gwaith, meysydd ymarfer sy’n dod i’r amlwg a’r heriau sy’n cael eu profir fel gwasanaethau hanfodol i oroeswyr ac eiriol dros gyllid gwell a mwy cynaliadwy.
  • Parhau i atgyfnerthu’r angen i sicrhau bod ymateb system gyfan yn cynnwys atal, cyflawni a gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan oroeswyr. 
  • Parhau i ymgysylltu â goroeswyr a gwasanaethau arbenigol i lywio ein cynrychiolaeth, ein cyngor a’n heiriolaeth ar sail profiad arbenigol a dealltwriaeth o’r ddarpariaeth bresennol. Byddwn yn gwneud ymdrech arbennig i sicrhau ein bod yn mabwysiadu dull croestoriadol, a’n bod yn adlewyrchu’r profiadau a’r heriau ychwanegol i oroeswyr sy’n dod o grwpiau lleiafrifol. 
  • Ymgymryd ag ymchwil a gwaith i lywio ein cyngor i Weinidogion, swyddogion/adrannau Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ynghylch eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf o ran atal, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr. 
  • Darparu sylwadau gyda llywodraeth y DU, gan sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau Cymru’n cael eu cynnwys mewn polisïau a chynlluniau, yn enwedig lle gallwn ddangos canlyniadau gwell i ddioddefwyr a goroeswyr. Un enghraifft o hyn yw ein gwaith i ymarfer ein proses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl a fydd yn cael ei darparu drwy ddull gweithredu Cymru gyfan.
  • Cefnogi’r angen i ehangu capasiti a datblygu modelau darparu gwasanaeth arloesol sy’n diwallu anghenion amrywiol goroeswyr ledled Cymru. Er gwaethaf canllawiau Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus (NRPF) Llywodraeth Cymru (2022) a gyhoeddwyd sy’n rhoi gwybodaeth am sut dylai awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol gefnogi pobl â NRPF, mae angen mynd ymhellach a darparu cyfarwyddyd clir i awdurdodau lleol ar sut gellir defnyddio’r canllawiau i gefnogi dioddefwyr gyda NRPF.

Er gwaethaf yr heriau sy’n ein hwynebu o ran ansicrwydd cyllid tymor hir ar gyfer VAWDASV yng Nghymru, rydym ni, ochr yn ochr â chyrff cyhoeddus ac awdurdodau perthnasol, yn dal wedi ymrwymo i gyflawni nodau Deddf VAWDASV (Cymru) 2015 a gwneud Cymru’n wlad lle mae goroeswyr yn cael eu cefnogi, lle mae drwgweithredwyr yn cael eu dal yn atebol, a lle gall ein cymunedau fyw heb drais ac ofn. Mae’n dal yn hanfodol ein bod yn ymdrechu i ddarparu ymateb ar sail anghenion ac ar draws y system i fynd i’r afael â VAWDASV yng Nghymru, gan sicrhau bod goroeswyr yn gallu cael gafael ar y cymorth a’r cyfiawnder maen nhw’n ei haeddu. Felly, rhaid inni roi’r brys cenedlaethol sy’n ofynnol i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.

Hwn fydd y cynllun terfynol ar ein cyfer ni fel Cynghorwyr Cenedlaethol a bydd hefyd yn darparu sail ar gyfer gwaith y Cynghorydd nesaf am eu 6 mis cyntaf yn y swydd. Byddwn yn sicrhau bod proses bontio ddi-dor ar eu cyfer a’u bod yn gallu ymgymryd â’u dyletswyddau, gan gynnwys cymryd rhan yn y Glasbrint a hwyluso gwaith pwysig iawn y Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr Cenedlaethol.