Arweiniad os ydych chi wedi cael llythyr rhybudd.
Cynnwys
Dwi wedi cael llythyr rhybudd (hysbysiad cynghori yn enw arall arno): beth sy’ angen i mi ei wneud?
Rydym wedi gostwng y terfynau cyflymder ar rai ffyrdd yng Nghymru i 50mya i leihau llygredd nitrogen deuocsid (NO2).
Mae ein partner, GoSafe, yn anfon llythyrau rhybudd at yrwyr sy’n gyrru dros 50mya ar y ffyrdd hyn.
Rydym wedi anfon llythyr atoch chi i’ch atgoffa bod y terfynau cyflymder i wella ansawdd yr aer yn cael eu gorfodi ar y ffordd roeddech yn teithio arni. Os byddwch yn torri’r terfyn eto, gallech gael eich erlyn. Does dim angen ichi wneud unrhyw beth y tro hwn.
Dim fi oedd y gyrrwr
Mae’r llythyr yn cael ei anfon at geidwad cofrestredig y cerbyd.
Os bydd y cerbyd yn torri’r terfyn cyflymder o 50mya eto, bydd y ceidwad cofrestredig yn cael Hysbysiad o’r Bwriad i Erlyn (NIP). Bydd yr NIP yn cynnwys cais adran 172 am fanylion y gyrrwr. Bydd angen ichi ei gwblhau o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad.
Nid fi sy’n berchen ar y car mwyach
Mae gofyn cyfreithiol arnoch chi i roi gwybod i’r DVLA os nad chi yw ceidwad y cerbyd mwyach.
Doedd fy nghar ddim yn yr ardal ar y pryd
Anfonwch eich manylion at yr Uned Prosesu Camerâu Diogelwch.
Ebost: scpu@northwales.police.uk
Bydd yr uned yn ymchwilio a oes camgymeriad wedi’i wneud ac i wneud yn siŵr nad yw’r cerbyd yn gysylltiedig â throsedd e.e. bod copi wedi’i wneud o rif y plat/cerbyd.
Dwi’n gyrru car trydan. Pam felly ydw i wedi cael llythyr?
Rydych wedi cael llythyr am eich bod yn gyrru dros 50mya ar hyd darn o ffordd sydd â therfyn cyflymder o 50mya i leihau llygredd NO2.
Rydyn ni’n sylweddoli bod cerbydau allyriadau isel ac isel iawn yn debygol o ollwng llawer llai o NO2, ond mae angen i bob cerbyd gadw at y terfyn o 50mya.
Byddai cael terfynau cyflymder gwahanol ar gyfer cerbydau gwahanol yn gwneud y ffordd yn fwy peryglus.
A ga i dystiolaeth ffotograff o’r drosedd?
Os hoffech ffotograff o’r drosedd, cysylltwch â’r Uned Prosesu Camerâu Diogelwch.
Ebost: scpu@northwales.police.uk. Cofiwch, cyfrifoldeb y ceidwad cofrestredig yw gwybod pwy oedd yn gyrru’r cerbyd ar y pryd.
A ga i apelio yn erbyn yr hysbysiad cynghori?
Na chewch. Does dim camau’n cael eu cymryd yn eich erbyn. Mae’ch llythyr yn eich cynghori y gallai camau gael eu cymryd yn eich erbyn os byddwch yn torri’r terfyn cyflymder eto.