Neidio i'r prif gynnwy

Mae gennych hawl i benderfynu pwy i'w priodi, pryd rydych yn priodi neu a ydych am briodi o gwbl.

Ystyr priodas dan orfod yw eich bod yn wynebu pwysau corfforol, emosiynol neu seicolegol i briodi. Er enghraifft, bygythiadau, trais corfforol neu drais rhywiol neu os ydych yn cael eich gwneud i deimlo eich bod yn dwyn gwarth ar eich teulu.

Ffoniwch 999 os yw'n argyfwng neu eich bod mewn perygl a rhywbeth ar fin digwydd ichi.

Mae trais ar sail anrhydedd a priodas dan orfod yn droseddau. Mae'n erbyn y gyfraith i:

  • roi pwysau ar rywun neu orfodi rhywun i briodi
  • cludo rhywun dramor i'w gorfodi i briodi
  • priodi pobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i gydsynio i briodas.

Chwiliwch am help os ydych chi'n meddwl eich bod yn dioddef cam-driniaeth neu drais

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn darparu cymorth a chyngor ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n dioddef priodas dan orfod, cam-drin domestig neu drais rhywiol
  • pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth
  • ymarferwyr sydd angen cyngor proffesiynol.

Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost.