Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (Deddf “SCME”) yn newid y system etholiadol ar gyfer etholiadau'r Senedd o fis Ebrill 2026 ymlaen. Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion ar gyfer terfynau ar wariant ymgyrchoedd etholiadol ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig mewn perthynas ag etholiadau'r Senedd lle y mae darpariaethau'r Ddeddf SCME yn gymwys. Mae'r newidiadau a wneir gan y ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol pennu terfynau newydd ar gyfer gwariant etholiadau i adlewyrchu'r symudiad i etholaethau amlaelod, a dileu rhanbarthau etholiadol. Mae'r cynigion yn ceisio mapio'r terfynau presennol ar y system etholiadol newydd.

Beth sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad hwn?

Bydd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn newid y system etholiadol y cynhelir etholiadau'r Senedd o dani ar gyfer pob etholiad o fis Ebrill 2026 (mae etholiad nesaf y Senedd wedi'i drefnu ar gyfer 7 Mai 2026).

Mae'r system etholiadol flaenorol (“y system aelodau ychwanegol”) y darperir ar ei chyfer yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 yn defnyddio'r system aelodau ychwanegol, sy'n golygu bod gan bob etholwr ddwy bleidlais: un bleidlais mewn un etholiad etholaethol, a gynhelir dan y system etholiadol cyntaf i'r felin, ac un bleidlais mewn un etholiad rhanbarthol, a gynhelir o dan system rhestr gaeedig sydd yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol. Caiff pleidiau gyflwyno rhestrau gydag uchafswm o 12 ymgeisydd ar gyfer pob rhanbarth y maent yn ei ymladd. Mae 40 o etholaethau yn ethol yn ffurfiol un aelod yr un a phum rhanbarth yn ethol yn ffurfiol pedwar aelod yr un. Mae dyraniad y seddi rhanbarthol yn cymryd i ystyriaeth nifer y seddi etholaethol y mae pob plaid wedi'u hennill ar draws y rhanbarth hwnnw.

Bydd Deddf SCME yn newid system etholiadol y Senedd i un gwbl gyfrannol lle y caiff pob aelod ei ethol ar yr un sail drwy restrau caeedig (“y system newydd”). Caiff pleidiau gyflwyno rhestrau gydag uchafswm o wyth ymgeisydd ym mhob etholaeth y maent yn ei hymladd. Mae gan bob etholwr un bleidlais mewn un etholiad etholaethol. Bydd 16 o etholaethau, pob un ohonynt yn ethol chwech. 

Mae treuliau etholiad yn dreuliau yr eir iddynt i gefnogi plaid wleidyddol gofrestredig neu ymgeisydd yn ystod y cyfnod wedi'i reoleiddio sy'n arwain at etholiad. Llywodraethir treuliau o'r fath gan ystod o reolau, gan gynnwys mewn perthynas â phwy a all fynd i wariant o'r fath, beth y gellir ei wario arno, rheolau adrodd manwl a therfynau ar faint y gellir ei wario yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'r terfynau gwario yr ydym yn gofyn amdanynt yn yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'r gwariant y mae'r pleidiau neu'r ymgeiswyr hynny wedi'u codi eu hunain ac nid ydynt yn ymwneud ag arian cyhoeddus.

Mae terfynau treuliau etholiadau o dan y system aelodau ychwanegol yn wahanol rhwng etholiadau etholaethol ac etholiadau rhanbarthol. Mae terfynau ar wahân yn bodoli ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll dros blaid mewn etholaethau, pleidiau sy'n sefyll ymgeiswyr mewn etholaethau, a phleidiau sy’n sefyll rhestrau mewn rhanbarthau. Mae'r newid yn y system etholiadol, lle mae ymgeiswyr yn sefyll ar restr plaid yn unig, yn golygu na fydd y terfynau ar wahân hyn yn gwneud synnwyr bellach.

Mae adran 21 o Ddeddf SCME yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau “i osod y terfynau sy’n gymwys i wariant ymgyrch yr eir iddo gan neu ar ran plaid gofrestredig sy’n ymladd un neu ragor o etholaethau mewn etholiad cyffredinol”.

Mae treuliau etholiadol pleidiau yn cael eu rheoleiddio gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“PPERA”). Bydd y rheoliadau y caiff Gweinidogion Cymru eu gwneud i osod terfynau ar wariant ymgyrchu yn diwygio'r Ddeddf honno. Dim ond ar argymhelliad y Comisiwn Etholiadol y gellir gwneud rheoliadau o’r fath.

Beth nad yw'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin ag ef?

Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, a elwir “y Gorchymyn Cynnal Etholiadau” yn rheoleiddio cynnal etholiadau'r Senedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dirymu'r Gorchymyn Cynnal Etholiadau presennol ac ail-wneud Gorchymyn Cynnal Etholiadau newydd cyn etholiadau arfaethedig y Senedd yn 2026. Bydd hyn yn gwneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn i etholiadau weithio yn y dyfodol o dan y system newydd, yn ogystal â chaniatáu ar gyfer Gorchymyn Cynnal Etholiadau modern a chwbl ddwyieithog.

Bydd y Gorchymyn Cynnal Etholiadau newydd yn ymdrin â nifer o feysydd polisi sy'n ymwneud â threuliau etholiadau a bydd ymgynghoriad ar wahân ar y rhain yn yr Hydref 2024. Mae'r meysydd hyn yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, ond y bwriad yw ymgynghori ar y cynigion cysylltiedig canlynol bryd hynny, ynghyd â'r llu o feysydd eraill a gwmpesir gan y Gorchymyn Cynnal Etholiadau:

  • Terfynau treuliau etholiad ymgeiswyr unigol (ystyr ymgeisydd unigol yw ymgeisydd mewn etholiad Senedd nad yw'n sefyll ar restr plaid). Mae'n debygol mai'r cynnig yw y dylid alinio terfynau ymgeiswyr unigol â'r terfynau ar gyfer treuliau pleidiau. Er hynny, mae dulliau eraill a allai gael eu ffafrio gan y rhai sy'n ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Sylwer, os oes un terfyn penodol ar gyfer sefyll rhestr mewn etholaeth, fodd bynnag mae llawer o ymgeiswyr sydd ar y rhestr honno, nodwch y byddai hyn yn arwain at yr un terfyn ar gyfer ymgeisydd unigol - gan mai dyna hefyd yw'r terfyn ar gyfer rhestr gydag un ymgeisydd.
  • Cyfnod wedi'i reoleiddio treuliau etholiad ymgeiswyr unigol. Y cynnig yn ôl pob tebyg fydd alinio'r cyfnod hwnnw â'r cyfnod wedi'i reoleiddio y mae terfynau'r blaid yn gymwys iddynt ac sydd wedi'i osod yn PPERA.

Yn ogystal, bydd y Gorchymyn Cynnal Etholiadau hefyd yn ymdrin â'r rheolau canlynol, ond nid oes cynnig i newid y ffordd y caiff treuliau plaid eu trin (gan gymryd y rheolau rhanbarthol o dan y system aelodau ychwanegol fel y model ar gyfer y system newydd). Byddai hynny'n golygu: 

  • Trin treuliau ymgeiswyr ar restrau pleidiau fel treuliau plaid (fel yn achos etholiadau rhanbarthol o dan y system aelodau ychwanegol), sy'n golygu na fyddai gwariant ar wahân ar gyfer ymgeiswyr plaid a dim angen am derfynau treuliau ar gyfer ymgeiswyr plaid.
  • Trin gwariant o dan derfynau plaid mewn etholaeth fel gwariant cenedlaethol (fel yn achos etholiadau rhanbarthol o dan y system aelodau ychwanegol). Mae hyn yn golygu y byddai gan blaid un terfyn cenedlaethol yn unig, a fyddai'n gyfanswm unrhyw ‘derfynau etholaeth’. Caiff lefel y terfyn hwnnw ei phenderfynu gan y cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn.

Beth yw'r sefyllfa bresennol ar derfynau treuliau etholiadau?

O dan y system aelodau ychwanegol, mae tri therfyn gwahanol. Y rhain yw:

  • Terfynau ymgeisydd mewn etholaeth: caiff pob ymgeisydd etholaeth fynd i gostau etholiad o hyd at £8,700, ynghyd â swm o naill ai 6c (ar gyfer etholaeth fwrdeistrefol) neu 9c (ar gyfer etholaeth sirol) fesul etholwr yn yr etholaeth honno (At ddibenion cyfeirio: mae etholaethau presennol y Senedd yn cynnwys chwe etholaeth fwrdeistrefol (allan o 40) ac maent yn cynnwys tua 17% o'r etholaeth. Mae etholaethau newydd San Steffan yn lleihau hynny i bedair (allan o 32) ac yn cynnwys tua 12% o'r etholwyr ar gyfer etholiadau San Steffan). Mae'r terfyn hwn yn gymwys i wariant yn yr etholaeth honno at ddibenion ethol yr ymgeisydd hwnnw.
  • Terfynau plaid mewn etholaeth: caiff plaid wleidyddol gofrestredig fynd i gostau o hyd at £10,000 ar gyfer pob etholaeth lle mae'n sefyll ymgeisydd. Mae'r terfyn hwn yn cael ei gymhwyso'n genedlaethol – h.y. nid oes rhaid i'r blaid wario'r £10,000 yn yr etholaeth yr oedd yn sefyll ynddi er mwyn cyrraedd y terfyn hwnnw.
  • Terfynau plaid mewn rhanbarth: caiff plaid wario hyd at £40,000 ar gyfer pob rhanbarth lle mae'n sefyll rhestr. Mae'r terfyn hwn yn cael ei weithredu'n genedlaethol – h.y. nid oes rhaid i'r blaid wario'r £40,000 yn y rhanbarth y cafodd ei gynhyrchu drwy sefyll ynddo.

Mae hyn yn golygu, o dan y system aelodau ychwanegol, fod terfynau treuliau plaid yn cael eu cynhyrchu drwy sefyll mewn gwahanol etholaethau a rhanbarthau, ond mae'r terfynau hynny'n gymwys yn genedlaethol – maent yn cael eu hychwanegu at ei gilydd i roi terfyn cenedlaethol y blaid honno. Mae hyn ar wahân i'r terfynau ar gyfer ymgeiswyr, na ellir eu defnyddio ond yn yr etholaeth honno ac ar gyfer yr ymgeisydd hwnnw.

Mae hyn yn darparu'r terfynau uchaf canlynol (£ agosaf):
 

 Terfyn pob unNiferCyfanswm
Fesul etholaeth£8,70040£348,000
Fesul etholwr (bwrdeistref)£0.06395,947£23,757
Fesul etholwr (sir)£0.091,952,629£175,737
Fesul etholwr (cyfanswm Cymru gyfan) 2,348,576£199,493
Cyfanswm terfyn ymgeisydd mewn etholaeth  (40 etholaeth – terfyn etholaeth)  £547,493
Cyfanswm terfyn plaid mewn etholaeth (40 etholaeth – terfyn cenedlaethol) £10,00040£400,000
Cyfanswm terfyn plaid mewn rhanbarth (5 rhanbarth - terfyn cenedlaethol)£40,0005£200,000
Cyfanswm y terfyn cenedlaethol  £1,147,493

*Mae nifer yr etholwyr fesul math o etholaeth yn defnyddio ffigurau 2021 ar StatsCymru.

Mae hyn yn golygu y byddai'r terfyn treuliau etholiad, yn seiliedig ar ffigurau etholwyr 2021, yn rhoi cyfanswm terfyn cenedlaethol i blaid – terfynau’r blaid a therfynau ymgeiswyr y blaid gyda'i gilydd – os byddai'r blaid honno'n sefyll ym mhob etholaeth a phob rhanbarth mewn etholiad Senedd o £1,147,493.

Ar gyfer cyd-destun, caiff ymgeisydd rhanbarthol unigol fynd i dreuliau hyd at derfyn swm y terfynau ar ymgeiswyr etholaethol ar gyfer yr holl etholaethau sydd yn y rhanbarth hwnnw. Mae hynny'n golygu £69,600 (8 x £8,700) ynghyd â 6c/9c yr etholwr ym mhob etholaeth fwrdeistrefol/sir.

Pennir y terfynau ar gyfer ymgeiswyr yn Erthygl 47 o'r Gorchymyn Cynnal Etholiadau. Gosodir terfynau pleidiau ar gyfer etholiadau'r Senedd ym mharagraff 6 o Atodlen 9 i PPERA.

Beth yr ydym yn ei gynnig?

Y dull sylfaenol

Mae'r dull a awgrymir yn seiliedig ar ddau gynnig sylfaenol. Mae'r rhain yn cael eu disgrifio a'u hesbonio isod, a gofynnir i chi am eich barn ar bob un yn ei dro.

Addasu'r terfynau uchaf presennol

Y cynnig cyntafyw, wrth benderfynu ar y terfynau gwariant ar gyfer pleidiau o dan y system newydd, y dylid cyfyngu hyn i addasu'r uchafswm terfynau presennol i'r system newydd. Hynny yw, y dylai fod yn drawsosodiad o'r terfynau cyfanredol o dan y system etholiadol aelodau ychwanegol i weithio gyda'r system newydd. 

