Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: adroddiad cynnydd blynyddol 2020 i 2021
Crynodeb o’r cynnydd a wnaed rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y Cyd-destun Presennol
Er bod yr adroddiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, mae'n bwysig ei osod yn y cyd-destun y’i cyhoeddir ynddo.
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ar feddwl y cyhoedd yn dilyn achosion uchel eu proffil yn y cyfryngau yn ddiweddar. Cynhelir trafodaethau ynghylch trais gan ddynion, ynghyd â'r angen i fynd i'r afael â chasineb at fenywod ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau fel achosion sylfaenol VAWDASV.
Mae effeithiau’r pandemig COVID-19 yn dwysáu’r materion hyn, a bydd yr adroddiad hwn, yn briodol, yn canolbwyntio ar hynny. Ers dechrau’r pandemig COVID-19, mae’r data wedi dangos bod VAWDASV wedi dwysáu, ac mae UN Women, sef endid y Cenhedloedd Unedig sy’n hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso menywod, wedi disgrifio'r cyfrannau o drais yn erbyn menywod a merched fel 'pandemig cysgodol’.
Felly, mae’n gwneud synnwyr bod yr adroddiad hwn yn edrych yn ôl ar waith Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â'r sector arbenigol, dros y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr yn ystod cyfnod eithriadol o anodd. Bydd hefyd yn amlygu rhai o'n hymrwymiadau i gyflawni ein huchelgais i sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.
Cyflwyniad
O dan adran 12 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ('y Ddeddf'), rhaid i Weinidogion Cymru, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gyhoeddi adroddiad sy'n mynd i'r afael â'r canlynol:
- cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion yn y strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (2016 i 2021)
- cynnydd a wnaed tuag at gyflawni dibenion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yng Nghymru (gan gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol).
Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021. Nid yw'r gwaith sydd wedi'i wneud ers hyn wedi'i gynnwys yn yr adroddiad hwn.
Er bod adroddiadau cynnydd blynyddol blaenorol wedi ymdrin yn benodol â'r cynnydd mewn perthynas â’r amcanion a nodir yn y strategaeth genedlaethol, rhaid nodi bod cyfnod yr adroddiad hwn yn rhychwantu pandemig byd-eang COVID-19. Arweiniodd hyn at heriau sylweddol i ddioddefwyr, goroeswyr a gwasanaethau arbenigol yn y sector ac roedd angen aildrefnu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar unwaith er mwyn ymateb ar frys i'r argyfwng. Felly, bydd yr adroddiad cynnydd hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19.
Er bod cynnydd yn parhau i gael ei wneud yn erbyn pob un o'r amcanion a nodir yn y strategaeth genedlaethol, rhaid sylweddoli maint effeithiau’r pandemig COVID-19. Roedd angen ymateb ar frys ac mewn modd hyblyg i argyfwng eithriadol, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynyddu’r dyraniad i'r sector VAWDASV gan fwy na £4 miliwn am flwyddyn er mwyn sicrhau y gellid ymateb i'r galw cynyddol o ganlyniad i'r pandemig.
Rhaid cydnabod a diolch i'r sector VAWDASV a gwasanaethau arbenigol am eu hymateb i ddioddefwyr yn ystod y pandemig. Maent wedi bod yn achubiaeth hanfodol i lawer ac wedi dangos gallu eithriadol i addasu. Mae eu gwydnwch a'u hymrwymiad wedi golygu bod dioddefwyr a goroeswyr wedi parhau i gael eu cefnogi drwy'r cyfnod hynod heriol hwn.
Mae'r partneriaethau cryf ar draws y sector a'r llywodraeth, ynghyd â chefnogaeth amhrisiadwy Cynghorwyr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, wedi galluogi ymateb effeithiol a chyflym i'r heriau a welwyd yn sgil yr argyfwng. Fodd bynnag, nid yw'r pandemig wedi dod i ben eto a bydd y partneriaethau hyn yn parhau i fynd i'r afael ag effaith barhaus COVID-19.
Ochr yn ochr ag ymateb i'r argyfwng hwn na welwyd ei debyg o’r blaen, roedd 2020 yn nodi pum mlynedd ers cyhoeddi Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Ers i'r Ddeddf flaengar hon ddod i rym, mae'r dull o fynd i'r afael â VAWDASV yng Nghymru wedi'i drawsnewid. Mae wedi arwain at fwy o hyfforddiant, canllawiau cryfach, newid mewn arferion a chyfeiriad strategol clir ym mhob rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, sydd oll yn helpu unigolion yr effeithir arnynt.
Er bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud, mae rhagor o waith i’w wneud o hyd. Mae ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu newydd (2021 i 2026) i ehangu'r ymgyrchoedd hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth 'Gofyn a Gweithredu' a 'Paid Cadw’n Dawel’. Mae ymrwymiad arall ynddi i gryfhau'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer VAWDASV drwy gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd, yn y gweithle ac yn y cartref, er mwyn sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.
Deddf Cam-drin Domestig 2021
Daeth Deddf Cam-drin Domestig 2021 dan arweiniad Llywodraeth y DU i rym ar 29 Ebrill 2021. Mae'r Ddeddf yn darparu amddiffyniadau ychwanegol i'r rhai sy'n wynebu cam-drin domestig ac mae ei darpariaethau'n cynnwys datblygiadau pwysig ar faterion fel mynd i'r afael ag ymddygiad o reoli neu orfodi ac achosion o dagu nad yw’n angheuol. Gwnaed gwaith sylweddol yn ystod 2020 i 2021 i sicrhau bod y cyd-destun yng Nghymru yn cael ei ystyried a'i adlewyrchu yn y Ddeddf.
Mae'r Ddeddf hefyd yn creu swydd y Comisiynydd Cam-drin Domestig. Er nad oes gan y Comisiynydd awdurdodaeth dros faterion datganoledig, bydd awdurdodau cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r Comisiynydd i hyrwyddo'r agenda gyffredin i fynd i'r afael â VAWDASV.
