Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: adroddiad cynnydd blynyddol 2022 i 2023
Crynodeb o’r cynnydd a wnaed rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, ac mae'n cyd-fynd â'r amcanion a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022 i 2026.
O dan adran 12 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ('y Ddeddf'), mae'n rhaid i Weinidogion Cymru, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gyhoeddi adroddiad sy'n mynd i'r afael â'r canlynol:
- y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion yn y strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni dibenion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yng Nghymru (gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol).
Mae Rhan 1 yr adroddiad hwn yn nodi'r cyd-destun ehangach ar gyfer ystyried y cynnydd o ran yr amcanion. Er nad yw'r adrannau hyn yn ymwneud yn benodol ag amcanion y strategaeth, maent yn dangos y cynnydd tuag at gyflawni dibenion y Ddeddf i atal cam-drin ar sail rhywedd a diogelu a chefnogi goroeswyr. Mae yna adrannau ar:
- y Rhaglen Lywodraethu
- y Strategaeth Genedlaethol, yr amcanion a'r dangosyddion
- y Glasbrint ar gyfer gweithredu
- diweddariadau cynnydd cyffredinol.
Mae Rhan 2 yr adroddiad yn canolbwyntio ar bob un o amcanion y Strategaeth Genedlaethol yn ei dro ac mae'n cynnwys diweddariad cyffredinol, y prif bethau a gyflawnwyd, a'r camau nesaf ar gyfer pob un.
Rhan 1: cyd-destun
Y Rhaglen Lywodraethu
Gwnaeth Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yr ymrwymiadau canlynol mewn perthynas â thrais a cham-drin:
- Cryfhau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref.
- Ehangu’r ymgyrchoedd hyfforddi ac ymwybyddiaeth ‘Gofyn a Gweithredu’ a ‘Paid Cadw’n Dawel’.
Er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.
Cafodd yr ymrwymiadau hyn eu datblygu wrth adnewyddu'r Strategaeth Genedlaethol yn dilyn Etholiad y Senedd yn 2021.
Y Strategaeth Genedlaethol
Mae adran 3 o'r Ddeddf yn nodi dyletswydd Gweinidogion Cymru i lunio a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol, y mae'n rhaid ei hadolygu a'i chyhoeddi ar ôl pob etholiad Senedd. Yn dilyn etholiad y Senedd yn 2021, aeth Llywodraeth Cymru ati i ymgysylltu ac ymgynghori'n helaeth â phartneriaid allweddol, rhanddeiliaid, y sector arbenigol a'r cyhoedd. Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Genedlaethol newydd, i adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o'r fersiwn flaenorol ac i barhau i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.
Mae'r Strategaeth yn cael ei chyflwyno drwy lasbrint, sy'n dwyn ynghyd sefydliadau datganoledig a sefydliadau nad ydynt wedi'u datganoli yn ogystal â'r sector arbenigol i ganolbwyntio ar chwe ffrwd waith a drafodir yn fanwl isod.
Amcanion y Strategaeth genedlaethol
Penderfynwyd ar amcanion y Strategaeth Genedlaethol yn dilyn gwaith ymgysylltu ac ymgynghori helaeth. Y ffocws ar gyfer 2022 i 2023 fu cyflawni'r amcanion hyn drwy lasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol:
- Herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono.
- Cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.
- Cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.
- Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal.
- Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.
- Rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar anghenion yn ogystal â chryfderau ac sy'n ymatebol ledled Cymru.
Dangosyddion cenedlaethol
Mae Strategaeth Genedlaethol Trais a Cham-drin yn nodi: 'Er mwyn gwerthuso effaith ein strategaeth, mae'n bwysig inni ddefnyddio mesurau sy'n adlewyrchu ein dull system gyfan ac yn adlewyrchu cyfraniad yr holl bartneriaid. Am y rheswm hwn, byddwn yn adolygu'r Dangosyddion Cenedlaethol er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r bartneriaeth lawn ac y gallant fesur cynnydd ein dull iechyd y cyhoedd. Wrth wneud hynny, byddwn yn cydnabod y cyfrifoldeb sydd ar gyrff annatganoledig i adlewyrchu dulliau gweithredu a nodir gan Lywodraeth y DU.'
Yn dilyn cyfres o weithdai gyda rhanddeiliaid, gosodwyd set gyntaf o Ddangosyddion Cenedlaethol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 24 Mehefin 2019.
Felly, dyma'r set bresennol o ddangosyddion:
- Cynyddu nifer yr achosion y rhoddir gwybod amdanynt o ran pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
- Cynyddu ymwybyddiaeth ar draws pob rhan o’r gymdeithas fod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn annerbyniol.
- Cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru o bwysigrwydd cydberthynas diogel, cyfartal ac iach.
- Cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc fod cam-drin yn anghywir bob amser.
- Sicrhau bod mwy o achosion sy’n gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn arwain at arestiadau, erlyniadau ac euogfarnau.
- Sicrhau bod ymyrraeth briodol ar gael i gyflawnwyr.
- Sicrhau bod ymyrraeth gynnar effeithiol ar sail tystiolaeth i ddioddefwyr a goroeswyr ar gael sy'n gyfartal i bawb a’u bod yn gallu manteisio’n gyfartal ar y ddarpariaeth.
- Sicrhau bod y rhai mewn swyddi perthnasol yn cael hyfforddiant i adnabod achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac ymateb yn briodol iddynt.
- Sicrhau bod dioddefwyr yn cael cymorth priodol.
- Cynyddu hyder dioddefwyr a mynediad i gyfiawnder.
Y bwriad oedd datblygu'r setiau data ymhellach gyda rhanddeiliaid i ddatblygu'r dangosyddion. Nid bwriad y gwaith hwn oedd ychwanegu at y set o ddangosyddion, ond sicrhau bod y casglu, y coladu a'r cyhoeddi yn cefnogi ac yn llywio datblygiad y strategaeth genedlaethol newydd. Yn anffodus, cafodd adnoddau eu dargyfeirio oherwydd pandemig COVID-19, ac felly dechreuwyd y gwaith pellach arfaethedig, ond heb ei gwblhau.
Ers hynny, datblygwyd Strategaeth Genedlaethol Trais a Cham-drin 2022 i 2026 ar y cyd a'i chyhoeddi, sy'n ymrwymo i adolygu'r Dangosyddion Cenedlaethol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu Strategaeth Genedlaethol bresennol Trais a Cham-drin, a chânt eu defnyddio i fesur cynnydd yn erbyn nodau ac amcanion y Strategaeth. Bydd yn hanfodol sicrhau bod unrhyw newidiadau i'r dangosyddion yn rhoi ystyriaeth lawn i flaenoriaethau'r Glasbrint wrth iddynt ddatblygu. Bydd y gwaith hefyd yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn 2020 i sicrhau na chollir ei werth.
Glasbrint Trais a Cham-drin
Gyda'i gilydd, mae Llywodraeth Cymru a Plismona yng Nghymru wedi gyrru'r broses o ddatblygu Glasbrint, ac wedi sefydlu trefniadau llywodraethiant cyffredin. Mae cronni adnoddau a nodi cyllid i gefnogi'r gwaith o sefydlu tîm gweithredu Glasbrint Trais a Cham-drin yn arddangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad ar y cyd i sicrhau bod Strategaeth Genedlaethol Trais a Cham-drin yn cael ei chyflwyno'n effeithiol drwy'r Glasbrint.
