Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o achosion o dipio anghyfreithlon, camau gorfodi a chanlyniadau erlyn ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r ffigurau hyn oherwydd newidiadau a gwelliannau mewn prosesau cofnodi data a chanllawiau (gweler yr adroddiad ansawdd).

Prif bwyntiau

  • Cofnodwyd  35,076 o achosion o dipio yng Nghymru. Mae hyn 1% yn is na’r flwyddyn flaenorol, a’r ffigwr isaf ers 2014-15(1).
  • Roedd y newid blynyddol yn nifer yr achosion ar lefel awdurdod lleol yn amrywio, gyda 11 yn cofnodi cynnydd a 11 yn cofnodi gostyngiad.
  • Cafwyd y gostyngiad canrannol uchaf yn Sir Ddinbych (45%) gyda gostyngiadau nodedig yng Ngheredigion, Gwynedd a Sir Fynwy (35%, 30% a 29% yn y drefn honno).
  • Cafwyd y cynnydd canrannol mwyaf yn Sir y Fflint, Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot  (31%, 28% a 26% yn y drefn honno). Mae’r cynnydd yn rhannol oherwydd gwelliannau i’r broses o gofnodi achosion.
  • Roedd 71% o achosion yn ymwneud â gwastraff cartref (bag du neu wastraff arall y cartref).
  • Amcangyfrifir fod costau clirio tipio yng Nghymru tua £1.7 miliwn(2).
  • Cymerwyd 27,007 o gamau gorfodi yng Nghymru; y nifer isaf ers 2014-15.
  • O’r camau gorfodi a gymerwyd gan awdurdodau lleol, arweiniodd 89% at ddirwy.

(1) Yn dilyn eglurhad o ganllawiau ar dipio anghyfreithlon yn 2017, nid yw gwastraff ochr (gormod o wastraff a osodir wrth ymyl bin) bellach yn cael eu cofnodi fel digwyddiadau tipio anghyfreithlon.
(2) Mae costau clirio amcangyfrifedig yn seiliedig ar nifer yr achosion wedi'u cofnodi yn ôl maint. Ni chofnodir y wybodaeth hon ar gyfer pob digwyddiad. Yn 2018-19, darparwyd gwybodaeth am faint yr achos tipio ar gyfer 94% o achosion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.