Skip to content

Y Clafr

Nid yw cynnwys y dudalen hon yn cael ei ddiweddaru. Ewch i beta.llyw.cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol: Y clafr.

Dolenni perthnasol

Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.

Y clafr yw un o’r afiechydon mwyaf heintus i ddefaid yng Nghymru.

Gwiddonyn (Psoroptes ovis) sy’n achosi clafr y defaid. Mae’n byw ar groen defaid ac mae ei faw yn creu adwaith alergol yn y defaid hynny. Yr adwaith alergol hwn sy’n gwneud i ddefaid grafu mor ofnadwy. Mae’r crafu hwn yn creu gofid mawr a gall ei rhwystro rhag pori hyd yn oed.

Mae’r clafr yn cael ei ledaenu wrth i ddefaid heintiedig neu bethau y mae defaid heintiedig wedi cyffwrdd â nhw (hyd at 15 niwrnod) ddod i gysylltiad â defaid eraill. Gall y gwiddon gael eu cario o ddiadell i ddiadell ar ddillad ac offer.

Mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar berchenogion a cheidwaid defaid i drin a rheoli’r clafr.  Rhaid rhoi gwybod i’r Awdurdod Lleol os oes achos o’r clafr heb ei drin, a’r awdurdod sy’n gyfrifol am orfodi Gorchymyn y Clafr 1997 (Saesneg yn unig, dolen allanol), gan reoli’r clafr pan na fydd perchenogion wedi cymryd y camau priodol. Mae gan archwilwyr yr Awdurdod Lleol y pŵer i roi rhybuddion i sicrhau bod perchenogion a cheidwaid yn cydymffurfio â’r gorchymyn.

Fe allai archwilydd orchymyn bod defaid yn cael eu hynysu neu eu symud a’u cadw nes bod y clefyd yn cael ei gadarnhau. Gallai roi rhybudd i’r perchennog drin y defaid.  Rhaid cyflwyno datganiadau gan filfeddyg neu geidwad bod y defaid wedi’u trin o fewn 14 diwrnod ar ôl rhoi’r driniaeth neu bydd angen tystiolaeth bod y ddiadell wedi’i difa. Lle bo angen, gallai’r Awdurdod Lleol drefnu bod y defaid yn cael eu trin ar gost y perchennog neu’r ceidwad a gellid adennill y gost fel dyled sifil.

Yng Nghymru, cafodd grŵp Clafr y Defaid ei sefydlu o dan arweiniad y diwydiant i ystyried sut orau i drechu’r clafr. Mae grŵp y clafr yn is-grŵp o Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid (AHWF). Mae’r is-grŵp yn cynnal ymchwil bellach i lefelau’r clafr yng Nghymru.