Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o achosion o dipio anghyfreithlon, camau gorfodi a chanlyniadau erlyn ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Mae'r cyfnod hwn yn cwmpasu'r prif gyfnod o gyfyngiadau yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19). Dylid cymryd gofal wrth gymharu canlyniadau 2020-21 â blynyddoedd blaenorol gan nad yw'n glir pa effeithiau sy'n rhai tymor byr oherwydd y pandemig a pha rai sy'n fwy hir dymor.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r ffigurau hyn oherwydd newidiadau parhaus a gwelliannau mewn prosesau cofnodi data a chanllawiau.

Ceir gwybodaeth bellach un yr adroddiad ansawdd.

Prif bwyntiau

  • Cofnodwyd  41,071 o achosion o dipio yng Nghymru. Mae’r ffigur hwn 22.5% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol, ac yn debyg i’r nifer a gofnodwyd yn 2010-11(a).
  • Roedd y newid blynyddol yn nifer yr achosion yn amrywio ar draws Cymru. Cofnododd 6 awdurdod lleol ostyngiad a 16 gynnydd.
  • Cafwyd y cynnydd blynyddol mwyaf yng Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy a Sir y Fflint (154%, 78%, 63% a 55% yn y drefn honno). Mae’r cynnyddion yn rhannol oherwydd gwelliannau i’r broses o gofnodi achosion yn Wrecsam a Chonwy a’r heriau yn ymwneud â COVID-19 yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
  • Cafwyd y gostyngiad blynyddol uchaf yn yn Sir Benfro a Cheredigion (15% a 14% yn y drefn honno)
  • Roedd 73% o achosion yn ymwneud â gwastraff cartref (bag du neu wastraff arall y cartref)
  • Amcangyfrifir fod costau clirio tipio yng Nghymru tua £2.14 miliwn(b).
  • Cymerwyd 25,045 o gamau gorfodi yng Nghymru; y nifer isaf ers 2015-16.
  •  O’r camau gorfodi a gymerwyd gan awdurdodau lleol, arweiniodd 94% at ddirwy.

(a) Yn dilyn eglurhad o ganllawiau ar dipio anghyfreithlon yn 2017, nid yw gwastraff ochr (gormod o wastraff a osodir wrth ymyl bin)  bellach yn cael eu cofnodi fel digwyddiadau tipio anghyfreithlon.
(b) Mae costau clirio amcangyfrifedig yn seiliedig ar nifer yr achosion wedi'u cofnodi yn ôl maint. Ni chofnodir y wybodaeth hon ar gyfer pob digwyddiad. Yn 2020-21, darparwyd gwybodaeth am faint yr achos tipio ar gyfer 94% o achosion.

Gwybodaeth gefndir

Mae'r ystadegau yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol i’r gronfa ddata ‘Waste Data Flow’. Er y cofnodir rhai achosion, nid yw’r ystadegau yma yn cynnwys pob achos o dipio anghyfreithlon ar dir preifat, ac ni chofnodir pob digwydd tipio anghyfreithlon gydag awdurdod lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.