Teitl: Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Dod â Digartrefedd i Ben: diweddariad Hydref 2024
Diweddariad ar y themâu a drafodwyd gan y bwrdd dros y flwyddyn ddiwethaf a gwaith y grwpiau gorchwyl a gorffen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cyflwyniad
Wrth i restrau aros tai cymdeithasol dyfu a rhenti preifat godi, roedd dros 11,000 o bobl yn byw mewn llety dros dro[1] yr haf hwn. Ar ben hynny, mae ystadegau newydd yn dangos bod cynghorau yn asesu 13,539 o aelwydydd fel rhai digartref a bod dyletswydd arnynt i helpu i sicrhau llety - y ffigwr uchaf ers i Ddeddf Tai Cymru gael ei chyflwyno.[2] Mewn cyfnod mor anodd, mae'n hanfodol ein bod yn bwrw ymlaen â chynllun cenedlaethol Llywodraeth Cymru i ddod â digartrefedd i ben.
I'r rhai sydd mewn perygl o ddigartrefedd neu'n profi digartrefedd, mae'r effaith yn drawmatig ac yn newid eu bywydau. Heb gartref sefydlog, gall ein lles meddyliol a'n hiechyd corfforol gynyddu. Gall fod yn anodd dod o hyd i swydd, meithrin perthnasoedd a symud ymlaen mewn bywyd. Rhaid i ni barhau â'r ymrwymiad cenedlaethol i ddull "neb heb help" ac i ddiwygio deddfwriaeth digartrefedd, fel y gall pawb gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.
Mae'r cynnydd mewn digartrefedd hefyd yn cael effaith sylweddol ar ein gweithwyr rheng flaen. Ar draws Cymru mae'n fraint cael gweithwyr rheng flaen ymroddedig sydd eisiau gweithio ym maes tai oherwydd bod ganddynt sbardun i helpu pobl. Er bod cefnogi pobl i adeiladu bywyd y tu hwnt i ddigartrefedd yn foddhaus, mae'r swyddi hyn – yn enwedig yng nghyd-destun llwyth achosion eithriadol o uchel - gall fod yn heriol yn emosiynol. Mae'n rhaid i ni symud ymlaen gyda chefnogi gweithlu gwydn a gwerthfawr.
Mae yna effeithiau ehangach ar wasanaethau cyhoeddus hefyd. Er enghraifft, gall cyfnodau hir o ddigartrefedd arwain at anghenion iechyd mwy cymhleth, gan gynyddu'r galw ar wasanaethau iechyd yn y pen draw.[3] At hynny, mae'r niferoedd uchel o bobl sy'n aros am gyfnodau hir mewn llety dros dro yn arwain at fil cynyddol i awdurdodau lleol.[4] Rhaid i ni barhau gyda’r ymrwymiad i adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol a symud i system a arweinir gan dai lle gall pobl symud yn gyflym i gartrefi sefydlog. Ac mae'n rhaid i ni adeiladu ar waith i atal digartrefedd yn y lle cyntaf.
Mae symud ymlaen a gwneud cynnydd ar yr ymrwymiadau yng Nghynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru yn hanfodol. Mae'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yn parhau i fod yn ymrwymedig i'w rôl wrth gynghori Llywodraeth Cymru ar hyd y daith hon.
Yn dilyn ein hadroddiad blynyddol ym mis Gorffennaf y llynedd, [5] mae’r Bwrdd Cynghori wedi parhau i weithio’n agos ar draws nifer o feysydd craidd a nodir yn yr adroddiad hwn. Mae’r Bwrdd Cynghori yn ceisio darparu mewnwelediadau defnyddiol ac ystyrlon yn ogystal ag atebion ymarferol i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i barhau i wneud cynnydd yn y meysydd hanfodol hyn.
