Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi gostwng y terfynau cyflymder i 50mya i leihau llygredd nitrogen deuocsid (NO2).

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth ydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni wedi cyflwyno terfynau cyflymder o 50mya mewn 5 ardal yng Nghymru ac yn cymryd camau i wneud yn siŵr bod gyrwyr yn cadw atyn nhw.


Pam ydyn ni’n gwneud hyn

Mae dyletswydd gyfreithiol arnon ni i gydymffurfio â’r terfynau llygredd aer i warchod iechyd pobl. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai llygredd aer yw’r risg amgylcheddol mwyaf i iechyd.

Mae allyriadau cerbydau yn un o brif achosion lefelau NO2 ar y ffyrdd. Mae asesiad rheolaidd wedi nodi lefelau NO2 uwchben y terfyn cyfreithiol mewn sawl lleoliad ar y draffordd a'r rhwydwaith cefnffyrdd. Rhaid i ni weithredu i leihau llygredd ar ochr y ffordd yn y lleoliadau hyn.

Rydym yn deall y gallai cyfyngiadau cyflymder fod yn amhoblogaidd. Fodd bynnag, rydym yn gwybod eu bod yn debygol o fod y ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o leihau lefelau NO2.

Sut mae lefelau NO2 yn cael effaith ar ein hiechyd?

Gall anadlu aer sydd â lefelau uchel o NO2:

  • lidio eich llwybrau anadlu
  • gwaethygu afiechydon fel asthma
  • achosi peswch, gwichian neu ei gwneud hi'n anodd i chi anadlu
  • achosi i chi ddatblygu salwch difrifol fel clefyd y galon, canser yr ysgyfaint ac asthma
  • cynyddu eich risg o ddal heintiau anadlol.

Pam 50mya?

Mae'r terfyn cyflymder is yn seiliedig ar ymchwil ar gyfer cerbydau ysgafn sy'n dangos bod allyriadau ar eu hisaf ar gyflymder hyd at 50mya.

Beth ydyn ni wedi’i wneud hyd yn hyn

  • ostwng rhai terfynau cyflymder i 50mya 
  • gosod arwyddion newydd i dynnu sylw at y terfynau cyflymder
  • gosod camerâu cyflymder cyfartalog i fonitro cyflymder y traffig

Gwnaethon ni hyn ar y ffyrdd canlynol:

  • A483 rhwng cyffyrdd 5 a 6 Wrecsam
  • A494 rhwng ffin Cymru/Lloegr a Chyfnewidfa Dewi Sant, Glannau Dyfrdwy
  • A470 rhwng Glan-bad a Phont-y-pridd
  • M4 rhwng cyffyrdd 41 a 42 Port Talbot
  • M4 rhwng cyffyrdd 25 a 26 Casnewydd

Gorfodi

Rhaid i yrwyr gadw at y terfyn cyflymder i'n helpu i wella ansawdd aer.

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cydymffurfio â'r terfyn cyflymder is mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn awgrymu bod pobl yn dal i yrru ar gyflymder uwch.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'r terfyn cyflymder o 50mya yn cael ei orfodi mewn 5 lleoliad ar draffyrdd a chefnffyrdd gyda chamerâu cyflymder cyfartalog.

Mae'r camerâu'n wyrdd, yn hytrach na'r melyn safonol, i ddangos eu bod yn mesur cyflymderau ar gyfer dibenion ansawdd aer.

Mesur llygredd

Rydym yn asesu ansawdd aer gan ddefnyddio sawl dull gwahanol yn barhaus. Mae'r data'n dangos i ni os ydym yn cwrdd â therfynau NO2 cyfreithiol.

Rydym yn cyhoeddi adroddiadau sy'n cynnwys y data a gofnodwyd lle mae lefelau NO2 wedi mynd y tu hwnt i'r terfynau cyfreithiol. Mae dolenni i'r adroddiadau hyn yn yr adran Mwy o Wwybodaeth isod.

Byddwn yn cyhoeddi diweddariad 2023 i'n Cynllun Ansawdd Aer a byddwn yn ymgynghori ar gynigion i weithredu mewn dau leoliad pellach ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd.

Rydym yn ystyried pa fesurau eraill a allai ein helpu i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â chyfyngiadau NO2.

Cyflwyno cyfyngiadau cyflymder o 50mya mewn ardaloedd eraill

Mae asesiad parhaus wedi dangos dau leoliad arall lle mae lefelau NO2 yn rhy uchel. Dyma nhw:

  • Cyfnewidfa A470 Coryton i Gyfnewidfa Nantgarw
  • Cyffordd 43 Llandarcy i gyffordd 44 yr M4 Lon Las

Rydym yn ymchwilio i gamau y gellir eu cymryd i gefnogi cydymffurfiaeth ar frys yn y lleoliadau hyn hefyd.

Gall hyn gynnwys cyfyngiadau cyflymder is os yw tystiolaeth yn cefnogi eu cyflwyno yma hefyd.

Mwy o wybodaeth

Mae gwybodaeth fanylach am sut rydym yn mynd i'r afael ag ansawdd aer o amgylch ffyrdd i'w gweld yn y dogfennau hyn::

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Transport.AirQuality@llyw.cymru