Neidio i'r prif gynnwy

1. Pwyntiau allweddol

  • Cynyddodd lefelau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru (1.0%) yn 2018.
  • Yn 2018 cyfanswm traffig cerbydau modur oedd 29.4 biliwn o gilometrau cerbyd (bvk), y ffigur uchaf erioed. Mae hyn yn cyfateb i 9,363 o gilometrau cerbyd (5,818 o filltiroedd) y person.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r traffig (66.2%) ar brif ffyrdd (traffyrdd neu ffyrdd 'A'). Roedd y 33.8% o draffig a oedd ar ôl ar ffyrdd bach – h.y. ffyrdd 'B' ac 'C' a ffyrdd annosbarthedig.

2. Sut rydym yn mesur lefelau traffig

Mae lefelau traffig yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio data cyfrifiadau traffig a gesglir gan yr Adran Drafnidiaeth. Cyfunir data cyfrifiadau traffig llaw â data cyfrifyddion traffig awtomatig i gyfrifo cyfartaledd blynyddol y llif dyddiol. Cyfunir y llifoedd dyddiol hyn â darnau o ffyrdd i gyfrifo nifer y milltiroedd cerbyd a deithir bob blwyddyn yn ôl math o gerbyd, categori ffordd a rhanbarth. Yn y datganiad hwn, fe’u cyflwynir fel biliwn cilometrau cerbyd.

Ceir rhagor o fanylion yn nodyn methodoleg amcangyfrifon traffig ffyrdd yr Adran Drafnidiaeth.

3. Tueddiadau yn nhraffig ffyrdd

Mae Siart 1 yn dangos y duedd hirdymor ar gyfer lefelau traffig rhwng 1993 a 2018. Yn y cyfnod hwn, mae lefelau’r traffig wedi cynyddu 33.0%, gan gyrraedd ei anterth o 29.4 biliwn cilometr cerbyd yn 2018. Gwelwyd cynnydd graddol yn lefelau’r traffig hyd at 2007 a chwymp yn ystod y dirywiad economaidd. Ers 2012, gwelwyd cynnydd eto yn lefelau’r traffig. 

Siart 1: Lefel y traffig yng Nghymru rhwng 1993 a 2018

Mae amrywiaeth o ffactorau’n gallu dylanwadu ar lefel y traffig. Er enghraifft: gall cwymp yn y lefelau cyflogaeth arwain at ostwng y traffig cymudo; mae'n bosibl y bydd prisiau tanwydd uwch yn peri i yrwyr newid i ddulliau eraill o drafnidiaeth, neu osgoi teithiau diangen; gall cynnydd neu ostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynd ar wyliau ar Ynysoedd Prydain – sy'n gysylltiedig â phunt gref neu wan – gael effeithiau cyfatebol ar draffig. 

Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd a blwyddyn ar StatsCymru

4. Traffig yn ôl dosbarthiad ffordd

Dengys Siart 2 fod prif ffyrdd yn cyfrif am 66.0% o gyfanswm y traffig yn 2018, ac roedd ffyrdd llai yn cyfrif am 34.0%. Yn fras dyma fu'r achos yn ystod y 25 o flynyddoedd diwethaf, er bod lefel y traffig ar brif ffyrdd wedi cynyddu'n fwy (i fyny 43.1% ers 1993) o gymharu â ffyrdd bach (i fyny 16.9%).

Siart 2: Lefel y traffig fesul prif ffyrdd yng Nghymru rhwng 1993 a 2018

Traffyrdd a ffyrdd A yw priffyrdd (ffyrdd sy’n darparu cysylltiadau trafnidiaeth ar raddfa fawr o fewn a rhwng ardaloedd). Rhennir ffyrdd A yn ‘gefnffyrdd A’ (rhan o rwydwaith ffyrdd strategol sy’n eiddo i’r llywodraeth ac yn cael ei rheoli ar ei rhan) a ‘ffyrdd sirol A’ (pob ffordd ‘A’ arall). Mae Siart 3 isod yn dangos y newidiadau i lefel y traffig ar gyfer y tri chategori o briffyrdd ers 1993. Mae ffyrdd sirol yn cyfrif am lefelau uwch o draffig na chefnffyrdd A a thraffyrdd – er y bu cynnydd uwch yn lefel y traffig ar gefnffyrdd yn y blynyddoedd diwethaf. Yn 2018 cynyddodd lefel y traffig 2.4% ar gefnffyrdd, 0.1% ar ffyrdd sirol A a 0.2% ar draffyrdd.

