Neidio i'r prif gynnwy

Codi ymwybyddiaeth o stereoteipiau rhywedd ac anghydraddoldebau - #DymaFi

Ni ddylai pobl ledled Cymru ofni gwneud y pethau y maen nhw am eu gwneud oherwydd eu rhywedd

Mae rhai pobl yn dal i feddwl y dylai dynion a menywod ymddwyn mewn ffyrdd penodol – gelwir hynny'n stereoteipio ar sail rhywedd. Mae stereoteipio ar sail rhywedd yn rhoi pwysau ar bobl i ymddwyn yn y ffordd y gall pobl ddisgwyl iddyn nhw ymddwyn ynddi.

Ni ddylai rhywedd effeithio ar eich galwedigaeth.

Mae gennych eich set unigryw eich hunain o sgiliau, a dyna beth ddylai bennu'r yrfa yr ydych am ei dilyn. Mae'n bwysig eich bod chi'n teimlo'n iawn am yr yrfa yr ydych chi'n ei dewis, hyd yn oed os yw hynny'n herio stereoteipiau rhywedd.

Ni ddylai rhywedd effeithio ar y golwg yr ydych chi'n ei ddewis i'ch hunan.

Dylai pawb fod yn rhydd i bortreadu ei hunain fel y dymunan nhw. Ni ddylai neb fod o dan bwysau cymdeithasol i gael golwg penodol.

Ni ddylai plant orfod poeni am stereoteipiau rhywedd.

Mae plant yn dysgu drwy ddilyn ein hesiamplau, a hefyd yn dysgu oddi wrth ei gilydd. Dylen nhw weld y gall dynion a menywod fod yn rhieni cystal â'i gilydd, ac mai rhywbeth i'w chwarae ag e a chael hwyl ag e yw tegan, ni waeth beth yw e.

Ni ddylen ni gael disgwyliadau am y ffordd y mae dynion a menywod yn ymddwyn.

Mae menywod yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol ar sail normau o ran rhywedd yn ein cymdeithas. Gallai disgwyliadau gwrywaidd gynnwys fod yn galed, yn ymosodol, yn awdurdodol a gallu rheoli. Gallai disgwyliadau benywaidd gynnwys fod yn emosiynol, gofalgar, sensitif ac yn ofnus.

Mewn perthynas agos, gall ymddygiadau gwrywaidd ar eu ffurf fwyaf eithafol, fynd yn ymddygiad sy'n rheoli drwy gam-drin emosiynol, neu ymddygiad camdriniol a threisgar. Gallai hynny achosi i nodau ymddygiad benywaidd, fel bod yn dawel a dihyder, ddod i'r amlwg fwy.

Dewch i wybod beth y mae 'Dyma fi' yn ei olygu

Beth y gallwch chi ei wneud i helpu i leihau achosion o stereoteipio ar sail rhywedd

Defnyddiwch #DymaFi a #BywHebOfn ar Facebook a Twitter fel y gallwch chi rannu â ni:

  • eich profiad o stereoteipio ar sail rhywedd
  • y ffordd y mae eich golwg ar fywyd, eich swydd, neu eich ffordd o wisgo'n herio stereoteipiau rhywedd.