Byddai hyn yn golygu mai'r hyn sy'n cael ei ystyried yn bennaf yw sut y dylid mapio'r terfynau cyfanredol o etholaethau un sedd a rhanbarthau aml-sedd i'r system newydd o etholaethau chwe sedd o dan system rhestr gaeedig. Felly, ni fyddai hyn yn cynnwys penderfynu ar derfynau gwariant o'r dechrau un.

Mae nifer bach o opsiynau o hyd y mae'r cyfanswm presennol yn fwyaf priodol i'w ddefnyddio mewn perthynas â hwy ac ymdrinnir â hyn yn ddiweddarach yn y ddogfen hon.

Mae'r dull hwn yn gyson â'r esboniad am y pwerau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod hynt Deddf SCME, gan gynnwys yn y Memorandwm Esboniadol (paragraffau 198 – 201), sy'n dweud:

“… mae angen adolygu a diweddaru'r system bresennol o wariant ar ymgyrchoedd etholiadol, sydd ar hyn o bryd yn adlewyrchu system aelodau cymysg.” 

Mae'r crynodeb o'r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth (yn nhabl 5.1) yn y Memorandwm Esboniadol yn nodi:

“Sicrhau bod modd diweddaru terfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol y pleidiau i adlewyrchu'r system etholiadol newydd ar ôl ymgynghori”.

Mae'r rhagdybiaethau a wnaed yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn yr un ddogfen (paragraff 467) yn nodi:

“pŵer i ddiweddaru terfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol i adlewyrchu'r newid i 16 o etholaethau'r Senedd ar sail rhestr sy'n dychwelyd 6 Aelod yr un, a mesurau diogelu cysylltiedig”

Yn ystod trafodion Cyfnod dau, cynigiodd yr aelod sy'n gyfrifol (y Cwnsler Cyffredinol ar y pryd) yr esboniad canlynol hefyd:

“Rwy'n credu bod y gwelliannau yn y grŵp hwn yno mewn gwirionedd i sicrhau bod y system o wariant ymgyrchu ar gyfer etholiadau'r Senedd yn adlewyrchu'r trefniadau etholiadol newydd y mae'r Bil yn darparu ar eu cyfer"

(Cofnod y Trafodion, 6 Mawrth 2024, Pwyllgor y Senedd Gyfan)

Cwestiwn 1. Beth yw eich barn am addasrwydd y dull arfaethedig o addasu uchafswm terfynau ymgyrchu cyfanredol i weithio gyda'r system etholiadol newydd? Sut, os o gwbl, y byddech yn newid y dull arfaethedig?

Terfynau cyson rhwng etholaethau

Yr ail gynnig yw y dylai'r terfyn fod yn gyson rhwng etholaethau. Hynny yw, na ddylai fod elfen fesul etholwr i'r terfynau, nac unrhyw reswm arall pam y byddai terfyn cenedlaethol plaid yn cael ei effeithio drwy sefyll rhestr mewn etholaeth benodol dros un arall. Mae hyn yn gyson hefyd â therfynau pleidiau o dan y system aelodau ychwanegol.

Bydd etholaethau San Steffan a gaiff eu paru i ffurfio etholaethau Senedd 2026, ac etholaethau'r Senedd yn y dyfodol, i gyd yn cael eu diffinio gyda gofyniad na chaiff nifer yr etholwyr amrywio rhwng etholaethau yn ôl mwy na swm penodol. Ar gyfer etholaethau'r Senedd o 2030, yr amrywiant a ganiateir yw 10%.

Y terfyn cenedlaethol uchaf ar gyfer plaid

Nesaf, rydym yn ystyried opsiynau ar gyfer y terfyn cenedlaethol uchaf posibl. Y rheswm y mae mwy nag un opsiwn yw am fod y system etholiadol yn newid o un lle y mae aelodau'n cael eu hethol ar sail dau fath gwahanol o systemau etholiadol – sef etholiadau etholaethol o dan y cyntaf i'r felin a system ranbarthol o dan restrau caeedig gyda dyraniad seddi yn ôl dull D'Hondt – ond o dan y system newydd bydd pob aelod yn cael ei ethol o dan y system rhestr gaeedig.