Mae’r briff hwn yn darparu diweddariad interim ar gyfer yr Ysgrifennydd y Cabinet Newydd yn Hydref 2024. Mae'n crynhoi'r themâu sy'n dod i'r amlwg a drafodwyd gan y Bwrdd Cynghori dros y flwyddyn ddiwethaf yn ogystal â'r meysydd allweddol o waith parhaus ar draws grwpiau gorchwyl a gorffen y Bwrdd. Mae’r Bwrdd Cynghori yn bwriadu cyhoeddi adroddiad pellach yn y flwyddyn Newydd gydag argymhellion manwl wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.
Materion amserol a drafodwyd gan y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd
Cyflenwad Tai
Fel y nodwyd yn ein hadroddiad y llynedd, mae’r Bwrdd Cynghori o'r farn bod gwneud cynnydd ar gyflenwad tai yn hanfodol i'r nod ehangach o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Mae cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn sylfaenol i'r newid tuag at ddull ailgartrefu cyflym sy'n galluogi pobl i symud i gartref addas cyn gynted â phosibl.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Bwrdd Cynghori wedi croesawu diweddariadau chwarterol gan Lywodraeth Cymru ar ymdrechion i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol y tymor Senedd hwn. Mae’r Bwrdd Cynghori yn cydnabod, er bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n galed ar gyflawni’r targed hwn a mynd i’r afael â llu o rwystrau, fel yr amlygwyd yn adroddiad Tai Fforddiadwy a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Archwilio Cymru, bod yna angen hanfodol i fuddsoddi a pharhau gyda’r momentwm os bwriedir gwireddu’r ymrwymiad hwn yn 2026. Mae bwrw ymlaen â'r agenda hwn yn hanfodol a byddai'r Bwrdd Cynghori yn annog y Cabinet sydd newydd ei benodi i sicrhau bod hwn yn faes sy’n cael ffocws allweddol.
Yn ogystal, mae’r Bwrdd Cynghori yn glir bod yn rhaid i ni geisio sicrhau bod cynlluniau i gynyddu cartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol yn cael eu llywio'n briodol gan anghenion pobl sy'n profi digartrefedd. Mae'r prosiect newydd a ddatblygwyd fel rhan o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym yn ceisio darparu mewnwelediadau gwerthfawr yn hyn o beth (gweler isod am fwy o fanylion).
Roedd gan aelodau’r Bwrdd Cynghori ddiddordeb yn y dull newydd o gynnal Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol sy’n ceisio casglu mwy o ddata gronynnol ar gyfer anghenion tai ar lefel awdurdod lleol. Mae’r Bwrdd Cynghori yn awyddus i glywed mwy o wybodaeth am y cyflwyniadau mae Llywodraeth Cymru wedi’u derbyn gan Awdurdodau Lleol yn ystod y misoedd nesaf.
Yn ogystal, mae’r Bwrdd Cynghori yn ymwybodol bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Bydd yn bwysig dysgu o'r canfyddiadau hyn.
Y Papur Gwyn ar roi Diwedd ar Ddigartrefedd
Croesawodd y Bwrdd gyhoeddiad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd fis Hydref diwethaf. Fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, mae diwygio deddfwriaethol yn rhan allweddol o'r darlun ehangach wrth roi terfyn ar ddigartrefedd ar draws ein gwlad. Mae’r Bwrdd Cynghori wedi croesawu’r cais i’r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen, gan gynnwys y grŵp Iechyd a Digartrefedd, i gynorthwyo gyda chyngor ad-hoc wrth i gynigion ddatblygu ymhellach.
Mae'r Bwrdd Cynghori yn credu ei bod yn hanfodol bod y Cabinet newydd sydd wedi’i ffurfio yn bwrw ymlaen ag ymrwymiadau i ddiwygio deddfwriaeth digartrefedd y tymor Senedd hwn.
Y Grant Cymorth Tai
Drwy gydol y flwyddyn, mae pwysigrwydd buddsoddi yn ein gwasanaethau digartrefedd wedi bod yn thema gyson yn nhrafodaethau'r Bwrdd Cynghori – ac yn benodol y Grant Cymorth Tai, sy'n ariannu llawer o wasanaethau cymorth digartrefedd ar draws y wlad.
