Neidio i'r prif gynnwy

Eleni, bydd timau o Gymru yn cystadlu yn nhwrnamaint Cwpan y Byd i'r Digartref, diolch i £10,000 gan Lywodraeth Cymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod elusen cynhwysiant cymdeithasol Pêl-droed Stryd Cymru yn gallu anfon tîm menywod a thîm dynion i'r gystadleuaeth yn Oslo yr haf hwn.

Daw'r cyhoeddiad wrth i'r elusen gymryd rhan heddiw mewn gêm arddangos ar faes chwarae sy'n nofio ar y dŵr yn Roald Dahl Plass i nodi cynnal ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd. 

Mae cystadleuaeth Cwpan y Byd i'r Digartref yn dwrnamaint a drefnir gan y sefydliad Cwpan y Byd i'r Digartref sy'n ymgyrchu i ddod â digartrefedd i ben drwy ddenu pobl i chwarae pêl-droed.  

Bydd twrnamaint 2017, sef y 15fed tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal, yn digwydd yn Oslo, Norwy rhwng 29 Awst a 5 Medi 2017. Disgwylir i oddeutu 70 o wledydd a thros 750 o chwaraewyr gymryd rhan ynddo. 

Mae Pêl-droed Stryd Cymru, a gynhelir gan Grŵp Pobl, yn rhedeg cynghrair pêl-droed i ddynion a menywod ledled Cymru, a chynrychiolwyr o'r cynghrair hwn yw aelodau'r timau sy'n cynrychioli Cymru yn y twrnamaint. 

Dywedodd Michael Sheen OBE, noddwr Pêl-droed Stryd Cymru: 

"Mae'n wych bod Llywodraeth Cymru wedi ymuno â thîm elusen Pêl-droed Stryd Cymru, a'i bod hi, a'r partneriaid eraill, yn cefnogi'r chwaraewyr i fynd yr holl ffordd yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd i'r Digartref yn Oslo! Mae’r tîm yn gweithio mor galed i godi arian i gystadlu yn y twrnamaint bob blwyddyn, a bydd y grant hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr. Bydda' i yno'n gweiddi anogaeth, a dw i'n gobeithio y bydd pawb yng Nghymru yn dangos eu cefnogaeth i'n timau cenedlaethol yng Nghwpan y Byd i'r Digartref!"  

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 

“Cefais gyfle i gyfarfod ag elusen Pêl-droed Stryd Cymru yn ddiweddar, a gweld y gwahaniaeth y mae ei phrosiectau'n gallu ei wneud i fywydau pobl, nid yn unig o ran eu hiechyd a'u llesiant, ond hefyd o ran hunan hyder a datblygiad personol.

“Gwnes ymrwymiad y byddem yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r elusen i anfon timau i gystadleuaeth Cwpan y Byd i'r Digartref, a dyna pam dw i mor falch o allu cyhoeddi'r cyllid hwn heddiw. Dw i'n siŵr y bydd y timau'n gwneud gwaith gwych wrth gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd, a hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddyn nhw.” 

Dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: 

“Dw i wrth fy modd o glywed ein bod yn gallu anfon timau i gystadleuaeth Cwpan y Byd i'r Digartref, diolch i Lywodraeth Cymru. Mae Pêl-droed Stryd Cymru yn gwneud gwaith hynod o bwysig drwy wella bywydau pobl sy'n gallu dioddef allgáu cymdeithasol am eu bod yn ddigartref.  Mae cael cartref yn rhoi ymdeimlad o berthyn a lles emosiynol i bobl. Dyna pam mae darparu cartrefi diogel a chlyd ar gyfer pobl yn dal i fod yn un o'm prif flaenoriaethau. Rwy'n dymuno'n dda i'r timau yn y gemau hyn.”

Dywedodd Keri Harris, Arweinydd Prosiect gyda'r elusen Pêl-droed Stryd Cymru: 

"Mae Pêl-droed Stryd Cymru yn gwneud gwahaniaeth sy'n newid bywydau cannoedd o bobl agored i niwed ym mhob rhan o Gymru. Mae cynrychioli Cymru yn y twrnamaint hwn yn uchelgais sy'n gyffredin i'n holl chwaraewyr. Mae'r grant yn sicrhau bod mynd â thîm dynion a thîm menywod i Oslo wedi dod yn realiti cyffrous a fydd yn ysbrydoli pobl ledled Cymru."