Mae strwythur Glasbrint Trais a Cham-drin wedi'i weithredu drwy chwe ffrwd waith sy'n atebol i Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol strategol Trais a Cham-drin a Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol gweithredol. Mae'r ffrydiau gwaith hyn yn adlewyrchu'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu yn ogystal â'r Strategaeth Genedlaethol:
- Aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus
- Aflonyddu yn y gweithle
- Mynd i'r afael â chyflawnwyr trais
- Dull system gyfan cynaliadwy
- Anghenion pobl hŷn
- Anghenion plant a phobl ifanc.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Lefel Uchel y Glasbrint ym mis Mawrth 2023, sy'n disgrifio pwrpas pob un o'r ffrydiau gwaith ac yn nodi eu camau gweithredu lefel uchel, a fydd yn cyfrannu at Amcanion Cenedlaethol Strategaeth Trais a Cham-drin 2022 i 2026. Bydd cyfraniadau gan aelodau pob ffrwd waith, ynghyd â lleisiau goroeswyr pob agwedd ar Drais a Cham-drin, yn allweddol wrth fwrw ymlaen â'r camau hyn.
Bydd lleisiau goroeswyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac mae Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr wedi'i sefydlu i sicrhau hyn. Bydd y panel yn craffu ar unrhyw argymhellion a wneir gan y ffrydiau gwaith cyn iddynt gael eu cyflwyno i Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais a Cham-drin i'w hystyried.
Caiff y panel ei gadeirio gan y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gam-drin ar sail rhywedd, ac mae llawer o'i aelodau o blith grwpiau goroeswyr presennol a sefydlwyd eisoes ledled Cymru. Mae hyn yn creu grŵp sydd â chysylltiadau â'r rhwydweithiau presennol a'u haelodaeth ac sy'n gallu bwydo i mewn iddynt, gan greu strwythur a fframwaith cynaliadwy. Mae hefyd yn sicrhau'r lefel gywir o gefnogaeth i'r unigolion perthnasol.
Mae'r gwaith o weithredu'r Strategaeth yn cael ei oruchwylio gan y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a gydgadeirir gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwia Dafydd Llewelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed Powys, ar ran Plismona yng Nghymru. Mae'r Bwrdd wedi cyfarfod bum gwaith ers ei sefydlu ym mis Mai 2022.
Y camau nesaf
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran y camau gweithredu a nodir yn y Cynllun Lefel Uchel ym mis Hydref 2023, ac yn flynyddol wedi hynny.
Diweddariadau cynnydd cyffredinol
Er bod y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r adroddiad blynyddol ganolbwyntio ar amcanion y strategaeth, bu llwyddiannau eraill mewn perthynas â thrais a cham-drin yng Nghymru yn ystod y cyfnod adrodd, y dylid tynnu sylw atynt hefyd.
Cynghorwyr cenedlaethol
Ar 7 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip benodiad Johanna Robinson ac ailbenodiad Yasmin Khan yn Gynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Bydd y penodiadau yn cychwyn ar 1 Awst 2022 ac yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2025.
Ar 30 Tachwedd 2022, cyhoeddodd y cynghorwyr cenedlaethol eu cynllun blynyddol ar gyfer 2023 i 2024 sy'n amlinellu sut y byddant yn gweithio i atal trais a cham-drin, ac i ddiogelu a chefnogi pobl sydd wedi profi trais a cham-drin.
Y Rhuban Gwyn
Yn ystod y flwyddyn adrodd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio tuag at ailachredu ei statws fel cyflogwr Rhuban Gwyn. Mae Achrediad y Rhuban Gwyn yn fenter fyd-eang i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod. Mae'n galw ar fechgyn a dynion i weithredu i wneud gwahaniaeth.
Llwyddodd Llywodraeth Cymru i adnewyddu ei hachrediad ym mis Mawrth 2023 i ddangos ymrwymiad ac arweinyddiaeth glir yn y maes hwn.
Fel sefydliad proffesiynol, rydym wedi creu Grŵp Llywio Rhuban Gwyn fel rhan o'r broses achredu, a byddwn hefyd yn creu rhwydwaith mewnol newydd ac arloesol sy'n cynnwys llysgenhadon a hyrwyddwyr y Rhuban Gwyn, gyda'r prif nod o ledaenu neges bwysig y Rhuban Gwyn ar draws holl adrannau Llywodraeth Cymru a thu hwnt, drwy gydol y flwyddyn ac nid yn unig ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd.
Mae gennym nifer o lysgenhadon a hyrwyddwyr eisoes o fewn y sefydliad, a chredwn fod gwerthoedd, egwyddorion a nodau craidd White Ribbon UK yn hanfodol, ac y dylid eu hyrwyddo gymaint â phosibl yn ddyddiol er mwyn inni i gyd fwynhau gweithle sy'n rhydd rhag aflonyddu, cam-drin ac anghydraddoldeb o bob math.
Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth yn y DU neu adran lywodraethol i gael achrediad y Rhuban Gwyn.
Ymgysylltu â Llywodraeth y DU
Yn ystod 2022 i 2023, bu tîm Trais a Cham-drin Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chydweithwyr ar draws Llywodraeth y DU yn rheolaidd yn ogystal â swyddfa'r Comisiynydd Cam-drin Domestig. Trafodwyd materion fel cyllid a deddfwriaeth, gan gynnwys y Biliau isod, a chafwyd sgyrsiau cyffredinol rheolaidd.
Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
Cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Dioddefwyr a Charcharorion i Dŷ'r Cyffredin ar 29 Mawrth 2023. Mae timau Troseddu a Chyfiawnder a Thrais a Cham-drin Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n rheolaidd â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar y Bil hwn a sut mae'n rhyngweithio â'r sefyllfa yma yng Nghymru. Mae'r gwaith ymgysylltu hwn yn parhau drwy gydol 2023 wrth i'r Bil fynd drwy'r Senedd.
Y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus
Ymgynghorodd y Swyddfa Gartref ar gyflwyno trosedd aflonyddu rhywiol cyhoeddus rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2022. Ysgrifennodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip at Weinidog Diogelu y DU ym mis Awst 2022 i ddatgan ei chefnogaeth i greu trosedd o'r fath.
Ar ôl cael cefnogaeth sylweddol, defnyddiodd y Swyddfa Gartref Fil Aelod Preifat a oedd eisoes yn bodoli i gyflwyno'r drosedd hon. Diwygiwyd y Bil yng Nghyfnod y Pwyllgor i gynnwys Cymru yn dilyn asesiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod creu trosedd o'r fath o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cymru.
Mae nodau'r Bil yn cyd-fynd â nodau'r Ddeddf, ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a Strategaeth Genedlaethol Trais a Cham-drin.
Pasiodd y Senedd Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar 13 Mehefin i roi caniatâd i'r drosedd hon fod yn gymwys i Gymru hefyd. Mae'r Bil yn parhau ar ei thaith tuag at fod yn Ddeddf.
Confensiwn Istanbul
Mae Confensiwn Cyngor Ewrop ar Atal a Goresgyn Trais yn erbyn Menywod a Thrais Domestig, a elwir yn gyffredin yn Gonfensiwn Istanbul, yn siarter ryngwladol safon aur ar gyfer diogelu menywod a merched.
Ar 21 Gorffennaf 2022, cadarnhaodd y DU y Confensiwn, a daeth i rym yn y DU ar 1 Tachwedd 2022.
Ysgrifennodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip at Weinidogion Llywodraeth y DU i amlinellu ei chefnogaeth i gadarnhau'r Confensiwn. Yn ei llythyr, nododd hefyd ei phryderon bod Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn dal yn ôl ar ymrwymiad Erthygl 59 sy'n ymwneud â chefnogaeth i ddioddefwyr mudol trais a cham-drin. Ailadroddodd y Gweinidog ei siom na chydnabuwyd sefyllfa menywod mudol ar wyneb Deddf Cam-drin Domestig 2021, ond ei bod hefyd yn siomedig o weld na fydd y dioddefwyr a'r goroeswyr hyn yn cael eu cefnogi'n ddigonol ac na ddarperir yn ddigonol ar eu cyfer wrth gadarnhau Confensiwn Istanbul.
Mae manylion gwaith Llywodraeth Cymru i gefnogi dioddefwyr mudol trais a cham-drin i'w gweld yn yr adroddiad hwn o dan amcan chwech y Strategaeth Genedlaethol.
Aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus ac aflonyddu yn y gweithle
Nododd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru aflonyddu yn y gweithle a diogelwch mewn mannau cyhoeddus fel blaenoriaethau wrth fynd i'r afael â thrais a cham-drin. Sefydlwyd grwpiau ffrydiau gwaith ar gyfer y ddau faes hwn yn 2023. Dyma'r camau gweithredu a nodwyd yn y cynlluniau lefel uchel:
Aflonyddu yn y gweithle
Cam Gweithredu 1
Sefydlu a chynnal sylfaen dystiolaeth gadarn, gan gynnwys cofnodi profiadau go iawn o aflonyddu yn y gweithle, er mwyn deall yn well beth yw graddfa problem aflonyddu yn y gweithle a'r camau sy'n helpu i'w atal.
Cam Gweithredu 2
Datblygu dull system gyfan i gefnogi camau effeithiol i atal aflonyddu ar fenywod a merched yn y gweithle a sicrhau ymateb i'r broblem, a thrwy hynny fynd i'r afael ag aflonyddu ym mhob gweithle ledled Cymru.
Cam Gweithredu 3
Defnyddio a gwella adnoddau a dulliau presennol i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo arferion rhagorol a chefnogi newid gweithredol i ddileu aflonyddu ar fenywod a merched yn y gweithle, ac i wella'r ymateb yn y gweithle i bob math o drais yn erbyn menywod a merched, trais domestig a cham-drin rhywiol.
Cam Gweithredu 4
Darparu her a chefnogaeth i bob sefydliad ledled Cymru i fynd y tu hwnt i'w dyletswyddau cyfreithiol a'u dyletswyddau gorfodol eraill, a mabwysiadu safonau ymddygiad enghreifftiol yn y gweithle.
Aflonyddu ar y stryd a diogelwch mewn mannau cyhoeddus
Cam Gweithredu 1
Atgyfnerthu a gwella'r sylfaen dystiolaeth ar atal aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus a'r ymateb iddo, ynghyd â diogelwch menywod a merched mewn mannau cyhoeddus, er mwyn deall hyd a lled y problemau hyn, yr hyn sy'n eu hachosi ac ymyriadau effeithiol.
Cam Gweithredu 2
Datblygu dull ataliol, system gyfan i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus, er mwyn cynyddu diogelwch ac ymdeimlad o ddiogelwch ymhlith menywod a merched.
Cam Gweithredu 3
Nodi, datblygu a gweithredu ymyriadau effeithiol sy'n galluogi pawb mewn cymdeithas i herio agweddau, credoau ac ymddygiadau rhagfarnllyd neu gas yn erbyn menywod, er mwyn newid y diwylliant o ragfarn neu gasineb yn erbyn menywod, ynghyd ag aflonyddu, sy'n bwydo camdriniaeth.
Cam Gweithredu 4
Adolygu a gwneud argymhellion ar gyfer dull teg o ddefnyddio ymyriadau a mentrau ar draws pob asiantaeth a chymuned.
Cam-drin 'ar sail anrhydedd' fel y'i gelwir
Parhaodd Llywodraeth Cymru i gydgadeirio Grŵp Arweinyddiaeth Cam-drin ar Sail Anrhydedd gyda BAWSO a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ystod 2022-23.
Mae cynnal profion gwyryfdod a chyflawni hymenoplasti yn weithredoedd o drais yn erbyn menywod a merched, ac fe'u gwnaethpwyd yn droseddau o dan Ddeddf Iechyd a Gofal 2022.
Mewn partneriaeth ag aelodau Grŵp Arweinyddiaeth Cam-drin ar sail Anrhydedd, lluniodd Llywodraeth Cymru becyn canllaw ar gyfer gweithwyr proffesiynol, darparwyr gofal a'r cyhoedd yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o arferion anghyfreithlon a diraddiol profion gwyryfdod a thriniaeth hymenoplasti. Mae'r pecyn yn cynnwys 3 dogfen:
- Taflen wybodaeth ar gyfer y cyhoedd.
- Poster byr, trawiadol ar gyfer y cyhoedd.
- Dogfen ganllaw fwy manwl ar gyfer gweithwyr proffesiynol.
Cyhoeddwyd y canllawiau mewn 17 iaith, gan gynnwys 15 o wledydd lle, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, cynhelir y nifer fwyaf o brofion gwyryfdod a thriniaeth hymenoplasti yn y byd.
Elfennau croestoriadol a datblygu a gweithredu polisi i hyrwyddo cydraddoldeb
Mae'r Strategaeth Genedlaethol a chynllun lefel uchel y Glasbrint yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid i ymgorffori dull o ymwneud â thrais a cham-drin mewn ffordd sy'n hyrwyddo cydraddoldeb.
Rhan sylfaenol o hyn yw'r angen i gydnabod a deall nad yw effaith trais a cham-drin ar bobl yr un fath bob amser, a'i bod yn amlygu ei hun mewn gwahanol ffyrdd.
Yr elfen amlycaf yw bod menywod yn dioddef yn anghymesur, ac mae’r strategaeth yn cydnabod yr anghydbwysedd hwn o ran y rhywiau. Mae hyn yn rhywbeth sy’n achosi anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ar y naill law, ond hefyd yn rhywbeth sy’n digwydd o ganlyniad i’r anghydraddoldeb hwn. Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn creu’r amodau sylfaenol ar gyfer trais yn erbyn menywod. Mae hyn i'w weld ar sawl lefel yn ein cymdeithas, o’r anghymesuredd o ran cyfran y rhai mewn rolau arwain ac sy'n gwneud penderfyniadau sy'n ddynion, ffactorau economaidd fel y bwlch yng nghyflogau'r rhywiau, a rolau a disgwyliadau o fewn teuluoedd a chydberthnasau. Mae yna gysylltiad cryf a chyson rhwng yr anghydraddoldeb sy’n bodoli rhwng y rhywiau a thrais yn erbyn menywod.
Y tu hwnt i hyn, fodd bynnag, mae profiad unigolion o drais a cham-drin yn annatod gysylltiedig â ffactorau sy’n ymwneud ag ystod ehangach o nodweddion cydraddoldeb. O ganlyniad i’r ffaith bod yna sawl elfen sy’n ysgogi gwahaniaethu a gormesu, mae rhai grwpiau o bobl yn profi trais o fath gwahanol, sy’n digwydd yn amlach neu sy’n fwy difrifol, neu maent yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth chwilio am gymorth. Mae’n hollbwysig, felly, ein bod yn ymdrin â hyn o sawl ongl, i’n helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o drais a cham-drin, a mynd i’r afael ag anghenion amrywiol pawb sy’n dioddef, gan gynnwys plant, pobl hŷn, pobl o gefndir du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl a phobl a chymunedau LHDTC+. Bydd angen i bob ffrwd waith ystyried y materion hyn ym mhob rhan o’u gwaith, i sicrhau bod yr hyn a wnawn yn hyrwyddo cydraddoldeb yn gyson ac mewn ffordd gynhwysfawr.
