Gyda’r tymor ysgol newydd ar fin dechrau, mae teuluoedd ledled Cymru yn cael eu hannog i ystyried y gwahanol opsiynau cludiant sydd ar gael ar gyfer disgyblion sy’n dychwelyd i’r ysgol o’r wythnos nesaf.
Mae disgyblion a myfyrwyr sy’n bwriadu teithio i’r ysgol neu golegau ac yn ôl ar wasanaethau cludiant cyhoeddus rheolaidd hefyd yn cael eu hannog i feddwl am eraill ac i ymddwyn yn gyfrifol wrth deithio. Yn y cyfamser, mae defnyddwyr eraill trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu hannog i geisio osgoi teithiau nad ydynt yn hanfodol oddeutu dechrau a diwedd y diwrnod ysgol er mwyn sicrhau bod digon o gapasiti ar gyfer y teithwyr ifanc.
Bydd disgyblion yng Nghymru yn dechrau dychwelyd ar gyfer dechrau y tymor newydd ddydd Mawrth 1 Medi, gyda cyfnod o bythefnos i ysgolion gwblhau eu cynlluniau. Bydd pob disgybl yn dychwelyd ddydd Llun 14 Medi.
Dros fisoedd yr haf bu Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad cynlluniau cludiant ‘yn ôl i’r ysgol’ gydag awdurdodau lleol, sy’n gyfrifol am asesu anghenion dysgwyr a darparu cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer disgyblion cymwys.
Mae canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a cholegau AB yn cael eu diwygio i’w wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiadau risg o’u hystadau i benderfynu a ddylid argymell gorchuddion wyneb ar gyfer eu staff a’r bobl ifanc mewn lleoliadau cymunol, sy’n cynnwys cludiant benodol i’r ysgol a’r coleg.
Roedd disgwyl i unrhyw berson ifanc dros 11 sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd wisgo gorchudd wyneb eisoes yn unol â Rheoliadau.
Gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn wynebu colledion refeniw enfawr ers y cyfyngiadau symud oherwydd Covid, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol dros y misoedd diwethaf i helpu cwmnïau i oroesi.
Ar 11eg Awst, cafodd £10 miliwn ei ymrwymo i helpu’r diwydiant bysiau gael mwy o deithwyr i’r ysgol, y coleg a’r gwaith, gan adeiladu ar becynnau cyllido blaenorol ar gyfer bysiau a threnau. Ar yr un diwrnod, cyhoeddodd hefyd ganllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion, gan gynnwys canllawiau ar gludiant.
Mae’r cyllid hwn wedi galluogi awdurdodau lleol i ychwanegu at y gwasanaethau rheolaidd oedd yn bodoli eisoes gyda bysiau ychwanegol i gludo disgyblion a myfyrwyr pan fo angen a phan fo hynny yn briodol.
Yn gynharach eleni cefnogodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth alwad o dan arweiniad Sustrans Cymru i rieni adael eu ceir gartref wrth fynd â’u plant i’r ysgol, a’u hannog i deithio mewn ffyrdd gwyrddach, iachach.
Mae hyn yn dilyn buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl yn hytrach i gerdded a beicio i’r ysgol. Ym mis Mehefin, cyhoeddwyd pecyn cyllido gwerth £15.4 miliwn ar gyfer teithio ‘heb Covid’ a fyddai’n gwneud gwahaniaeth yn y tymor byr, £2 filiwn ohono’n benodol ar gyfer cynlluniau ger ysgolion.
Meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth:
Nid oes dull addas i bawb o ran cludiant i’r ysgol, a bydd gan deuluoedd amrywiol amgylchiadau i’w hystyried.
Mewn nifer o ardaloedd o Gymru, gallai fod yn fwy priodol i gerdded neu feicio i’r ysgol. Mae manteision i hyn o ran ansawdd yr aer a iechyd y cyhoedd, ac mae’n cynnwys teithio llesol yn ein diwylliant yn yr hirdymor.
Ble nad yw hyn yn bosibl ar hyn o bryd, bydd disgyblion yn defnyddio cludiant i’r ysgol a dulliau eraill o drafnidiaeth. Rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus i helpu i gynnal cwmnïau, ond ni allwn ddianc rhag y ffaith bod y coronafeirws wedi achosi tarfu sylweddol.
Rydyn ni wedi cydweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, Conffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr a chwmnïau bysiau i sicrhau bod cymaint o drafnidiaeth â phosibl yn rhedeg.
Rydyn ni’n dechrau tymor newydd mewn amgylchiadau dieithr ac felly mae’n hanfodol bod teuluoedd yn ystyried yr opsiynau gorau sydd ar gael iddyn nhw.
Dywedodd Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr, Stagecoach yn ne Cymru:
Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Awdurdodau Lleol yn ne ddwyrain Cymru, bydd Stagecoach yn darparu 50 o fysiau pwrpasol ychwanegol ar gyfer ysgolion a cholegau gan ddarparu capasiti ychwanegol i ddisgyblion a myfyrwyr o fis Medi. Yn ogystal â hyn, bydd Stagecoach yn dychwelyd hyd at 70 o fysiau eraill i wasanaeth cyffredinol o 7 Medi ymlaen gan ddarparu mwy o gapasiti i deithwyr ar draws y rhwydwaith bysiau lleol.
Mae ystod o fesurau wedi'u rhoi ar waith i helpu pobl i deimlo'n ddiogel a hyderus wrth ddefnyddio gwasanaethau Stagecoach. Anogir teithwyr i brynu eu tocynnau ar-lein ymlaen llaw ar wefan Stagecoach a gellir prynu tocynnau symudol ar App Stagecoach. Mae taliadau di-gyswllt ar gael ar y cerbydau yn ogystal â pholisi prisiau union er mwyn lleihau’r angen i ddelio gydag arian parod.