Mae'r data yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau, camau gorfodi a chanlyniadau achosion o erlyn ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tipio anghyfreithion a gofnodwyd gan awdurdodau lleol
Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r ffigurau hyn oherwydd newidiadau a gwelliannau mewn prosesau cofnodi data a chanllawiau (gweler yr Adroddiad Ansawdd).
Prif bwyntiau
- Yn ystod 2017-18, cofnodwyd 35,434 o achosion o dipio anghyfreithlon gan awdurdodau lleol yng Nghymru, lleihad o tua 3,200 o achosion (8%). Mae hyn yn cymharu â chynnydd blynyddol o 6% rhwng 2015-16 a 2016-17. Cyn hyn, gostyngodd nifer yr achosion yn gyson o uchafswm o bron 62,000 yn 2007-08 i tua 31,700 yn 2014-15. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r ffigurau hyn gan fod newidiadau yn ganlyniad i welliannau mewn prosesau cofnodi data, canllawiau yn ogystal â mentrau newydd. Er enghraifft, mae'r gostyngiad blynyddol diweddar yn rhannol oherwydd newidiadau mewn gweithdrefnau cofnodi mewn un awdurdod lleol. (1)
- Roedd y newid blynyddol yn nifer yr achosion ar lefel awdurdod lleol yn amrywio, gyda'r cynnydd canrannol uchaf yn Sir Gaerfyrddin (70%) a Phowys (42%). Mae’r cynnydd oherwydd gwelliannau i’r broses o gofnodi achosion, cofnodi mwy rhagweithiol o ddigwyddiadau, staff ychwanegol a mentrau newydd. Cafwyd y gostyngiad canrannol mwyaf yn Abertawe (52%)(1) a Bro Morgannwg (35%).
- Gostyngodd nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon ar dir briffordd (priffyrdd cyhoeddus neu heolydd) i ychydig dros 19,000 o achosion. Cofnodwyd mwyafrif yr achosion (54%) ar y math yma o dir yn ystod 2017-18.
- Gostyngodd y ganran o achosion o dipio anghyfreithlon sy’n cynnwys gwastraff cartref i 68% yn 2017-18, o 70% yn 2016-17.
- Cafwyd gostyngiad yn y gost o glirio tipio anghyfreithlon o £2.2 miliwn yn 2016-17 i £1.9 miliwn yn 2017-18.
- Yn ystod 2017-18 cymerwyd 35,136 o gamau gorfodi yng Nghymru; lleihad o’r 37,594 a gymerwyd yn 2016-17. O’r camau gorfodi a gymerwyd gan awdurdodau lleol, arweiniodd 80% at ddirwy.
(1) Yn dilyn eglurhad o ganllawiau ar dipio anghyfreithlon yn 2017, nid yw gwastraff ochr (gormod o wastraff a osodir wrth ymyl bin) bellach yn cael eu cofnodi fel digwyddiadau tipio anghyfreithlon.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.