Mae holl ffrydiau gwaith y Glasbrint yn gweithio tuag at ymgorffori dull gweithredu sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i'r afael ag elfennau croestoriadol o fewn cynlluniau.
Mae gwaith Llywodraeth Cymru ar drais a cham-drin yn gydnaws â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru a Chynllun Tasglu Hawliau Pobl Anabl, ymhlith eraill, ac yn cyfrannu atynt.
Dioddefwyr a goroeswyr anabl
Diwygiwyd proses grantiau cyfalaf trais a cham-drin i sicrhau bod y grantiau hyn yn cefnogi anghenion dioddefwyr a goroeswyr anabl. Mae ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2021 yn dangos bod pobl anabl bron i deirgwaith yn fwy tebygol o brofi cam-drin domestig, ac eto mae cymaint o wasanaethau yn anhygyrch iddynt o hyd, ac o ganlyniad yn golygu weithiau bod dioddefwyr yn gorfod parhau i fyw gyda'r un sy'n eu cam-drin. Mae'r data yn datgelu bod dioddefwyr anabl fel arfer yn dioddef camdriniaeth am ryw 3.3 blynedd ar gyfartaledd cyn cael gafael ar gymorth, o'i gymharu â 2.3 blynedd i ddioddefwyr nad ydynt yn anabl. Yn ogystal, fel yn achos pobl hŷn, mae cam-drin domestig a brofir gan bobl anabl yn aml yn cael ei ystyried yn fater diogelu, sy'n golygu nad yw dioddefwyr yn cael cyfiawnder o fewn y system cyfiawnder troseddol.
Mae tîm trais a cham-drin Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â chydweithwyr yn y tîm cyllid, wrthi'n ystyried y dull gorau o ddeall pa gamau a mesurau y mae derbynwyr grant yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod y prosiect/au a ariennir yn diwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr anabl trais a cham-drin, a sut y gallwn ymgorffori hyn yn y gwaith monitro mewn perthynas â'r cyllid hwn.
Bydd hyn nid yn unig yn helpu i sicrhau bod anghenion dioddefwyr a goroeswyr anabl yn cael eu diwallu y flwyddyn nesaf, ond hefyd yn helpu wrth lunio cylchoedd cyllido i'r dyfodol.
Pobl hŷn
Amlygodd ymatebion i'r ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft bwysigrwydd deall effaith trais a cham-drin ar draws rhychwant oes gyfan. Mewn ymateb, sefydlwyd ffrwd waith y Glasbrint ar anghenion pobl hŷn yn 2023.
Lluniwyd grŵp ffrwd waith Anghenion Pobl Hŷn y Glasbrint yn llwyddiannus a chrewyd cynllun gweithredu lefel uchel i gyflawni amcanion strategaeth 2022 i 2026. Dyma'r amcanion:
- atgyfnerthu a gwella'r sylfeini tystiolaeth presennol a nodi'r bylchau i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o gam-drin pobl hŷn a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt
- datblygu dull systemau cyfan ledled Cymru sy'n sicrhau eglurder a chydlyniant rhwng meysydd diogelu a thrais a cham-drin
- gwella'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn sy'n ystyriol o drawma, a'u gwneud yn fwy addas, gan roi cydnabyddiaeth ddigonol i anghenion amrywiol pobl, ar gyfer y rhai sy'n cyflawni camdriniaeth yn ogystal â goroeswyr
- blaenoriaethu a dylanwadu ar ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth penodol i sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i broblem cam-drin pobl hŷn, gwybodaeth amdani a dealltwriaeth ohoni
Rhan 2: cynnydd o ran amcanion y Strategaeth Genedlaethol
Amcan 1
Herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono.
Diweddariad cyffredinol
Cyfathrebu ac ymgyrchoedd
Drwy ymgyrchoedd Byw Heb Ofn, rydym wedi parhau i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys ar y stryd ac mewn mannau cyhoeddus eraill. Mae'r ymgyrchoedd hyn yn rhoi cyngor ymarferol i'r rhai a all fod yn cael eu cam-drin ac yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i alluogi ffrindiau, teulu a'r gymuned ehangach i adnabod achosion o gam-drin a chymryd camau gweithredu diogel. Mae'r ymgyrchoedd yn gyfrwng i hyrwyddo llinell gymorth Byw Heb Ofn, sef ein gwasanaeth 24/7 sydd ar gael am ddim i bawb sydd wedi dioddef a goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr.
Yn dilyn ymarfer caffael ym mis Medi 2022, dyfarnodd Llywodraeth Cymru gontract 3 blynedd i Cowshed Communications i ddatblygu ymgyrchoedd Byw Heb Ofn pellach. Ers derbyn y contract, maent wedi:
Archwilio asedau craidd Byw Heb Ofn a gwneud gwaith ailddylunio, gan gynnwys creu templedi newydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a diwygio lluniau proffil a baneri.
Adeiladu ar weithgarwch blaenorol, i ddatblygu cyfres o ymgyrchoedd yn ystod blynyddoedd ariannol 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Bydd yr ymgyrchoedd hyn yn dod o dan faner Byw Heb Ofn ac yn ymgorffori'r defnydd o frandio Byw Heb Ofn, y wefan, Facebook a Twitter.
Ym mis Tachwedd 2022, gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynghyd â chefnogwyr benywaidd y Wal Goch i greu fideo Cwpan y Byd i gyd-fynd â Diwrnod y Rhuban Gwyn. Rhannwyd y fideo ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol Byw Heb Ofn, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac fe wnaeth cefnogwyr a rhanddeiliaid ei rannu'n eang ac ychwanegu ato.
Gweithio gyda thîm polisi trais a cham-drin Llywodraeth Cymru yn ystod rhan olaf 2022 i 2023 i ddatblygu 'Iawn'; ymgyrch ymyrraeth gynnar ac atal wedi'i hanelu at ddynion ifanc rhwng 18 a 34 oed a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2023.
Mae'r ymgyrch yn annog dynion ifanc i bwyso a mesur eu hymddygiad eu hunain a gwneud dewisiadau personol cadarnhaol i ddechrau sgyrsiau agored gyda'u cyfoedion, gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach. Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar rai o'r ymddygiadau clasurol sy'n arwain at gam-drin fel bomio â chariad, twyllo rhywun i wneud iddo amau ei bwyll ei hun, ymddygiadau rheoli a cham-drin geiriol.
Mae'r ymgyrch wedi cael ei datblygu gyda dynion ifanc o amrywiol gefndiroedd ac wedi ymgysylltu â'r rhai sydd â phrofiad bywyd go iawn. Mae'r carfanau wedi cael eu profi ac yn cynnwys myfyrwyr adeiladu mewn coleg; aelodau o glwb bocsio; dynion torri gwallt; aelodau o glybiau rygbi a phêl-droed; troseddwyr a goroeswyr.
Mae'r tîm polisi hefyd wedi ymgysylltu â Rhwydwaith Cyfathrebu Trais a Cham-drin sydd wedi darparu mewnbwn amhrisiadwy a her adeiladol. Mae hwn yn rhwydwaith sefydledig sy'n trefnu cyfarfodydd amlasiantaeth gydag arweinwyr cyfathrebu ein sefydliadau partner allweddol gan gynnwys iechyd, plismona, cydlynwyr rhanbarthol, yr Uned Atal Trais a'r sector arbenigol. Mae'r grŵp hwn yn cyfarfod yn fisol ac yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu pob ymgyrch yn erbyn trais a cham-drin. Mae'r ffordd gydweithredol hon o weithio yn ddefnyddiol i ddatblygu ymgyrchoedd, ond hefyd i hyrwyddo ein negeseuon a sicrhau cyrhaeddiad ehangach.