Ymateb i COVID-19
Mae cyfnod adrodd 2020-2021 wedi rhychwantu'r pandemig byd-eang COVID-19, sydd wedi achosi heriau eithriadol ar draws y sector VAWDASV. Creodd hyn angen dybryd i fynd i'r afael ag effaith y pandemig ar ddioddefwyr, goroeswyr a gwasanaethau arbenigol. Mae effaith COVID-19 wedi cyffwrdd pob rhan o'r strategaeth genedlaethol ac mae angen dull hyblyg ar gyfer ailflaenoriaethu ac ymateb yn gyflym.
Tra’r oedd cyfyngiadau ar adael y cartref mewn grym i fynd i'r afael â’r pandemig COVID-19, roedd yn amlwg nad oedd pob cartref yn lle diogel. Roedd ynysu gorfodol, sy’n gallu cael ei ddefnyddio fel ffordd o reoli drwy orfodi neu fel esgus i ddefnyddio trais yn erbyn dioddefwyr, yn golygu bod hwn yn gyfnod arbennig o heriol. Am y rheswm hwn, roedd y rhai a oedd yn ffoi rhag VAWDASV neu’r rhai mewn perygl o niwed wedi'u heithrio o'r rheoliadau hyn ac ymgyrchoedd cyfathrebu drwy gydol cyfnodau o gyfyngiadau yn ceisio rhoi sicrwydd i ddioddefwyr bod gwasanaethau arbenigol yn parhau i weithredu ac yn barod i ddarparu cymorth.
Wrth ymateb i COVID-19, rydym wedi ymgysylltu â phartneriaethau, wedi gwrando ar gynrychiolwyr o’r sector arbenigol i ddeall yr hyn sydd ei angen ar ddioddefwyr a goroeswyr, ac wedi gweithredu'n effeithiol ar yr adborth hwnnw. Sefydlwyd Grŵp Strategol COVID-19 VAWDASV yn gyflym ar ddechrau'r pandemig ac mae'n parhau i gyfarfod i ymateb i'r sefyllfa sydd ohoni. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol ac yn cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cyfarfod yn rheolaidd i nodi lle mae angen cyfeirio ymdrechion i fynd i'r afael ag effaith y pandemig ar VAWDASV. Mae wedi sicrhau bod y datrysiadau a ddatblygir yn gyflym yn adlewyrchu anghenion gwasanaethau arbenigol, dioddefwyr a goroeswyr.
Gan adeiladu ar y cydweithio hwn, darparwyd cyllid newydd sylweddol gan Lywodraeth Cymru i'r sector VAWDASV dros 2020 i 2021, gyda mwy na £4 miliwn o gyllid ychwanegol ar gael i ddelio ag effaith COVID-19. Mae hyn yn 67% yn fwy na’r cyllid a gafwyd y flwyddyn flaenorol. Mae wedi galluogi gwasanaethau i ad-drefnu'r hyn y maent yn ei wneud mewn ffordd sy’n diogelu rhag COVID-19, fel rhoi cyfarpar i lochesi a chefnogi dioddefwyr. Mae hefyd wedi hwyluso hyfforddiant ychwanegol gan gynnwys hyfforddiant ar-lein a hyfforddiant ar feithrin gallu a chefnogi gwydnwch. Yn hollbwysig, mae wedi caniatáu i wasanaethau hanfodol barhau â’u gwaith a delio â'r galw cynyddol a welwyd yn sgil y pandemig.
Mae'r cyllid ychwanegol sydd ar gael i'r sector dros y cyfnod adrodd wedi'i rannu fel a ganlyn:
- Dros £1.2 miliwn mewn llety yn y gymuned y talwyd amdano ar gyfer y rhai nad yw'r ddarpariaeth lloches yn addas ar eu cyfer, ac ar gyfer llety symud ymlaen. Mae hyn wedi helpu i sicrhau mwy o lefydd mewn llochesi
- Cafwyd £0.25 miliwn o gyllid refeniw yn ychwanegol yn y lle cyntaf ar ddechrau blwyddyn ariannol 2020 i 2021. Cafwyd £1.567 miliwn o gyllid refeniw a £1 miliwn o gyllid cyfalaf yn ychwanegol wedyn i helpu'r sector i fynd i'r afael ag anghenion a ddaeth yn sgil y pandemig.
Er bod cyllid digonol wedi bod yn hanfodol i'r ymateb i COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda'r sector yn ystod y cyfnod hwn i benderfynu ar y ffordd orau o ddyrannu'r arian ychwanegol. Dyma rai enghreifftiau o sut y defnyddiwyd y cyllid:
- £200,000 o gyllid cyfalaf wedi’i addasu at ddiben gwahanol i helpu i gydymffurfio â rheolau cysylltiedig â COVID. Roedd hyn yn cynnwys Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), yn ogystal â nwyddau gwyn. ychwanegol a nwyddau cartref i wella hylendid ac i gadw pellter cymdeithasol mewn llochesi
- £120,000 ar gael i'r sector trais rhywiol arbenigol i'w galluogi nhw i leihau eu rhestrau aros am wasanaeth cwnsela.
- £233,000 wedi'i ddarparu i ranbarthau VAWDASV i wella cyfleusterau gwrandawiadau 'o bell' mewn llysoedd ledled Cymru. Roedd hyn yn galluogi rhanbarthau i brynu offer a fydd yn caniatáu i gyfleusterau VAWDASV arbenigol gael eu haddasu i ganiatáu i ddioddefwyr gyflwyno tystiolaeth yn ddiogel drwy gyswllt fideo.
- £167,000 arall i linell gymorth Byw Heb Ofn i'w galluogi i helpu'r rhai sy'n ceisio cymorth yn ystod y pandemig.
Er mwyn cefnogi gwasanaethau VAWDASV ymhellach, datblygwyd a chyhoeddwyd canllawiau COVID-19 drwy gydol y cyfnod adrodd i helpu gwasanaethau i ddeall pa gamau yr oedd angen iddynt eu cymryd i gadw staff a'r bobl y maent yn eu cefnogi'n ddiogel yn ystod y pandemig. Diweddarwyd y canllawiau hyn drwy gydol y flwyddyn wrth i’r sefyllfa ddatblygu.