Er bod y Bwrdd Cynghori yn gwerthfawrogi’r pwysau ariannol sylweddol oedd ar Lywodraeth Cymru wrth osod y gyllideb ddiwethaf, roedd y Bwrdd Cynghori yn bryderus pan wnaeth y gyllideb ddrafft nodi y byddai’r Grant Cymorth Tai yn aros yn statig.
Fe wnaeth aelodau’r Bwrdd Cynghori gydnabod goblygiadau hyn ar ddarparu gwasanaethau ar draws Cymru – yn enwedig yng nghyd-destun cynnydd yn y nifer sy’n cyflwyno’r ddigartref yn ogystal â llwythi achosion cynyddol a chymhleth. Yn benodol, nododd y Bwrdd Cynghori bryder am yr ymchwil gan Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru a ddangosodd fod 77% o wasanaethau yn debygol o leihau eu gwasanaethau a 40% yn rhoi contractau yn eu hôl.[6] Dywedodd Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru ac aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer y Gweithlu eu bod hefyd yn pryderu bod gweithwyr rheng flaen ar gyflogau oedd yn is na’r isafswm cyflog a’r Cyflog Byw Gwirioneddol a bod cyllideb statig y grant yn ei gwneud hi’n anodd iawn i ddarparwyr gynyddu tâl a chadw staff medrus.
Roedd y Bwrdd Cynghori yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd wedi gwrando ar bryderon a godwyd gan y sector tai ar y mater hwn a bod Llywodraeth Cymru wedi medru cynyddu’r Gyllideb Atal Digartrefedd yn y gyllideb derfynol ym mis Chwefror, ac o ganlyniad cynnydd i’r Grant Cymorth Tai. Yn unol â galwadau gan Cymorth Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet annog i’r cynnydd hwn gael ei ddefnyddio er mwyn cael Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer staff.
Wrth inni nesáu at y gyllideb ddrafft nesaf, a fydd yn sicr yn cyflwyno heriau ariannol parhaus, mae aelodau'r Bwrdd Cynghori wedi mynegi'r angen i ddiogelu'r manteision a wnaed yn y setliad cyllidebol diwethaf a pharhau i fuddsoddi yn y Grant Cymorth Tai a'r gweithlu.
Lwfans Tai Lleol
Mae’r Bwrdd Cynghori wedi codi pryderon ers tro ynghylch lefelau buddsoddiad yn y Lwfans Tai Lleol ac roedd yn falch o weld yr ymrwymiad i gynyddu'r lwfans yng nghyllideb Hydref Llywodraeth y DU y llynedd. Er croesawir y buddsoddiad hwn, mae aelodau’r Bwrdd Cynghori yn awyddus i weld ymrwymiad tymor-hwy i fuddsoddi mewn budd-dal tai fel y gall rhentu cartrefi fod yn wirioneddol fwy fforddiadwy. Mae hwn yn fater penodol yng Nghymru, lle mae ymchwil wedi dangos mai dim ond 2% o eiddo a hysbysebwyd o fewn cyfraddau Lwfans Tai Lleol yn 2022/23.[7]
Mae'r Bwrdd yn falch bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i'r perwyl hwn. Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud hynny nawr bod Llywodraeth newydd yn y DU mewn lle ac wrth i ni nesáu at y gyllideb nesaf ym mis Hydref, gan bwysleisio bod hwn yn faes allweddol lle gall ein llywodraethau gydweithio i sicrhau newid er budd pobl sydd ar fin dod yn ddigartref yng Nghymru a Lloegr.
