Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: Adroddiad blynyddol y Cynghorwyr Cenedlaethol 2023 i 2024
Crynodeb o'r cynnydd a wnaed ar gam-drin domestig a thrais rhywiol rhwng Ebrill 2023 to Mawrth 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Manylir ar benodiad a swyddogaethau'r Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn Neddf VAWDASV 2015. Mae cyhoeddi adroddiad blynyddol yn ofyniad a osodir arnynt. Rhaid i'r adroddiad hwn fanylu ar gyflawniadau'r Cynghorydd Cenedlaethol yn erbyn y blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ac unrhyw weithgareddau perthnasol eraill.
Fel Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) i Weinidogion Cymru, mae’n bleser gennym gyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn sy’n crynhoi’r cynnydd a’r cyflawniadau yn unol â’r amcanion a nodir yn ein cynllun blynyddol ar gyfer 2023-24. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu ein gwaith yn cynghori ac yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru ar bwrpas Deddf VAWDASV 2015 a materion cysylltiedig, yn enwedig o fewn fframwaith Deddf VAWDASV, strategaeth VAWDASV 2022 i 2026 a Model Cyflawni’r Glasbrint.
Trosolwg o gynnydd tuag at amcanion 2023 i 2024
Mae Deddf VAWDASV (Cymru) 2015 yn parhau i fod wrth wraidd ein hymdrechion i amddiffyn a chefnogi goroeswyr trais, camdriniaeth a thrais rhywiol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i weithio’n bennaf gydag awdurdodau a nodir yn y Ddeddf, fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, i sicrhau cydymffurfiaeth â’u rhwymedigaethau statudol o dan y Ddeddf, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac ymatebion cyson sy’n canolbwyntio ar oroeswyr ar draws Cymru. Mae'r newid diwylliannol y mae wedi'i ysgogi ar draws sectorau wedi bod yn amhrisiadwy wrth gadw'r materion hollbwysig hyn yn uchel ar yr agenda cyhoeddus ac agenda’r llywodraeth.
Elfen allweddol o lwyddiant y Strategaeth Genedlaethol oedd gwaith parhaus y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol, sy’n goruchwylio Model Cyflawni’r Glasbrint ar gyfer VAWDASV. Mae'r bwrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu arweinyddiaeth strategol, gan sicrhau bod mentrau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae cydweithrediad traws-sectoraidd y Glasbrint yn cynnwys asiantaethau cyfiawnder troseddol, gwasanaethau iechyd, awdurdodau lleol, a mudiadau trydydd sector arbenigol i ddatblygu ymateb system gyfan tuag at VAWDASV. Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn parhau, gyda phwyslais ar sicrhau cyllid cynaliadwy a chymorth hirdymor i'r mentrau a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol.
Rhaid i Awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Tân ac Achub ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru a fanylir fel ‘awdurdodau perthnasol’ yn Neddf VAWDASV 2015 ymgysylltu’n llawn mewn ffordd sy’n gweithredu ar sail system gyfan er mwyn atal, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru. Mae hyn yn gofyn am ymdrechion cydgysylltiedig ar draws gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymdeithasol a byrddau iechyd i sicrhau bod pob sector yn cydweithio i ddarparu ymatebion cynhwysfawr, cyson, sy’n ystyriol o drawma ac sy’n blaenoriaethu diogelwch ac adferiad goroeswyr. Dim ond trwy'r dull integredig hwn y gallwn wirioneddol ddiwallu anghenion yr holl ddioddefwyr a brwydro'n effeithiol yn erbyn trais, camdriniaeth, a thrais rhywiol a sicrhau bod dyletswyddau cyfreithiol yn cael eu cyflawni o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Panel Goroeswyr Cymru Gyfan: Yn Ganolog i Atal, Amddiffyn a Chefnogi
Sefydlu Panel Goroeswyr Cymru Gyfan oedd un o gerrig milltir mwyaf arwyddocaol 2023-24. Mae’r panel hwn, sy’n cynnwys goroeswyr VAWDASV o gefndiroedd amrywiol, wedi dod yn rhan annatod o'n hymdrechion i atal trais, amddiffyn goroeswyr a chynnig llwybrau ystyrlon at gymorth. Drwy roi lle canolog i lais dioddefwyr, mae’r panel yn sicrhau bod polisïau a gwasanaethau Cymru yn cael eu llywio’n sylweddol gan y rhai sydd â phrofiadau personol, gan greu system ofal fwy effeithiol a thosturiol. Mae eu profiadau wedi bod yn hanfodol wrth fynd i’r afael â materion systemig fel gwasanaethau cymorth anghyson, rhwystrau i gael mynediad at gyfiawnder a’r heriau sy’n wynebu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol fel menywod o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a’r rhai ag anableddau.