Siart 3: Lefel y traffig yng Nghymru fesul categori prif ffordd rhwng 1993 a 2018

Er mwyn rhoi cyd-destun ar gyfer y ffigurau hyn:

  • hyd y draffordd yng Nghymru yw 135 km
  • hyd y rhwydwaith cefnffyrdd yw 1,576 km
  • hyd yr holl ffyrdd sirol yw 2,773 km
  • hyd yr holl ffyrdd categori B, C a ffyrdd bach yw 30,370 km.

Mae Siart 4 yn dangos bod lefel y traffig fesul cilometr o ffordd yn llawer uwch ar draffyrdd o gymharu â'r dosbarthiadau ffordd eraill.

Siart 4: Hyd ffordd a lefel traffig cerbydau modur 2018 fesul dosbarthiad ffordd

Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd a blwyddyn ar StatsCymru

5. Lefel y traffig yn ôl math o gerbyd a dosbarthiad ffordd

Dangosir cyfrannau llif y traffig fesul math o gerbyd yn Siart 5a a Siart 5b. Mae ceir a thacsis (22.9 bvk) a faniau (4.9 bvk) yn cyfrif am 94% o gyfanswm lefel y traffig cerbydau modur yn 2018. Mae’r gyfran hon wedi bod yn sefydlog am o leiaf yr 20 mlynedd diwethaf. 

Siart 5A: Lefel y traffig ar y ffyrdd yn 2018 fesul math o gerbyd

Dangosir y tueddiadau yn lefelau’r traffig ers 1993 yn ôl math o gerbyd yn Siart 5b. Drwyddi draw, mae lefelau’r traffig ar gyfer ceir a thacsis, faniau, beiciau modur a beiciau pedalau wedi cynyddu, ond ar raddfeydd gwahanol. Mae traffig bysiau a HGVs wedi cwympo dros y degawd diwethaf. Gwelwyd cynnydd bychan yn lefelau’r traffig ceir a thacsis, faniau ysgafn yn 2018 ond gwelwyd cynnydd canrannol mawr yn nhraffig beiciau modur. Gwelwyd gostyngiad bychan yn y traffig bysiau.

Siart 5B: Lefel y traffig ar y ffyrdd rhwng 1993 a 2018 fesul math o gerbyd

Mae Tabl 1 yn dangos lefelau traffig yn ôl dosbarth ffordd a math o gerbyd ar gyfer 2018. Ceir a thacsis yw'r prif gategori ar bob dosbarthiad ffordd, gan gyfrif am 22.9 bvk (77.9.% o draffig cerbydau modur), ac yna faniau ysgafn yn 4.9 bvk (16.6%) a cherbydau nwyddau trwm yn 1.1 bvk (3.8%).

Tabl 1: Lefel y traffig ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2018 fesul math o gerbyd 2018

Traffig ffyrdd yn ôl y dosbarthiad ffyrdd a math o gerbyd ar StatsCymru

6. Traffig fesul rhanbarth economaidd ac awdurdod lleol

Mae De-ddwyrain Cymru yn cyfrif am y gyfran uchaf o'r holl draffig yng Nghymru (46.0%) gyda Gogledd Cymru yn cyfrif am y gyfran isaf (24.0%) (Siart 6). Mae'r gwasgariad hwn yn gyson dros amser ac mae'n adlewyrchu’n fras lle mae poblogaeth Cymru yn byw ac yn gweithio.

Siart 6: Lefel traffig cerbydau modur yng Nghymru yn 2018 fesul rhanbarth economaidd

Mae Siart 7 dangos cyfaint traffig amcangyfrifedig ar gyfer 22 awdurdod lleol yn 2018. Gwelwyd y lefelau uchaf o draffig cerbydau modur yng Nghaerdydd, Rhodda Cynon Taf, Sir Gaerfyrddin a Chasnewydd. Gyda'i gilydd roedd y lefelau traffig yn yr ardaloedd hyn yn 31.1% o gyfanswm y traffig yng Nghymru. Gwelwyd y lefelau isaf o draffig cerbydau modur yn Nhorfaen, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent ac ar Ynys Môn. Gyda'i gilydd roedd y lefelau traffig yn yr ardaloedd hyn yn 7.2% yn unig o gyfanswm y traffig yng Nghymru. Ar y cyfan mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchu lle mae pobl yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Siart 7a: Lefel traffig cerbydau modur yn 2018 fesul Awdurdod Lleol