Mae tri opsiwn yn cael eu hystyried. Mae'r opsiynau hyn yn amrywio o ran pa un o elfennau'r terfynau presennol a nodwyd uchod sy'n cael eu mapio ar draws. Y tair elfen sy'n ffurfio'r terfynau presennol yw:

  • terfynau ymgeisydd fesul etholaeth ("CCL") – uchafswm cyfanredol: £547,493;
  • terfynau plaid fesul etholaeth (“PCL”) – uchafswm cyfanredol: £400,000; a
  • terfynau plaid fesul rhanbarth ("PRL") – uchafswm cyfanredol: £200,000.

Mae'r tri dull o gyrraedd terfyn uwch cenedlaethol (“NL”) wedi'u crynhoi fel a ganlyn:

 CCLPCLPRLUchafswm terfyn
NL1: Terfynau plaid £400,000£200,000£600,000
NL2: Terfynau etholaeth£547,493£400,000 £947,493
NL3: Pob terfyn £400,000£200,000£1,147,493

NL1: Mae'r cyntaf yn cydnabod nad yw'r system newydd yn caniatáu gwariant ymgeiswyr ar gyfer ymgeiswyr plaid, ac felly mae'n cynnal y lefel gyffredinol o gyfanswm terfynau plaid yn unig.

NL2: Mae'r ail yn cydnabod mai dim ond terfynau etholaeth sydd o dan y system newydd, ac felly mae'n cynnal cyfanswm terfynau etholaeth (ymgeisydd ynghyd â phlaid) yn unig.

NL3: Mae'r trydydd yn cyfuno'r terfynau ar gyfer y ddau fath o dreuliau a'r ddau fath o system etholiadol ar hyn o bryd.

Mae'n bwysig nodi, oherwydd talgrynnu, na fydd y cyfansymiau yn yr adran hon yn cyfateb yn union o bosibl i'r cyfansymiau yn yr adran ganlynol.

Cwestiwn 3. Beth yw eich barn am addasrwydd y tri dull a amlinellir ynghylch y terfynau cenedlaethol uchaf ar gyfer plaid? 

Effaith nifer yr ymgeiswyr ar restr plaid

Mae dwy ffordd hefyd o ystyried pa effaith y bydd nifer yr ymgeiswyr ar restr plaid mewn etholaeth yn ei chael ar y terfyn costau sydd ar gael ar gyfer y blaid honno: gall y terfyn naill ai gynyddu wrth i nifer yr ymgeiswyr gynyddu, neu gall fod yn sefydlog, faint bynnag o ymgeiswyr sydd ar restr plaid. Bydd y ddau opsiwn hyn bellach yn cael eu hystyried.

Mae'r cwestiwn cyntaf yn ymwneud â pha rai o'r opsiynau hynny fyddai orau gennych, ac wedyn ystyrir manylion pellach pob opsiwn.

Opsiwn 1 - y dylid cyfrifo'r terfyn costau sy'n gysylltiedig â sefyll mewn etholaeth yn unig drwy gyfeirio at nifer yr etholaethau y mae'r blaid yn eu hymladd.

Y brif ddadl o blaid yr opsiwn hwn yw bod angen sicrhau chwarae teg, a bod hynny'n cael ei gyflawni orau drwy un terfyn uchaf ar gyfer unrhyw blaid sy'n sefyll mewn etholaeth, faint bynnag o ymgeiswyr sydd ar eu rhestr. (Fel yr amlinellwyd uchod, ymgynghorir ar dherfynau ar gyfer ymgeiswyr unigol yn yr Hydref fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Gorchymyn Cynnal Etholiadau. Yn benodol y gwahanol terfynau sydd ar gael i'r pleidiau sy'n sefyll rhestrau plaid o fath gwahanol yw canolbwynt y cwestiwn hwn.)

Y pryder y mae'r opsiwn hwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef yw y gallai pleidiau llai fod o dan anfantais oherwydd bod ganddynt derfyn gwariant is os nad ydynt yn dymuno sefyll rhestrau mwy o ymgeiswyr ond eu bod yn dal i gystadlu mewn etholaeth o'r un maint.

Byddai cymhwyso'r dull hwn o dan y system newydd yn golygu y byddai gan blaid sy'n sefyll dau ymgeisydd mewn etholaeth yr un terfyn treuliau â phlaid sy'n sefyll pedwar ymgeisydd yn yr etholaeth honno.

Opsiwn 2 - y dylid cyfrifo'r terfyn costau sy'n gysylltiedig â sefyll mewn etholaeth yn seiliedig ar nifer yr ymgeiswyr y mae'r blaid yn eu sefyll yn yr etholaeth honno.