Heriau sy’n wynebu Mudiadau Arbenigol
Er bod cynnydd wedi'i wneud, rhaid i ni gydnabod yr heriau cynyddol sy’n wynebu mudiadau arbenigol, yn enwedig mewn tirlun ariannu ansicr.
Mae’r galw am wasanaethau VAWDASV wedi cynyddu, eto i gyd mae llawer o fudiadau arbenigol anllywodraethol sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol yn wynebu trefniadau ariannu ansefydlog a byr dymor. Mae’r ansicrwydd hwn yn effeithio ar eu gallu i gynnig cymorth cyson, hirdymor i oroeswyr, yn enwedig yn ystod cyfnodau heriol fel yr argyfwng costau byw presennol. Mae nifer o fudiadau arbenigol, yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda chymunedau BAME a LHDTC+, yn wynebu pwysau cynyddol, ac yn ei chael hi’n anodd cadw staff ac ehangu gwasanaethau hanfodol.
Mae caledi economaidd wedi gwneud y gwendidau’n waeth, gyda goroeswyr yn dibynnu’n fwyfwy ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau. Mae wedi dod yn anoddach i lawer adael sefyllfaoedd o gam-drin, ac mae argaeledd tai, lloches brys, a chymorth iechyd meddwl yn parhau i fod yn annigonol.
Heb atebion ariannu hirdymor, ni all nifer o fudiadau arbenigol gynllunio a darparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel yn effeithiol sydd eu hangen ar oroeswyr.
Mewn cyfnod o gyllid ansicr, mae mudiadau arbenigol yn wynebu heriau sylweddol wrth gynnal eu gwasanaethau, yn enwedig y rhai sy’n cefnogi goroeswyr cam-drin domestig, cam-drin ar sail anrhydedd a thrais rhywiol. Mae ein hymwneud â'r grwp Arbenigol VAWDASV Cenedlaethol sy'n cynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol gan ddarparwyr, ac ar eu cyfer, yn helpu i roi cipolwg gwerthfawr ar gyflwr y sector.
Ein blaenoriaeth o hyd yw hyrwyddo:
- modelau ariannu cynaliadwy sy'n sicrhau y gall gwasanaethau arbenigol barhau i gefnogi goroeswyr, yn enwedig y rhai ar gyfer cymunedau ymylol
- ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i sicrhau buddsoddiad hirdymor mewn gwasanaethau VAWDASV fel rhan o ymrwymiad ehangach i gydraddoldeb rhywedd ac atal trais
Mynd i’r afael a Chroestoriadedd: Mynd i'r Afael â Gwahaniaethau ar draws Cymru
Yn ein rôl fel Cynghorwyr Cenedlaethol, rydym wedi parhau i flaenoriaethu’r angen am agwedd groestoriadol wrth fynd i’r afael a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae croestoriadedd yn cydnabod bod goroeswyr yn wynebu sawl math o wahaniaethu sy’n gorgyffwrdd yn seiliedig ar eu hil, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, a nodweddion gwarchodedig eraill. Mae ein gwaith wedi amlygu’r gwahaniaeth sylweddol o ran mynediad at wasanaethau a chymorth i oroeswyr ar draws Cymru, yn enwedig y rhai o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, unigolion anabl, goroeswyr LHDTC+ a menywod sy’n wynebu caledi economaidd. Ceir rhwystrau penodol i ddeall yn llawn pa mor gyffredin yw cam-drin a niwed o fewn ein cymunedau amrywiol fel yr amlinellwyd uchod, gyda bylchau mewn data a dosbarthiad yn brif broblem. Rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a chyrff perthnasol yn cofnodi ethnigrwydd, anabledd a nodweddion gwarchodedig eraill er mwyn i ni benderfynu ar y ddarpariaeth arbenigol a theilwredig sydd ei hangen.
