Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae adran 22 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynghorydd/Cynghorwyr Cenedlaethol lunio adroddiad blynyddol i'w osod gerbron y Senedd.

Fe'n penodwyd ni, Nazir Afzal OBE ac Yasmin Khan i rannu swydd y Cynghorydd Cenedlaethol ym mis Ionawr 2018. Hwn yw ein Hadroddiad Blynyddol fel sy'n ofynnol. Mae'r Llywodraeth wedi cytuno â ni y caiff ein cyfnodau yn y swydd eu hymestyn tan fis Gorffennaf 2022. Bydd hyn yn ein galluogi i gwblhau gwaith a ohiriwyd o ganlyniad i bandemig COVID-19 a helpu'r Llywodraeth newydd ei hethol i gyflawni ei blaenoriaethau o ran Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol gan ehangu ac atgyfnerthu ei gwaith yn y maes hwn ymhellach fel rhan o'i hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn eithriadol sydd wedi'i difetha'n llwyr gan bandemig COVID-19 ac sydd, yn gywir ddigon, wedi gorfodi Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar ymateb i'r argyfwng. Mae wedi cael effaith andwyol ar rai amcanion tymor canolig a hirdymor a nodwyd gennym yn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2020-21 wrth inni droi ein sylw at ganolbwyntio ar liniaru effeithiau'r pandemig ar ddioddefwyr, goroeswyr a'r sector Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, ond rydym yn falch o nodi bod llawer wedi'i gyflawni serch hynny. Y sector arbenigol sydd wedi ysgogi llawer o'r gwaith rhagorol hwn a dylanwadu arno, ac mae wedi cael ei lywio gan ddioddefwyr a goroeswyr. Fodd bynnag, rhaid inni dderbyn effaith y pandemig sy'n golygu bod darparwyr arbenigol a'u staff rheng flaen yn dioddef trawma dirprwyol sylweddol. Rhaid inni gynllunio at y dyfodol a sicrhau bod gwasanaethau a'u gweithluoedd yn cael eu cefnogi a'u cydnabod am eu gwaith aruthrol yn y cyfnod digynsail hwn.

Hoffem ddiolch unwaith eto i aelodau'r tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth a'u cymorth parhaus a chydnabod eu cyflawniadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf y ffaith nad oedd ganddynt ddigon o staff am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Mae'n hollol briodol ein bod yn cydnabod eu hymdrechion i gefnogi'r sector Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a darparu gwasanaeth o safon mor uchel yn ystod y cyfnod heriol hwn. 

Mae ein rôl yn ystod y pandemig wedi'i chefnogi gan Weinidogion Cymru ac rydym yn diolch i'r Prif Weinidog a'i dîm Gweinidogol am y gefnogaeth honno, yn enwedig Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd wedi parhau i lywio'r maes gwaith hwn â diddordeb ac ymrwymiad aruthrol, gan adeiladu ar y degawdau y mae wedi'u treulio yn ymwneud â'r maes hwn. Mae'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i atgyfnerthu'r strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol er mwyn cynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â'r cartref yn dangos yn glir gyflymder y newid a'r arweinyddiaeth gref o fewn Llywodraeth Cymru.

Yn anad dim, hoffem ddiolch i'r llu o ddarparwyr trydydd sector sy'n estyn cymorth diflino i ddioddefwyr a goroeswyr. Maent wedi ymateb i'r pandemig mewn ffyrdd na allai'r un ohonom fod wedi'u dychmygu ac ar adeg pan fo nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi cynyddu, gwaetha'r modd.

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015 ymhlith cyflawniadau mwyaf Llywodraeth Cymru hyd yma, ac yn sicr, o ganlyniad iddi, gallwn ddatgan yn ddiamod bod Cymru yn gosod esiampl i weddill y DU ei dilyn. Mae'r cyflawniadau ers ei deddfu wedi cael cryn gyhoeddusrwydd, ond rydym yn rhestru rhai ohonynt isod wrth roi ein diweddariadau ar ein gwaith ar gyfer y flwyddyn yn ogystal â'n sylwadau ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni gan Lywodraeth Cymru.