Bil Cyfiawnder Troseddol
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mynegodd aelodau'r Bwrdd Cynghori gryn bryder ynghylch mesurau o fewn Bil Cyfiawnder Troseddol arfaethedig Llywodraeth flaenorol y DU. Byddai'r mesurau hyn wedi cyflwyno pwerau'r heddlu yng Nghymru a Lloegr i ddirwyo neu garcharu pobl am gysgu ar y stryd neu gardota. Roedd y Bwrdd Cynghori o'r farn, pe bai'n cael ei gyflwyno, y byddai'r Bil hwn yn ysgogi diwylliant o ddiffyg ymddiriedaeth rhwng pobl sy'n wynebu digartrefedd ac ar y stryd ac awdurdodau. Roedd y Bwrdd Cynghori yn teimlo fod y cynigion yn bygwth tanseilio’r cyfeiriad cadarnhaol tuag at ddigartrefedd yng Nghymru trwy ddull sy’n ystyriol o drawma.
Er nad yw’r Bil Cyfiawnder Troseddol yn bwrw ymlaen ar ôl i’r Etholiad Cyffredinol gael ei gyhoeddi, mae’r Bwrdd Cynghori yn nodi bod y Ddeddf Crwydraeth 1824 yn parhau mewn lle, er gwaethaf cefnogaeth drawsbleidiol (a chefnogaeth yn y Senedd) i ddileu’r ddeddf. Mae'r ddeddf hon yn golygu bod pobl yn parhau i gael cosb troseddol am fod yn ddigartref. Mae’r Bwrdd Cynghori yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi diddymu’r Ddeddf Crwydraeth.
Grwpiau Gorchwyl a Gorffen
Mae gwaith y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yn cael ei lywio gan nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen penodedig. Mae pob un o’r grwpiau hyn yn ffocysu ar archwilio argymhellion craidd o fewn adroddiad blynyddol blaenorol y Bwrdd Cynghori, gan geisio rhoi cyngor pellach i Lywodraeth Cymru yn y meysydd hyn.
Mae’r Bwrdd Cynghori yn hynod ddiolchgar i gadeiryddion ac aelodau'r grwpiau gorchwyl a gorffen hyn. Rydym yn rhagweld y bydd y grwpiau yn darparu argymhellion manylach yn ystod y misoedd nesaf.
Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd
Yn dilyn adroddiad blynyddol diwethaf y Bwrdd Cynghori, daeth yr ymgynghoriad ar y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd i ben a chyhoeddwyd y fframwaith ym mis Ionawr 2024. O ganlyniad, daeth y grŵp gorchwyl a gorffen oedd yn gysylltiedig â'r gwaith hwn i ben yn gynharach eleni.
Mae'r Bwrdd Cynghori yn ddiolchgar i'r grŵp am ddatblygu'r fframwaith hwn, sy'n arf gwerthfawr wrth gefnogi'r cyfeiriad strategol ar gyfer atal a dod â digartrefedd i ben yng Nghymru.
Cyhoeddwyd Adroddiad Sylfaen y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ym mis Gorffennaf 2024. Dyma adroddiad sylfaen cyntaf yn erbyn y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd. Dylai’r adroddiad hwn cael ei ddarllen ar y cyd gyda’r Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddiweddarwyd ym mis Awst 2023.
Cydnabyddir y bydd angen gwaith parhaus o ran cyflawni'r set ddata lawn sy'n ofynnol ar gyfer y fframwaith. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Bwrdd Data Digartrefedd mewnol newydd gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi er mwyn neud cynnydd ar y strategaeth tymor hwy ar gyfer ystadegau digartrefedd a sicrhau gwelliannau o ran data digartrefedd yng Nghymru.
Nodir hefyd y gallai fod angen i'r fframwaith addasu wrth i newid deddfwriaethol gael ei gyflwyno.
Fodd bynnag, yn y cyfamser, mae'r Bwrdd Cynghori yn falch bod y fframwaith yn cael ei ddefnyddio ac yn croesawu'r adroddiad sylfaen cyntaf.
Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweithlu
Mae grŵp gorchwyl a gorffen y gweithlu wedi parhau i fwrw ymlaen i archwilio mecanweithiau a fyddai'n cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i "ddatblygu gweithlu cadarn a werthfawrogir, ac a gydnabyddir am ei arbenigedd."
