Ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben yn 2017, data ar bobl mewn tlodi parhaus, a ddiffinnir fel eu bod mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf 3 allan o’r 4 blynedd yn olynol.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tlodi parhaus
Daw data ar dlodi parhaus yng Nghymru hefyd o DWP. Yn eu hadroddiad Dynameg Incwm maent yn diffinio person i fod mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf 3 allan o 4 blynedd yn olynol (mae'r rhain ar hyn o bryd yn cael eu hystyried fel ystadegau arbrofol).
Dengys data o Adran Gwaith a Phensiynau, ar ôl talu costau tai roedd gan unigolyn yng Nghymru siawns o 13% o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2013 a 2017 (ystadegau arbrofol).
Roedd gan blentyn yng Nghymru tebygolrwydd o 21% o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2013 a 2017 (ar ôl costau tai yn cael eu talu).
Gellir ddarganfod mwy o ddadansoddiad cryno yn ein cyflwyniadau ‘SlideShare’ o dan ‘adroddiadau’ isod.
Adroddiadau
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.