Mae'r dadleuon o blaid yr opsiwn hwn yn cynnwys ei fod yn caniatáu i'r dull yn y system aelodau ychwanegol bresennol gael ei adlewyrchu'n well. Hynny yw, mae'r system aelodau ychwanegol yn darparu terfynau treuliau sy'n cynnwys sawl rhan – ‘elfen sefydlog’ ar gyfer sefyll mewn unrhyw ranbarth gyda rhestr o unrhyw faint, ac elfen ‘fesul ymgeisydd’  ar gyfer pob ymgeisydd sy'n sefyll mewn etholaeth. Mae gan blaid felly, derfyn uwch po fwyaf o seddi y mae'n eu hymladd, oni bai ei bod yn ymladd yr 20 sedd ranbarthol yn unig.

Byddai cymhwyso'r dull hwn o dan y system newydd yn golygu y byddai gan blaid sy'n sefyll rhestr o ddau ymgeisydd derfyn treuliau is na phlaid sy'n sefyll rhestr o bedwar. Y ddadl dros hyn yw y byddent, i bob pwrpas, yn ymladd dwy sedd yn hytrach na phedair sedd yn yr etholaeth honno ac y byddai angen llai o bleidleisiau i ennill dwy sedd na phedair. Byddai hyn yn adlewyrchu'r costau cynyddrannol sy'n gysylltiedig â sefyll rhestr hwy o ymgeiswyr a chystadlu am fwy o seddi.

Rheswm arall dros ystyried terfyn cynyddol lle mae mwy o ymgeiswyr yn cael eu cynnwys ar restr plaid yw lleihau effaith ‘ymgeiswyr papur’. Ymgeisydd papur yn y cyd-destun hwn fyddai un sy'n sefyll mewn etholaeth na fyddai'r blaid fel arall yn ei hymladd yn unswydd i ennill y terfyn gwariant ychwanegol i gefnogi rhestr ymgeiswyr mewn mannau eraill. Byddai cael elfen ‘fesul ymgeisydd’ i'r terfyn yn gofyn i blaid sefyll llawer mwy o ymgeiswyr papur er mwyn sicrhau'r terfyn cenedlaethol uchaf, sy'n cynnig rhwystr ychwanegol cymedrol i ymddygiad fel hynny.

Cwestiwn 4. Gan gyfeirio at y ddau opsiwn a ddarperir, sut rydych yn credu y dylid ystyried nifer yr ymgeiswyr ar restr plaid wrth gyfrifo terfynau treuliau?

Manylion yn ymwneud ag Opsiwn 1 - terfyn yn seiliedig yn unig ar nifer yr etholaethau y mae plaid yn sefyll ynddynt

Mae'r cyfuniad o gael un terfyn faint bynnag o ymgeiswyr sy'n sefyll ar restr etholaeth plaid a'r cynigion ar gyfer terfynau cenedlaethol uchaf yng nghwestiwn 3 yn darparu'r terfynau canlynol fesul etholaeth:

 Terfyn cenedlaethol uchafCyfatebiaeth etholaethol
NL1: Terfynau plaid£600,000£37,500
NL2: Terfynau etholaeth£947,493£59,218
NL3: Pob terfyn£1,147,493£71,718

Dyma'r terfynau ychwanegol a fyddai ar gael i blaid ar gyfer pob etholaeth ychwanegol y mae'n sefyll rhestr plaid ynddi. 

Byddent yn rhan o derfyn gwariant cenedlaethol y blaid, ac ni fyddent yn gyfyngedig i wariant yn yr etholaeth. Hynny yw, mae cyfanswm y terfyn cenedlaethol yn cael ei gronni o derfynau cenedlaethol a ddarperir gan bob etholaeth y maent yn sefyll ynddi. Mae hyn yn cyd-fynd â'r terfynau rhanbarthol o dan y system etholiadol aelodau ychwanegol

Manylion yn ymwneud ag Opsiwn 2 – terfyn yn seiliedig ar nifer yr ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholaeth

Mae Opsiwn 2 yn codi tri mater arall y mae rhaid eu hystyried i lywio sut y cyfrifir y terfyn. Mae cynnig mewn perthynas â phob mater yn cael ei esbonio isod, a gofynnir i chi am eich barn am bob un yn ei dro.

Y terfyn uchaf wrth ymladd chwe sedd mewn etholaeth

Y cynnig yw y dylid rhoi terfyn uchaf treuliau plaid sydd ar gael mewn etholaeth ar gyfer rhestr o chwe ymgeisydd (allan o restr uchaf o wyth), gan adlewyrchu mai chwech yw nifer y seddi ym mhob etholaeth. Yn ymarferol byddai hyn yn golygu y byddai'r terfyn uchaf ar gyfer rhestr o chwe ymgeisydd yr un fath â'r terfyn uchaf sydd ar gael ar gyfer rhestr o saith neu wyth ymgeisydd.

