Heddiw, mae uwchgynhadledd wedi'i chynnal yn Llundain rhwng pedair cenedl y DU i drafod cynlluniau ar gyfer cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd ledled y DU.
Mewn cyfarfod rhwng Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, a'u cydweithwyr cyfatebol yn Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig, trafodwyd cynlluniau posibl ar gyfer y DU.
Daeth y pedair cenedl ynghyd yn yr uwchgynhadledd i gydgysylltu'r gwaith ar lefel y DU ac i nodi egwyddorion ar gyfer llunio cynlluniau posibl ledled y DU. Cytunodd y Gweinidogion fynd ati gyda'i gilydd i lunio a gweithredu'r cynllun.
Byddai Cynllun Dychwelyd Ernes yn golygu y byddai pobl yn talu ernes fach wrth brynu diod mewn cynhwysydd untro ac yn cael eu harian yn ôl pan fônt yn dychwelyd y cynhwysydd yn wag.
Ar ôl yr uwchgynhadledd, dywedodd Hannah Blythyn:
"Rydyn ni'n gwybod sut mae cynhwysyddion untro yn effeithio ar ein hamgylchedd. Maent fel arfer yn difetha cefn gwlad ac yn mynd i'n moroedd.
"Rwy'n croesawu'r cyfle i weithio gyda chenhedloedd eraill y DU ar Gynllun Dychwelyd Ernes ledled y DU. Mae'n ymddangos fod cenhedloedd y DU i gyd yn rhannu'r un awydd am gynllun, felly dyma’r ffordd fwyaf ymarferol ac effeithiol o’i gyflwyno.
"Rydyn ni'n ystyried sawl ffordd a fyddai'n lleihau effaith plastigau untro ar ein hamgylchedd yng Nghymru. Rhaid i unrhyw gynllun a gyflwynwn fod y dewis gorau ar gyfer Cymru a rhaid iddo weithio ochr yn ochr â'n polisïau presennol. Mae'r polisïau hynny wedi sicrhau mai Cymru yw'r wlad orau yn y DU a'r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu gwastraff cartrefi".