Neidio i'r prif gynnwy

Daw rheolau newydd i rym ddydd Llun i’w gwneud yn haws i deulu a ffrindiau gwrdd yn yr awyr agored. Dyna oedd cyhoeddiad y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw wrth iddo amlinellu newidiadau pellach i’r rheoliadau coronafeirws yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw’r pecyn diweddaraf o newidiadau yn dilyn chweched adolygiad y rheoliadau coronafeirws ac maent yn canolbwyntio ar alluogi ffrindiau a theulu i gwrdd yn yr awyr agored a galluogi mwy o fusnesau i agor dan do.

Bydd y Prif Weinidog yn egluro bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymestyn nifer y bobl sy'n gallu cwrdd y tu mewn, ond bydd hyn yn dibynnu ar bobl yn parhau i ddilyn rheolau a lefelau coronafeirws yng Nghymru.

Bydd hefyd yn annog pobl i ddilyn y rheolau a chanllawiau newydd i helpu i ddiogelu Cymru a rheoli lledaeniad coronafeirws yn dilyn tueddiadau gofidus ar draws Ewrop.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rydym yn dod i arfer â byw ochr yn ochr â coronafeirws ond ni ddylem anghofio’r perygl a ddaw yn ei sgil. Mae’n haint angheuol ac nid yw’r risg i’n hiechyd wedi diflannu – fel y gwelwn mewn rhannau o Ewrop lle bu achosion newydd a lle cyflwynwyd mesurau newydd i reoli ei ledaeniad.

“Mae cyfraddau’r feirws yng Nghymru yn dal i fod yn isel, gan ein galluogi i lacio’r cyfyngiadau ymhellach dros yr wythnosau nesaf. Ond dim ond os yw pawb yn dal i gymryd camau i ddiogelu eu hunain a’r rhai sy’n agos atynt y gallwn wneud hyn.

“Mae’n rhaid i fusnesau gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r feirws yn eu heiddo. Maent wedi gweithio’n galed iawn i roi mesurau ar waith i ddiogelu staff a chwsmeriaid. Ac mae’n rhaid i bob un ohonom wneud ein rhan hefyd drwy gydymffurfio â’r rhain a chadw pellter pan fyddwn ni’n gadael ein cartref ac yn cwrdd ag eraill.

“O ran y lleiafrif bychan sydd ddim yn dilyn y rheolau – byddwn yn gweithredu. Rydym yn gweithio gyda’n hawdurdodau gorfodi yma yng Nghymru i sicrhau bod ganddynt y pwerau a’r adnoddau angenrheidiol. Rwyf eisiau gwneud yn siŵr y cedwir at yr holl fesurau sydd wedi’u datblygu i’n diogelu ni.”

Gwneir cyfres o newidiadau i’r rheoliadau coronafeirws dros y tair wythnos nesaf:

O 3 Awst:

  • Bydd y cyfyngiadau sy’n atal mwy na dwy aelwyd neu ddwy aelwyd estynedig rhag cwrdd yn yr awyr agored yn newid i ganiatáu i hyd at 30 o bobl gwrdd yn yr awyr agored. Rhaid cadw pellter corfforol bob amser.
  • Caiff tafarndai, bariau, bwytai a chaffis ailagor dan do, yn ogystal ag aleau bowlio, ystafelloedd ocsiwn a neuaddau bingo dan do.
  • Caiff lleoliadau priodas trwyddedig ailagor i gynnal seremonïau priodas hefyd. Ond ni chaniateir cynnal derbyniadau dan do ar hyn o bryd – bydd y rhain yn cael eu hystyried fel rhan o’r newidiadau ar 15 Awst.
  • Bydd y canllawiau’n cael eu diweddaru i lacio’r gofyniad i blant o dan 11 oed orfod cadw pellter oddi wrth ei gilydd ac oddi wrth oedolion. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dystiolaeth wyddonol sy’n dangos bod y risg o drosglwyddo’r haint yn is yn y grŵp oedran hwn. Ond mae’n bwysig iawn bod plant hŷn ac oedolion ifanc yn dal i gadw pellter cymdeithasol a chadw at y mesurau eraill i’w cadw yn ddiogel.

Os yw’r amodau’n dal i fod yn ffafriol, o 10 Awst:

  • Caiff pyllau nofio, ystafelloedd ffitrwydd dan do, campfeydd, sbas a chanolfannau hamdden dan do ailagor.
  • Caiff ardaloedd chwarae dan do i blant ailagor.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried a yw’n bosibl gwneud newidiadau i’r rheolau sy’n galluogi pobl i gwrdd dan do gyda phobl eraill nad ydynt yn rhan o’u haelwyd neu aelwyd estynedig o 15 Awst.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru rydym wedi gallu rheoli lledaeniad y feirws a llacio’r cyfyngiadau. Dim ond os yw pawb yn dal ati gyda’r gwaith caled hwn y gallwn barhau i’w llacio.

“Os byddwn yn rhoi’r gorau iddi yn awr, mae perygl gwirioneddol y gwelwn ni achosion newydd o coronafeirws ac efallai y bydd rhaid inni roi rhai o’r cyfyngiadau ar waith unwaith eto i reoli ei ledaeniad.

“Rydym yn wynebu’r tebygolrwydd y bydd cynnydd pellach mewn achosion o’r feirws dros yr hydref a’r gaeaf – ni fydd hyn drosodd erbyn y Nadolig. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddal i ddiogelu Cymru. Mae hyn yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo yn aml ac ystyried yn ofalus lle yr ydym yn mynd, beth yr ydym yn ei wneud a pham.”