Byddai hyn yn gyson â chynigion yn y Gorchymyn Cynnal Etholiadau i'r uchafswm ernes fod yn ddyledus ar gyfer rhestr o chwe ymgeisydd (ar y sail ei bod yn uchafswm o chwe sedd y gellir eu hennill mewn etholaeth).

Cwestiwn 5. Os yw'r terfyn yn cynyddu gyda nifer yr ymgeiswyr ar restr plaid, a ydych yn credu y dylai hyn gyrraedd ei uchafswm ar gyfer rhestr o chwech, i gyd-fynd â nifer y seddi sydd ar gael? 

Terfyn sefydlog fesul etholaeth yn ogystal â'r terfyn newidiol fesul ymgeisydd

Y cynnig yw y dylai'r terfynau gymryd i ystyriaeth costau uwch posibl ymladd etholaeth ar gyfer rhestr o unrhyw faint drwy ddarparu terfyn ar gyfer sefyll rhestr plaid unrhyw faint mewn etholaeth yn ogystal â'r elfen fesul ymgeisydd a drafodwyd uchod.

Hynny yw, y dylid cael elfen sefydlog o'r terfyn ychwanegol rhag sefyll mewn etholaeth benodol yn ogystal â'r elfen amrywiol ar gyfer pob ymgeisydd a drafodir uchod. Byddai hynny'n golygu bod y terfyn ar gyfer rhestr o un ymgeisydd yn fwy na'r terfyn ychwanegol ar gyfer pob person dilynol ar y rhestr (gan y byddai'n cynnwys yr elfen sefydlog ynghyd â 1x yr elfen newidiol).

Hynny yw, byddai gan blaid sy'n sefyll rhestr o ddau ymgeisydd fwy na phlaid sy'n sefyll rhestr o un, ond llai na dwywaith cymaint. Byddai hyn yn adlewyrchu'r costau sefydlog sy'n gysylltiedig ag ymladd etholaeth, faint bynnag o ymgeiswyr sydd ar y rhestr.

Cwestiwn 6. Yn ogystal ag elfen fesul ymgeisydd, sut, os o gwbl, y dylid cymhwyso elfen  ‘sefydlog’, fesul etholaeth i derfyn treuliau ymgyrch plaid?

Mae'r elfen sefydlog yn uwch na'r elfen newidiol

Y cynnig yw bod elfen sefydlog y terfyn – hynny yw, y terfyn o sefyll rhestr o unrhyw faint mewn etholaeth – yn fwy na'r terfyn amrywiol  – y terfyn ychwanegol ar gyfer pob ymgeisydd.

Y rhesymeg yw bod costau sefydlog a delir ymlaen llaw ar gyfer ymladd etholaeth yn debygol o fod yn llawer uwch na'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â chael pob ymgeisydd ychwanegol ar y rhestr honno.

Cwestiwn 7. A ddylai'r elfen sefydlog gychwynnol ‘fesul etholaeth’ fod yn fwy na'r elfen ‘fesul ymgeisydd’ ychwanegol o derfyn y blaid? 

Blociau adeiladu etholaethau'r terfyn cenedlaethol

Byddwn yn awr bellach yn ystyried ym mha ffyrdd y rhennir y terfynau uchaf hyn yn seiliedig ar elfen ‘fesul ymgeisydd’ i gyfrifo terfynau plaid a derbyn y cynigion o dan opsiwn 2 uchod. Efallai y bydd yn eich helpu i ailedrych ar y tair ymagwedd at derfyn cenedlaethol uchaf a nodir cyn Cwestiwn 3 uchod cyn ystyried manylion y cwestiwn hwn. 

Mae'r model opsiwn 2 yn cynnig adeiladu terfynau'r pleidiau a gyfrannwyd drwy sefyll mewn etholaeth yn seiliedig ar y canlynol:

  • Addasu terfynau uchaf cyfredol (dangosir pob un o'r tri opsiwn);
  • Terfynau sy'n uwch pan fydd pleidiau'n sefyll mwy o ymgeiswyr ar restr;
  • Lle cyrhaeddir y terfyn uchaf ar gyfer rhestr o chwe ymgeisydd (o wyth);
  • Bod terfyn ychwanegol ar gael ar gyfer pob etholaeth y mae plaid yn sefyll ynddi, ac ar gyfer pob ymgeisydd ychwanegol ar restr plaid (hyd at chwech);
  • Lle bo'r elfen sy'n gysylltiedig â phob etholaeth ychwanegol yn fwy nag ar gyfer pob ymgeisydd rhestr ychwanegol; a
  • Lle bo'r rhestr pleidiau o'r un maint yn denu'r un terfyn sydd ar gael ym mhob etholaeth.