Mae canllawiau pellach hefyd wedi'u datblygu i gefnogi meysydd penodol fel canllawiau ar gyfer gwasanaethau i gyflawnwyr VAWDASV. Mae ymgyrchoedd cyfathrebu wedi'u creu i adlewyrchu effaith y pandemig ac mae hyfforddiant ar gael i ehangu cyrhaeddiad gweithwyr proffesiynol, i allu nodi ac ymateb yn well i VAWDASV. Ymdrinnir â'r meysydd hyn yn fanylach yng nghyd-destun pob un o amcanion perthnasol y strategaeth genedlaethol.
Mae llawer o amser, ymdrech ac adnoddau wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael ag effaith COVID-19 dros y cyfnod adrodd ac mae'r effaith hon yn parhau. Mae'r pandemig wedi arwain at achosion mwy cymhleth, gan roi mwy o straen ar adnoddau a chreu mwy o alw am wasanaethau. Mae wedi golygu ailflaenoriaethu'n gyflym, y tu allan i amcanion y strategaeth genedlaethol, i ddiwallu anghenion uniongyrchol gwasanaethau arbenigol, dioddefwyr a goroeswyr.
Amcanion y strategaeth genedlaethol
Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar VAWDASV (2016 i 2021) yn nodi chwe amcan sy'n cyfrannu at gyflawni diben Deddf VAWDASV (Cymru) 2015.
Diben y Ddeddf yw gwella’r canlynol:
- trefniadau ar gyfer atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- cymorth i bobl y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.
Amlinellir y cynnydd dros y cyfnod adrodd ar gyfer pob un o'r chwe amcan isod. Fel y nodwyd yn y cyflwyniad, bydd hyn yn gysylltiedig yn bennaf â'r ymateb i'r pandemig ac mae hyn ar ben yr ymateb ehangach ac uniongyrchol a nodir yn yr adran COVID-19 uchod.
Amcan 1: Cynyddu ymwybyddiaeth a herio agweddau ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws poblogaeth Cymru
Cyfathrebu ac ymgyrchoedd
Gan gydnabod y potensial am gynnydd mewn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o ganlyniad i’r pandemig COVID-19, lansiwyd yr ymgyrch 'Ddylai neb fod yn ofnus gartre' ym mis Mai 2020. Ei nod oedd sicrhau bod dioddefwyr yn gwybod bod gwasanaethau'n parhau i weithredu ac yn cynnig cymorth, gan annog pobl sy’n bryderus am bobl eraill i gael cymorth a gwybodaeth.
Roedd yr ymgyrch yn cynnwys senarios go iawn wedi deillio o alwadau i linell gymorth Byw Heb Ofn. Cafodd ei ddatblygu a'i gefnogi gan asiantaethau arbenigol allweddol a Grŵp Cyfathrebu VAWDASV. Mae cynnwys a darpariaeth yr ymgyrch wedi ymateb i'r pandemig i adlewyrchu amseriadau cyfyngiadau symud a chysylltiadau â ffrindiau a theulu, ochr yn ochr â chyfnodau o gyfyngiadau symud cenedlaethol.
Mae ‘Ddylai neb fod yn ofnus gartre’ yn ymgyrch amlgyfrwng ac mae wedi ymddangos ar y teledu, ar y radio, yn y newyddion ac yn y wasg genedlaethol a lleol, ar-lein a. Gyda chymorth rhwydweithiau cymunedol fel fferyllfeydd, archfarchnadoedd lleol a heddluoedd, mae wedi cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Rhannwyd deunyddiau’r ymgyrch mewn canolfannau Profi a Brechu COVID-19 hefyd.
Bu gwaith partneriaeth yn effeithiol drwy gydol pob cam o'r ymgyrch; roedd rhif llinell gymorth Byw Heb Ofn yn ymddangos ar dderbynebau yn siopau Tesco ledled Cymru am dri mis, roedd siopau B&Q ledled Cymru yn arddangos posteri ymgyrchu ynghyd â dwy ganolfan arddio annibynnol, a dosbarthwyd posteri i 716 o fferyllfeydd yng Nghymru. Rhannodd Victoria Derbyshire wybodaeth llinell gymorth Byw Heb Ofn ar ei chyfrif Twitter i dros 149,000 o ddilynwyr. Fe wnaeth Luke Evans hefyd hyrwyddo llinell gymorth Byw Heb Ofn a chymorth diogel i ddioddefwyr mewn fideo.
Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru Ddatganiad Ysgrifenedig i nodi pum mlynedd ers gweithredu Deddf VAWDASV (Cymru) 2015. Amlygodd hyn y cynnydd a wnaed dros bum mlynedd o'r Ddeddf, sydd wedi nodi cyfeiriad strategol clir ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus Cymru. Mae'r gwaith dilynol nid yn unig wedi helpu'r rhai yr effeithir arnynt, ond mae hefyd wedi golygu bod Cymru yn chwarae rhan flaenllaw o ran yr agenda. Mae Llywodraeth y DU a gwledydd eraill y DU wedi troi at Gymru am arferion da ac i ddysgu gwersi o weithredu'r Ddeddf.
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar ddiogelwch menywod yng Nghymru yn dilyn marwolaeth drasig Sarah Everard a'r gwylnosau dilynol a gynhaliwyd ledled y wlad. Er bod herwgydio dieithriaid yn rhywbeth prin, mae trais yn erbyn menywod a merched yn llawer rhy gyffredin ac roedd y datganiad yn amlinellu'r angen am newidiadau i’r gymdeithas ac i’n diwylliant fel y gall pob menyw a merch fyw heb ofn. Roedd ymrwymiad yn y datganiad i gryfhau'r strategaeth genedlaethol ar gyfer VAWDASV hefyd.
Cyfathrebu yn y Gymuned
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o wasanaethau arbenigol VAWDASV lleol drwy gydol y pandemig COVID-19 ac ehangu cyrhaeddiad llinell gymorth Byw Heb Ofn ac ymgyrch 'Ddylai neb fod yn ofnus gartre', cytunodd Grŵp Cyfathrebu VAWDASV a grŵp strategol COVID-19 i ddosbarthu £30,000 o gyllid tuag at weithgareddau cyfathrebu cymunedol i ranbarthau VAWDASV dros y cyfnod adrodd. Roedd y dull dosbarthu hwn yn cael ei ffafrio i leihau effaith a baich ar wasanaethau arbenigol VAWDASV lleol yn ystod y pandemig.
