Neidio i'r prif gynnwy

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i ymestyn y gwaharddiad ar smygu i gynnwys mannau awyr agored

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Drwy gryfhau'r gyfraith ynghylch smygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, bydd pobl nad ydynt yn smygu'n cael eu hamddiffyn rhag mwg ail-law, ac ni fydd plant a phobl ifanc yn gweld smygu fel peth normal. 

Er bod gan y rhan fwyaf o ysbytai bolisïau yn erbyn smygu ar eu tir eisoes, ar hyn o bryd mae'n anodd i'r staff orfodi’r gwaharddiad. 

Bu'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn ymweld ag uned famolaeth Ysbyty Glan Clwyd, lle dywedodd y staff wrtho eu bod wedi derbyn cwynion gan famau am bobl yn smygu y tu allan i'r ysbyty wrth iddynt gyrraedd a gadael yr ysbyty gyda'u babanod ifanc.

Mae Tîm Rheoli'r Ysbyty hefyd wedi cael cwynion am bobl yn smygu wrth y brif fynedfa newydd, ac wrth fynedfeydd eraill ar draws y safle.

Bydd y newidiadau hyn yn ei gwneud yn anghyfreithlon smygu ar dir ysbytai, gyda chefnogaeth gyfreithiol i ddirwyo smygwyr sy'n torri'r rheolau. Bydd hyn yn gwella'r amgylchedd i gleifion, ymwelwyr a staff.

Dywedodd Vaughan Gething:

"Rwy'n falch iawn bod Cymru'n parhau i arwain y Deyrnas Unedig yn ei hymdrechion i leihau nifer y bobl sy’n smygu ac atal pobl ifanc rhag dechrau smygu yn y lle cyntaf. 

"Mae agweddau at smygu wedi newid yn sylweddol ers 2007. Bryd hynny roedd rhywfaint o wrthwynebiad, ond mae'r diwylliant wedi newid yn rhyfeddol, ac rwy'n falch iawn bod ein cynllun i ymestyn ardaloedd di-fwg i gynnwys mannau cyhoeddus awyr agored wedi cael cefnogaeth sylweddol gan y cyhoedd.

"Dyma gam arall i'r cyfeiriad iawn i sicrhau nad yw smygu'n cael ei weld fel peth normal yng Nghymru."


Smygu sy'n cyfrannu fwyaf at y baich clefydau presennol yng Nghymru, gan achosi tua 5,450 o farwolaethau ac oddeutu £302m o wariant i'r GIG bob blwyddyn.

Mae cymorth ar gael i bobl sydd am roi'r gorau i smygu. Mae Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i helpu mwy o bobl i roi'r gorau i smygu drwy annog y defnydd o wasanaethau pwrpasol i'w cynorthwyo a chryfhau'r cyfeiriadau at y gwasanaethau hynny, yn arbennig ymysg grwpiau sy'n debygol iawn o smygu. 

Mae'r GIG yn cynnig cymorth a chyngor i bobl sydd am smygu drwy Helpa Fi i Stopio. 

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 

"Ddylai neb smygu mewn ysbyty, ac mae'r Bwrdd Iechyd yn benderfynol o greu amgylchedd di-fwg. Rydyn ni'n derbyn nifer o gwynion am bobl yn smygu o amgylch yr ysbyty, yn arbennig ger y brif fynedfa. Rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod ein safle'n ddi-fwg, gan helpu mwy o gleifion, ymwelwyr a staff i roi'r gorau i smygu."

Bydd y newidiadau i'r ddeddfwriaeth ddi-fwg yn cael eu cyflwyno dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, a basiwyd gan Aelodau'r Cynulliad llynedd.