Data am fynediad i orsafoedd, digwyddiadau ar drenau, marwolaethau ar reilffyrdd a throsedd ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Trafnidiaeth rheilffyrdd
Prif bwyntiau
Yn 2022-23 (1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023), gwnaed 23.5 miliwn o siwrneiau ar y rheilffyrdd gan deithwyr a oedd naill ai wedi dechrau neu wedi gorffen ei siwrneiau yng Nghymru. Roedd hynny yn gynnydd o 32.6% o gymharu â 2021-22, oedd wedi’u heffeithio gan gyfyngiadau teithio o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws, ond yn ostyngiad o 21.5% o gymharu â 2019-20.
- Cynyddodd nifer y siwrneiau gan deithwyr ar y rheilffyrdd yng Nghymru gan 30.8% i 14.8 miliwn yn 2022-23.
Ffigur 1: Teithiau ar drenau i/o Gymru neu o fewn Cymru rhwng, 2014-15 i 2022-23
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell yn dangos cynnydd o 32.6% yn nifer y siwrneiau gan deithwyr yn 2022–23 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Dueddiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol, proffiliau defnydd rhanbarthol, Swyddfa Rheoleiddiwr y Rheilffyrdd
- Caerdydd oedd y cyrchfan mwyaf cyffredin ar gyfer siwrneiau yng Nghymru (5.9 miliwn o siwrneiau gan deithwyr), gan gyfrif am 40% o’r holl siwrneiau.
- Yn 2023 bu farw 12 o bobl ar y rheilffyrdd, roedd y rhain i gyd achosion o hunanladdiad.
- Hunanladdiad sydd i gyfrif am y rhan fwyaf o’r marwolaethau ar y rheilffyrdd ers 2012.
- Yn 2022-23, roedd nifer y troseddau ar reilffyrdd Cymru yn debyg i’r nifer a welwyd y flwyddyn gynt ac wedi gostwng gan 1.7% o’i gymharu â 2019-20.
- Rhoddwyd gwybod am 1,430 o droseddau hysbysadwy ar reilffyrdd Cymru yn 2022–23, sy’n debyg i’r flwyddyn gynt.
Adroddiadau
Trafnidiaeth rheilffyrdd: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 516 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.