Crynodeb o achosion o dipio anghyfreithlon, camau gorfodi a chanlyniadau erlyn ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tipio anghyfreithion a gofnodwyd gan awdurdodau lleol
Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r ffigurau hyn oherwydd newidiadau parhaus a gwelliannau mewn prosesau cofnodi data a chanllawiau.
Mae'r cyfnod hwn yn cwmpasu'r prif gyfnod o gyfyngiadau yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19). Dylid cymryd gofal wrth gymharu canlyniadau 2021-21 â blynyddoedd blaenorol gan nad yw'n glir pa effeithiau sy'n rhai tymor byr oherwydd y pandemig a pha rai sy'n fwy hir dymor.
Ceir gwybodaeth bellach un yr adroddiad ansawdd.
Prif bwyntiau
- Cofnodwyd 41,333 o achosion o dipio yng Nghymru. Mae’r ffigur hwn 1% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol [troednodyn 1]. Yn dilyn uchafbwynt o bron i 62,000 o ddigwyddiadau yn 2007-08, gostyngodd y nifer yn raddol tan 2014-15, ond mae wedi cynyddu eto yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Roedd y newid blynyddol yn nifer yr achosion yn amrywio ar draws Cymru. Cofnododd 16 awdurdod lleol ostyngiad a 6 gynnydd.
- Cafwyd y cynnyddion blynyddol mwyaf yng Casnewydd, a Abertawe (87% a 26% yn y drefn honno). Yn ôl yr awdurdodau lleol, roedd hyn yn rhannol oherwydd mynediad cyfyngedig y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, ffigurau llwyth lluosog, a phrosesau cofnodi gwell.
- Cafwyd y gostyngiad blynyddol uchaf yn Gwynedd (46%) gyda gostyngiadau nodedig ym Wrecsam, Sir y Fflint, a Bro Morgannwg (41%, 38%, a 35% yn y drefn honno)
- Roedd 73% o achosion yn ymwneud â gwastraff cartref (bag du neu wastraff arall y cartref)
- Amcangyfrifir fod costau clirio tipio yng Nghymru tua £1.93 miliwn [troednodyn 2].
- Cymerwyd 29,820 o gamau gorfodi yng Nghymru; y nifer uchaf ers 2017-18.
- O’r camau 91 gorfodi a gymerwyd gan awdurdodau lleol, arweiniodd 82% at ddirwy.
Troednodiadau
[1] Yn dilyn eglurhad o ganllawiau ar dipio anghyfreithlon yn 2017, nid yw gwastraff ochr (gormod o wastraff a osodir wrth ymyl bin) bellach yn cael eu cofnodi fel digwyddiadau tipio anghyfreithlon.
[2] Mae costau clirio amcangyfrifedig yn seiliedig ar nifer yr achosion wedi'u cofnodi yn ôl maint. Ni chofnodir y wybodaeth hon ar gyfer pob digwyddiad. Yn 2021-22, darparwyd gwybodaeth am faint yr achos tipio ar gyfer 94% o achosion.
Gwybodaeth gefndir
Mae'r ystadegau yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol i’r gronfa ddata ‘Waste Data Flow’. Er y cofnodir rhai achosion, nid yw’r ystadegau yma yn cynnwys pob achos o dipio anghyfreithlon ar dir preifat, ac ni chofnodir pob digwydd tipio anghyfreithlon gydag awdurdod lleol.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.