Neidio i'r prif gynnwy

Cafwyd dadl ynghylch mynd i'r afael â rhagfarn ac anghydraddoldeb ar sail hil yn y Cynulliad Cenedlaethol i hybu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar faterion yn ymwneud â hil.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y cynnig i drafod, a gyflwynwyd gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, gymeradwyaeth drawsbleidiol cyn ei gyflwyno yn Siambr y Senedd brynhawn Mawrth.

Cynigiodd y Dirprwy Weinidog fod Aelodau'r Cynulliad:

•Yn cefnogi'n dwymgalon y frwydr fyd-eang i gael gwared ar ragfarn ar sail hil ac athroniaethau hiliol
•Yn ymdrechu i greu Cymru sy'n fwy cyfartal, gan fynd i'r afael â phob math o anghydraddoldeb ar sail hil
•Yn ailrymuso ymrwymiad Llywodraeth Cymru i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu (ICERD).

ICERD yw'r unig gyfrwng cyfreithiol rhyngwladol sy'n mynd i'r afael yn benodol â phroblemau cynhwysfawr gwahaniaethu ar sail hil ac mae'n cael ei fonitro gan 18 o arbenigwyr annibynnol.

Mae'n diffinio gwahaniaethu ar sail hil fel “any distinction, exclusion, restriction or preference based on race, colour, descent, or national or ethnic origin.”

Roedd y ddadl hefyd yn cyd-ddigwydd â sefydlu Grŵp Trawsbleidiol ar Gydraddoldeb Hiliol, â John Griffiths yn gadeirydd.

Wrth siarad yn y Siambr, dywedodd Jane Hutt:

"Mae gennym gyfle i ychwanegu ein lleisiau at y rhai ledled y byd sy'n galw am gytgord hiliol, heddwch a chyfiawnder yn enwedig yn sgil trychinebau diweddar fel y digwyddodd yn Seland Newydd.

"Rhaid i ni ddatgan yn glir ein gwrthwynebiad llwyr i ragfarn ar sail hil, Islamoffobia, Affroffobia a gwrthsemitiaeth ble bynnag y mae'n digwydd, ac mae rhaid i ni gymryd camau pellach i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ar sail hil sy'n bodoli yn ein gwlad ein hunain.

"Gyda'n gilydd, rhaid i ni barhau i adeiladu cymdeithas gref ac amrywiol yma yng Nghymru, lle mae pobl o bob hil, ffydd a lliw yn cael eu gwerthfawrogi am eu cymeriad a'u gweithredoedd. Rydym oll yn dymuno helpu i greu gwlad heddychlon a chytûn lle y gall ein plant a chenedlaethau'r dyfodol ffynnu."

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £2.4 miliwn o gyllid ar gyfer ehangu ei Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Ranbarthol sy'n nodi ac yn lliniaru tensiynau cymunedol, yn ogystal â chronfa a neilltuwyd ar gyfer digwyddiadau ledled Cymru i ddathlu Diwrnod Windrush.