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r grŵp wedi adeiladu ar ei adroddiad blaenorol, a oedd yn edrych ar yr angen i ddatblygu'r cymorth emosiynol sydd ar gael i weithwyr rheng flaen, sy'n aml yn gweithio mewn amgylcheddau pwysedd uchel. Yn dilyn hyn, mae'r grŵp wedi cychwyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i dreialu mynediad i Canopi ar gyfer gweithwyr rheng flaen mewn - sef gwasanaeth cymorth emosiynol a ddefnyddir gan staff y GIG a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r grŵp hefyd wedi cwblhau canllaw arfer gorau newydd, sy'n ceisio cynorthwyo gwasanaethau ar draws y sector i recriwtio staff.
Yn ogystal, mae'r grŵp wedi dechrau gweithio ar draws nifer o ffrydiau gwaith eraill, gan gynnwys:
- Ystyriaeth o gyflogau. Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn dadansoddi data ar gyflogau gweithwyr cymorth, gan ddefnyddio ffurflenni arolwg gan 3,000 o'r tua 3,500 o weithwyr yng Nghymru.
- Datblygu llwybr sgiliau a chymwysterau arfaethedig ar gyfer staff rheng flaen.
- Datblygu set newydd o ganllawiau comisiynu arfer gorau sy'n canolbwyntio ar delerau ac amodau'r gweithlu. Mae'r grŵp yn bwriadu i'r canllawiau gynnwys disgwyliad y bydd darparwyr yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf dros gyfnod o amser y cytunwyd arno; contractau tymor hwy i ddarparu mwy o ddiogelwch swydd; yn ogystal ag ymrwymiad i ddarparu amser ac adnoddau ar gyfer hyfforddiant a datblygiad staff ac ymarfer myfyriol.
Mae disgwyl i'r grŵp gorchwyl a gorffen adrodd yn ôl i'r Bwrdd ar bob un o'r meysydd hyn yn ddiweddarach eleni.
Yn y cyfamser, mae'r grŵp hefyd wedi ystyried sut mae pob un o'r ffrydiau gwaith hyn yn cysylltu â’r weledigaeth ehangach ar gyfer y gweithlu, yn debyg i'r fframwaith Gwaith Teg ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae'r grŵp wrthi'n datblygu'r weledigaeth hon, ac yn rhagweld y bydd yn cynnwys yr angen am wobrwyo a chydnabyddiaeth deg, amgylchedd gwaith cefnogol yn ogystal â diogelwch swyddi a dilyniant. Bydd y grŵp hefyd yn ystyried sut y gall y weledigaeth hon gwmpasu canlyniadau i bobl sy'n wynebu digartrefedd yn ogystal ag adlewyrchu'r newid i ddull Ailgartrefu Cyflym.
Mae'r grŵp yn cynnig, yn debyg i'r model ar gyfer gofal cymdeithasol, y gellir sefydlu Fforwm Gwaith Teg Digartrefedd i weithredu a chyflwyno gweledigaeth ar gyfer y gweithlu rheng flaen, gyda chefnogaeth gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd a Chynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod atebion digartrefedd yn cynnwys grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Er mwyn helpu i gefnogi hyn, mae'r grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi canolbwyntio ar hil ac ethnigrwydd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Cyfarfu'r grŵp â chadeiryddion y grwpiau gorchwyl a gorffen ar y gweithlu ac ailgartrefu'n gyflym ac mae wedi gwneud argymhellion i helpu i sicrhau lens hil a lleiafrifol ethnig i'r ffrydiau gwaith hyn. Mae cadeiryddion y grwpiau wedi croesawu'r argymhellion a byddant yn eu hymgorffori yn eu gwaith parhaus.
Fe wnaeth y grŵp hefyd ddarparu cyfres o argymhellion i'w hystyried ar draws gwaith parhaus Llywodraeth Cymru. Yn benodol, nododd y grŵp yr angen am ddata cliriach ar hil, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a digartrefedd. Pwysleisiodd y grŵp yr angen i fynd i'r afael â'r bwlch yn y data hwn i wella dealltwriaeth o raddfa y rhwystrau a natur y rhwystrau penodol mae'r grwpiau hyn yn eu hwynebu wrth gael mynediad i gartref sefydlog a diogel, yn ogystal â monitro canlyniadau ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae’r grŵp wedi nodi’r cyfleoedd i ddatblygu data yn y maes hwn i gynorthwyo’r gwaith o weithredu diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig a datblygiad pellach y Fframwaith Canlyniadau Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd.
Mae’r grŵp wedi amlygu’r risg benodol o amddifadedd ymhlith y rhai nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus oherwydd eu statws a'u gallu i gael mynediad at gymorth. Teimlai'r grŵp ei bod yn arbennig o bwysig mynd i'r afael â'r diffyg data sydd ar gael ar bobl sy'n profi digartrefedd sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus a chael darlun manylach a dealltwriaeth o'r mater hwn yng Nghymru.
Cyflwynodd y grŵp bapur i'r Bwrdd yn galw am gomisiynu ymchwil i weld sut y gellir mynd i'r afael â bylchau data digartrefedd ar hil, ethnigrwydd a rhai sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus a'u coladu'n gyson yn y dyfodol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystyried y papur gan archwilio a oes ffyrdd neu ffrydiau gwaith eraill a allai helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae ystyriaethau hefyd ar gyfer gwaith ehangach Llywodraeth Cymru ar ddatblygu data digartrefedd.
Ailgartrefu Cyflym
Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen ar ailgartrefu'n gyflym wedi ailosod ei gynllun gwaith yn ddiweddar. Gyda chefnogaeth y Bwrdd, mae wedi nodi dau faes allweddol sy'n sylfaenol wrth symud ymlaen tuag at ddull ailgartrefu cyflym ac wedi sefydlu dau weithgor newydd i archwilio'r meysydd hyn.
Mae'r gweithgor cyntaf yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol cynllunio'r cartrefi cywir yn y mannau cywir. Bydd y gweithgor hwn yn ystyried pa mor effeithiol mae gwybodaeth am anghenion lleol pobl sy'n profi digartrefedd yn cyd-fynd â'r cyflenwad o dai. Bydd y gweithgor yn cynnal archwiliad dwfn gyda thri awdurdod lleol - Conwy, Caerdydd, a Rhondda Cynon Taf - i ystyried data yn ofalus ar draws systemau a strwythurau cynllunio, gan gynnwys Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym ac Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol. Trwy'r gwaith hwn, bydd y grŵp yn nodi arfer da yn ogystal â meysydd lle gellid gwella dulliau a systemau i greu mwy o gysylltiad rhwng anghenion pobl sy'n profi digartrefedd a chynllunio cyflenwi. Nod y gweithgor yw cyflwyno argymhellion ymarferol i gynorthwyo Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar draws Cymru i sicrhau bod cynlluniau i ddatblygu'r cyflenwad tai yn cyd-fynd â gofynion digartrefedd.
Mae'r ail weithgor yn cydnabod, fel y nodwyd yn adroddiad blaenorol y Bwrdd Cynghori, bod angen cymorth eang i rhanddeiliaid symud tuag at ailgartrefu'n gyflym. Mae'n hanfodol bod y cymorth hwn yn ymestyn y tu hwnt i wasanaethau tai ac yn pontio adrannau llywodraeth leol, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill. Bydd y grŵp hwn yn canolbwyntio ar gynyddu ymwybyddiaeth o ailgartrefu'n gyflym a'r manteision y mae'r dull hwn yn eu cynnig i bobl sy'n profi digartrefedd, yn ogystal ag i'n gwasanaethau cyhoeddus. Yn benodol, bydd y gweithgor yn ceisio datblygu cynllun cyfathrebu i gynorthwyo gyda hyn. Mae'r Bwrdd Cynghori hefyd yn awyddus i'r gweithgor gynnal uwchgynhadledd genedlaethol ar ailgartrefu'n gyflym, gan ddod â phartneriaid allweddol o bob cwr o'r wlad ynghyd a sbarduno momentwm ar gyfer y dull hwn. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gefnogi uwchgynhadledd genedlaethol yn ffurfiol.
