Neidio i'r prif gynnwy

Mae prentisiaid a hyfforddeion graddedig sy’n gweithio ar y ffordd osgoi yn dysgu sgiliau newydd drwy’r rhaglen Academi Sgiliau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Siaradodd y Gweinidog wrth iddi gyfarfod â phrentisiaid sy’n gweithio ar y prosiect i weld sut mae prosiectau cyfalaf Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau pobl yng Nghymru.

Mae £7.6 miliwn o’r prosiect £95m wedi’i wario ar gyflogi pobl, gan gynnwys prentisiaid, o Gymru i weithio ar y cynllun. Mae Alan Griffiths Contractors wedi rhoi pwyslais mawr ar ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant lleol fel rhan o’r prosiect drwy eu Rhaglen Academi Sgiliau mewn partneriaeth â Choleg Powys. Ar hyn o bryd, mae 16 o brentisiaid a graddedigion dan hyfforddiant yn gweithio ar y ffordd osgoi.

Dywedodd y Gweinidog:

“Dw i wedi cael argraff ragorol o’r prentisiaid a’r graddedigion dan hyfforddiant dw i wedi cyfarfod â nhw heddiw. Maen nhw i gyd yn unigolion gweithgar ymroddedig ag ystod eang o sgiliau.

“Mae’r hyfforddiant maen nhw’n ei gael fel rhan o’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut mae prosiectau cyfalaf mawr Llywodraeth Cymru fel Ffordd Osgoi’r Drenewydd yn cyflawni llawer mwy na dim ond tarmac newydd a llai o amser teithio.

“Mae Alun Griffiths Contractors i’w canmol am y gwaith maen nhw’n ei wneud yn cynnig prentisiaethau a swyddi dan hyfforddiant drwy eu Rhaglen Academi Sgiliau. Mae pawb ar ei ennill gan fod y cwmni yn sicrhau bod ganddo weithlu sydd â’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw i ffynnu tra bo pobl leol yn cael cyfle i ddatblygu gyrfaoedd diddorol hynod fedrus.”

“Dyma’n union y math o gydweithredu rhwng cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a Llywodraeth Cymru y mae ein Cynllun Cyflogadwyedd sydd wedi’i gyhoeddi yn ddiweddar yn ceisio ei gyflawni. Drwy gydweithio gallwn ni wella sgiliau a bywydau pobl yng Nghymru.”