Rhagor o wybodaeth am leihau terfynau cyflymder i 50mya i leihau llygredd nitrogen deuocsid (NO2).
Cynnwys
Manteision terfynau cyflymder is
Rydym am wella ansawdd aer pobl Cymru cyn gynted â phosibl. Mae allyriadau cerbydau yn cyfrannu'n fawr at lefelau nitrogen deuocsid (NO2) mewn lleoliadau ar ochr y ffordd. Lle mae lefelau NO2 yn uwch na'r terfynau statudol, rhaid inni gymryd camau i leihau crynodiadau cyn gynted â phosibl, gan gynnwys ymgynghori â'r cyhoedd ar gamau lliniaru arfaethedig.
Gall anadlu aer gyda lefel uchel o NO2:
- amharu ar eich llwybrau anadlu
- gwaethygu clefydau fel asthma
- achosi peswch, anadlu’n swnllyd neu ei gwneud yn anodd i chi anadlu
- achosi i chi ddatblygu afiechydon difrifol fel clefyd y galon, canser yr ysgyfaint ac asthma
- cynyddu eich risg o ddal heintiau anadlol.
Mae rhwydweithiau monitro ansawdd aer wedi'u lleoli ledled y DU ac maent yn bwydo i mewn i fodelau Mapio Hinsawdd Llygredd (PCM) Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) sydd wedi'u cynllunio i asesu cydymffurfiaeth.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010, sy'n gosod gwerth terfyn cymedrig blynyddol ar gyfer NO2 o 40 μg/m3, a therfyn fesul awr o 200ug/m3, i beidio â chael ei groesi fwy na 18 gwaith mewn blwyddyn galendr. Drwy PCM, nodwyd bod lefelau NO2 yn uwch na'r terfyn cyfreithiol mewn sawl lleoliad ar rwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd Llywodraeth Cymru. Rhaid inni weithredu i wella iechyd y cyhoedd.
Gorfodi terfynau cyflymder is
Mae'r terfyn cyflymder o 50mya yn cael ei orfodi mewn 5 lleoliad ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd gan ddefnyddio camerâu cyflymder cyfartalog.

Mae hyn er mwyn sicrhau bod gyrwyr yn cadw at y terfyn cyflymder 24/7. Gosodwyd y camerâu yn ystod mis Awst 2019 at ddibenion monitro.
Mae'r camerâu'n wyrdd, yn hytrach na'r melyn safonol, i ddangos eu bod yn mesur cyflymderau at ddibenion ansawdd aer.

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gyrru tua 50mya, mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn awgrymu bod llawer o bobl yn dal i yrru ar 57mya (10% + 2mya dros y terfyn).
Mae'n hanfodol bod gyrwyr yn cadw at y terfyn cyflymder i'n helpu i wella ansawdd yr aer, felly byddwn yn cyhoeddi hysbysiadau cynghori o hydref 2021. Fodd bynnag, bydd yr heddlu a Gan Bwyll yn dal i orfodi'r terfynau cyflymder pan ystyrir bod angen. Gan Bwyll yw Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru.
Cerbydau allyriadau isel
Mae'r terfyn cyflymder o 50mya yn berthnasol i bob cerbyd. Rydym yn cydnabod bod cerbydau allyriadau isel ac isel iawn yn debygol o ollwng llawer llai (os o gwbl) o NO2, ond byddai cael terfyn cyflymder ar wahân ar gyfer y cerbydau hyn yn gwneud y ffordd yn fwy peryglus ac yn lleihau effeithiolrwydd cyffredinol y terfyn cyflymder o 50mya.
Mesur lefelau NO2
Rydym yn asesu ansawdd aer gan ddefnyddio tiwbiau trylediad a monitorau parhaus. Mae tiwbiau trylediad yn mesur NO2 amgylchynol dros gyfnod o fis. Mae'r monitorau parhaus yn darparu data amser real.
Bydd y data a gofnodiwn yn dangos i ni os ydym yn cyrraedd targed ein lefelau NO2.
Rydym wedi cyhoeddi sawl adroddiad sy'n cynnwys y data a gofnodwyd mewn 5 lleoliad lle mae lefelau NO2 wedi rhagori ar derfynau cyfreithiol. Mae'r adroddiadau hyn i'w gweld yn yr adran dogfennau.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi diweddariad 2022 i'r cynllun atodol a chynhelir ymgynghoriad ar y ddogfen ddrafft yn ystod y gwanwyn. Bydd y diweddariad yn cynnwys ansawdd aer llawn a data traffig hyd at 2021.
Rhoddodd yr adroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019, gyfarwyddyd interim ar effeithiolrwydd posibl y terfynau cyflymder, gan gymharu gwerth 12 mis llawn y data yn dilyn eu gweithredu cychwynnol dros dro ym mis Mehefin 2018 yn erbyn gwerth 6 mis o ddata cyn hynny. Rhoddodd yr adroddiad hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am gydymffurfiaeth â'r terfynau cyflymder ar ôl eu gweithredu.
Rhoddodd yr ail adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020, ragor o wybodaeth am y terfynau cyflymder a chymharu data blwyddyn galendr llawn a gofnodwyd ar gyfer 2018 yn erbyn data a gofnodwyd yn ystod blwyddyn galendr 2019. Unwaith eto, rhoddodd yr adroddiad yr wybodaeth ddiweddaraf am gydymffurfiaeth â’r terfyn cyflymder, gan gynnwys data a gofnodwyd ar ôl darparu'r camerâu cyflymder cyfartalog.