Erys heriau sylweddol ac mae angen i ni barhau'n ymwybodol o faint yr heriau hynny. Mae'r rhain wedi'u gwaethygu gan y pandemig. Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio, yn gywir ddigon, ar ateb yr heriau hyn a gweithio i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau lle y'u ceir er mwyn sicrhau bod darpariaeth deg ar gael i bawb y mae ei hangen arnynt ac osgoi “loteri cod post”.

Y cynnydd a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2020 i 2021

Ystyried sut y gellir datblygu Dull Iechyd Cyhoeddus a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar weithredu'r dull hwn

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru er mwyn ystyried a herio'r syniadaeth bresennol o blaid fframwaith dull iechyd cyhoeddus ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Yn ein barn ni, mae'r maes gwaith hwn, a'r gweithdy y gwnaethom gymryd rhan ynddo yn 2020, yn cyd-fynd ag egwyddor datblygu cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nod y cydweithio hwn yw nodi cyfleoedd i ymgorffori dull iechyd cyhoeddus a meithrin dealltwriaeth o dirwedd bresennol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ledled Cymru.

Gweithio gydag Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol a'r Trydydd Sector a darparwyr gwasanaeth y Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol i sicrhau y caiff anghenion dioddefwyr a goroeswyr eu hadlewyrchu yn y Strategaethau Lleol

Fel y nodwyd yn adroddiad y llynedd, gweithgaredd blynyddol parhaus yw hwn ac mae'n briodol ei fod yn parhau i gael ei gynnwys yn ein cynlluniau a'n hadroddiadau.

Rydym wedi nodi themâu penodol ar gyfer arferion da yn ogystal â meysydd y mae angen eu gwella, yn ein barn ni. Rydym yn bwriadu rhannu â byrddau strategol a phartneriaethau ledled Cymru wrth iddynt baratoi eu cynlluniau gweithredu wedi'u diweddaru yn ystod y flwyddyn. Rydym wedi ymrwymo i fynd i o leiaf un cyfarfod o fwrdd neu bartneriaeth o'r fath ym mhob rhanbarth er mwyn cymryd rhan yn ei broses/phroses cynllunio gweithredu, lle y bo'n bosibl.

Parhau i adolygu gwaith ar nodi bylchau mewn data ymchwil a chasglu data a nodi arferion gorau ym maes gwerthuso

Rydym yn parhau i helpu swyddogion i ddatblygu strategaethau, polisïau a chanllawiau drwy bob ymgysylltiad er mwyn sicrhau bod gwaith Llywodraeth Cymru yn cael ei lywio gan ymchwil a data.

Gwnaethom helpu swyddogion Llywodraeth Cymru i ddatblygu paneli peilot cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â goroeswyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol drwy gydol 2019 ac rydym yn aros am yr adroddiad ar yr argymhellion.

Yn ystod y pandemig, gwnaethom gefnogi swyddogion a'r sector drwy ddarparu arweinyddiaeth strategol i Grŵp Strategaeth COVID-19 a grëwyd er mwyn lleihau effaith y pandemig ar wasanaethau arbenigol ac, yn eu tro, ddioddefwyr a goroeswyr.

Gwnaethom gynnal arolwg ‘snap’ o'r sector trais rhywiol er mwyn cydnabod y pwysau aruthrol a oedd ar y sector, ac sy'n dal i fod arno, mewn perthynas ag amseroedd aros ac ôl-groniadau. Mae arian ychwanegol yn ystod y pandemig wedi helpu i leihau rhywfaint o'r pwysau ar wasanaethau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen, a lleihau eu hamseroedd aros.

Mewn nifer o fforymau rhanddeiliaid, cydnabuwyd hefyd fod diffyg data wedi bod yn rhwystr allweddol i gynnydd mewn perthynas â mynd i'r afael â cham-drin ar sail anrhydedd, fel y'i gelwir. Rydym wedi gweithio gyda grwpiau er mwyn deall yr angen hwn yn well ac ystyried y broblem ymhellach gyda swyddogion.