At hynny, mae grwpiau fel y grŵp Arweinyddiaeth Cam-drin ar sail Anrhydedd wedi nodi hyn fel rhwystr sylweddol i gymunedau du a lleiafrifol drwy gyfarfodydd, ac yn ddiweddar drwy ymarfer mapio, a’n nod yw datblygu cynllun gweithredu i wella data i sicrhau bod pob goroeswr yn cael yr amddiffyniad sydd ei angen arnynt a bod polisi cenedlaethol yn ymateb i ddiwallu anghenion penodol. Mae arweinyddiaeth yn allweddol, ac o'r herwydd, rydym yn codi gwahaniaethau yn barhaus gyda Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru.
Er gwaethaf y cynnydd a wnaed, mae goroeswyr â nodweddion gwarchodedig yn parhau i riportio gwahaniaethu systemig a rhwystrau wrth ddod o hyd i ddiogelwch, cyfiawnder a chymorth.
Yn ogystal, mae menywod y camfanteisiwyd arnynt yn rhywiol a’r rhai ag anableddau yn parhau i fod yn flaenoriaeth oherwydd y rhwystrau lluosog y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at gymorth a gwasanaethau, gwell dealltwriaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac mae angen cyllid pwrpasol i wella’r ymyriadau arbenigol prin sydd ar gael ar draws Cymru. Maent yn parhau i wynebu rhwystrau dwysach wrth gael mynediad at wasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol, gyda nifer yn riportio bylchau hirsefydlog mewn cymorth wedi’i deilwra, sy’n ystyriol o drawma sy’n diwallu eu hanghenion penodol.
Rydym yn bryderus iawn am yr anghydraddoldebau parhaus hyn ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau’r holl oroeswyr, yn enwedig y rhai o gymunedau ymylol, yn cael eu dyrchafu a’u canoli mewn ymdrechion strategol i ddileu trais a gwahaniaethu. Bydd ein gwaith yn parhau i hyrwyddo gweithredu wedi'i dargedu sy'n mynd i'r afael â'r gwahaniaethau hyn ac yn rhoi mynediad cyfartal i ddiogelwch ac adferiad i'r holl oroeswyr.
Cynnydd yn erbyn ein Cynllun Blynyddol 2023 i 2024
Fel cynghorwyr cenedlaethol, rydym yn gosod y nod cyffredinol canlynol yn ein cynllun blynyddol ar gyfer 2023 i 2024:
“Gweithio gyda’r llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus a chomisiynwyr, eu cynghori a’u herio er mwyn gweithredu ar sail system gyfan, i atal camdriniaeth bellach ac amddiffyn goroeswyr VAWDASV”.
Mae strategaeth a glasbrint VAWDASV yn rhoi cyfle da i ni weithio gyda’r llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus a’r sector arbenigol i gyflawni’r nod hwn. Ceir ymrwymiad i gyflawni hyn yn benodol yn ffrwd waith Gweithredu’n Gynaliadwy ar sail System Gyfan, sy’n cael ei chyd-gadeirio gan Yasmin. Mae hefyd yn berthnasol ar draws y pum ffrwd gwaith arall, ni ddylid cynllunio unrhyw weithgarwch ar ei ben ei hun. Drwy ein presenoldeb ar draws yr holl ffrydiau gwaith rydym yn gallu cynghori ar y rhyng-gysylltiadau. Mae cyfyngiadau wedi bod, ac yn parhau i fod, ar gynrychiolaeth briodol gan wasanaethau cyhoeddus ac rydym wedi rhoi cyngor a her i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a’r Prif Chwip ar hyn. Mae'r sylw hwn yn enghraifft o'r mater pwysicaf o ran cyflawni'r Ddeddf ei hun gan yr awdurdodau perthnasol. Atgyfnerthwyd hyn ymhellach gan y gweithdai a'r arolwg sy'n archwilio’r broses o gyflawni’r Ddeddf, y Strategaeth a'r gweithredu ar sail system gyfan a gyflwynwyd gan ffrwd waith Gweithredu’n Gynaliadwy ar sail System Gyfan. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r tîm glasbrint i ymateb i’r canfyddiadau, yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol, yn enwedig o ran datblygu canllawiau statudol ond hefyd y cysylltiad pwysig â gwella a monitro’r Dangosyddion Cenedlaethol.