Rydym yn ystyried pa fesurau ychwanegol a allai fod yn briodol i'n helpu i gyrraedd targedau NO2.
Cyflwyno terfynau cyflymder 50mya mewn ardaloedd eraill
Mae'r model Mapio Hinsawdd Llygredd (PCM) wedi'i gynllunio i fodloni rhan o ofynion cyfreithiol y DU i adrodd ar y crynodiadau o lygryddion penodol yn yr atmosffer a dyma'r ffynhonnell genedlaethol y cytunwyd arni ar gyfer nodi ardaloedd neu lwybrau lle rhagorir ar derfynau. Yn 2017, nododd y model 5 ffordd lle'r oedd lefelau NO2 yn uwch na'r terfyn.
Ers hynny, mae dau leoliad arall wedi'u nodi lle mae lefelau NO2 yn uwch nag y dylent fod, gan ddefnyddio'r model PCM blynyddol. Y rhain yw:
- cyfnewidfa Coryton yr A470 i Gyfnewidfa Nantgarw
- cyffordd 43 yr M4 Llandarcy i Gyffordd 44 yr M4 Lon Las
Rydym yn cynnal ymchwiliadau WelTAG i helpu i nodi'r camau mwyaf addas i sicrhau bod lefelau NO2 yn y lleoliadau hyn yn gostwng yn is na'r terfyn yn yr amser byrraf posibl. Mae canllawiau gwerthuso trafnidiaeth Cymru (WelTAG) yn fframwaith a ddefnyddiwn i ddatblygu systemau trafnidiaeth. Fe'i datblygwyd i sicrhau ein bod yn bodloni nifer o amcanion ac i ddangos sut y byddwn yn defnyddio arian cyhoeddus.
Mae'n bosibl y gellir cyflwyno mesurau gan gynnwys terfynau cyflymder is mewn mannau eraill, ond dim ond os yw'r ymchwiliadau a'r modelu'n dangos bod eu hangen.
Dewis terfyn cyflymder o 50mya
Roedd y terfyn cyflymder o 50mya yn seiliedig ar y ffaith bod cromlin allyriadau cyflymder ar gyfer cerbydau yn dangos bod 50mya yn debygol o fod y cyflymder pan fydd cerbydau'n gollwng y lefel isaf o NOx.
Lleihau llygredd
Mae llawer o wahanol fathau o lygredd. Mae'r terfynau cyflymder 50mya yn ein helpu i fynd i'r afael â llygredd nitrogen deuocsid (NO2) a gynhyrchir gan gerbydau ffordd. Bydd lleihau'r terfynau cyflymder yn lleihau eich cysylltiad ag NO2. Gall NO2 achosi clefyd yr ysgyfaint ac asthma.
Rydym hefyd yn mynd i'r afael â llygredd a achosir gan ddiwydiant a llosgi domestig.
Lefelau NO2 is yn ystod pandemig y Coronafeirws (COVID-19)
Rydym wedi cofnodi bod lefelau NO2 wedi gostwng ers i ni gyflwyno'r terfynau 50mya yn 2018.
Gwyddom nad oedd pobl yn gallu teithio yn ystod y pandemig gymaint ag y gwnaethant o'r blaen, felly roedd lefelau NO2 yn is. Mae'n dangos y gallwn ostwng lefelau NO2 os byddwn yn dewis ffyrdd gwahanol o deithio fel cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Treialon terfyn cyflymder 50mya
Buom yn gweithio gyda Gan Bwyll a'r heddlu i archwilio ffyrdd gwahanol o wneud i'r terfynau cyflymder weithio cyn cyflwyno dirwyon.
Roedd hyn yn cynnwys rhoi gwybod i yrwyr ble a pham mae'r terfynau ar waith. Rydym bellach yn cymryd camau i ddelio â'r troseddwyr mwyaf difrifol. Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni'r gostyngiadau y mae angen i ni eu gwneud yn yr amser byrraf posibl.
Cyfyngiadau cyflymder 50mya ar ffyrdd prysur
Mae gostwng y terfyn cyflymder ar ffyrdd prysur yn golygu, pan fydd traffig yn llifo'n rhydd, y byddwn yn gollwng llai o NO2.
Mwy o wybodaeth
Mae’r dogfennau y byddwn yn sôn amdanynt ar y dudalen hon ar gael ichi eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru trwy’r dolenni canlynol:
- Cynllun atodol Llywodraeth Cymru i gynllun y DU ar gyfer taclo crynodiadau o nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd 2017 a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018.
- Ymgynghoriad cyntaf Llywodraeth Cymru ar ganlyniadau ymchwiliadau a modelau Cam 1 a 2 cyntaf WelTAG a’n helpodd i lunio’r cynllun atodol cyntaf, sef “Mynd i’r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd yng Nghymru”
- Ail ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganlyniadau ymchwiliadau a modelau Cam 3 WelTAG a’n helpodd i lunio’r cynllun atodol terfynol, sef “Mynd i’r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid yng Nghymru (Cam 3 WelTAG)”
- Adroddiad Llywodraeth Cymru ar y data interim ar grynodiadau NO2 ar draffyrdd a chefnffyrdd.
- Data blynyddol Llywodraeth Cymru ar grynodiadau NO2 ar draffyrdd a chefnffyrdd: adroddiad 2018 i 2019.
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Transport.AirQuality@llyw.cymru