Gweithio gyda'r Llywodraeth i roi'r Gyfres o Ddangosyddion y Cytunir arnynt yn Derfynol ar waith er mwyn cyflwyno adroddiad ar y Strategaeth Genedlaethol

Ym mis Mehefin 2019, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfres o ddangosyddion cenedlaethol ar gyfer mesur cynnydd yn erbyn y Strategaeth Genedlaethol.  Cafodd gwaith gyda rhanddeiliaid i nodi ffynonellau data ychwanegol a mireinio'r dangosyddion ymhellach ei ohirio pan ddechreuwyd teimlo effaith pandemig COVID-19. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i fwydo barn rhanddeiliaid allweddol a goroeswyr i mewn pan gaiff y dangosyddion eu diwygio yn dilyn cyhoeddi'r fersiwn nesaf o'r Strategaeth Genedlaethol yn ddiweddarach yn 2021. 

Parhau i Gadeirio'r Grŵp Cyllido Cynaliadwy a gweithio gyda'r Llywodraeth a rhanddeiliaid i ddatblygu'r gwaith hwn

Cadeirir y Grŵp Cyllido Cynaliadwy hwn gan Yasmin Khan. Mae wedi cyflawni ei ganlyniadau disgwyliedig drwy ddarparu canllawiau ar Gomisiynu, cynnal ymarfer mapio llawn a sefydlu Grŵp Comisiynu. Mae'r grŵp hwn yn nodi ar ba sail y gall comisiynu cynaliadwy ddigwydd, yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i nodi bylchau, ac yn cynnig fforwm ar gyfer penderfyniadau gweithredol i'w llywio gan wybodaeth a safbwyntiau a rennir.

Cytunwyd ar gynigion i ystyried y posibilrwydd o sefydlu grŵp Comisiynwyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i Gymru gyfan yng nghyfarfod y Grŵp Cyllido Cynaliadwy ym mis Mai 2020 a sefydlwyd y grŵp ym mis Mawrth 2021. Bydd y nodau cyffredinol yn helpu comisiynwyr sy'n gyfrifol am wasanaethau cymorth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i weithio i nodi cyfleoedd contractio a chomisiynu cydweithredol ac integredig sy'n sicrhau bod sylw yn cael ei roi i fylchau mewn gwasanaethau a bod canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau yn cael eu gwella.

Mae datblygu Strategaeth Genedlaethol newydd yn cynnig cyfle i nodi'r cyfeiriad ar gyfer unrhyw ddatblygiadau pellach o ran trefniadau cyllido a chomisiynu yn y dyfodol fel rhan o'r trafodaethau ynghylch sut y gellid gwneud hyn a fydd yn cynnwys rhanddeiliaid yn ystod gweithdai y bwriedir eu cynnal yn 2021.

Gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i wella cyfathrebu â Swyddfa Gartref a Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU a chydweithio â'r Comisiynydd Cam-drin Domestig newydd i sicrhau bod polisïau a deddfwriaeth y DU yn ystyried cyd-destun Cymru

Mae gwaith yr is-grŵp Adolygiad Diogelu Unedig Unigol – Hyfforddiant a Dysgu, a gadeirir gan y Cynghorydd Cenedlaethol Yasmin Khan, wedi datblygu matrics dysgu a gaiff ei integreiddio yn y model tua mis Rhagfyr 2021. Mae'r fframwaith deilliannau dysgu yn galluogi dysgu rhagarweiniol, tymor canolig a chwe-misol er mwyn sicrhau y gellir rhoi newidiadau a gweithdrefnau ar waith yn gyflym.

Mae Cynghorwyr Cenedlaethol yn gweithio gyda'r Comisiynydd Cam-drin Domestig fel rhan o'r fframwaith lle y bydd y Comisiynydd yn gweithredu er mwyn sicrhau bod dull gweithredu i Gymru a Lloegr yn cael ei integreiddio o ran goruchwylio a darparu gwasanaethau. Er mai cyfyngedig yw cylch gwaith y Comisiynydd Cam-drin Domestig yng Nghymru, mae'n gweithio gyda chydweithwyr mewn perthynas â'r setliad datganoli, gan gydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am faterion sy'n cynnwys llywodraeth leol, iechyd ac addysg.

