Neidio i'r prif gynnwy

Ar gyfer y cyfnod hyd at Fawrth 2018, dadansoddiad o aelwydydd gydag incwm llai na 60% o ganolrif y DU, yn ôl nodweddion megis oedran, statws economaidd a math o deulu.

Mae'r holl ffigurau yma yn ymwneud â thlodi incwm cymharol yng Nghymru ar ôl talu costau tai megis taliadau llog ar forgeisi /rhent, ardrethi dŵr ac yswiriant adeiladau.

Gellir ddarganfod mwy o ddadansoddiad cryno yn ein cyflwyniadau ‘SlideShare’ o dan ‘adroddiadau’ isod.

Prif canfyddiadau allweddol

  • Roedd 24% o'r holl bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2015-16 a 2017-18 (h.y. y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben Mawrth 2016 ac yn y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben Mawrth 2018).

  • Mae'r ffigur hwn wedi aros yn gymharol sefydlog (rhwng 22 a 24%) ar gyfer y 15 cyfnod amser blaenorol. Ar 24%, mae’r ffigur yr un fath â llynedd.

  • Plant yw'r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2015-16 a 2017-18 (ar 29%) ac mae hyn wedi bod yn wir ers peth amser. Mae hyn yn gynnydd o 28% a adroddwyd y llynedd, a’r trydydd tro mae’r ffigur wedi bod yn is na 30% ers y cyfnod hyd at 2005-06.

  • Rheswm posibl pam mai plant yw’r grŵp oedran sy'n fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol yw bod oedolion â phlant yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu mewn gwaith tâl isel oherwydd cyfrifoldebau gofal plant.

  • Roedd 23% o oedolion o oedran gweithio yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2015-16 a 2017-18.

  • Mae hyn i lawr o 24% a adroddwyd y llynedd. Mae'r ffigur wedi bod o gwmpas 21 i 23% ar gyfer y rhan fwyaf o'r cyfnodau amser ers diwedd y 1990au.

  • Roedd 19% o bensiynwyr yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2015-16 a 2017-18.

  • Gyda 19%, mae'r ffigur yn cynrychioli gostyngiad o 20% a adroddwyd y llynedd, ac mae'n dal yn is na'r hyn yr oedd drwy gydol y canol i ddiwedd y 1990au.

Dadansoddiad gan nodweddion economaidd, teuluol, ethnigrwydd ac anabledd

Canfyddiadau allweddol

  • Yr oedd pobl a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol ar rent yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol o’u gymharu â’r rheini oedd yn rhentu’n breifat neu’n perchen-feddianwyr.

  • Roedd byw mewn aelwydydd lle nad oedd neb yn gweithio yn cynyddu’r tebygrwydd o fyw mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer oedolion o oedran gweithio a phlant.

  • Roedd plant a oedd yn byw mewn teuluoedd un rhiant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r rheini a oedd yn byw mewn aelwydydd â chyplau.

  • Roedd y tebygolrwydd o fod mewn tlodi incwm cymharol yn uwch i’r plant hynny a oedd yn byw mewn cartref gyda thri neu mwy o blant wrth gymharu â rheini a oedd yn byw mewn cartrefi gyda llai nag tri phlentyn.

  • Roedd pobl a oedd yn byw mewn cartrefi lle’r oedd pennaeth yr aelwyd o grŵp ethnig heb fod yn wyn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol, o’i gymharu â’r rheini lle’r oedd pennaeth yr aelwyd o grŵp ethnig gwyn.

  • Roedd byw mewn aelwyd gyda pherson ag anabledd yn gwneud tlodi incwm cymharol yn fwy tebygol ar gyfer plant a phobl o oedran gweithio, ond nid ar gyfer pensiynwyr.

Ceir mwy o ddadansoddiad cryno gan nodweddion economaidd, teulu, ethnigrwydd ac anabledd yn ein cyflwyniadau ‘SlideShare’ o dan ‘adroddiadau’ isod.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Tlodi Incwm Cymharol gan wahanol nodweddion dros amser ar draws gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, Ebrill 2017 to Mawrth 2018: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 80 KB

ODS
80 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.