Rydym yn defnyddio sianeli yr ydym yn gwybod y mae ein cynulleidfa darged yn fwy tebygol o dderbyn eu newyddion a'u gwybodaeth drwyddynt. Mae hyn yn cynnwys podlediadau, Tik-Tok, fideo ar alw a chyfryngau cymdeithasol ehangach.
Mae dolenni i Byw Heb Ofn a Respect ar gael ar wefan Iawn. Rydym hefyd yn parhau i godi ymwybyddiaeth o linell gymorth Byw Heb Ofn a chodi ei phroffil drwy ein cyfryngau cymdeithasol.
Y prif bethau a gyflawnwyd
- Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2022 i 2023, roedd gan gyfrifon Twitter Byw Heb Ofn 2,900 o ddilynwyr (cynnydd net o 97%), 96,000 o argraffiadau (i fyny 2000%), ac roedd y nifer a oedd wedi clicio ar ddolenni i fyny 700%. Ar Facebook, cynyddodd ein dilynwyr i 3,800 (cynnydd net o 413%), sicrhawyd 94,000 o argraffiadau (i fyny 1400%), ac roedd y nifer a oedd wedi clicio ar ddolenni i fyny 236%. Gellir priodoli'r niferoedd uchel hyn yn rhannol i'r lefel is o weithgarwch ar draws cyfrifon Byw Heb Ofn yn y cyfnod blaenorol, gan nad oedd ymgyrch yn rhedeg nac asiantaeth wedi'i chontractio, ond mae'r gwaith o adnewyddu'r asedau a'r postio mwy rheolaidd gan Cowshed ar draws y cyfrifon hefyd wedi gwneud gwahaniaeth.
- Cyfrannodd fideo Cwpan y Byd a grëwyd gennym gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gyd-fynd â Diwrnod y Rhuban Gwyn at y ffigurau hyn hefyd. Rhannwyd y fideo ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol Byw Heb Ofn, Llywodraeth Cymru, a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Edrychwyd arno 200,000 o weithiau, hoffodd 4,600 ef, ac fe'i rhannwyd 573 o weithiau i gyd. Dyma'r trydariad a welwyd fwyaf hyd yma ar sianel Twitter Byw Heb Ofn.
- Buom hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ailwampio fideo 'Dim Esgus' sy'n cynnwys eu chwaraewyr, ac fe'i rhyddhawyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Edrychwyd arno 51,113 o weithiau, hoffodd 2,031 ef, ac fe'i rhannwyd 67 o weithiau.
- Nod ein strategaeth ddigidol, y talwyd amdani, oedd cynyddu ymwybyddiaeth o linell gymorth Byw Heb Ofn a'r gefnogaeth sydd ar gael i ddarparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Nodwyd 27,142,115 o argraffiadau, 26,250 o gliciau, a bod y fideo wedi cael ei weld 8,368,137 o weithiau.
Y camau nesaf
- Mae ymgyrch sy'n canolbwyntio ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle wedi'i chynllunio ar gyfer 2023 i 2024.
- Bydd y tîm polisi yn parhau i ymgysylltu â Rhwydwaith Cyfathrebu Trais a Cham-drin a ffrydiau gwaith Glasbrint Trais a Cham-drin i sicrhau gweithgarwch cyfathrebu cyson a chydlynol.
Amcan 2
Cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.
Diweddariad cyffredinol
Gall trais a cham-drin gael effaith enfawr ar blant a phobl ifanc. Gall effeithio ar eu lles, eu cyrhaeddiad addysgol, eu cydberthnasau â'u teulu a chyfoedion, a'u gallu i fwynhau cydberthnasau iach, hapus, llawn parch nawr ac yn y dyfodol.
Yn 2022 i 2023, parhaodd Llywodraeth Cymru i ariannu prosiect Sbectrwm, sy'n cael ei gyflwyno gan Stori Cymru (a elwid gynt yn Hafan Cymru). Mae'r prosiect hwn yn hyrwyddo pwysigrwydd cydberthnasau iach ac yn codi ymwybyddiaeth o drais a cham-drin. Mae Sbectrwm hefyd yn darparu hyfforddiant i staff a llywodraethwyr ysgolion ar ddeall effaith cam-drin domestig ar blentyn ac yn hyrwyddo dull ysgol gyfan o fynd i'r afael â cham-drin domestig.
Mae canllawiau helaeth ar gael i gefnogi lleoliadau addysg i atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys ein canllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel. Yn ogystal, mae gennym sawl llinell gymorth a sefydlwyd yng Nghymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru: Childline Cymru, llinell gymorth Byw Heb Ofn a gwasanaeth Meic.
Gwahoddwyd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i roi tystiolaeth ym mis Ebrill 2022 fel rhan o'i ymchwiliad i aflonyddu rhywiol gan gyfoedion ymhlith dysgwyr ifanc. Croesawodd y Gweinidog adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn lleoliadau addysg yng Nghymru. Roedd argymhellion Estyn yn cynnwys dau ar gyfer Llywodraeth Cymru, a dderbyniwyd ac a fydd yn cael eu gweithredu. Yr argymhellion hyn oedd y dylai Llywodraeth Cymru:
- weithio gydag awdurdodau lleol er mwyn gwella'r ffordd y maent yn casglu gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu gan ysgolion a sicrhau bod awdurdodau lleol yn nodi ac yn ymateb i batrymau a thueddiadau mewn ymddygiad. Mae hyn er mwyn cynllunio arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth addas i ysgolion.
- sicrhau bod ysgolion yn cael diweddariadau rheolaidd, llawn gwybodaeth ar arferion gorau ac adnoddau addas sydd ar gael i'w cynorthwyo i gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, i ddatblygu cynllun gweithredu amlasiantaeth ar aflonyddu rhywiol gan gyfoedion. Bydd y cynllun gweithredu yn amlinellu'r camau y bydd Llywodraeth Cymru a'u partneriaid yn eu cymryd i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn lleoliadau addysg. Ein nod yw cyhoeddi'r cynllun gweithredu yn ystod tymor yr hydref.
Ym mis Medi 2022 cyflwynwyd addysg cydberthynas a rhywioldeb mewn ysgolion cynradd, ysgolion meithrin a gynhelir a lleoliadau meithrin nas cynhelir. Y bwriad yw y bydd hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu cydberthnasau iach o'r blynyddoedd cynnar, ac yn hyrwyddo ein nod o sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu mwynhau cydberthnasau iach, hapus, llawn parch nawr ac yn y dyfodol.
Fel rhan o ddull Glasbrint Llywodraeth Cymru o weithredu Strategaeth Genedlaethol Trais a Cham-drin, sefydlwyd y ffrwd waith benodol sy'n canolbwyntio ar anghenion plant a phobl ifanc yn 2023. Mae aelodaeth y ffrwd waith yn cynnwys ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid ar draws y sector cyhoeddus ac arbenigol.
Y prif bethau a gyflawnwyd
- Ymweliad y Gweinidog â'r pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i roi tystiolaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud i ddiogelu a chefnogi plant a phobl ifanc rhag trais a cham-drin.
- Cafodd 21,500 o blant a phobl ifanc fwy o wybodaeth a dod i well dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â thrais a cham-drin drwy sesiynau Sbectrwm, a chodwyd eu hymwybyddiaeth o'r broblem.