Rydym yn parhau i weithio gyda'r Swyddfa Gartref er mwyn sicrhau mwy o gysondeb â deddfwriaeth Cymru fel rhan o'r rhaglen waith, prosesau pennu polisi a thirwedd ehangach Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Gyda darparwyr gwasanaethau trais rhywiol, ystyried sut y gellir meithrin gallu a gwella cydweithio

Fel y nodir yn y diweddariad ynglŷn â data ac ymchwil, rydym wedi gweithio gyda darparwyr trais rhywiol er mwyn ystyried sut y gellir meithrin gallu, ac wedi'u helpu i gyflawni mewn ffyrdd newydd yn ystod y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ychwanegol i leihau amseroedd aros.

Cefnogi gwaith Grŵp Arwain Cymru Gyfan ar Gamdriniaeth ar sail Anrhydedd, Priodas Dan Orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod i lunio amcanion clir

Mae gwaith Grŵp Arwain Cam-drin ar sail Anrhydedd Cymru Gyfan wedi ennill momentwm ac wedi llunio matrics hyfforddiant i bartneriaid. Yn ein barn ni, mae'r matrics hwn yn bwysig i feithrin gwell dealltwriaeth o ble y ceir bylchau mewn gwybodaeth. Rydym wedi tynnu sylw at arferion da ac wedi cyfrannu at ganllaw i weithwyr proffesiynol drwy HARM (matrics ymchwil cam-drin ar sail anrhydedd), sy'n banel partneriaeth academaidd ac arbenigol. Mae'r canllawiau hyn yn rhoi amrywiaeth o ddeunyddiau canllaw i weithwyr proffesiynol rheng flaen, a ariennir gan Research England ac a gynhyrchir er mwyn helpu sefydliadau i fynd i'r afael â cham-drin ar sail anrhydedd.

Gweithio i adolygu gwaith datblygu polisïau er mwyn sicrhau y caiff anghenion plant fel dioddefwyr a thystion eu hystyried ac yr eir i'r afael â nhw yn briodol, a gwneud argymhellion ar gyfer gwella lle y bo'n briodol

Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn cydnabod plant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain. Mae hwn yn gam pwysig ac mae'n tynnu sylw at yr angen am gymorth penodol sydd wedi'i deilwra ar gyfer plant a phobl ifanc.

Gwnaethom helpu i ddatblygu grŵp rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed. Fodd bynnag, cafodd y gwaith hwn ei atal gan y pandemig. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hadlewyrchu yn y Strategaeth Genedlaethol newydd.

Gweithio gyda'r Llywodraeth a darparwyr arbenigol i archwilio sut y gellir gwneud gwasanaethau yn fwy hygyrch i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig

O ganlyniad i'r pandemig, bu'n rhaid i bob un ohonom weithio o bell ac atebodd y trydydd sector, yn arbennig, yr her yn eithriadol o gyflym. Dangosodd hyn yn gyflym sut y gellid ei gwneud yn haws i'r bobl hynny mewn ardaloedd gwledig ddefnyddio gwasanaethau lle mae rhwystrau o ran cysylltiadau trafnidiaeth a rhwystrau eraill yn parhau. Mae'n amlwg bod llawer o ddarparwyr a'r rhai a gefnogir ganddynt yn awyddus i barhau â threfniadau ymgysylltu mwy cymysg ar ôl y pandemig a byddwn ni a Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellir sicrhau bod hynny'n gweithio yn yr hirdymor. Fodd bynnag, nid yw'n cynnig ateb cynhwysfawr am fod argaeledd a gallu band eang a TG yn amrywio. Felly, rydym yn parhau i ystyried pob opsiwn.