Yn ystod y flwyddyn hon rydym hefyd wedi gweithio ar ddatblygiad y panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr Cenedlaethol cyntaf, fel yr amlinellwyd uchod yn y crynodeb o’r cynnydd. Rydym wedi sicrhau bod y broses recriwtio a dethol wedi bod yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol ac rydym yn falch o ddweud ein bod wedi penodi amrywiaeth o brofiadau a chynrychiolaeth. Mae ein rôl yn y cyfarfod hwn fel Cadeiryddion hefyd yn ein galluogi i roi adborth ar raglen Glasbrint VAWDASV. Rydym wedi parhau i archwilio'r ffyrdd mwyaf effeithiol o weithio, gan ymateb i adborth aelodau'r panel a phrofi'r hyn sy'n gweithio orau iddynt. Penderfynwyd y byddai presenoldeb yn y ffrydiau gwaith yn cael ei brofi oherwydd byddai aelodau'r panel yn awyddus i flaenoriaethu eu ffocws a'u hamser. Mae naw aelod o’r ffrwd waith ac rydym yn parhau â phroses recriwtio dreigl agored a pharhaus.
Roedd gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn her i’r sector arbenigol gyda llochesi yn cynnig diogelwch a chymorth ar gyfer casgliad o bobl, gan greu her i ddull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau’r unigolyn yn y Ddeddf. Fe wnaethom godi pryderon am hyn gyda’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip a’r Gweinidog Tai. Buom mewn cysylltiad â swyddogion tai Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r goblygiadau anfwriadol posib ac rydym yn ymwneud â’r broses o werthuso’r Ddeddf.
Fe wnaethom hefyd roi tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i Ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar “Atal Trais ar sail rhywedd drwy Iechyd y Cyhoedd”. Rydym wedi parhau i wneud gwaith dilynol ar y gwaith sydd ei angen i gyflawni'r argymhellion a'r camau gweithredu. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn 2024 i 2025.
Mae’r Dangosyddion Cenedlaethol yn rhan annatod o Ddeddf VAWDASV gyda’r diben o ddangos yr effaith a’r cynnydd a wnaed drwy gamau a gymerwyd i atal, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr. Rydym wedi gweithio gyda thîm VAWDASV Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi i ddatblygu mesurau ar gyfer y Dangosyddion Cenedlaethol. Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â'r gwaith ar ddatblygu canllawiau statudol ar asesiadau o anghenion drwy ffrwd waith Gweithredu’n Gynaliadwy ar sail System Gyfan.
Yn ogystal â’r nod cyffredinol, gosodwyd nifer o flaenoriaethau i ni eu gwneud yn ystod 2023 i 2024 gyda’r diben o gyflawni’r nod. Amlinellir y cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau hyn isod:
Blaenoriaeth 1
Mynychu fforymau a chyfarfodydd sy’n rhoi trosolwg o’r broses o gyflawni strategaeth, glasbrint a ffrydiau gwaith VAWDASV ynghyd ag unrhyw fforymau perthnasol eraill.
Fel Cynghorwyr Cenedlaethol, ein nod yw sicrhau ein bod yn ymgysylltu â’r holl fforymau perthnasol a rhanddeiliaid allweddol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gyflawni’r strategaeth, darparu cyngor arbenigol a sicrhau ein bod yn gwbl ymwybodol o’r cynnydd, yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer cyflawni yn y presennol a’r dyfodol.