Unwaith eto, hyd yn oed os nad ydych yn cefnogi opsiwn 2 neu'r holl gynigion hyn, fe'ch anogir i gynnig ymateb i'r cwestiynau hyn.

Y cynnig yw defnyddio'r tri math o derfyn presennol i ‘adeiladu’ y terfynau sydd ar gael. Mae hyn yn cynnig rhesymeg glir a chysylltiad â therfynau yn y system aelodau ychwanegol. Mae'n dangos y terfyn cenedlaethol cyfanredol uchaf, a chyfatebiaethau etholaethol a seddi.

Hen derfyn y System Aelodau YchwanegolCyfatebiaeth genedlaetholCyfatebiaeth etholaeth newydd (/16)Cyfatebiaeth sedd newydd (/96)
Ymgeisydd mewn etholaeth£547,493 £5,703
Plaid mewn etholaeth£400,000£25,000£4,167
Plaid mewn rhanbarth £200,000£12,500 

O gyfuno'r rhain ar gyfer pob un o'r terfynau cenedlaethol uchaf arfaethedig (cwestiwn 3), mae gennym y blociau adeiladu sefydlog (fesul etholaeth) ac amrywiol (fesul ymgeisydd) arfaethedig ar gyfer cyfrifo terfynau cyffredinol y pleidiau yn seiliedig ar nifer yr etholaethau y maent yn eu hymladd, a nifer yr ymgeiswyr ar restrau'r blaid. Mae cyfansymiau wedi'u talgrynnu i'r £100 agosaf er symlrwydd.

 Sefydlog (fesul etholaeth)Amrywiol (fesul ymgeisydd)
NL1: Terfynau plaid£12,500£4,200
NL2: Terfynau etholaeth£25,000£5,700
NL3: Pob terfyn£37,500£5,700

Mae dyraniad pob math o derfyn wedi dilyn y dull syml bod y rhan o'r terfyn sy'n cyd-fynd agosaf ag ymgeiswyr etholaethau yn y system aelodau ychwanegol yn mapio i elfen amrywiol (fesul ymgeisydd) y system newydd. Er bod dulliau eraill yn bosibl, mae hyn yn darparu rhywfaint o gysondeb rhwng systemau.

Gallwn ddangos wedyn beth mae pob un yn ei olygu ar gyfer rhestrau plaid o faint gwahanol fel a ganlyn:

Maint y rhestrNL1: Plaid NL2: EtholaethNL3: Pob un
1£16,700£30,700£43,200
2£20,900£36,400£48,900
3£25,100£42,100£54,600
4£29,300£47,800£60,300
5£33,500£53,500£66,000
6, 7 neu 8£37,700£59,200£71,700
Uchafswm cenedlaethol£603,200*£947,200£1,147,200
Sefydlog fesul rhestr (ni waeth beth yw maint y rhestr)£37,700£59,200£71,700

* Noder bod hyn yn amrywio ychydig o'r cyfanswm yn yr adrannau blaenorol oherwydd talgrynnu'r blociau adeiladu a ddefnyddir.

Mae'r llinell olaf yn y tabl (sefydlog fesul rhestr) yn darparu'r dewis cyfatebiaethau etholaethol cyfwerth a drafodwyd yn gynharach at ddibenion cymharu.

Cwestiwn 8. Pa newidiadau, os o gwbl, y byddech yn eu gwneud i'r dull hwn o ymdrin ag Opsiwn 2 o ran dyraniadau fesul etholaeth, dyraniadau fesul ymgeisydd, a chyfansymiau terfynau uchaf?

Sylwadau terfynol

Yn olaf, rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

Cwestiwn 9. Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol sydd gennych mewn perthynas â therfynau treuliau etholiad y Senedd ar gyfer pleidiau gwleidyddol.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos 1 Tachwedd 2024, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Ymgynghoriad ar derfynau gwariant etholiadau 
Is-adran Diwygio’r Senedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni swyddogaethau a rôl graidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG50324

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.