Neidio i'r prif gynnwy

Grant i alluogi arloesi a threfniadau cydweithio rhwng sectorau a/neu bartneriaethau rhanbarthol yn ymwneud â thlodi plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pa gyllid sydd ar gael?

Mae £900,000 ar gael i gefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector (sy'n cynnwys grwpiau ffydd). 

Byddwn yn darparu grantiau i sefydliadau/grwpiau cymwys o hyd at uchafswm o £5,000, £25,000 a £100,000 yn dibynnu ar y cynllun grant y mae eich sefydliad/grŵp yn gwneud cais amdano.

Gwybodaeth am y grant

Mae'r grant ar gael i gefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn eu hymdrechion i gyflawni'r canlynol:

  • Gwella gallu sefydliadau i ffurfio trefniadau cydweithio i fynd i'r afael â thlodi plant, sy'n gysylltiedig ag un neu fwy o 5 amcan  Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024.
  • Cefnogi sefydliadau i gyfathrebu'n effeithiol, cydweithio a throsglwyddo gwybodaeth wrth ymateb i dlodi plant ar lefel ranbarthol, lleol neu gymunedol.

Mae cyllid grant ar gael i:

  • wneud cynnydd, cryfhau ac ychwanegu gwerth at drefniadau cydweithio/gweithio mewn partneriaeth sydd eisoes ar waith
  • sefydlu trefniadau cydweithio/gweithio mewn partneriaeth newydd, gan gynnwys costau staff i ryddhau capasiti i helpu gyda threfniadau cydweithio

Dylai fod 1 ymgeisydd arweiniol a fydd yn gweithredu fel deiliad y grant a rheolwr data.

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan unrhyw sefydliad sydd â chysylltiad â phlaid wleidyddol.

Y meini prawf gofynnol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflawni'r gwaith hwn erbyn 31 Mawrth 2025.  Fel rhan o'ch cais, dylech amlinellu'r adnoddau y byddwch yn eu hymrwymo a darparu amserlen arfaethedig ar gyfer y gweithgaredd. 

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus am grantiau  llai hyd at £5,000 yn cael ffurflen hunanasesu i'w chwblhau a'i hadolygu ar adegau y cytunwyd arnynt fel rhan o'r broses o fonitro'r grant. 

Rhaid i bob cais am grantiau dros £5,000 a hyd at £100,000 gynnwys gwybodaeth am eu dull o werthuso'r gweithgaredd a gyflawnir o dan y grant. 

Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n gallu cynnig ymgysylltiad drwy'r Gymraeg ar gyfer cymunedau Cymraeg eu hiaith ac sy'n diwallu anghenion ieithyddol eraill fel sy'n berthnasol i'r gymuned dan sylw.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais drwy lenwi'r ffurflen gais.

Anfonwch eich cais ar e-bost i: GrantArloesiTlodiPlantAChefnogiCymunedau@llyw.cymru.

Os oes angen y ffurflen gais arnoch mewn fformat arall, e-bostiwch: GrantArloesiTlodiPlantAChefnogiCymunedau@llyw.cymru.

Amserlen a gwybodaeth bellach

  • 14 Mehefin 2024: y cyfnod ymgeisio am grant yn agor.
  • 14 Gorffennaf 2024:  y cyfnod ymgeisio am grant yn cau.
  • Wythnos yn dechrau 12 Awst 2024: anfon llythyr at yr ymgeiswyr ynghylch y canlyniad.
  • Wythnos yn dechrau 19 Awst 2024: anfon y llythyrau dyfarnu grant.