Iechyd a Digartrefedd
Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen iechyd a digartrefedd hefyd wedi cael adolygiad o'i gynllun gwaith ochr yn ochr ag ychwanegu aelodau newydd i’r grŵp.
Mae'r grŵp yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o bob un o'r byrddau iechyd, yn ogystal ag o Iechyd Cyhoeddus Cymru, HMPPS, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Pathway (Elusen Digartrefedd a Iechyd Cynhwysiant y DU).
Bydd y cynllun gwaith ar gyfer y grŵp yn cwmpasu tri maes craidd:
- Rôl iechyd mewn atal Digartrefedd
- Gwell mynediad at ofal sylfaenol
- Sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei ryddhau o'r ysbyty i ddigartrefedd yn fwriadol.
Ar draws pob un o'r meysydd hyn, bydd y grŵp yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar agweddau iechyd y Papur Gwyn. Mae hyn yn cynnwys ystyried treial o fewn unedau brys a wardiau ysbytai o'r ddyletswydd i gyfeirio pobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd neu'n profi digartrefedd. Bydd hefyd yn ystyried adeiladu ar y canllawiau cyfredol ynghylch atal unigolion o gael eu rhyddhau o ysbytai i fod yn ddigartref.
Yn ogystal, bydd y grŵp yn dysgu o brosiectau parhaus ar draws Cymru i yrru ymlaen yr agenda cynhwysiant iechyd. Yn benodol, bydd y grŵp yn ceisio datblygu systemau, prosesau, a dulliau i gefnogi clystyrau Gofal Sylfaenol wrth iddynt gynllunio eu dull o gynnwys iechyd cynhwysiant. Bydd hefyd yn archwilio ffyrdd o gryfhau'r dull sy'n ystyriol o drawma ar gyfer darpariaeth gofal iechyd i bobl yn y gwasanaeth prawf a phobl sy'n gadael y carchar trwy ddull
Y camau nesaf
Mae’r Bwrdd Cynghori yn gofyn am gefnogaeth a chymeradwyaeth Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer y ffrydiau gwaith a amlinellir uchod. Rydym yn edrych ymlaen at ddarparu argymhellion manylach dros y misoedd nesaf.
Yn y flwyddyn newydd, bydd y Bwrdd Cynghori yn adolygu ei gynllun gwaith i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r blaenoriaethau pwysicaf, yn ogystal â chyd-destun presennol y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd.
[1] Gweler Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Mehefin 2024 [HTML] | LLYW. CYMRU
[2]Gweler Digartrefedd: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 | LLYW.CYMRU
[3] Er enghraifft, gweler https://phw.nhs.wales/publications/publications1/health-of-individuals-with-lived-experience-of-homelessness-in-wales-during-the-covid-19-pandemic-infographic/
[4]Er enghraifft, fe wnaeth adroddiad gan Archwilio Cymru nodi bod costau ar gyfer Llety dros Dro yn Sir y Fflint yn cynyddu mwy na 300%, gweler Audit Wales (2023) Homeless Services – Flintshire County Council. Fodd bynnag, rydym yn deall bod problemau cost ar draws y wlad.
[6]Gweler HM-report-WG-Budget-2425-CYM.pdf (cymorthcymru.org.uk)
[7]Gweler Charity calls for an end to housing benefit freeze this winter as shocking new statistics unveiled | Crisis | Together we will end homelessness. Gweler hefyd ymchwil gan Sefydliad Bevan, sy’n dangos mai dim ond 32 eiddo rhent preifat ar draws Cymru ym mis Chwefror 2023 oedd o fewn cyfraddau Lwfans Tai Lleol https://www.bevanfoundation.org/resources/housing-winter-2023/.