Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

  • Cafodd 42,171 o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon eu cofnodi yng Nghymru. Mae hyn 6% yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, ac 20% yn fwy na 2018-19. 
  • Roedd newid blynyddol yn nifer y digwyddiadau tipio anghyfreithlon yn amrywio ledled Cymru. Adroddodd 10 awdurdod lleol ostyngiad a nododd 12 awdurdod lleol gynnydd.
  • Gwelwyd y cynnydd blynyddol mwyaf yng Ngwynedd (95%), Ynys Môn (55%) a Sir Ddinbych (46%). Yn ôl yr awdurdodau lleol, roedd hyn yn rhannol oherwydd gwell mecanweithiau adrodd. 
  • Gwelwyd y gostyngiadau blynyddol mwyaf mewn digwyddiadau tipio anghyfreithlon yng Ngheredigion (65%), Bro Morgannwg (52%), Castell-nedd Port Talbot a Phowys (26% ill dau).
  • Roedd 71% o'r digwyddiadau'n ymwneud â gwastraff cartref (bag du neu wastraff cartref arall).
  • Amcangyfrifwyd bod clirio tipio anghyfreithlon yng Nghymru yn costio £1.94 miliwn. [troednodyn 1]
  • Cafodd 25,454 o gamau gorfodi eu cymryd yng Nghymru. Mae hyn 7% yn llai na'r flwyddyn flaenorol. [troednodyn 2]
  • O'r 102 canlyniad i erlyniad, fe wnaeth 69% arwain at ddirwy.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r ffigurau hyn oherwydd: 

  • gwelliannau mewn prosesau cofnodi data a chanllawiau
  • effaith y pandemig coronafirws (COVID-19). Nid yw’n glir pa effeithiau sy’n rhai tymor byr a pha rai allai barhau dros y tymor hir, sy’n gwneud cymariaethau rhwng blynyddoedd yn anodd

Ceir gwybodaeth bellach yn yr adroddiad ansawdd

Troednodiadau

[1] Amcangyfrifir bod costau clirio yn seiliedig ar nifer y digwyddiadau a dorrwyd i lawr yn ôl maint. Nid yw'r wybodaeth hon yn cael ei chofnodi ar gyfer pob digwyddiad. Yn 2023-24, darparwyd gwybodaeth am faint ar gyfer 93% o ddigwyddiadau.

[2] Oherwydd COVID-19 gohiriwyd llawer o achosion cyfreithiol, gan arwain at gynnydd mawr mewn camau gorfodi a adroddwyd yn 2021-22. Felly mae disgwyl gostyngiad mewn camau gorfodi yn 2022-23 a 2023-24.

Gwybodaeth gefndir

Mae'r ystadegau yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol i’r gronfa ddata ‘Waste Data Flow’. Er y cofnodir rhai achosion, nid yw’r ystadegau yma yn cynnwys pob achos o dipio anghyfreithlon ar dir preifat, ac ni chofnodir pob digwydd tipio anghyfreithlon gydag awdurdod lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stuart Neil
E-bost: ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099