Cadwch y teitlau’n fyr, 65 nod neu lai, gan fod peiriannau chwilio’n tueddu i gwtogi teitlau hirach.
Nid oes atalnod llawn ar ddiwedd teitl.
Defnyddiwch iaith ein defnyddwyr; falle nad ein henw swyddogol yw’r un mae’r cyhoedd yn ei adnabod. Defnyddiwch yr offer geiriau allweddol i optimeiddio eich iaith chwilio.
Gall teitlau fod yn wahanol i deitl swyddogol y ddogfen. Gallwch ddefnyddio’r teitl swyddogol ar gyfer yr atodiad neu ei nodi yn y crynodeb neu yn y testun ar y dudalen os ydych yn tybio y bydd defnyddwyr n chwilio am y term hwnnw.
Cofiwch; dylai’r geiriau pwysicaf fod ar ddechrau’r teitl bob tro.
Sicrhewch fod eich teitl yn unigryw. Dydy o’n helpu dim os yw’r canlyniadau chwilio’n dangos rhes o dudalennau â’r un teitl yn union. E.e. rhowch ‘Grant Cyfleusterau Cludiant - ffurflen gais’, nid ‘ffurflen gais’.
Ystyriwch ddefnyddio colon:
- er mwyn rhoi’r geiriau pwysicaf ar y dechrau. Bydd hyn yn helpu yn y Gymraeg yn enwedig, oherwydd natur ein cystrawen.
- helpwch ddefnyddwyr i gydgysylltu grwpiau bach o gynnwys sy’n perthyn yn agos
Os oes nifer o dudalennau o dan deitlau tebyg, ystyriwch newid y teitl fel bod y geiriau pwysicaf ar y dechrau. Er enghraifft, byddai ‘safonau lles ar gyfer defaid’ a safonau lles ar gyfer gwartheg’ yn dod yn ‘defaid: safonau lles’ a ‘gwartheg: safonau lles’.
Enghreifftiau
Enghraifft dda: ‘Newid y gyfraith gynllunio: asesiad effaith’
Enghraifft wael: ‘Asesiad o effaith y newidiadau arfaethedig i’r gyfraith gynllunio yng Nghymru’