Yasmin sy’n cadeirio Grŵp gweithredol Cymru gyfan ar gyfer menywod y camfanteisiwyd arnynt yn rhywiol ac sy’n hyrwyddo blaenoriaethau a gwaith y grŵp hwn ac mae'n gyd-gadeirydd y grŵp Arweinyddiaeth Cam-drin ar sail Anrhydedd.
Rydym wedi datblygu perthynas waith dda gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn. Yn anffodus, rydym yn gwybod nad yw dioddefwyr a goroeswyr hŷn yn cael eu cydnabod yn rhy aml. Mae deinameg cam-drin pobl hŷn yn gymhleth gyda'r rhai sy'n cam-drin yn aml yn blant yn ogystal â phartneriaid agos. Ceir goblygiadau trasig mewn gormod o achosion. Rydym yn gweld niferoedd cynyddol o ddioddefwyr hŷn yn destun adolygiadau lladdiadau domestig. Mae Johanna yn mynychu’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin o dan gadeiryddiaeth y Comisiynydd. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'n gilydd i roi negeseuon cyson i'r llywodraeth ar flaenoriaethau cyffredin.
Rydym hefyd yn mynychu Bwrdd Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru, grŵp goruchwylio Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol, cyfarfodydd y Cynghorwyr Rhanbarthol, Tasglu Dioddefwyr a Thystion Cyfiawnder Troseddol Cymru, Galwad Sector y Comisiynydd Cam-drin Domestig ac Adrodd y Llys Teulu a’r Bwrdd Gweithredol Ymgynghorol ar Fecanwaith Adolygu.
Rydym wedi gweithio gyda thîm polisi Chwaraeon Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â chwaraeon ac wedi cydweithio ar fodel ar gyfer chwaraeon, cydraddoldeb rhywedd ac atal. Rydym wedi gweld y problemau sy’n bodoli ym myd chwaraeon o ran anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, casineb at fenywod ac aflonyddu rhywiol. Serch hynny, rydym hefyd yn gwybod y bydd gan y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru gysylltiad â chwaraeon fel chwaraewyr, gwylwyr, rhieni plant sy'n chwarae chwaraeon ac i rai fel man cyflogaeth. Felly mae'n rhoi cyfle gwych i ni ymgysylltu â chyfran fawr o'r boblogaeth yng Nghymru. Rydym yn gweithio ar fodel i ddarparu ‘Dull Chwaraeon Cyfan’ ac yn gobeithio gwneud mwy o gynnydd gyda hyn yn y flwyddyn nesaf.
Blaenoriaeth 2
Cael y wybodaeth ddiweddaraf am arferion gorau a thystiolaeth a chynnal ymchwil i alluogi’r broses o gyflwyno ac ehangu dulliau â thystiolaeth dda wrth ddarparu gwasanaethau atal VAWDASV a diwallu anghenion goroeswyr yng Nghymru.
Rydym wedi parhau i hyrwyddo modelau arferion gorau a bylchau mewn dealltwriaeth o ran effaith VAWDASV ar iechyd. Yn dilyn absenoldeb VAWDASV yn y Datganiad Ansawdd Menywod a Phlantrydym wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a'r GIG ac wedi gofyn am gael ei gynnwys yn y cynllun llawn. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r rhai sy'n datblygu'r cynllun.
Fel y soniwyd yn flaenorol, rydym wedi bod yn edrych ar sut gall chwaraeon gefnogi'r gwaith o gyflwyno strategaeth VAWDASV. Drwy ein hymchwil, rydym wedi datblygu perthynas gydag arbenigwyr atal cychwynnol yn Victoria, Awstralia, sydd wedi bod yn gweithio ers dros ddeng mlynedd ar fodelau atal cychwynnol ym myd chwaraeon, aflonyddu yn y gweithle ac addysg.
