Skip to content

Grantiau’r amgylchedd

Dolenni perthnasol

Cyhoeddiad enwau’r sefydliadau fydd yn rhannu’r £21.875 miliwn o gyllid craidd Llywodraeth Cymru gan Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i’w helpu i wneud eu gwaith.

Mae ein grantiau yn helpu i ddarparu amryfal fanteision i gymunedau a chael y gwerth gorau posibl am arian.

Er mwyn symleiddio’r dull o ddyfranu grantiad ar draws refeniw y Gyfarwyddiaeth Datblygu Cynaliadwy, mae‘r cyllid grant wedi ei rannu yn ddau ddyraniad:    

  • Cyllid craidd ar gyfer sefydliadau’r Trydydd Sector sydd â nodau a blaenoriaethau sy’n cyd-fynd â rhai Llywodraeth Cymru ac sy’n ceisio sicrhau yr un canlyniadau.  
  • Grant refeniw sengl i awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu blaenoriaethau Gweinidogol a manteision niferus i gefnogi Nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Bydd y trefniadau grant yn sicrhau:

  • defnydd mwy cydlynnol o’r grantiau i ddarparu blaenoriaethau Gweinidogol ac i sicrhau manteision niferus yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar gyfer cymunedau ledled Cymru 
  • bod grantiau yn cael eu defnyddio’n effeithiol i adeiladu capasiti a chreu newidiadau parhaus yn hytrach na chanolbwyntio ar ddarparu yn y tymor byr 
  • mae ein grantiau yn sicrhau gwerth am arian gwell,
  • mae’r broses o ddyfarnu grant mor syml â phosib i’r sefydliad sy’n gwneud cais am gyllid.

Roedd y galw am gyllid craidd yn pwysleisio pwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol yn well, sicrhau bod yr ecosystem yn fwy cadarn a chyflawni ein hymrwymiadau ar fioamrywiaeth. Mae dros £25 miliwn wedi ei ddyfarnu i sefydliadau’r Trydydd Sector ar gyfer cyllid craidd o Hydref 2015 hyd at ddiwedd Hydref 2018. 

Derbyniodd yr 16 sefydliad canlynol gyllid: 

  • Cadw Cymru’n Daclus,
  • Rhaglen Weithredu Adnoddau Gwastraff,
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, 
  • Fareshare,
  • Partneriaethau Lleol, 
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, 
  • Buglife, 
  • PONT,
  • Groundwork Cymru,
  • RSPB, 
  • Plantlife, 
  • Coed Cymru,
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru,
  • Llais y Goedwig,
  • Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru,
  • Cyswllt Amgylchedd Cymru.

Grant Refeniw Sengl yr Awdurdod Lleol

Mae’n ofynnol i’r Awdurdodau gyflwyno y gwariant arfaethedig bob blwyddyn, gan roi amlinelliad clir o sut y maent yn bwriadu gwario’r cyllid sydd wedi ei ddyrannu yn erbyn blaenoriaethau Gweinidogol, a hefyd pa fanteision niferus fyddant yn eu cael yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). 

Caiff pob Awdurdod Lleol ddyraniad grant ar sail fformiwla ac mae’n bosibl iddynt ddefnyddio’r cyllid hwn i gyflawni yn erbyn prif flaenoriaethau y Gyfarwyddiaeth: 

  • Rheoli ein Hadnoddau Naturiol yn Well 
  • Ansawdd yr Amgylchedd Lleol