Neidio i'r prif gynnwy

Data am fynediad i orsafoedd, digwyddiadau ar drenau, marwolaethau ar reilffyrdd a throsedd ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Nodyn diwygio

Cafodd yr ystadegau ar Drafnidiaeth Rheilffordd ar gyfer 2018-19 eu cyhoeddi gyntaf ar 29 Ebrill 2020. Fodd bynnag, oherwydd gwallau yn y data oddi wrth Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd (ORR) cafodd yr ystadegau eu diwygio gan yr ORR ar 10 Mai 2020. Roedd yr ystadegau diwygiedig yn dangos nifer llai o deithwyr yn mynd i mewn ac allan o orsafoedd nag a gafodd ei gyhoeddi’n wreiddiol. Roedd y data gwreiddiol a gyhoeddwyd gan yr ORR yn dangos bod nifer y siwrneiau rheilffordd gan deithwyr yng Nghymru wedi cynyddu 8%, ond mae’r ffigurau diwygiedig yn dangos cynnydd o 0.2%.

Mae rhagor o fanylion ynghylch y problemau a nodwyd gan yr ORR yn eu log o ddiwygiadau.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn fyrrach na’r bwletin ystadegol arferol, gan ein bod yn blaenoriaethu adnoddau er mwyn dadansoddi pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau

Image
Teithiau ar drenau i/o Gymru neu o fewn Cymru rhwng 1995-96 a 2018-19. Cynyddodd nifer y teithiau ar drenau yng Nghymru yn 2018-19, gan gyrraedd ei lefelau erioed.
  • Cynyddodd nifer y siwrneiau rheilffordd gan deithwyr yng Nghymru 0.2% yn 2018–19 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Bu 31.1 miliwn o siwrneiau gan deithwyr a oedd naill ai wedi dechrau neu wedi dod i ben yng Nghymru yn 2018–19, o’u cymharu â 31 miliwn yn 2017–18. Roedd dau draean (70%) o’r siwrneiau hyn o fewn Cymru. StatsCymru
  • Cynyddodd nifer y siwrneiau rheilffordd o fewn Cymru i 21.6 miliwn yn 2018–19, cynnydd o 0.7% o’i chymharu â 2017–18.
  • Caerdydd oedd y cyrchfan mwyaf poblogaidd ar gyfer siwrneiau o fewn Cymru, gan gyfrif am 42% o’r holl siwrneiau. StatsCymru
  • Yn 2019 bu farw 9 o bobl ar y rheilffyrdd – roedd 5 o’r rhain yn achosion o hunanladdiad.
  • Yn y blynyddoedd diwethaf bu rhwng 8 a 15 achos o hunanladdiad bob blwyddyn, a rhwng 1 a 4 marwolaeth arall. StatsCymru.
  • Yn 2018-19 cynyddodd troseddau ar reilffyrdd Cymru 13.3%.
  • Adroddwyd am 1,546 o droseddau hysbysadwy ar reilffyrdd Cymru yn 2018–19, cynnydd o 182 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol. StatsCymru.

Rhagor gwybodaeth

Mae Ffocws ar Drafnidiaeth hefyd yn rhyddhau tablau ar foddhad teithwyr gyda gweithredwyr rheilffyrdd yn eu Harolwg Cenedlaethol o Deithwyr Rheilffyrdd. Fodd bynnag, nid yw’r ystadegau hyn bellach yn ystadegau cenedlaethol oherwydd bod yr arolwg yn cael ei gynnal yn y gwanwyn a’r hydref yn unig, ac maent yn gofyn i ymatebwyr am eu siwrnai ddiwethaf yn unig, nid eu boddhad cyffredinol gyda’r gweithredwr.

Mae tablau manylach ar gael ar wefan StatsCymru ac mae gwybodaeth o ansawdd ar gael yn adroddiad y llynedd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.