Roedd hwn yn gyfle ychwanegol i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau arbenigol lleol ac o linell gymorth Byw Heb Ofn a’r ymgyrch 'Ddylai neb fod yn ofnus gartre’ mewn lleoliadau cymunedol a digidol.
Roedd y gweithgareddau'n cynnwys sesiynau dysgu digidol sy'n ymdrin â themâu fel dioddefwyr hŷn, dioddefwyr sy’n ddynion, plentyn yn cam-drin rhiant, iechyd meddwl a VAWDASV, ac ynysu ac ardaloedd gwledig.
Hefyd, roedd hyn yn cynnwys defnyddio baneri hyrwyddo mawr mewn archfarchnadoedd a lleoliadau yng nghanol trefi, datblygu taflenni a chylchgronau ar gyfer dioddefwyr risg uchel, yn ogystal â phrynu a dosbarthu nwyddau Byw Heb Ofn.
Cyflawniadau allweddol
- Ymgyrch 'Ddylai neb fod yn ofnus gartre’:
- Argraffiadau: 19,079,184. Sianeli digidol (Facebook, Twitter, Google, Snapchat, LinkedIn, Spotify, GDN a TrueView)
- Cyrhaeddiad: 24,200,000. Cyfryngau cenedlaethol (teledu, radio a chyfryngau argraffu)
- Cafwyd 20,800 o ymweliadau â thudalennau gwefan Byw Heb Ofn yn ystod y cyfnod
- Gwelwyd tuedd tuag i lawr o ran nifer y rhai a oedd yn cysylltu â’r llinell gymorth Byw Heb Ofn i ddechrau pan darodd y pandemig. Fe wnaeth yr ymgyrch atal y duedd hon, a dychwelodd y lefelau i’r hyn a oeddent cyn y cyfyngiadau symud. Cynyddodd nifer y galwadau yn ystod pob cam o’r ymgyrch. Yn dilyn pob cam o'r ymgyrch, cafwyd cynnydd o 37% yn nifer y rhai a oedd yn cysylltu â'r llinell gymorth
- Datganiadau Ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru ar ddiogelwch menywod yng Nghymru yn ymrwymo i gryfhau'r Strategaeth Genedlaethol ac yn nodi pum mlynedd ers y daeth Deddf VAWDASV (Cymru) 2015 i rym
- £30,000 o gyllid wedi'i ddosbarthu ar gyfer gweithgareddau cyfathrebu yn y gymuned i ranbarthau VAWDASV.
Amcan 2: Cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach a’r ffaith fod ymddygiad camdriniol yn anghywir bob amser
Drwy gydol y pandemig, codwyd pryderon gan sector arbenigol VAWDASV ynghylch y cynnydd mewn plant a phobl ifanc sydd wedi profi ac wedi bod yn dyst i drais a cham-drin yn y cartref, gyda llai o fynediad at gymorth gan oedolion priodol. Nododd gwasanaethau arbenigol VAWDASV ostyngiadau yn nifer y plant a oedd yn cael eu cefnogi yn y gymuned wrth i gyfyngiadau symud eu rhwystro rhag cael cymorth.
I fynd i’r afael â’r pryderon hyn, sefydlwyd Grŵp Rhanddeiliaid Plant a Phobl Ifanc Agored i Niwed mewn perthynas â VAWDASV ym mis Mai 2020 er mwyn nodi heriau, pryderon a materion yn sgil COVID-19, ynghyd â nodi datrysiadau priodol. Arweiniodd gwaith y Grŵp at ddatblygu a dosbarthu nifer o adnoddau i helpu i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd mewn lleoliadau ysgol yn ystod y pandemig. Roedd yr adnoddau hyn yn cynnwys priodas dan orfod, cam-drin domestig a cham-drin cyfoedion.
Gan weithio ar draws y llywodraeth gyda thimau Addysg a Diogelu Llywodraeth Cymru, cafodd yr wybodaeth hon ei llwytho i fyny i 'Hwb', y platfform digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru, i'w defnyddio gan ymarferwyr. Dangosodd yr adnoddau beth yw’r arwyddion y dylid cadw llygad amdanynt pan fydd plentyn neu berson ifanc yn profi cam-drin domestig, cam-drin gan gyfoedion neu briodas dan orfod. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am sefydliadau a allai gynnig cyngor, arweiniad a chymorth, yn enwedig os nad oeddent yn cyrraedd y trothwy ar gyfer ymyrraeth gwasanaethau cymdeithasol.
Mae codi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o gydraddoldeb, parch a chydsyniad yn ffactor hollbwysig i atal VAWDASV. Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei gwneud yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd ar gyfer pob dysgwr, a fydd yn dod i rym yn 2022. Bydd hyn yn sicrhau bod pob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed yn gallu manteisio ar addysg o’r radd flaenaf sy'n ymateb i'w hanghenion a'u profiadau.
Ym mis Mawrth 2020, sefydlodd y Gweinidog Addysg weithgor Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy'n cynnwys rhanddeiliaid ac ymarferwyr perthnasol i gytuno ar y pynciau sydd i'w cwmpasu gan ysgolion ac i gyd-lunio'r canllawiau manwl i gefnogi’r dysgu. Mae hwn yn fater traws-lywodraethol sydd wedi cael mewnbwn parhaus gan swyddogion VAWDASV dros y cyfnod adrodd i gyfrannu at y gweithgor Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
Dros y cyfnod adrodd mae gwaith wedi parhau gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i nodi anghenion cymorth a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth i gefnogi staff a myfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Cafodd canllawiau VAWDASV ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch, a gyhoeddwyd yn flaenorol mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ym mis Mawrth 2020, eu diwygio ym mis Tachwedd 2020 i gyfrif am effaith y pandemig COVID-19.