Y sector annibynnol, arbenigol yng Nghymru sy’n parhau i fod yr arbenigwyr o ran profiadau goroeswyr a chyflenwi gwasanaethau. Rydym yn cefnogi’r sector arbenigol annibynnol yn ôl yr angen, gan fynychu lansiadau prosiectau a bod yn ymwybodol o brosiectau, arferion a heriau i lywio ein gwaith. Rydym yn cadeirio Grŵp Cyfeirio Arbenigol VAWDASV sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector. Pryder parhaus y grŵp hwn yw’r pwysau ariannol ar y sector gyda chostau cynyddol a chyllidebau’n crebachu. Un o oblygiadau mwyaf hyn yw'r her o ran recriwtio a chadw staff. Cafodd gweithgor ei hwyluso ar hyn a rhannwyd cyfres o bapurau â’r Ysgrifennydd Cabinet a thîm VAWDASV. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar hyn a meysydd eraill o flaenoriaeth fel y'u diffinnir ganddynt.
Mae ymgysylltiad positif â dynion a bechgyn wrth atal a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi’i gydnabod yn fwyfwy fel rhan o’r ateb. Mae’r Sound Campaign wedi bod yn ymgyrch hynod lwyddiannus gyda’r nod o weithio gyda dynion a bechgyn i gynnig cymorth i gymheiriaid a her i agweddau negyddol mewn perthnasoedd a hefyd cydnabod ymddygiad positif a phriodol. Rydym wedi cefnogi’r gwaith hwn ac roedd Johanna yn gysylltiedig â’r ddogfen ‘Sound Lad’. Roeddem hefyd yn gallu cydlynu seminar gyda’r Athro Michael Flood, arbenigwr blaenllaw ar atal trais a gweithio gyda dynion a bechgyn.
Mae’r heriau a’r rhwystrau sy’n wynebu goroeswyr sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus yn parhau i fod yn bryder. Rhoddwyd cyngor i’r Ysgrifennydd Cabinet a swyddogion cyn ac ar ôl yr adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Roedd y cyngor hwn yn cefnogi’r achos dros gyllid ychwanegol a oedd wedyn ar gael ar ffurf ‘cronfa frys’. Rhoddwyd cyngor pellach i'r gwasanaethau cymdeithasol mewn achosion lle nad yw'r ddyletswydd ddeddfwriaethol wedi'i chydnabod yn ddigonol. Cafodd un achos ei uwchgyfeirio am gyngor ac ymyrraeth Llywodraeth Cymru. Arweiniodd hyn at asesiad a chymorth pellach gan yr Awdurdod Lleol.
Blaenoriaeth 3
Cynnal ymwybyddiaeth o brofiadau a phroblemau goroeswyr, rhannu ac uwchgyfeirio drwy’r Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr, ymgynghori’n ehangach gyda goroeswyr a phrofiadau goroeswyr drwy’r sector arbenigol ac unrhyw ymgysylltu pellach sydd ei angen.
Fel y dywedir yn aml, mae goroeswyr yn arbenigwyr trwy brofiad. Mae'n hollbwysig ein bod yn gwrando ac yn ymateb i'r profiadau hyn. Rhaid i ni wneud hyn yn ystyrlon, gan ddangos tystiolaeth o’r newidiadau a wnawn o ganlyniad i oroeswyr yn rhannu eu profiadau, sy’n anochel yn drawmatig a phoenus. Eu hymrwymiad yw gwneud pethau'n wahanol ar gyfer y dyfodol a rhaid i ni gael yr un ymdrech ac uchelgais.
Fel yr amlinellir uchod, rydym wedi sefydlu ac yn parhau i gadeirio’r Panel Cenedlaethol ar Graffu a Chynnwys Llais Goroeswyr. Rydym yn parhau i gael cyfarfodydd 1-1 gydag aelodau’r Panel Goroeswyr i sicrhau bod ganddynt y cymorth sydd ei angen i ymgysylltu’n hyderus â gwaith y Glasbrint a chraffu arno. Ym mhob cyfarfod Glasbrint - o fwrdd y Bartneriaeth i weithgorau - rydym yn cynnig mewnbwn wrth aelodau’r panel a goroeswyr rydym wedi ymgysylltu â nhw mewn ffyrdd eraill.
