Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

 

Mae'n bleser gennyf roi gwybod i'r Aelodau fy mod wedi gwneud Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2025 ('y Gorchymyn') a Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025, yn dilyn cytundeb ar y Rheoliadau yn y cyfarfod llawn yr wythnos hon.

Yn dilyn y ffaith bod Medr wedi cychwyn gweithredu yr haf diwethaf, mae'r offerynnau hyn yn cyflawni'r cam nesaf o'r broses o roi swyddogaethau i Medr, fel y darperir ar eu cyfer yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ('Deddf 2022'), a chan sicrhau hefyd  bod y gwaith diwygio angenrheidiol yn cael eu cofnodi yn y llyfr statud.

Daw'r Gorchymyn ag ystod o ddyletswyddau a osodir ar Medr i rym ar 5 Ebrill 2025. Bydd y dyletswyddau hynny yn helpu i gyflwyno nifer o newidiadau allweddol, sy'n ymwneud â'r canlynol:

  • datblygu Cod Ymgysylltu â Dysgwyr, sy'n nodi sut mae darparwyr i ymgysylltu â dysgwyr wrth wneud penderfyniadau a sicrhau bod barn dysgwyr yn cael eu hadlewyrchu yn y penderfyniadau hynny.   Bydd yn ofynnol i ddarparwyr a ariennir gan Medr, neu sydd wedi'u cofrestru â Medr, gydymffurfio â'r Cod a bydd Medr yn monitro cydymffurfiaeth â'r Cod ac yn adrodd ar ei effeithiolrwydd.
  • datblygu canllawiau i gefnogi darparwyr addysg drydyddol i baratoi cynlluniau diogelu dysgwyr. Bydd Medr yn gallu ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr penodol gyflwyno cynlluniau diogelu dysgwyr iddo, i'w cymeradwyo gan Medr. Bydd y cynlluniau hyn yn nodi'r trefniadau sy'n cael eu gwneud gan ddarparwyr i ddiogelu buddiannau myfyrwyr sydd ar gyrsiau sy'n peidio â chael eu darparu neu sy'n dymuno trosglwyddo i gwrs arall.
  • paratoi datganiad sy'n nodi sut mae'n bwriadu arfer ei swyddogaethau cyllido, gyda ffocws penodol ar sicrhau tryloywder mewn perthynas â'i benderfyniadau cyllido.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn diwygio Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ("Deddf 2013") mewn perthynas ag ad-drefnu chweched dosbarth ysgolion. Mae hynny yn cynnwys dileu pwerau Gweinidogion Cymru i wneud cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, ac yn rhoi pwerau i Medr mewn perthynas ag ailstrwythuro addysg chweched dosbarth.

Mae'r Ddeddf 2013 ddiwygiedig yn darparu fframwaith deddfwriaethol i Medr sy'n ei alluogi i gymryd dull strategol, gan gynnig safbwynt ehangach i ddarpariaeth chweched dosbarth ysgolion a sicrhau y gall gefnogi dewis, cynnydd ac osgoi dyblygu diangen.  Fodd bynnag, nid ydynt yn dileu amddiffyniadau na mesurau diogelu – er enghraifft mewn perthynas â darpariaeth Gymraeg – mae'r rhain yn parhau i fod yn ofynion yn y Ddeddf honno a hefyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol.

Elfen greiddiol o Ddeddf 2022 yw sefydlu cofrestr o ddarparwyr addysg drydyddol, gan Medr, a fydd yn darparu'r mecanwaith cyfreithiol ar gyfer goruchwylio'n rheoleiddiol darparwyr cofrestredig yng Nghymru sy'n derbyn arian cyhoeddus.  Mae'r Gorchymyn yn dod â'r holl ddarpariaethau yn Neddf 2022 i rym sy'n angenrheidiol i alluogi Medr i symud ymlaen gyda'r gwaith o sefydlu'r gofrestr, gan gynnwys datblygu ei drefn reoleiddio lawn a derbyn a phrosesu ceisiadau i'r gofrestr. 

Er mwyn cefnogi ei waith goruchwylio rheoleiddiol, darperir ystod o swyddogaethau ymyrraeth i Medr sy'n ymwneud â monitro cydymffurfiaeth darparwyr cofrestredig â'r amodau cofrestru ac asesu ansawdd yr addysg drydyddol sy'n cael ei darparu.  Mae Deddf 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i Medr baratoi datganiad sy'n nodi sut y bydd yn arfer pob un o'i swyddogaethau ymyrraeth, a bydd y ddyletswydd hon yn dod i rym ar 5 Ebrill 2025.

Gan edrych tua'r dyfodol, byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad ar 8 Ebrill yn nodi ein dull arfaethedig o weithredu'r is-ddeddfwriaeth sy'n weddill sy'n angenrheidiol i gwblhau'r fframwaith deddfwriaethol a fydd yn sail i'r gofrestr.  Mae hyn yn cynnwys dau offeryn statudol, y cyntaf ohonynt yn rhagnodi'r terfynau ffioedd dysgu, a'r ail yn nodi'r 'personau cymhwysol' a 'cyrsiau cymhwysol' at ddibenion y terfynau ffioedd

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn nodi'r dull arfaethedig o ddynodi cyrsiau addysg uwch ar gyfer cymorth myfyrwyr Llywodraeth Cymru ar ôl sefydlu'r gofrestr.