Rydym yn parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Hafan Cymru sy'n hyrwyddo pwysigrwydd cydberthynas iach ac yn codi ymwybyddiaeth o VAWDASV. Mae Sbectrwm hefyd yn darparu hyfforddiant i staff a llywodraethwyr ysgolion ynghylch deall effaith cam-drin domestig ar blentyn, ac mae'n hyrwyddo dull ysgol gyfan o fynd i'r afael â cham-drin domestig. Yn ystod y flwyddyn adrodd, bu rhaid i'r gwasanaeth hwn addasu'n gyflym oherwydd effaith y pandemig COVID-19. Er mwyn sicrhau bod y cymorth a'r gwaith codi ymwybyddiaeth yn parhau, cafodd yr holl adnoddau a sesiynau eu symud ar-lein, a olygai fod dros 11,000 o ddisgyblion yn gallu cymryd rhan yn y dysgu pwysig hwn o hyd. Fe wnaeth yr arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru hefyd gyfrannu ar waith y Prosiect Sbectrwm o ddatblygu adnoddau dwyieithog sy'n briodol i oedran ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cael eu cam-drin. Caiff y rhaid eu defnyddio yn ystod sesiynau ar-lein.
Cyflawniadau allweddol
- Sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid Plant a Phobl Ifanc Agored i Niwed mewn perthynas â VAWDASV er mwyn nodi heriau, pryderon a datrysiadau yn sgil COVID-19.
- Parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Hafan Cymru. Rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, roedd dros 11,570 o bobl ifanc yn defnyddio gweithdai ymwybyddiaeth o gydberthynas iach drwy'r prosiect, gan greu cyfanswm cyffredinol o 165,626.
- Cefnogi datblygiad Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fel rhan o'r cwricwlwm newydd i bob dysgwr drwy fewnbwn VAWDASV i'r gweithgor Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
Amcan 3: Mwy o ffocws ar ddwyn cyflawnwyr i gyfrif, a ymyriadau a chymorth iddynt newid eu hymddygiad gyda phwyslais ar ddiogelwch y dioddefwr
Llywodraeth Cymru sy’n arwain ffrwd waith VAWDASV 'Fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rheini sydd mewn risg o droseddu yng Nghymru' 2018 i 2023. Mae'r grŵp wedi cyfarfod bob chwarter dros y cyfnod adrodd gydag adroddiadau cynnydd perthnasol yn cael eu cyflwyno i Fwrdd Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru. Ym mis Mai 2020, cynhaliwyd cyfarfod eithriadol hefyd i drafod effaith COVID-19 ar wasanaethau a'r heriau y maent yn eu rhagweld ar gyfer y dyfodol.
Parhaodd y gwaith gyda gwasanaethau a chomisiynwyr i gefnogi'r broses o gymhwyso'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cyflawnwyr VAWDASV a chyhoeddwyd Cwestiynau Cyffredin ar gymhwyso'r safonau ar wefan Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru.
Ym mis Ebrill 2020, cafodd Canllawiau COVID-19 i wasanaethau ar gyfer cyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol eu datblygu a'u hanfon at y sector. Roedd y canllawiau hyn yn cynnwys cyngor ar gyfer gwasanaethau ar sut i barhau â'u gwaith yn effeithiol o dan yr amgylchiadau presennol, a sut i reoli risgiau a allai godi o ganlyniad.
Hefyd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfres o ddigwyddiadau rhannu arferion rhithiol ar gyfer gwasanaethau i gyflawnwyr VAWDASV ar 20 Awst 2020, 2 Rhagfyr 2020 ac 17 Mawrth 2021 gyda dros 100 yn bresennol.
Dros y cyfnod adrodd, darparwyd mwy na £135,000 o gyllid i gefnogi Gwasanaethau i Gyflawnwyr VAWDASV ledled Cymru i sicrhau bod y rheini sy'n cyflawni cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gallu manteisio ar raglen gymorth gymeradwy. Roedd cyfanswm o 200 o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi elwa ar raglenni ymyrraeth a gefnogwyd gan y cyllid hwn.
Cyflawniadau allweddol
- Darparwyd dros £135,000 o gyllid i gefnogi Gwasanaethau Cyflawnwyr VAWDASV ledled Cymru i sicrhau bod y rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gallu manteisio ar raglen gymorth gymeradwy.
- Cyhoeddi canllawiau COVID-19 ar gyfer gwasanaethau i gyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
- Cyfres o ddigwyddiadau rhannu arferion rhithiol a gyflwynwyd drwy’r flwyddyn gyda thros 100 o fynychwyr.
Amcan 4: Rhoi blaenoriaethu i ymyrryd yn gynnar ac atal
Mae ymyrryd yn gynnar yn hanfodol wrth nodi a lleihau'r niwed a achosir gan drais neu gamdriniaeth. Mae’r pandemig COVID-19 a chyfyngiadau cyhoeddus dilynol wedi creu heriau unigryw o ran nodi VAWDASV cyn gynted â phosibl. Cydnabyddir y gallai fod yn anos i ddioddefwyr geisio cymorth pan fo cyfyngiadau symud yn ystod y pandemig. Canolbwyntiwyd yn ystod y cyfnod adrodd ar adeiladu ar gamau sy’n gwneud ymyrraeth gynnar yn flaenoriaeth ac yn darparu ymateb priodol i leihau effaith a niwed. Mae adeiladu ar y mesurau presennol hyn wedi sicrhau bod cymorth a chefnogaeth ar gael i'r rhai y mae angen hynny arnynt.
Gofyn a Gweithredu
Mae'r rhaglen 'Gofyn a Gweithredu' yn broses o ymholi wedi'i dargedu i'w harfer ar draws yr 'awdurdodau perthnasol' (fel y'u henwir yn Neddf VAWDASV (Cymru) 2015) i nodi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Prif amcan 'Gofyn a Gweithredu' yw ei gwneud yn ofynnol i weithwyr proffesiynol perthnasol "ofyn" i ddioddefwyr posibl am y posibilrwydd o gam-drin domestig mewn rhai amgylchiadau a "gweithredu" fel bod dioddefaint a niwed o ganlyniad i'r trais a'r cam-drin yn cael ei leihau.
Erbyn mis Chwefror 2021, roedd y rhaglen 'Gofyn a Gweithredu' ar waith mewn saith ardal yng Nghymru, ac wrthi’n cael ei gweithredu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Bae Gorllewin Abertawe a Chaerdydd.
