Neidio i'r prif gynnwy

Tim Peake yn ymuno â Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gyhoeddi £7.2m i annog merched i astudio pynciau STEM

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymunodd y gofodwr â'r Gweinidog mewn digwyddiad a drefnwyd gan Prince's Trust Cymru yn y Tramshed. Cawsant gwrdd â phobl ifanc sy'n cymryd rhan yn rhaglenni'r elusen ieuenctid sy'n ymwneud â phynciau STEM. Cyhoeddodd y Gweinidog fuddsoddiad o £7.2m, gan gynnwys £5.2m o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, ar gyfer dau brosiect tebyg. Dyfarnwyd £1.4m o gyllid yr UE i brosiect STEM Gogledd Cyngor Gwynedd, a £3.8m o'r UE i brosiect Technocamps 2 Prifysgol Abertawe.

Bydd y ddau brosiect yn helpu i sicrhau bod pobl ifanc, yn enwedig merched a menywod ifanc, yn parhau â'u hastudiaethau mewn pynciau STEM i lefel TGAU a thu hwnt, gyda'r nod o ddilyn gyrfa yn y meysydd hynny.

Dros y pedair blynedd nesaf, bydd STEM Gogledd yn gweithio gyda 600 o bobl ifanc, 60% ohonynt yn ferched, er mwyn cyfoethogi a hyrwyddo pynciau STEM drwy amrywiol weithgareddau sy'n ategu cwricwlwm y brif ffrwd yn ysgolion Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy.

Bydd Technocamps 2 yn gweithio gyda 3,600 o bobl ifanc ar draws y Gorllewin, y Gogledd a Chymoedd y De. Bydd dwy ran o dair ohonynt yn ferched. Bydd yn targedu ysgolion uwchradd nad ydynt ar hyn o bryd yn cynnig cyfrifiadureg fel opsiwn TGAU, neu lle mae'r pwnc ond newydd ei gyflwyno. Bydd y prosiect yn galluogi disgyblion yr ysgolion hyn i gymryd rhan mewn gweithdai er mwyn adeiladu ar yr wybodaeth sydd ganddynt eisoes a'u brwdfrydedd dros TG a chyfrifiadureg.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd y Gweinidog:

"Mae'n bleser cael sefyll ochr yn ochr â Tim Peake heddiw a chyhoeddi buddsoddiad mor bwysig, a fydd yn helpu i feithrin sgiliau ein pobl ifanc er mwyn sbarduno economi Cymru.

"Mae'n rhaid i Gymru fod yn genedl sy'n ymwneud â phynciau STEM os ydyn ni i ddatblygu economi agored, ddeinamig, fodern y bydd pawb yng Nghymru yn elwa arni. Mae graddfa a natur y newidiadau sy'n digwydd yn dechnolegol yn cynyddu'n ddramatig ac, er mwyn sicrhau gweithlu medrus sy'n gallu manteisio ar hynny, mae'n hanfodol bod mwy o'n pobl ifanc yn dewis astudio pynciau STEM i safon ddigon uchel. Er bod hyn yn gryn her o ran bechgyn a merched, mae'n llawer anoddach yn achos merched.

"Dyna pam fy mod i'n ddiolchgar i sefydliadau fel Prince's Trust am eu rhaglenni arloesol ac i unigolion fel Tim y gall pobl ifanc eu hefelychu. Maen nhw mor ddylanwadol wrth hyrwyddo pynciau STEM. Roedd taith Principia Tim yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth gyfan ac yn dangos pa mor bell, yn llythrennol, y gall gwyddoniaeth fynd â chi.

"Ond allwn ni ddim dibynnu ar bobl fel Tim yn unig. Mae'n rhaid inni i gyd chwarae ein rhan yn yr ymdrech i ysgogi diddordeb yn y pynciau hollbwysig hyn er mwyn sicrhau'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol meysydd STEM yng Nghymru. Dyna pam fy mod i mor falch o gael cyhoeddi'r buddsoddiad hwn o £7.2m, £5.2m ohono o'r UE, ar gyfer STEM Gogledd a Technocamps. Mae hon yn enghraifft wych o'r ffordd y mae cyllid yr UE yn gallu creu brwdfrydedd a chyffro ymhlith pobl ifanc, yn enwedig merched, am y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw."

Dywedodd Philip Jones, Cyfarwyddwr Prince's Trust Cymru:

"Rydyn ni wrth ein bodd bod Tim Peake wedi gallu ymuno â ni a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd pynciau STEM i'r byd addysg yng Nghymru heddiw. Yn Prince's Trust Cymru, rydyn ni'n credu y dylai pob person ifanc gael y cyfle i lwyddo, ac rydyn ni'n credu y bydd ymrwymiad diweddaraf Llywodraeth Cymru i weithgarwch STEM yn helpu i weddnewid mwy o fywydau ifanc yng Nghymru."