Chwarae rôl weithredol o ran codi ymwybyddiaeth a chyfrannu at waith y Llywodraeth i ddatblygu strategaethau i roi gwybodaeth drwy'r cwricwlwm a chanllawiau

Rydym yn parhau i gymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd, gyda Llywodraeth Cymru a rhwydweithiau cymunedol allweddol. Yn benodol, y nod yw deall tensiynau a phryderon gwahanol grwpiau. Rydym yn rhoi cyngor arbenigol i'r sector yng Nghymru er mwyn rhoi'r hyblygrwydd i weithwyr proffesiynol nodi tensiynau posibl a dulliau o ymgysylltu ag amrywiaeth ehangach o grwpiau cymunedol, gan gynnwys menywod o wahanol gefndiroedd.

Gwnaethom helpu i godi ymwybyddiaeth o Fframwaith Cyfathrebu Llywodraeth Cymru ac ymgyrchoedd Byw Heb Ofn drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaethom gymryd rhan mewn fideo ochr yn ochr â gwasanaethau arbenigol a oedd yn annog dioddefwyr i barhau i geisio cymorth yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19.

Asesiad y Cynghorwyr Cenedlaethol o gyflawniadau Llywodraeth Cymru 2020 i 2021

Mewn blynyddoedd blaenorol, rydym wedi edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru a'i asesu mewn perthynas â phob un o'r amcanion a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol. Fodd bynnag, eleni, rydym o'r farn ei bod yn fwy priodol canolbwyntio ar y ffordd mae Llywodraeth Cymru a'r tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi ymateb i'r pandemig a'r hyn a gyflawnwyd er mwyn sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu hamddiffyn a'u cefnogi. 

Fel y nodwyd o dan yr adran flaenorol, yn ystod y pandemig, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Strategaeth COVID-19 a ddaeth â swyddogion a chynrychiolwyr o'r sector ynghyd er mwyn sicrhau bod polisïau ac arferion a oedd, o reidrwydd, yn cael eu datblygu'n gyflym yn adlewyrchu anghenion gwasanaethau arbenigol, dioddefwyr a goroeswyr ac effeithiau posibl arnynt. Nid yw'n ormod dweud bod y mewnbwn i'r grŵp hwn gan y sector arbenigol a'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i hynny wedi achub bywydau.

Gan gydnabod y gallai nifer yr achosion o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol gynyddu o ganlyniad i'r pandemig, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgyrch ‘Ddylai neb fod yn ofnus gartre’, fel y byddai dioddefwyr yn gwybod bod gwasanaethau yn dal i weithredu a chynnig cymorth ac er mwyn annog pobl sy'n gwylio a phobl eraill sy'n bryderus i gael help a gwybodaeth.

Ymgyrch amlgyfrwng yw hon ac mae wedi'i rhannu ar y teledu, ar y radio, yn y newyddion a'r wasg genedlaethol a lleol, ar-lein a chyda chymorth rhwydweithiau cymunedol megis fferyllfeydd, archfarchnadoedd lleol a heddluoedd, gan gyrraedd y gynulleidfa ehangaf a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Rhannwyd yr ymgyrch mewn canolfannau Profi a Brechu COVID-19 hefyd.

Ein hasesiad o'r ymgyrch hon yw ei bod yn effeithiol o ran cyrraedd pobl yn ystod cyfnod o risg ac ansicrwydd cynyddol. Mae hon yn enghraifft o Lywodraeth Cymru yn gwrando ar grwpiau rhanddeiliaid ac yn cymryd camau pendant er mwyn sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn gwybod sut i gael cymorth a chefnogaeth.

Yn ogystal â'r ymgyrch gyhoeddus hon, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu hyfforddiant ychwanegol i weithwyr proffesiynol er mwyn codi ymwybyddiaeth o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Cyrhaeddodd yr hyfforddiant hwn grwpiau megis gweithwyr proffesiynol ym maes cyfiawnder troseddol, y sector tai preifat ac elusennau. Roedd y cwrs yn canolbwyntio ar y meysydd hynny y mae mawr angen mynd i'r afael â nhw, sef cam-drin ar sail anrhydedd, ymateb i ddioddefwyr gwrywaidd, ymateb i blant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt a'u cefnogi, gweithio gyda dioddefwyr trais rhywiol ac adnabod y rhai sy'n cam-drin ac ymateb iddynt.