Erbyn mis Mawrth 2021, roedd cyfanswm o 11,834 o weithwyr wedi'u hyfforddi i 'ofyn a gweithredu’. Yn benodol yn ystod cyfnod adrodd 2020 i 2021, hyfforddwyd 6,274 o bobl.
Comisiynwyd gwerthusiad o'r rhaglen 'Gofyn a Gweithredu' yn ystod hydref 2020. Nod y gwerthusiad oedd archwilio effeithiolrwydd gweithredu'r hyfforddiant hyd yma, archwilio effaith yr hyfforddiant 'Gofyn a Gweithredu' ar weithwyr proffesiynol ac unigolion ledled Cymru ac, o ganlyniad, asesu pa mor llwyddiannus y bu o ran cyflawni nodau'r rhaglen. Disgwylir i'r bwletin hwn gael ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2021.
E-Ddysgu
Roedd modiwl E-Ddysgu VAWDASV yn arfer bod ar gael dim ond i weithlu 'awdurdodau perthnasol' a nodir yn Neddf VAWDASV (Cymru) 2015. Fodd bynnag, ers mis Ebrill 2020, mae wedi bod ar gael i unrhyw un drwy gyfrif ‘gwestai’. Mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol a chyfyngiadau, efallai na fydd dioddefwyr wedi gallu cael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth a allai fod ganddynt o'r blaen. Gallai hyn olygu mwy o ddibyniaeth ar eraill i gynnig cymorth a nod ehangu'r hyfforddiant hwn oedd galluogi unrhyw un i fod mewn sefyllfa i helpu. Mae wedi cefnogi ystod ehangach o bobl i allu adnabod arwyddion cam-drin a gwybod sut y gallant helpu'n ddiogel, boed hynny'n wirfoddolwyr yn cynorthwyo mewn cymunedau, contractwr brys, gweithlu gwasanaethau post, siopau lleol, neu weithwyr archfarchnadoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd dros 54,000 o bobl fynediad i'r cwrs E-ddysgu.
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth am ddim, 24/7 i bob dioddefwr a goroeswr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Un o’r heriau a ddaeth yn sgil y pandemig COVID-19 oedd bod pawb yn treulio mwy o amser gartref yn ystod y cyfyngiadau symud a chyfnodau o hunanynysu, a bod hynny’n creu potensial ar gyfer mwy o risg i ddioddefwyr trais a cham-drin. Dros y cyfnod adrodd, datblygwyd gwybodaeth am gadw'n ddiogel drwy gydol y brigiad o achosion COVID-19 a darparwyd yr wybodaeth honno ar wefan Byw Heb Ofn. Cafwyd ymgyrchoedd cyfathrebu parhaus ochr yn ochr â hyn hefyd, i sicrhau bod dioddefwyr yn gwybod bod gwasanaethau'n parhau i weithredu ac yn cynnig cymorth.
Gostyngodd nifer y bobl a oedd yn cysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn yn ystod cyfnodau lle'r oedd cyfyngiadau symud mewn grym, ond gan gynyddu'n sylweddol pan godwyd y cyfyngiadau. Helpodd yr ymgyrch gyfathrebu ddilynol, 'Ddylai neb fod yn ofnus gartre' i fynd i'r afael â'r patrwm hwn fel yr amlinellir o dan amcan un.
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn nodi bod galwadau yn ystod y pandemig wedi bod yn fwy cymhleth, gyda’r swyddogion yn nodi bod risg uwch yn gysylltiedig â nhw. Darparwyd £167,000 yn ychwanegol o gyllid i linell gymorth Byw Heb Ofn er mwyn iddynt allu ymateb yn effeithlon i'r cynnydd yn y galw.
Rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, cafwyd dros 31,000 o bobl yn cysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn drwy alwadau, e-bost, testun neu sgyrsiau gwe.
Ymchwil: Beth sy’n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)?
Ym mis Tachwedd 2020, comisiynwyd ymchwil i nodi arferion effeithiol ar gyfer atal VAWDASV gyda'r bwriad o ddefnyddio'r dystiolaeth i lywio'r broses o fabwysiadu arferion seiliedig ar dystiolaeth drwy adnewyddu'r Strategaeth Genedlaethol ar VAWDASV yng Nghymru yn 2021. Dechreuodd y gwaith ymchwil ym mis Ionawr 2021 ac fe'i ariennir gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cyhoeddwyd adroddiad terfynol ym mis Medi 2021.
Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr
Bydd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr yn cyfuno nifer o ffyrdd y gall goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ddylanwadu ar waith Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrwng i oroeswyr eirioli drostynt eu hunain ac addysgu eu cyfoedion, eu cymunedau a'u cydweithwyr.
Daeth prosiect peilot a oedd yn galluogi goroeswyr i gymryd rhan mewn panel ymgysylltu cenedlaethol i oroeswyr i ben ym mis Rhagfyr 2019. Cynhaliwyd gwerthusiad o'r peilot drwy gydol 2020 gyda chyfweliadau â rhanddeiliaid a goroeswyr yn cael eu cynnal yn rhithiol oherwydd y pandemig COVID-19. Cyhoeddwyd adroddiad gwerthuso llawn ym mis Medi 2021. Mae hyn yn cynnwys argymhellion ar gyfer dulliau ymgysylltu yn y dyfodol.
Cyflawniadau allweddol
- Modiwl E-Ddysgu VAWDASV ar gael i unrhyw un drwy gyfrif ‘gwestai’. Dim ond 'awdurdodau perthnasol' a enwir yn Neddf VAWDASV oedd yn arfer cael hyfforddiant. Arweiniodd hyn at dros 54,000 o bobl yn cael mynediad i'r cwrs
- Ym mis Mawrth 2021, roedd cyfanswm o 11,834 o weithwyr wedi'u hyfforddi i 'ofyn a gweithredu’. Yn benodol yn ystod cyfnod adrodd 2020 i 2021, hyfforddwyd 6,274 o bobl
- Yn ystod y cyfnod adrodd, cysylltwyd â llinell gymorth Byw Heb Ofn dros 31,000 o weithiau drwy alwadau, e-bost, testun neu sgyrsiau gwe. Mae'r rhain i gyd yn gyfleoedd pwysig i gynnig cymorth a chefnogaeth i rywun sydd ei angen.
