Neidio i'r prif gynnwy

Data am fynediad i orsafoedd, digwyddiadau ar drenau, marwolaethau ar reilffyrdd a throsedd ar gyfer Ebrill 2017 i Fawrth 2018.

Teithiau ar drenau

  • Cynyddodd nifer y teithiau ar drenau yng Nghymru yn 2017-18, gan gyrraedd ei lefelau uchaf erioed.
  • Roedd 31.0 miliwn o deithiau ar drenau a ddechreuodd neu a orffennodd yng Nghymru yn 2017-18, sy'n gynnydd o 1.9% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd dros ddwy ran o dair (69%) o'r teithiau hyn o fewn Cymru.
  • Cynyddodd nifer y teithiau ar drenau o fewn Cymru i 21.5 miliwn yn 2017-18, a 1.3% o gynnydd o gymharu â 2016-17.
  • Caerdydd oedd y gyrchfan fwyaf cyffredin ar gyfer teithiau yng Nghymru, gan gyfrifo am 41% o bob taith.

Marwolaethau

  • Yn 2017 roedd 13 o farwolaethau ar reilffyrdd, 11 yn hunan-laddiadau.
  • Yn ddiweddar bu rhwng 8 a 12 o hunanladdiadau bob blwyddyn a rhwng 1 a 4 o farwolaethau eraill.

Troseddau

  • Yn 2017-18, bu cynnydd o 15.3% o droseddau hysbysadwy a gofnodwyd.
  • Cofnodwyd 1,369 o droseddau hysbysadwy ar reilffyrdd Cymru yn 2017-18, sy'n gynnydd o 182 o'r flwyddyn flaenorol.

Bodlonrwydd teithwyr

  • Mae lefelau bodlonrwydd cyffredinol teithwyr wedi bod yn gymharol sefydlog yn ddiweddar.
  • Yn ystod yr hydref 2018 roedd 82% o deithwyr yn fodlon gyda'u taith ar y cyfan. Mae lefelau bodlonrwydd a thueddiadau diweddar yn debyg yng Nghymru a Phrydain Fawr yn gyffredinol.

Adroddiadau

Trafnidiaeth rheilffyrdd, Ebrill 2017 i Fawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 786 KB

PDF
Saesneg yn unig
786 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.