Traffig ffyrdd yn ôl Awdurdodau Lleol a blwyddyn ar StatsCymru
Traffig ffyrdd yn ôl awdurdod lleol a dosbarthiad ffyrdd ar StatsCymru

7. Cofrestriadau newydd a cherbydau trwyddedig

Mae Siart 8a yn dangos bod cofrestriadau cerbydau newydd yng Nghymru ers 2001 ar eu huchaf yn 2004 ac wedyn bu tuedd ar i lawr tan 2011. Wedyn bu tuedd ar i fyny, gan gyrraedd 115,000 yn 2016 cyn gostwng unwaith eto. Yn 2018 gostyngodd nifer y cofrestriadau cerbydau newydd 1.2% i 101,515.

Siart 8a: Cofrestriadau cerbydau newydd rhwng 2001 i 2018

Mae'r rhagolygon tymor hir ar gyfer cerbydau ac eithrio car yn amrywiol (Siart 8b). Rhwng 2007 a 2009 gostyngodd nifer y faniau newydd a gafodd eu cofrestru'n sydyn. Er eu bod wedi dechrau codi unwaith eto ers hynny, mae'r ffigurau yn parhau i fod gryn dipyn o dan y lefelau uchaf. Cynyddodd cofrestriadau beiciau modur (10.8%) a faniau 11.4% yn 2018. Gwelwyd gostyngiad yn y cofrestriadau bysiau (-17.0%), ceir (-3.6%) a HGVs (-1.5%).

Siart 8b: Cofrestriadau cerbydau newydd yn ôl math o gerbyd rhwng 2001 i 2018

Mae Siart 8c yn dangos nifer y ceir a phob cerbyd sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru ers 2009. Mae'r duedd ar gyfer ceir a phob cerbyd dros amser yn debyg. Yn 2018 cynyddodd nifer y ceir wedi'u trwyddedu 1.1% i 1.6 miliwn, a chynyddodd nifer yr holl gerbydau 1.5% i 1.9 miliwn.

Siart 8c: Nifer y ceir a phob cerbyd wedi'u trwyddedu rhwng 2010 i 2018

Nid yw'r newid yn y cerbydau trwyddedig yn gyson ar gyfer mathau gwahanol o gerbydau (Siart 8d). Er enghraifft, mae’r fynegai ar gyfer bysiau (gan gynnwys coetsis) wedi gostwng bob blwyddyn ers 2010. Ar y llaw arall, mae nifer y ceir a faniau ysgafn wedi cynyddu bob blwyddyn ac mae beiciau modur ac HGVs wedi cynyddu ers 2012.

Siart 8d: Newid yn nifer y cerbydau wedi'u trwyddedu ers 2009 fesul math o gerbyd

Traffig ffyrdd yn ôl awdurdod lleol a dosbarthiad ffyrdd ar StatsCymru

8. Nodiadau

Y Cyd-destun

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae'r Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu ystadegau traffig sy'n rhoi amcangyfrifon o'r milltiroedd a deithir bob blwyddyn ym Mhrydain Fawr, yn ôl math o gerbyd, categori o ffordd a rhanbarth.

Mae Transport Scotland yn cynhyrchu cyhoeddiad o'r enw ‘Transport and Travel in Scotland’ sy'n cynnwys gwybodaeth am gerbydau, traffig a gyrru.

Ffynhonnell data

Mae Amcangyfrifon traffig ar y ffyrdd ar gyfer Cymru yn cael eu paratoi gan yr Adran Drafnidiaeth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y cyfrifiadau traffig â llaw sy'n cael eu cynnal wrth ochr y ffordd ledled Cymru yn ystod pob blwyddyn a’r data cyfrifiadau traffig awtomatig, sy’n cael eu cyfuno gyda ffigyrau hydoedd ffyrdd i gynhyrchu amcangyfrifon traffig cyffredinol.

Diffiniadau

Cynnwys

Mae'r amcangyfrifon traffig ar gyfer pob prif ffordd yn seiliedig ar gyfrifiad o bob ffordd o'r fath, ond mae amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd bach yn cael eu cynhyrchu drwy gyfrifo cyfraddau tyfu o sampl benodol o fannau ar y rhwydwaith ffyrdd bach. Mae rhagor o fanylion ynglŷn â'r fethodoleg ar gael gan yr Adran Drafnidiaeth.