Amcan 5: Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr
Un o'r dulliau allweddol ar gyfer rhoi Deddf VAWDASV (Cymru) 2015 ar waith yw’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol. Mae'r rhai sy'n wynebu VAWDASV yn cael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus am sawl rheswm, fel tai, gofal iechyd ac addysg. Rhaid i'r gwasanaethau hyn ddarparu llwybrau atgyfeirio i gymorth i ddioddefwyr. Mae'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn cynnig hyfforddiant cymesur i atgyfnerthu'r ymateb a ddarperir ledled Cymru i'r rhai sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol. Mae'n nodi disgwyliadau uchelgeisiol a chlir ar gyfer safonau, canlyniadau a chynnwys hyfforddiant ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae gan aelodau o staff ar bob lefel o fewn grwpiau 1 i 6 a nodir yn y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol gyfrifoldeb i ymgymryd â hyfforddiant.
Ym mis Mai 2020, cyflwynodd yr 'awdurdodau perthnasol' a amlinellir yn y Ddeddf eu pedwerydd adroddiad blynyddol ac mae ffocws o hyd ar gynllunio a gweithredu'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ledled Cymru. Parhaodd Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau perthnasol i gynyddu canran y gweithlu sy'n cwblhau'r hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol.
Gan gydnabod bod achosion o VAWDASV wedi bod yn fwy cymhleth ac wedi peri mwy o risg o ganlyniad i ynysu yn ystod y pandemig, comisiynwyd hyfforddiant arbenigol ychwanegol yn ystod y cyfnod adrodd hwn ar gyfer staff mewn awdurdod perthnasol a staff mewn awdurdod heb fod yn berthnasol a ddaw i gysylltiad â dioddefwyr a chyflawnwyr yn eu rolau o ddydd i ddydd. Roedd yr hyfforddiant ychwanegol hwn yn cynnwys gweithio gyda dioddefwyr cam-drin ar sail anrhydedd a dioddefwyr sy’n ddynion, ynghyd â nodi a gweithio gyda chyflawnwyr VAWDASV. Mae cynnig yr hyfforddiant arbenigol ychwanegol hwn i staff mewn awdurdod heb fod yn berthnasol hefyd wedi arwain at ystod ehangach o weithwyr proffesiynol yn gallu nodi ac ymateb yn well i VAWDASV.
Cyflawniadau allweddol
- Erbyn mis Ebrill 2021, roedd 243,876 o weithwyr proffesiynol yng Nghymru wedi cael hyfforddiant drwy'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol. Mae hynny'n golygu bod 243,876 o weithwyr proffesiynol yn meddu ar fwy o wybodaeth, mwy o ymwybyddiaeth a mwy o hyder i ymateb i'r rheini sy'n dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn gynnydd o dros 70,676 ers y cyfnod adrodd diwethaf.
- Derbyniodd 1,337 o weithwyr proffesiynol ychwanegol hyfforddiant arbenigol o ganlyniad i gyllid pellach yn 2020 i 2021.
Amcan 6: Rhoi mynediad cyfartal i ddioddefwyr at wasanaethau ledled Cymru, a’r rheini’n wasanaethau holistaidd o ansawdd uchel y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy’n seiliedig ar gryfderau, sy’n cael eu harwain gan anghenion sy’n ymatebol i rywedd
Mae grant Llywodraeth Cymru yn ariannu rhanbarthau a sefydliadau trydydd sector i ddarparu gwasanaeth uniongyrchol i gefnogi ac amddiffyn dioddefwyr VAWDASV. Yn sail i hyn, mae canllawiau statudol a ddatblygwyd ar gyfer comisiynu gwasanaethau VAWDASV yn hyrwyddo comisiynu cydweithredol o ansawdd uchel sy'n darparu gwasanaethau mwy cyson ac effeithiol ar sail anghenion.
Cafodd cyfarfodydd monitro rheolaidd eu cynnal dros y cyfnod adrodd i adolygu cynnydd pob rhanbarth o ran gweithredu'r gofynion a nodir yn y Canllawiau Comisiynu VAWDASV. Er hyn, bu ffocws sylweddol ar yr anghenion uniongyrchol a nodwyd o ganlyniad i'r pandemig.
Fel yr amlinellwyd yn adran 'Ymateb i COVID-19' yr adroddiad hwn, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid newydd sylweddol i'r sector VAWDASV dros y cyfnod adrodd.
Mae'r cyllid ychwanegol hwn wedi bod yn hanfodol i'r ymateb i COVID-19 ac mae llawer o'r cyfnod adrodd hwn wedi canolbwyntio ar gydweithio â'r sector VAWDASV i ddyrannu'r cyllid yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Cam-drin ar sail anrhydedd
Caiff Grŵp Arwain Cymru ar Gam-drin ar sail Anrhydedd ei gyd-gadeirio gan Lywodraeth Cymru, BAWSO a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae'r grŵp wedi gosod fframwaith i bartneriaid allweddol gyfrannu at fynd i'r afael â'r mater hwn yng Nghymru, tra'n darparu'r cymorth gorau posibl i oroeswyr.
Cynhwyswyd gwybodaeth am gam-drin ar sail anrhydedd am y tro cyntaf yn adroddiad Uned Atal Trais Cymru ym mis Awst 2020, gyda data a ddarparwyd gan Grŵp Arwain Cymru ar Gam-drin ar sail Anrhydedd.
Mewn ymateb i adroddiad grŵp cynghorol BAME ar COVID-19 y Prif Weinidog o'r is-grŵp economaidd-gymdeithasol, mae'r Grŵp Arwain Cam-drin ar sail Anrhydedd hefyd wedi bod yn gweithio i nodi'r risgiau a'r rhwystrau penodol a wynebir gan y gymuned BAME, yn ogystal â'r rhai a wynebir gan y boblogaeth ehangach, ac i wneud argymhellion i fynd i'r afael â hwy. Darparwyd cyfraniadau hefyd i gefnogi adolygiad o'r argymhellion a nodwyd yn ‘Uncharted Territory: Violence against migrant, refugee and asylum-seeking women in Wales’ a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ym mis Medi 2020, cafodd adnoddau ar gyfer athrawon eu datblygu a’u dosbarthu drwy rwydwaith Hwb i godi ymwybyddiaeth o anffurfio organau cenhedlu benywod a'r arwyddion y gallai merch ifanc fod mewn perygl o hynny.