- Darparwyd £20,000 i Stori Cymru ar gyfer datblygu adnoddau i helpu i ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb mewn ysgolion.
Y camau nesaf
Lluniwyd grŵp ffrwd waith Plant a Phobl Ifanc yn llwyddiannus ddechrau 2023 am y tro cyntaf, a chrewyd cynllun gweithredu lefel uchel i gyflawni amcanion strategaeth 2022 i 26. Dyma'r amcanion:
- atgyfnerthu, gwella a nodi bylchau yn y sylfeini tystiolaeth presennol a'r dadansoddiadau o anghenion mewn perthynas â'r plant a'r bobl ifanc y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi effeithio arnynt
- datblygu dull system gyfan ledled Cymru i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi effeithio arnynt, o gyfnod mamolaeth a'r blynyddoedd cynnar hyd at fod yn oedolyn
- sefydlu eglurder ar gyfrifoldebau'r holl awdurdodau perthnasol o dan y Ddeddf a gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt wedi'u datganoli i nodi, ymateb i, a lleihau cam-drin domestig a thrais rhywiol a brofir gan blant a phobl ifanc
- cryfhau mecanweithiau atebolrwydd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi effeithio arnynt, gan gynnwys gwasanaethau, ymatebion, prosesau archwilio ac arolygu, a monitro grantiau.
Ochr yn ochr â thimau Diogelu Llywodraeth Cymru, rydym yn gweithio i sicrhau bod yna eglurder a chydlyniant mewn dulliau diogelu ac ym maes trais a cham-drin. Mae'r ffrwd waith hefyd yn parhau i gefnogi gwaith y cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb i hyrwyddo cydberthnasau iach, yn ogystal â gweithio i fynd i'r afael ag aflonyddu a cham-drin rhywiol gan gyfoedion.
Amcan 3
Cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.
Diweddariad cyffredinol
Ym mis Hydref 2022, penododd Llywodraeth Cymru Bennaeth y Polisi ar Gyflawnwyr Trais i weithio gyda Rheolwr y Rhaglen Cyflawnwyr Trais a benodwyd y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae'r penodiadau hyn yn arwain ac yn datblygu polisi mewn perthynas â mynd i'r afael â chyflawni trais ac yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal.
Bydd Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, gan ddisodli'r holl Orchmynion Llys ategol eraill yn 2026. Yn ystod blwyddyn yr adroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Cenedlaethol Rhaglen Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig, rhanddeiliaid lleol, Heddlu Gwent ac adrannau Llywodraeth y DU i ddatblygu safle peilot yng Ngwent lle gellir profi'r Gorchmynion Amddiffyn newydd yng nghyd-destun Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod pob asiantaeth yn barod i'w gweithredu. Bydd Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn rhoi mwy o gyfle i ddiogelu ac adsefydlu unigolion, ac yn sicrhau'r gallu ychwanegol i osod ymyriadau adsefydlu fel rhan o'r Gorchmynion. Bydd Hysbysiadau Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn cael eu cyflwyno yn gyntaf, cyn gynted â phosibl, ac yna, lle bo'n briodol, gosodir y Gorchymyn, gan ganiatáu ar gyfer gwell ymyrraeth gynnar ac atal.
Rhoddodd y tîm gymorth i gydweithwyr yn Llywodraeth y DU, a Chanolfan Ymchwil i Drais a Cham-drin Prifysgol Durham, wrth ddatblygu canllawiau polisi ar Safonau Gwasanaethau ar gyfer Cyflawnwyr Trais i gefnogi Cynllun Mynd i'r Afael â Cham-drin Domestig Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn 2022.
Drwy ymgysylltu â swyddfeydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru, rydym wedi dod yn aelodau craidd o Grŵp Goruchwylio Cyflawnwyr Cam-drin Domestig a Grŵp Llywio Cam-drin a Gyflawnir gan yr Heddlu.
Y prif bethau a gyflawnwyd
- Gweithio gyda Llwybrau Newydd i ariannu, datblygu a chyflwyno 'Codi Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol' i weithwyr proffesiynol, gyda'r nod o greu chwilfrydedd proffesiynol ymhlith y rhai sy'n gweithio gydag unigolion sy'n arddangos ymddygiad rhywiol niweidiol neu broblemus.
- Cefnogi Heddluoedd De Cymru a Gwent i sicrhau Peilot ar gyfer y fframwaith dwy haen 'rhybuddion amodol' diwygiedig. Mae hon yn rhaglen ataliol ar gyfer unigolion sy'n cyflawni cam-drin domestig am y tro cyntaf, a bydd yn gweithredu fel ymyrraeth uniongyrchol mewn ymateb i droseddau risg isel cymwys.
Y camau nesaf 2023 i 2024
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfrannu at y cyd-gynllun cyfiawnder arfaethedig i gynyddu nifer yr erlyniadau am gam-drin domestig, drwy weithdai damcaniaeth newid a hwylusir gan Wasanaethau Erlyn y Goron.
Ddiwedd Gwanwyn 2024, bydd Gwent yn dod yn un o'r ardaloedd peilot i osod Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig mewn Llysoedd Troseddol a Theuluoedd. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag asiantaethau Llywodraeth y DU, Plismona yng Nghymru a rhanddeiliaid lleol i sicrhau bod cyd-destun Cymru yn cael ei ystyried.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Plismona yng Nghymru yn Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru i gefnogi'r fframwaith rhybuddion dwy haen diwygiedig, gan sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael eu defnyddio'n effeithiol i ddwyn y rhai sy'n cyflawni cam-drin i gyfrif.
Ers 2022, mae ffrwd waith Mynd i'r Afael â Chyflawni Troseddau wedi'i sefydlu fel rhan o gynllun lefel uchel Glasbrint Trais a Cham-drin, â phedwar amcan lefel uchel allweddol i:
- atgyfnerthu a gwella'r sylfeini tystiolaeth presennol a'r dadansoddiadau o anghenion mewn perthynas â chyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru
- datblygu dull system gyfan ledled Cymru ar gyfer mynd i'r afael â chyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, o ymyrraeth gynnar ac atal hyd at ymateb y system cyfiawnder troseddol
- sefydlu eglurder ar gyfrifoldebau'r holl awdurdodau perthnasol o dan y Ddeddf a gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt wedi'u datganoli i atal a mynd i'r afael â chyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- cryfhau mecanweithiau atebolrwydd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau i fynd i'r afael â chyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac yn ei atal
Amcan 4
Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal.
Diweddariad cyffredinol
Mae atal troseddu wrth wraidd Strategaeth Genedlaethol Trais a Cham-drin. Mae'r strategaeth yn ymrwymo i gynnal ffocws ar gefnogi goroeswyr a sicrhau gwasanaethau ar eu cyfer, gan symud y ffocws ar yr un pryd o'r symptom i'r achos drwy drefniant iechyd cyhoeddus. Mae'r ymrwymiad hwn yn golygu canolbwyntio ar effaith gymdeithasol ehangach sy'n lleihau'r siawns y bydd unigolion yn profi trais a cham-drin yn y lle cyntaf.
Mae nodi achosion o drais a cham-drin yn gynnar a darparu ymateb priodol i leihau'r effaith a'r niwed yn hanfodol er mwyn cyflawni amcan ymyrryd yn gynnar ac atal y Strategaeth Genedlaethol.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda chydlynwyr rhanbarthol yn ogystal â Plismona yng Nghymru, comisiynwyr ac asiantaethau eraill i sicrhau ymatebion priodol i gefnogi ymyrraeth gynnar ac atal trais a cham-drin, gan nodi'r bylchau yn y ddarpariaeth ac ymchwilio i gyfleoedd i gau'r bylchau hynny.
