Erbyn 2035, yn ôl adroddiad newydd, amcangyfrifir y bydd cynnydd o 119% yn nifer y bobl dros 85 oed sy'n byw yng Nghymru.
O dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae'n ofynnol i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol asesu ar y cyd ofynion gofal a chymorth y boblogaeth yn eu hardaloedd hwy. Mae'r asesiadau poblogaeth hyn hefyd yn dweud beth sydd ar gael i ddiwallu anghenion pobl. Maent yn ystyried beth arall sydd angen ei wneud i osgoi anghenion gofal a chymorth yn y lle cyntaf, ac i sicrhau bod pobl yn gallu parhau i fyw mor iach â phosibl. Mae’r asesiadau yn edrych ar ystod eang o bobl a chymunedau, o blant i bobl ifanc hyd at bobl hŷn.
Mae'r Adroddiad Asesiad Poblogaeth Cenedlaethol, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a'i lunio gan Ofal Cymdeithasol Cymru, yn cynnwys prif ganfyddiadau'r adroddiadau asesiadau poblogaeth cyntaf i gael eu cyhoeddi gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol yn gynharach eleni.
Daeth yr Adroddiad i'r casgliad:
- Mae pobl sy’n byw yng Nghymru (26%) yn fwy tebygol o gael anabledd neu salwch hirdymor sy’n eu cyfyngu na phobl sy’n byw mewn rhannau eraill o Brydain Fawr
- bydd 1 o bob 4 oedolyn yn wynebu problemau iechyd meddwl rywbryd yn ystod ei fywyd
- mae gan 1 o bob 10 plentyn broblem iechyd meddwl a allai gael diagnosis
- mae 1 o bob 5 person ifanc yng Nghymru yn adrodd bod ei lefelau boddhad bywyd yn isel
- mae 17% o oedolion yn adrodd eu bod yn teimlo'n unig
- roedd bron i hanner yr oedolion yng Nghymru wedi cael profiad niweidiol yn ystod plentyndod (ACE), ac mae 41% o oedolion sydd wedi cael profiad niweidiol yn ystod plentyndod yn awr yn byw gyda lefelau isel o iechyd meddwl
- mae gan 1 o bob 4 person, ar amcangyfrif, mewn ward ysbyty cyffredinol ddementia
- mae 75% o ofalwyr yn pryderu am yr effaith y bydd gofalu yn ei chael ar eu hiechyd dros y flwyddyn nesaf
- bydd gan 1 o bob 3 person dros 80 oed ddiffyg o ran ei olwg neu ei glyw
- mae gan 9 o bob 10 pensiynwr broblem iechyd meddwl a allai gael diagnosis a/neu broblem camddefnyddio sylweddau.
“Am y tro cyntaf erioed, mae gennym ni nawr drosolwg defnyddiol iawn o anghenion gofal a chymorth ledled Cymru.
Ar sail yr hyn mae pobl wedi'i ddweud, yn ogystal â chanfyddiadau'r ymchwil a'r data, mae'r adroddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar fywydau pobl a allai fod angen gofal a chymorth i'w helpu i fyw bywyd yn y ffordd orau bosibl.
Mae gweithredu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn chwyldroi'r ffordd y mae gofal yn cael ei roi ym mhob cwr o Gymru. Bydd yr adroddiad cenedlaethol hwn, ynghyd â'r asesiadau poblogaeth rhanbarthol manylach, yn helpu'r gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill i siapio polisi a'r ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu er mwyn rhoi'r gofal a'r cymorth sydd arnynt eu hangen i bobl, ar yr adeg pan fo'i angen."