Neidio i'r prif gynnwy

Ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben yn 2020, data ar bobl mewn tlodi parhaus, a ddiffinnir fel eu bod mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf 3 allan o’r 4 blynedd yn olynol.

Daw data ar dlodi parhaus yng Nghymru hefyd o DWP. Yn eu hadroddiad Dynameg Incwm maent yn diffinio person i fod mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf 3 allan o 4 blynedd yn olynol.

Prif bwyntiau

  • Ar ôl talu costau tai roedd gan unigolyn yng Nghymru debygolrwydd o 12% o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2016 a 2020.
  • Mae’r tebygolrwydd o fod mewn tlodi parhaus yn amrywio yn ôl rhanbarth/gwlad. Yn Lloegr, y ffigur yw 12%, yn yr Alban mae'n 10%, ac yng Ngogledd Iwerddon mae'n 9%.
  • Roedd gan blentyn yng Nghymru debygolrwydd o 13% o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2016 a 2020 (ar ôl talu costau tai).
  • Roedd hyn yn is nag ar gyfer Lloegr (19%) ond yn uwch nag yn Ngogledd Iwerddon (12%) a'r Alban (10%).
  • Roedd gan oedolyn o oedran gweithio yng Nghymru debygolrwydd o 13% o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2016 a 2020 (ar ôl talu costau tai).
  • Roedd hyn yn uwch na'r ffigur ar gyfer Lloegr (11%), yr Alban a Gogledd Iwerddon (10%).
  • Roedd gan bensiynwr a oedd yn byw yng Nghymru rhwng 2016 a 2020 debygolrwydd o 10% o fod mewn tlodi parhaus (ar ôl talu costau tai).
  • Mae hyn yn is na'r tebygolrwydd yn Lloegr a'r Alban, sef 11%. Y tebygolrwydd yng Ngogledd Iwerddon yw 5%.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.