Mae'r tîm hefyd wedi bod yn ymgymryd â gwaith gydag Unedau Atal / Lleihau Trais ledled Cymru a Lloegr i ddatblygu ymatebion priodol a diogel i gomisiynu gwasanaethau i gyflawnwyr trais a gwasanaethau lleihau niwed sy'n seiliedig ar anghenion, gan sicrhau bod darparu adnoddau ar gyfer gwasanaethau atal ac ymyriadau sylfaenol yn flaenoriaeth wrth fynd i'r afael â thrais a cham-drin, ac yn cefnogi Amcan 3.
Peilot i hyfforddi pobl sy'n darganfod bod rhywun yn cael ei gam-drin
Ymrwymodd y Rhaglen Lywodraethu i ehangu menter 'Paid Cadw'n Dawel' Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, cytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip i gontract ariannu tair blynedd i ddatblygu a chyflwyno menter beilot i hyfforddi dinasyddion Cymru i ymyrryd os ydynt yn darganfod bod rhywun yn cael ei gam-drin.
Bydd y cynllun yn cael ei weithredu tan fis Mawrth 2026. Mae'r model yn rhagweld y bydd hyd at 400 o bobl y flwyddyn yn derbyn hyfforddiant: cyfanswm o tua 1200. Bydd gwerthusiad llawn yn cael ei gynnal a fydd yn darparu argymhellion ar gyfer dyfodol y cynllun.
Bydd y cynllun peilot hyfforddi hwn yn agored i'r cyhoedd. Targedir clybiau a thimau chwaraeon, cyrff llywodraethu, lleoliadau hyfforddi athrawon, sefydliadau a busnesau, yr heddlu, sefydliadau cymunedol, awdurdodau lleol a'r cyhoedd, ymhlith eraill.
Cynhaliwyd yr ymarfer caffael yn ystod y cyfnod adrodd, a dyfarnwyd y contract ym mis Ebrill 2023 i Kindling Transformative Interventions mewn consortiwm gyda PLAN a Beyond Equality. Mae Kindling yn is-gwmni i Brifysgol Caerwysg a gyd-gyfarwyddir gan Dr Rachel Fenton a Dr Nathan Eisenstadt, a nhw fydd yn gyfrifol am ddatblygu'r rhaglen beilot hon.
Cyfathrebu
Mae datblygu ymgyrch gyfathrebu 'Iawn' yn rhan fawr o'n gwaith atal; fodd bynnag, mae hyn yn cael ei drafod yn fanylach o dan Amcan 1.
Gofyn a Gweithredu
Mae 'Gofyn a Gweithredu' yn broses ymholi wedi'i dargedu i'w dilyn ar draws yr awdurdodau perthnasol (a enwir yn y Ddeddf), i nodi ac ymateb i drais a cham-drin.
Dyfarnwyd contract tair blynedd i Cymorth i Ferched Cymru ym mis Tachwedd 2022 i barhau i ddarparu'r rhaglen hyfforddi Gofyn a Gweithredu.
Mae rhaglen Gofyn a Gweithredu yn rhaglen genedlaethol, ac mae'n gwbl weithredol ym mhob rhan o Gymru. Fel rhan o ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ehangu rhaglen Gofyn a Gweithredu, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth ategol ar gyfer awdurdodau ychwanegol ym mis Ionawr 2023.
Erbyn mis Mawrth 2023, roedd dros 27,000 o weithwyr wedi cael hyfforddiant Gofyn a Gweithredu. Yn benodol, yn ystod cyfnod adrodd 2022 i 2023, cafodd dros 10,000 o bobl eu hyfforddi.
E-Ddysgu am Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Mae modiwl E-ddysgu Trais a Cham-drin yn dal i fod ar gael i unrhyw un drwy fynediad gwestai. Yn y gorffennol, dim ond yr awdurdodau perthnasol allai gael mynediad at yr hyfforddiant. O ganlyniad, rhoddwyd mynediad i fwy na 73,000 o bobl i'r cwrs yn 2022 i 2023.
O'r 73,000, manteisiodd 36,641 o bobl y tu allan i'r awdurdodau perthnasol ar gwrs e-ddysgu trais a cham-drin yn 2022 i 2023.
Y prif bethau a gyflawnwyd
- Cafodd menter gyntaf Llywodraeth Cymru ei chaffael i bobl sy'n darganfod bod rhywun yn cael ei gam-drin.
- Yn 2022 i 2023, manteisiodd 73,000 o bobl ar y cwrs e-ddysgu.
- Erbyn mis Mawrth 2023, roedd dros 27,000 wedi cael hyfforddiant Gofyn a Gweithredu. Yn ystod cyfnod adrodd 2022-2023, cafodd 10,000 o bobl hyfforddiant.
Y camau nesaf
- Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chomisiynwyr a chynghorwyr i ddatblygu ymateb iechyd cyhoeddus ar sail anghenion i flaenoriaethu atal ac ymyrryd yn gynnar.
- Bydd y peilot i bobl sy'n darganfod camdriniaeth yn dechrau ac yn dylunio rhaglen hyfforddi i'w chyflwyno i bobl Cymru.
Amcan 5
Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.
Diweddariad cyffredinol
Mae'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn parhau i fod yn un o'r mecanweithiau allweddol ar gyfer gweithredu'r Ddeddf. Bydd dioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin yn rhyngweithio ag ystod o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys tai a gofal iechyd, ac mae'n bwysig sefydlu llwybrau cefnogaeth priodol ac ymgorffori dealltwriaeth o drais ar sail rhywedd o fewn pob awdurdod perthnasol yng Nghymru.
Ym mis Tachwedd 2022, dyfarnwyd contractau ar gyfer grwpiau 4, 5, 6 a chyfres hyfforddi ychwanegol newydd.
Dyfarnwyd contractau grwpiau 4 a 5, sy'n cwmpasu hyfforddiant Cynghorwyr Trais Domestig Annibynnol i weithwyr proffesiynol a rheolwyr, i Safe Lives, a dyfarnwyd contract grŵp 6, sy'n cwmpasu hyfforddiant i arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, i Cymorth i Ferched Cymru.
Mae'r gyfres hyfforddi ychwanegol i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o bynciau ehangach ym maes trais a cham-drin, ac mae ar gael i holl grwpiau'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol. Dyfarnwyd y contract hwn i Stori. Ers dyfarnu rhwng Tachwedd 2022 a Mawrth 2023, roedd cyfanswm o 544 o bobl wedi derbyn hyfforddiant yn y meysydd hyn:
- Cam-drin domestig a brofir gan blant a phobl ifanc: 91.
- Cefnogi dioddefwyr gwrywaidd: 46.
- Cefnogi dioddefwyr LHDTC+: 52.
- Aflonyddu ar y stryd 58.
- Stelcio 59.
Ym mis Mai 2022, cyflwynodd yr awdurdodau perthnasol a nodir yn y Ddeddf eu chweched adroddiad blynyddol, a pharhau y mae'r ffocws ar gynllunio'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol a'i roi ar waith ledled Cymru. Mae gwaith wedi parhau gydag awdurdodau perthnasol i gynyddu canran y gweithlu sy'n cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol.
Y prif bethau a gyflawnwyd
- Erbyn diwedd mis Mawrth 2023, roedd mwy na 342,000 o weithwyr proffesiynol yng Nghymru wedi cael hyfforddiant drwy'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol. Mae hynny'n golygu bod 342,000 o weithwyr proffesiynol yn fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus i ymateb i'r rhai sy'n profi trais a cham-drin.
