Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am fynediad i orsafoedd, digwyddiadau ar drenau, marwolaethau ar reilffyrdd a throsedd ar gyfer Ebrill 2016 i Fawrth 2017.

Teithiau ar drenau

  • Cynyddodd nifer y teithiau ar drenau yng Nghymru yn 2016-17, gan gyrraedd ei lefelau uchaf ers 1995-96. 
  • Roedd 30.45 miliwn o deithiau ar drenau a ddechreuodd neu a orffennodd yng Nghymru yn 2016-17, sy'n gynnydd o 0.5% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd dros ddwy ran o dair (70%) o'r teithiau hyn o fewn Cymru.
  • Cynyddodd nifer y teithiau ar drenau o fewn Cymru i 21.2 miliwn o deithiau yn 2016-17, a 2.5% o gynnydd o'i gymharu â 2015-16.
  • Y cynnydd yn Ne-ddwyrain Cymru, De-orllewin Cymru a Chanolbarth Cymru dros y cyfnod sy'n gyfrifol am y ffigurau hyn. Yn 2016-17, roedd De-ddwyrain Cymru yn gyfrifol am 81.5%, De-orllewin Cymru yn gyfrifol am 10.7%, Gogledd Cymru yn gyfrifol am 6.7%, a Chanolbarth Cymru yn gyfrifol am 1.0% o'r holl deithiau.

Marwolaethau

  • Yn 2016 bu farw 1 ar y rheilffyrdd (heb gynnwys hunanladdiadau).
  • Nid yw'r ffigur hwn yn wahanol i'r ffigur yn 2015. Cofnodwyd 4 yn 2012, 1 yn 2013 a 2 yn 2014.

Troseddau

  • Yn 2016-17, gwelwyd lleihad o 2.3% yn nifer y troseddau hysbysadwy a gofnodwyd.
  • Cofnodwyd 1,187 o droseddau hysbysadwy ar reilffyrdd Cymru yn 2016-17, sy'n llai na'r 28 a gofnodwyd yn y flwyddyn flaenorol.

Bodlonrwydd teithwyr

  • At ei gilydd mae bodlonrwydd cyffredinol teithwyr â'u taith ar Drenau Arriva Cymru wedi lleihau o wanwyn 2013 hyd hydref 2017.
  • Ni welwyd llawer o wahaniaeth, sef rhwng 83% a 97%, yn ystod yr un cyfnod o safbwynt cyfartaledd holl weithredwyr rhanbarthol Prydain Fawr.

Adroddiadau

Trafnidiaeth rheilffyrdd, Ebrill 2016 i Fawrth 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 860 KB

PDF
Saesneg yn unig
860 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.