Mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru o fudd i deuluoedd incwm isel trwy roi rhagor o arian yn ôl yn eu pocedi a’u galluogi i fanteisio ar fwy o gyfleoedd gwaith neu hyfforddiant.
Mae’r ymchwil ar flwyddyn weithredol gynta’r cynnig yn dangos bod 80% o’r rhieni sy’n ennill yr incwm isaf ym mhob aelwyd, ac sy’n manteisio ar y cynnig, yn ennill llai na’r cyflog cyfartalog yng Nghymru. O’r rhieni a holwyd, dywedodd 88% fod ganddynt fwy o incwm gwario ar ôl defnyddio’r cynnig gofal plant, ac roedd 67% yn dweud bod y cynnig wedi rhoi mwy o gyfleoedd iddyn nhw gynyddu eu henillion yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan y Llywodraeth i rieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair oed, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae’r cynnig gofal plant yn cael ei gyflwyno fesul cam ledled Cymru ar hyn o bryd, ac ar gael mewn o leiaf rhai ardaloedd yn hanner y 22 o awdurdodau lleol y wlad. Bydd ar gael i Gymru gyfan erbyn 2020.
Mae dros 3,300 o blant wedi elwa ar gynnig gofal plant arloesol Llywodraeth Cymru ym mlwyddyn gynta’r cynllun.
Cafodd Ymchwil Arad, mewn partneriaeth â NatCen Social Research, eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2017 i gynnal gwerthusiad annibynnol o flwyddyn gyntaf gweithredu cynnar y Cynnig Gofal Plant yng Nghymru.
Dengys yr arolwg bod:
- 60% o’r holl rieni a fanteisiodd ar y Cynnig (ac 80% o’r rhai sy’n ennill y cyflog lleiaf ar yr aelwyd) yn ennill cyfwerth neu lai nag enillion canolrifol y boblogaeth yng Nghymru;
- dywedodd 67% eu bod yn cael mwy o hyblygrwydd yn y mathau o waith maen nhw’n ei wneud a’u horiau gwaith hefyd; a dywedodd 60% eu bod wedi cael rhagor o gyfleoedd i hyfforddi;
- roedd defnyddio’r cynnig wedi annog 40% o’r rhieni a holwyd i fanteisio ar fwy o oriau gofal plant ffurfiol, a dywedodd 16% eu bod bellach yn defnyddio llai o ofal plant anffurfiol a mwy o ofal plant ffurfiol
Meddai Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant:
“Mae’n wych gweld pa mor dda mae ein cynnig gofal plant arloesol yn cael ei dderbyn gan deuluoedd ar hyd a lled Cymru.
“Rwy’n arbennig o falch bod y cynnig o fudd i deuluoedd incwm isel, gan roi mwy o arian yn eu pocedi a’u caniatáu i dderbyn mwy o waith neu hyfforddiant.
“Mae hynny nid yn unig yn dda i economi Cymru, ond hefyd yn lleihau’r straen ar incwm teuluoedd.”