- Cafodd 544 o weithwyr proffesiynol ychwanegol hyfforddiant arbenigol o ganlyniad i gyllid pellach a ddarparwyd yn 2022 i 2023.
Y camau nesaf
- Bydd swyddogion yn cynnal adolygiad o'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn ystod 2023 i 2024.
Amcan 6
Rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar anghenion yn ogystal â chryfderau ac sy'n ymatebol ledled Cymru.
Cyllid Llywodraeth Cymru yn 2022 i 2023
Ailgadarnhaodd y Strategaeth Genedlaethol ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau arbenigol i ymateb yn uniongyrchol i anghenion goroeswyr. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall y sector arbenigol ddarparu diogelwch i oroeswyr, i ddod dros eu profiadau ac ailadeiladu eu bywydau.
Yn 2022-23, rhoddodd Llywodraeth Cymru refeniw o fwy nag £8 miliwn a chyllid cyfalaf gwerth £2 miliwn i ranbarthau a gwasanaethau trais a cham-drin arbenigol er mwyn darparu cymorth amhrisiadwy i bob dioddefwr ac achub bywydau.
Yn ogystal â'r cyllid uniongyrchol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, mae'r Strategaeth Genedlaethol yn nodi egwyddorion partneriaeth a chydweithio y mae Glasbrint trais a cham-drin yn seiliedig arnynt. Gyda hynny mewn golwg, yn 2023 sefydlwyd ffrwd waith Dull System Gyfan Cynaliadwy. Mae'r grŵp yn gweithio i gydlynu'r cyllid a ddarperir gan bartneriaid ledled Cymru i nodi dyblygu a bylchau yn ogystal â chyfleoedd i ategu ffrydiau cyllid. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol strwythurau cyllid, a all weithiau fod ar sail tymor byr, a chymell arloesedd.
Yn dilyn ei ymchwiliad i drais a cham-drin sy'n effeithio ar fenywod mudol, gwnaeth Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd 15 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, i wella profiadau dioddefwyr trais ar sail rhywedd nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus, gan gynnwys dioddefwyr mudol ac sy'n ceisio lloches.
Ystyriodd Llywodraeth Cymru yr argymhellion hyn a derbyniwyd pob un o'r 15, naill ai yn gyfan gwbl neu mewn egwyddor.
Roedd un argymhelliad yn canolbwyntio ar sefydlu cronfa argyfwng y gall darparwyr gwasanaethau ei defnyddio i gefnogi menywod mudol sy'n dioddef neu'n goroesi trais rhywiol ac ar sail rhywedd, ac nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus.
Ar 1 Mawrth 2023, cytunodd y Gweinidog i roi cyllid i BAWSO i ddarparu Cronfa Gymorth i Ddioddefwyr Camdriniaeth Mudol. Nod y peilot blwyddyn hwn yw cael gwared ar y rhwystrau i ddioddefwyr sy'n ceisio cymorth, nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus. Bydd yn estyniad i Gynllun Cymorth i Ddioddefwyr Mudol y Swyddfa Gartref sy'n gosod cyfyngiadau ar hyd cyfnod y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr, a'r math o gymorth sydd ar gael iddynt.
Bydd yr hyn a ddysgwn o'r cynllun peilot hwn, ynghyd â'r gwerthusiad o Gynllun Cymorth i Ddioddefwyr Mudol y Swyddfa Gartref, yn llywio'r cymorth tymor hirach i ddiwallu anghenion dioddefwyr mudol yng Nghymru.
Y prif bethau a gyflawnwyd
- Parhaodd grant refeniw trais a cham-drin i ariannu llinell gymorth Byw Heb Ofn i gefnogi 34,348 o ddioddefwyr a goroeswyr, ynghyd â ffrindiau, teulu, neu unrhyw un arall a oedd yn poeni. Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael dros y ffôn, drwy neges destun, sgwrs ar y we neu e-bost i sicrhau ystod o lwybrau hygyrch a diogel i gael mynediad at gyngor ac eiriolaeth.
- Darparwyd cyllid refeniw untro ychwanegol i helpu rhanbarthau a gwasanaethau arbenigol gyda'r cynnydd mewn costau oherwydd yr argyfwng costau byw.
- Cefnogwyd 31 o brosiectau o grant cyfalaf trais a cham-drin. Ymhlith y prosiectau a gefnogwyd roedd uwchraddio swyddfeydd a llety lloches, prynu llety i'r rhai sy'n barod i symud ymlaen o loches neu nad yw llety lloches yn addas ar eu cyfer, a gwella diogelwch cartrefi i ganiatáu i ddioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin aros yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
- Darparwyd hyd at £150,000 i BAWSO i gefnogi menywod mudol sy'n ffoi rhag trais a cham-drin nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus.
Y camau nesaf
Bydd grŵp Dull System Gyfan Cynaliadwy y Glasbrint yn adolygu ac yn adnewyddu'r trefniadau rhanbarthol a chenedlaethol presennol ac yn gwneud argymhellion ar sut i gryfhau ac alinio darpariaeth gwasanaethau yn unol â dibenion y Ddeddf. Mae'r ffrwd waith yn canolbwyntio ar sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus statudol yn ymateb i anghenion dioddefwyr a goroeswyr, gan edrych ar gaffael a datblygu dull system gyfan o ddarparu gwasanaethau yn deg ledled Cymru.
Dyma'r camau gweithredu a nodwyd fel rhan o gynllun lefel uchel y grŵp:
- adolygu'r arferion presennol i ddeall y sefyllfa o ran gweithredu'r canllawiau sydd gennym a chyflawni cyfrifoldebau statudol y Ddeddf
- adolygu ac adnewyddu'r canllawiau presennol ar gyfer datblygu asesiadau o anghenion yn ogystal â blaenoriaethu, cynllunio, dylunio a monitro gwasanaethau i ddatblygu dull system gyfan o gomisiynu cynaliadwy
- adolygu'r canllawiau caffael a grantiau presennol ar gyfer trais a cham-drin a disgyblaethau cysylltiedig eraill i sicrhau tegwch, arloesedd ac ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau a darpariaeth ledled Cymru
- datblygu canllawiau i sicrhau bod strwythurau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer trais a cham-drin yn gydlynol a bod y berthynas rhwng cynllunio lleol, darparu gwasanaethau a chomisiynu yn eglur
- datblygu Fframwaith Safonau Cenedlaethol a fydd yn darparu arweiniad ar ofynion darparu gwasanaethau da, yn nodi lefelau gwasanaeth gofynnol, ac yn mynegi disgwyliadau clir ar gyfer partneriaid a gomisiynir i ymrwymo i'r Safonau hyn
Casgliad a ffocws i'r dyfodol
Mae sefydlu dull glasbrint trais a cham-drin, mewn cydweithrediad â'n partneriaid, wedi bod yn ddarn sylweddol o waith sydd wedi para drwy gydol 2022 i 2023, ac a fydd yn parhau gydol oes y Strategaeth Genedlaethol, os nad y tu hwnt i hynny. Mae'r Glasbrint yn rhoi cyfle inni ffurfioli trefniadau gweithio sydd wedi bod gennym yn anffurfiol yng Nghymru. Bydd yn ein galluogi i wneud y gorau o effaith cyfraniadau amrywiol i fynd i'r afael â thrais a cham-drin, ac ymgorffori ein hegwyddorion o weithio mewn partneriaeth i sicrhau y gall pawb fyw heb ofn.
Ni fydd Cymru yn goddef camdriniaeth.