Ym mis Hydref 2020, dyfarnwyd contract hyfforddiant codi ymwybyddiaeth i Karma Nirvana i ddarparu ugain o 'sioeau teithiol' rhithiol am ddim i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yng Nghymru i fagu hyder wrth herio cam-drin ar sail anrhydedd a phriodasau dan orfod.
Cynhaliwyd y sioeau teithiol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021 a'u nod oedd gwella ymwybyddiaeth ac ymatebion amlasiantaethol i gam-drin ar sail anrhydedd drwy ddarparu ac ehangu 'mannau mwy diogel' er mwyn i ddioddefwyr a goroeswyr allu siarad a rhannu gwybodaeth yn gyfrinachol.
Cyflawniadau allweddol
- Mwy na £4 miliwn o arian ychwanegol ar gael i'r sector VAWDASV i ddelio ag effaith COVID-19.
- Cynhwyswyd data cam-drin ar sail anrhydedd am y tro cyntaf yn adroddiad Uned Atal Trais Cymru ym mis Awst 2020.
- Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, cyflwynwyd ugain o sioeau teithiol rhithiol ar gam-drin ar sail anrhydedd. Mynychwyd y rhain gan 657 o weithwyr proffesiynol o 120 o sefydliadau.
- Datblygwyd a dosbarthwyd adnoddau ar anffurfio organau cenhedlu benywod ymhlith athrawon drwy rwydwaith Hwb.
Casgliad a'r camau nesaf
Yn ystod y flwyddyn adrodd hon rydym wedi wynebu heriau digynsail yn sgil y pandemig COVID-19. Er bod cynnydd wedi'i wneud mewn perthynas â’r amcanion a nodir yn y strategaeth genedlaethol, yn ystod y cyfnod adrodd hwn, yn briodol, mae mwy o ffocws wedi bod ar yr anghenion uniongyrchol a godwyd o ganlyniad i'r pandemig a'i effeithiau ar ddioddefwyr, goroeswyr a gwasanaethau arbenigol VAWDASV.
Rhagwelir y bydd effeithiau tymor hir COVID-19 ar yr economi ac ar iechyd meddwl y boblogaeth yn cael eu hadlewyrchu mewn cynnydd estynedig yn y risg o gam-drin. Bydd gwaith i gefnogi'r sector VAWDASV i fynd i'r afael â'r effaith barhaus hon yn parhau i fod yn ganolbwynt i'r blynyddoedd adrodd nesaf.
Ochr yn ochr â hyn, mae Rhaglen Lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru (2021 i 2026) yn ymrwymo i’r canlynol:
- Cryfhau strategaeth genedlaethol VAWDASV i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd, yn y gweithle ac yn y cartref.
- Ehangu'r ymgyrchoedd hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth 'Gofyn a Gweithredu' a 'Paid Cadw’n Dawel’
- Sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.
Mae gwaith i adolygu a chryfhau'r strategaeth genedlaethol ar VAWDASV eisoes ar y gweill. Mae gweithgor o sefydliadau partner allweddol wedi bod yn cyfarfod drwy gydol 2021 i adolygu effeithiolrwydd nodau ac amcanion y strategaeth bresennol a phenderfynu pa ddiwygiadau sydd eu hangen yng ngoleuni newidiadau polisi a datblygiadau eraill, ynghyd â'r dirwedd sy'n newid yn barhaus ers dechrau’r pandemig COVID-19. Bwriedir cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ddiwedd 2021.
Bydd ymrwymiadau newydd y Rhaglen Lywodraethu ac adborth ymgysylltu gan weithgor y strategaeth genedlaethol yn cael eu defnyddio i lywio ymgyrchoedd cyfathrebu ar gyfer 2021-2022. Mae ymgysylltiad cychwynnol â Grŵp Cyfathrebu VAWDASV ar y gweill i archwilio cyfeiriad ymgyrch newydd ar 'aflonyddu' ar gyfer hydref 2021.
Bydd gwaith hefyd yn parhau i adeiladu ar gynnydd da y strategaeth genedlaethol bresennol gan gynnwys:
- parhau i asesu ac ymateb i anghenion plant a phobl ifanc
- parhau i weithio ar draws y llywodraeth i sicrhau y rhoddir ystyriaeth gyffredinol i VAWDASV wrth lunio polisïau
- ehangu'r hyfforddiant a gynigir i weithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â dioddefwyr a chyflawnwyr yn eu rolau o ddydd i ddydd, mewn meysydd fel tai, addysg a gofal cymdeithasol
- ystyried dulliau ymgysylltu yn y dyfodol i sicrhau bod lleisiau goroeswyr yn cael eu clywed
- datblygu fframwaith monitro i asesu cydymffurfiaeth â chanllawiau comisiynu presennol ac i gefnogi rhanbarthau i gydweithio i ddarparu fframwaith comisiynu a chyflawni effeithiol
- adeiladu ar waith Grŵp Arwain Cymru ar Gam-drin ar Sail Anrhydedd i adolygu ac ystyried y camau nesaf y gellir eu cymryd i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr sy'n cyd-fynd â'r strategaeth genedlaethol newydd.
Er bod camau cadarnhaol wedi'u cymryd ac yn parhau i gael eu cymryd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, mae mwy o waith i'w wneud bob amser. Mae'n broblem gymdeithasol sy'n gofyn am ymateb cymdeithasol drwy herio agweddau a newid ymddygiad y rhai sy'n ymddwyn mewn modd camdriniol. Bydd dull gweithredu system gyfan yn hanfodol i ategu'r camau nesaf yn y daith hon a rhaid i bob sefydliad, rhai datganoledig a rhai heb eu datganoli, gydweithio. Mae'r uchelgais yn parhau i fod yn glir, sef rhoi diwedd ar VAWDASV a sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.