Lefel y traffig

Mae lefelau traffig yn cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio cyfrif data sy’n cael eu casglu gan yr Adran Drafnidiaeth. Caiff data o gyfrif traffig â llaw eu cyfuno gyda data o’r cyfrifyddion traffig awtomatig i gyfrifo cyfartaledd blynyddol y llif bob dydd. Caiff y llif dyddiol hwn ei gyfuno gyda hyd y ffyrdd i gyfrifo nifer y milltiroedd cerbyd sy’n cael eu teithio pob blwyddyn yn ôl math y cerbyd, categori y ffordd a’r rhanbarth. Yn y datganiad hwn mae’r amcangyfrifon yn cael eu cyflwyno fel fel biliwn o gilomedrau cerbyd.

Math o gerbyd

  • Beiciau pedal: mae hyn yn cynnwys pob beic heb fodur. 
  • Beiciau modur: cerbydau modur dwy olwyn, gan gynnwys mopeds, sgwteri modur a chyfuniadau.  
  • Ceir a thacsis: mae hyn yn cynnwys ceir stad, pob fan ysgafn â ffenestri y tu ôl i sedd y gyrrwr, cerbydau teithwyr â naw sedd neu lai, ceir tair olwyn, cerbydau â modur i bobl anabl, Land Rovers, Range Rovers and Jîps. Ystyrir mai un cerbyd yw ceir sy'n tynnu carafanau neu drelars.
  • Bysiau a choetsis: mae hyn yn cynnwys pob cerbyd gwasanaethau cyhoeddus a bysiau gwaith ar wahân i gerbydau â llai na deg sedd.
  • Faniau ysgafn: pob cerbyd nwyddau hyd at bwysau cerbyd gros o 3,500kg. Mae hyn yn cynnwys pob fan sy'n seiliedig ar fodel o gar a'r rhai yn y categori cludo uwch fel faniau transit. Mae hefyd yn cynnwys ambiwlansys, faniau picyp, faniau llaeth neu gerbydau modur a reolir gan gerddwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r cerbydau yn y grŵp hwn yn faniau dosbarthu o ryw fath neu ei gilydd. 
  • Cerbydau nwyddau (HGVs): pob cerbyd nwyddau dros bwysau cerbyd gros o 3,500kg. Mae hyn yn cynnwys tractorau (heb drelars), rholwyr ffyrdd, faniau bocs a faniau mawr tebyg. Mae uned tractor modur dwy echel heb drelar yn cael ei chynnwys hefyd. 
  • Pob cerbyd modur: pob cerbyd ar wahân i feiciau pedal.

Dosbarthiadau ffyrdd

Mae pob ffordd ag arwyneb yn cael ei chynnwys yn yr amcangyfrifon.

Prif ffyrdd

  • Traffyrdd: ffyrdd deuol sy’n cael eu cynllunio ar gyfer traffig cyflym gan gerbydau modur yn unig, gydag ychydig o leoedd i ymuno â’r draffordd neu ei gadael. Yr unig draffordd yng Nghymru yw yr M4.
  • Prif ffyrdd: rhan o’r rhwydwaith ffyrdd strategol sy’n berchen i’r Llywodraeth ac yn cael ei gweithredu ganddi
  • Ffyrdd sirol: pob ffordd A arall.

Mae amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd A ar gael hefyd gyda is-gategorïau ar gyfer ffyrdd trefol a gwledig ar StatsCymru. Ffyrdd trefol yw’r rhai hynny o fewn ffiniau setliadau gyda phoblogaeth o 10,000 neu fwy, a ffyrdd gwledig yw pob prif ffordd arall sydd ddim yn draffordd.

Ffyrdd llai

  • Ffyrdd B: ffyrdd sydd â’r bwriad o gysylltu gwahanol ardaloedd, a bwydo traffig rhwng ffyrdd A a ffyrdd llai ar y rhwydwaith.
  • Ffyrdd dosbarthiadol heb rif: ffyrdd llai â'r nod o gysylltu ffyrdd diddosbarth â ffyrdd A a B, sydd yn aml yn cysylltu ystad tai neu bentref â gweddill y rhwydwaith. Maent yn debyg i 'is-ffyrdd' ar fap Arolwg Ordnans, ac weithiau cyfeirir atynt yn answyddogol fel ffyrdd C.
  • Ffyrdd annosbarthedig: ffyrdd lleol sydd ar gyfer traffig lleol.  Mae mwyafrif llethol y ffyrdd yn syrthio o fewn y categori hwn.

9. Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

10. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ian Shipley
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 32/2019