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth, bydd darparu'r hyfforddiant ychwanegol hwn yn sicrhau bod pobl yn gallu cefnogi eraill ar adeg pan fo angen cymorth arnynt fwyaf. 

Rydym hefyd yn canmol Llywodraeth Cymru am roi arian ychwanegol er mwyn helpu sefydliadau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i ymateb i'r heriau a'r pwysau sy'n gysylltiedig â'r pandemig ei hun yn ogystal ag unrhyw broblemau a achosir drwy lacio cyfyngiadau. Y llynedd, cymeradwyodd Gweinidogion Cymru £4 miliwn ychwanegol er mwyn helpu'r sector Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i ymdopi â'r cynnydd disgwyliedig yn y galw am wasanaethau wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio ymhellach. Defnyddiwyd yr arian hwn i ddarparu hyfforddiant arbenigol a mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth. 

Y camau nesaf

Rydym yn edrych ymlaen at yr ymgynghoriad a'r Strategaeth Genedlaethol ddiwygiedig ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a fydd yn deillio ohono, y disgwylir iddi gael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Y strategaeth yw ffrwyth gweithgarwch ymgysylltu ac ymgynghori helaeth â sefydliadau datganoledig a heb eu datganoli ac mae'n nodi'r uchelgais i sefydlu dull iechyd cyhoeddus system gyfan ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Bydd y flwyddyn nesaf yn dod â ffocws o'r newydd i waith Llywodraeth Cymru ar ymgysylltu â goroeswyr. Ni ellir llunio polisi mewn gwacter a dylai lleisiau'r rhai sydd wedi profi Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol fod wrth wraidd popeth a wnawn.

Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ymgysylltu â'r arbenigwyr yn y sector arbenigol yng Nghymru a chynnal ein cydberthynas â nhw.

Mae'r ymrwymiadau uchelgeisiol yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi llwybr clir tuag at ddileu Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ac rydym yn awyddus i barhau i roi ein cyngor a'n harbenigedd er mwyn cyflawni'r nod hwn.

Casgliad

Chwe blynedd ar ôl ei phasio, mae'r ddeddfwriaeth ynglŷn â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi'i hategu gan waith i newid agweddau a sicrhau bod mwy o ddioddefwyr a goroeswyr yn rhoi gwybod am droseddau. Er mwyn gwneud hyn, mae angen inni sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt. Wrth i nifer gwirioneddol y troseddau hyn gael ei ddatgelu, mae angen inni atgyfnerthu ein gwaith i newid agweddau, gwella mesurau atal a, lle y bo'n bosibl, adsefydlu troseddwyr er mwyn eu hatal rhag aildroseddu. Er mwyn gwneud hyn, mae angen inni wneud mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn fusnes pawb. O feysydd iechyd, addysg a gorfodi'r gyfraith, i gyflogwyr a ffrindiau a theulu, mae angen inni i gyd chwarae ein rhan. Drwy alluogi menywod i roi gwybod am drais fel rhan o'u rhyngweithiadau bob dydd, gallwn helpu i sicrhau bod achosion yn cael eu nodi ynghynt a bod camau yn cael eu cymryd ynghynt i ymyrryd er mwyn atal trais a chamdriniaeth rhag gwaethygu i lefelau peryglus.

Ar y trobwynt hwn mewn hanes, o'r diwedd rydym yn gweld y materion hyn yn cael y sylw y maent yn ei haeddu, ond mae sefydliadau a rhanddeiliaid sydd wedi bod helpu i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn canolbwyntio eu hymdrechion ar greu newid cynaliadwy yng Nghymru. I'r perwyl hwn, rydym wedi datblygu ein blaenoriaethau yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau newid hirdymor na ellir ei gyflawni heb ymrwymiad, arweinyddiaeth a chyfranogiad ein rhanddeiliaid. Gyda'r bwriad hwn, rydym yn parhau i gymryd y camau angenrheidiol i ddatblygu dull gweithredu cadarn a arweinir gan anghenion er mwyn diwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru.