Ar gyfer y cyfnod hyd at Fawrth 2017 dadansoddi aelwydydd gydag incwm llai na 60% o ganolrif y DU, yn ôl nodweddion megis oedran, statws economaidd a math o deulu.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tlodi incwm cymharol
Prif ffigurau
Mae'r holl ffigurau yma yn ymwneud â thlodi incwm cymharol ar ôl talu costau tai megis taliadau llog ar forgeisi /rhent, ardrethi dŵr ac yswiriant adeiladau.
Canfyddiadau allweddol
- Roedd 24% o'r holl bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2014-15 a 2016-17 (cyfartaledd dros dair blwyddyn ariannol).
- Mae hyn i fyny o 23% rhwng 2013-14 a 2015-16, y gyfradd a fu am y 5 cyfnod amser blaenorol.
- Plant yw'r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2014-15 a 2016-17 (ar 28%) ac mae hyn wedi bod yn wir ers peth amser. Fodd bynnag, mae'r gyfradd wedi gostwng o 30% rhwng 2013-14 a 2015-16. Rheswm posibl pam mai plant yw’r grŵp oedran sy'n fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol yw bod oedolion â phlant yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu mewn gwaith tâl isel oherwydd cyfrifoldebau gofal plant.
- Bu'r ffigurau ar gyfer oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol yn eithaf cyson yn y blynyddoedd diwethaf, ond y mae wedi codi o 23% rhwng 2013-14 a 2015-16 i 24% rhwng 2014-15 a 2016-17.
- Bu’r cyfartaledd o bensiynwyr yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yn cynyddu am y 4 cyfnod diwethaf (yn cyrraedd 20% rhwng 2014-15 a 2016-17) ond y mae’n parhau dan yr hyn yr oedd yn y cyfnod rhwng canol a diwedd yr 1990au.
Dadansoddiad gan nodweddion economaidd, teuluol, ethnigrwydd ac anabledd
Canfyddiadau allweddol
- Yr oedd pobl a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol ar rent yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol o’u gymharu â’r rheini oedd yn rhentu’n breifat neu’n perchen-feddianwyr.
- Roedd byw mewn aelwydydd lle nad oedd neb yn gweithio yn cynyddu’r tebygrwydd o fyw mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer oedolion o oedran gweithio a phlant.
- Roedd plant a oedd yn byw mewn teuluoedd un rhiant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r rheini a oedd yn byw mewn aelwydydd â chyplau.
- Roedd y tebygrwydd o fod mewn tlodi incwm cymharol yn debyg i'r plant hynny oedd yn byw mewn cartref gydag un, dau a thri o blant yn byw ynddynt. Mewn cyfnodau blaenorol roedd plant mewn teuluoedd mwy (tri neu fwy) yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol.
- Roedd oedolion oedran gweithio a oedd yn byw mewn cartrefi lle'r oedd pennaeth yr aelwyd o grŵp ethnig heb fod yn wyn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol, o'i gymharu â'r rheini lle'r oedd pennaeth yr aelwyd o grŵp ethnig gwyn.
- Roedd byw mewn aelwyd gyda pherson ag anabledd yn gwneud tlodi incwm cymharol yn fwy tebygol ar gyfer plant a phobl o oedran gweithio, ond nid ar gyfer pensiynwyr.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Tlodi Incwm Cymharol gan wahanol nodweddion dros amser ar draws gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, Ebrill 2016 to Mawrth 2017 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 100 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.