Swyddi o’r radd flaenaf; gwasanaethau cyhoeddus gwell a chymunedau lleol cryf yn y Cymoedd oedd ar yr agenda yng nghyfarfod diweddaraf Tasglu’r Cymoedd yng Nglynebwy ddydd Llun.
Dyna dair thema Ein Cymoedd, Ein Dyfodol - y cynllun gweithredu lefel uchel a lansiwyd gan y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De ym mis Gorffennaf.
Y cyfarfod yng Nglynebwy oedd y diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus i’w cynnal ym mis Medi a dechrau mis Hydref i drafod y cynllun.
Y themâu allweddol i ymddangos o'r sesiynau ymgysylltu blaenorol oedd yr angen i weithio gyda busnesau i ddatblygu sgiliau; materion mewn perthynas â thrafnidiaeth leol a gallu cymunedau i gysylltu â'i gilydd; adfywio prif strydoedd lleol; yr angen i wasanaethau cyhoeddus weithio'n well gyda'i gilydd a chost gofal plant a nifer y llefydd sydd ar gael.
Mae'r cyfan wedi'i adlewyrchu yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, a gafodd ei ddatblygu yn seiliedig ar adborth gan bobl yn byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y De.
Roedd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates AC; Ann Lloyd, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Chadeirydd y digwyddiad, entrepreneur lleol Andrew Diplock oll yn y cyfarfod.
Mae Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, yn amlinellu nodau ac amcanion pob un o'r tri phrif faes blaenoriaeth, gan gynnwys:
- cau’r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru trwy gael 7,000 yn fwy o bobl i weithio erbyn 2021, a chreu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy;
- lansio tri phrosiect braenaru i weld sut mae modd cydgysylltu gwasanaethau a darpariaeth leol yn well yn Llanhiledd, Glynrhedynog ac yng Nglyn-nedd a Banwen;
- edrych ar ddatblygu Parc Tirweddau'r Cymoedd sydd â'r potensial o helpu cymunedau lleol ddefnyddio eu hadnoddau naturiol ac amgylcheddol at ddibenion twristiaeth, creu ynni ac iechyd a lles.
"Yn gynharach heddiw, fe gyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi gyllid ar gyfer safle diwydiannol newydd 50,000 troedfedd sgwâr yn Rhyd y Blew, Glynebwy. Dyma’r cam cyntaf yn y gwaith o ddatblygu’r Parc Technoleg Awtomatig gwerth £100 miliwn yng Nglynebwy a fydd yn creu hyd at 1500 o swyddi amser llawn newydd yn yr ardal.
“Dyma newyddion da. Er hynny, rwyf hefyd yn cydnabod bod mwy i’w wneud a bydd y tasglu yn parhau â’i raglen o gysylltu â’r cymunedau yn y cymoedd er mwyn cyhoeddi cynllun cyflawni manwl yn hwyrach yn yr Hydref.”