Rydym wedi mynychu fforymau eraill i oroeswyr ac yn parhau i wneud hynny. Rydym hefyd yn cwrdd â goroeswyr sydd â phroblemau penodol y maent yn teimlo sy’n dangos problemau’r system gyfan a systemig. Ni allwn eirioli dros oroeswyr unigol, ond rydym wastad yn cytuno ar gamau i godi profiadau fel enghreifftiau o newidiadau y mae angen eu gwneud i wella ymatebion i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Rydym hefyd yn ymgysylltu’n uniongyrchol â’r sector arbenigol annibynnol i fod yn wybodus ac yn ymwybodol o brofiadau, materion a blaenoriaethau goroeswyr.
Llys teulu yw un o’r materion mwyaf cyson a pharhaus a godwyd gan oroeswyr cam-drin domestig. Rydym wedi gweithio gyda’r Cydlynydd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru ar ymgysylltu â goroeswyr, mecanweithiau adborth a materion yn ymwneud â llys teulu. Mae dogfen o’r materion a’r camau y gellir eu cymryd yng Nghymru, mewn perthynas â maes llywodraeth nas cedwir yn ôl, yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd gyda goroeswyr a fforymau goroeswyr ar draws Cymru.
Blaenoriaeth 4
Defnyddio pwerau fel y darperir yn y Ddeddf i ofyn am wybodaeth gan awdurdod perthnasol i graffu’n briodol a chynghori ar gyflawni’r Ddeddf.
Ni wnaethom alluogi’r pwerau hyn yn ystod y flwyddyn hon. Mae'r flaenoriaeth hon yn cael ei datblygu drwy'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y Ffrwd Waith Gweithredu’n Gynaliadwy ar sail System Gyfan.
Blaenoriaeth 5
Cynghori gwasanaethau cyhoeddus a rhanddeiliaid perthnasol yn benodol ar gyflawni eu cyfrifoldebau o fewn y Ddeddf er mwyn atal, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr.
Swyddogaeth allweddol o’n rôl yw rhoi cyngor i weinidogion. Rydym yn parhau i gynghori swyddogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion ar y materion mewn perthynas â’r cyfrifoldebau i gyflawni’r Ddeddf ar faterion a nodwyd yn flaenorol yn y Dangosyddion Cenedlaethol, ariannu’r sector a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru). Rydym wedi rhoi cyngor ysgrifenedig i'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch (CCAUC) ar y canllawiau VAWDASV. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r corff addysg uwch newydd, Medr, a swyddogion Addysg Uwch Llywodraeth Cymru i wella canllawiau prifysgolion a’u hymateb i VAWDASV. Mae Johanna hefyd yn aelod o Grŵp Ymgynghorol Prifysgol Caerdydd. Rydym wedi ymgysylltu ac wedi cynnig cymorth a chyngor ar draws adrannau eraill y llywodraeth. Fe wnaethom roi ymateb yn 2023 i 2024 ar y Cynllun Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion, Cynllun Iechyd Menywod a Merched, Cynllun Gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol a chyngor i’r tîm Gwaith Teg.
Blaenoriaeth 6
Er y newid a’r arloesi, sicrhau y ceir buddsoddiad yn y ‘craidd’ gan wasanaethau sy’n bodloni anghenion dioddefwyr a goroeswyr VAWDASV yn gyson ac ar eu cyfer.
Roedd y sector arbenigol annibynnol yng Nghymru ar gyfer VAWDASV yn bodoli ymhell cyn y Ddeddf VAWDASV, ac yn wir, mae gwaddol Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip yn cynnwys sefydlu’r lloches gyntaf yng Nghymru. Mae gan y sector arbenigol wybodaeth, sgiliau, arbenigedd a hefyd ffydd cynifer o oroeswyr. Yn anffodus, mae materion cyllid prin, gwasanaethau sydd wedi'u gorlwytho a mwy o alwadau hefyd yn waddol parhaus.
Mae pwysau ariannol enfawr ar Lywodraeth Cymru, ond cafodd grantiau eu diogelu yn 2023 i 2024. Rydym yn parhau i chwilio am sut gellir darparu adnoddau digonol ar gyfer y sector. Fel yr amlinellwyd yn flaenorol, mae papur ar y problemau recriwtio a chadw ar gyfer y sector wedi’i rannu ac mae gwaith pellach wedi cynnwys edrych ar gyfleoedd i wella drwy’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol. Mae’r dyletswyddau a roddir ar wasanaethau cyhoeddus i gymryd camau i atal, diogelu a chefnogi hefyd yn cynnwys darparu gwasanaethau. Nid yw hyn yn ymwneud â chyfeirio ac atgyfeirio yn unig ond hefyd cynllunio gwasanaethau i ddiwallu'r anghenion. Rydym yn parhau i ddiweddaru Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â’r pwysau a’r goblygiadau ariannol
Blaenoriaeth 7
Cymryd rhan ym mhob fforwm er mwyn rhoi sylw i brofiadau ac anghenion Cymru ac ar gyfer polisïau, cyllid a phenderfyniadau’r llywodraeth yn ymwneud â VAWDASV.
Amlinellir ein hymateb i’r flaenoriaeth hon o dan flaenoriaethau 1 a 6.
Blaenoriaeth 8
Cynrychioli persbectif Cymru ym mholisi Llywodraeth y DU, gan wella a chynrychioli persbectif Cymru a lleisiau goroeswyr o fewn polisi Llywodraeth y DU a Chomisiynwyr.
Rydym wedi cymryd rhan yn fforymau canlynol Llywodraeth y DU fel Cynghorwyr Cenedlaethol Cymru ar VAWDASV:
- Aelod o Grŵp Monitro Llys Teulu’r Comisiynydd Cam-drin Domestig.
- Aelod o Grŵp Rhanddeiliaid Cenedlaethol Gwasanaeth Erlyn y Goron ar Gam-drin ar sail anrhydedd (Cymru a Lloegr).
- Cyfarfodydd rheolaidd y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar drais yn erbyn menywod a merched.
- Sesiwn ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ynglŷn â thystiolaeth ar gyfer troseddau rhywiol.
Casgliadau
Wrth i ni edrych ymlaen, mae’n amlwg bod llawer o waith i’w wneud o hyd yn ein hymdrechion ar y cyd i gael gwared ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni barhau i gefnogi’r fframwaith rhyng-ddibyniaeth a’r dull trawslywodraethol a amlinellir yn y Glasbrint, sicrhau cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol, a blaenoriaethu lleisiau goroeswyr, yr holl oroeswyr, ym mhopeth a wnawn.
Bydd Panel Goroeswyr Cymru Gyfan yn parhau’n ganolog i’n gwaith, gan sicrhau bod profiadau goroeswyr yn parhau i siapio strategaethau ac ymyriadau’r dyfodol. Rhaid i ni hefyd gydnabod rôl hanfodol y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol, sydd wedi bod yn allweddol wrth hybu cydweithrediad a chysondeb ac atebolrwydd ar draws sectorau a chyrff perthnasol a restrir yn Neddf VAWDASV (2015). Rhaid i ni hefyd sicrhau bod ein gwaith cyn cyd-fynd â fframweithiau cyfreithiol allweddol gan gynnwys y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae ein gwaith yn cynghori Gweinidogion a Llywodraeth Cymru wedi arwain at gynnydd pwysig, ond mae dal llawer i’w wneud. Mae’n rhaid i ni barhau i annog cyrff cyhoeddus i gynyddu eu hymdrechion i atal, amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr, gan sicrhau bod gwasanaethau’n gynhwysol, yn ystyriol o drawma, ac yn cael eu darparu drwy ddull system gyfan. Drwy gadw lleisiau goroeswyr wrth wraidd popeth a wnawn a mynd i’r afael â’r gwahaniaethau sy’n bodoli, gallwn symud tuag at Gymru lle mae pob unigolyn yn teimlo’n ddiogel, wedi’i barchu a’i gefnogi.