Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu, ym mis Mawrth cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau a osododd gyfyngiadau llym ar gynulliadau, symudiad pobl a gweithrediad busnesau, gan gynnwys cau safleoedd yng Nghymru.

Maent hefyd yn gosod gofynion ar fusnesau sydd ar agor i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau 2 fetr o bellter corfforol rhwng pobl.

Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am y gofynion a'r cyfyngiadau yn y rheoliadau bob 21 diwrnod.

Yn ôl y dystiolaeth ddiweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y DU (SAGE) a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru, er bod brig cyntaf yr haint wedi mynd heibio a bod y cyfraddau'n parhau i ostwng, mae'n dal yn rhy gynnar i lacio'r gofynion neu'r cyfyngiadau yn sylweddol. 

Fel rhan o'r ail adolygiad, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y bydd y cyfyngiadau symud yng Nghymru yn parhau tan y cyfnod adolygu nesaf ar ddiwedd mis Mehefin.

Gofynnir i bobl barhau i weithio gartref os gallant wneud hynny.
Ddydd Gwener (8 Mai), cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Cymru'n gwneud cyfres o addasiadau bach i'r rheoliadau, gan gynnwys:

  • caniatáu i bobl wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, ond dylai pobl aros yn lleol. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref a pheidio â chynnwys teithio pellter sylweddol o'r cartref.
  • galluogi awdurdodau lleol i ddechrau'r broses o gynllunio sut i ailagor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu trefol yn ddiogel.
  • caniatáu i ganolfannau garddio agor ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â'r ddyletswydd i gadw pellter corfforol.

Daeth yr addasiadau hyn i rym ddydd Llun 11 Mai.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog ddydd Gwener 29 Mai y bydd dwy aelwyd yn yr un ardal leol yn gallu cwrdd yn yr awyr agored. Mae'n rhaid i chi ddilyn arferion o ran cadw pellter corfforol a hylendid dwylo llym i reoli lledaeniad y firws.

Ystyr 'lleol' yw nid yn gyffredinol teithio mwy na 5 milltir o gartref i leihau'r risg o coronafeirws yn lledaenu o un ardal i'r llall.

Daeth y Rheoliadau hyn i rym ddydd Llun 1 Mehefin.

Yn y ddogfen Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi: dal i drafod a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mai, nododd y Prif Weinidog ddull ‘goleuadau traffig’ yn amlinellu'r ffordd y gallai Cymru lacio cyfyngiadau symud y coronafeirws. Yn y ddogfen, nododd y Prif Weinidog yr ymrwymiad canlynol:  

Dros y 10 diwrnod nesaf byddwn yn siarad ag ystod mor eang o’n partneriaid ag y gallwn er mwyn meithrin cyd-ddealltwriaeth o beth sydd angen ei wneud i baratoi at leihau’r cyfyngiadau yn raddol. I ddechrau, byddwn yn ymgynghori ar ganllawiau ynglŷn â’r canlynol:

  • y gweithle
  • trafnidiaeth gyhoeddus
  • ysgolion, gofal plant, addysg bellach a gwasanaethau cyhoeddus eraill
  • addysg uwch
  • diwylliant a thwristiaeth
  • chwaraeon a hamdden
  • tai ac adeiladu

Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ddeall sut i deithio'n ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru wrth i weithredwyr trafnidiaeth ddatblygu cynlluniau i ailddechrau trafnidiaeth er mwyn sicrhau eich bod mor ddiogel â phosibl a lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws. Maent yn rhoi cyngor ar deithio ar droed, ar feic ac mewn cerbydau preifat (er enghraifft ceir a faniau) ac mewn tacsis ac ar drafnidiaeth gyhoeddus (er enghraifft trenau, bysiau a llongau fferi).

Cânt eu hadolygu'n barhaus wrth i'r trefniadau ar gyfer y cyfyngiadau symud eu hunain gael eu hadolygu a'u diwygio wrth i drafnidiaeth gyhoeddus ailddechrau ac yng ngoleuni profiad.

Gorchuddion wyneb

Ddydd Gwenr 5 Mehefin rhoddodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y cyngor diweddaraf ar orchuddion wyneb nad ydynt yn feddygol. Mae yn amlwg nad yw’r defnydd cyffredinol o orchuddion wyneb nad ydynt yn feddygol gan bobl iach yn cael ei gefnogi ar hyn o bryd o fewn y gymuned.   

Fodd bynnag roedd WHO yn argymell bod llywodraethau yn annog y cyhoedd i ddefnyddio gorchuddion wyneb 3 haen nad ydynt yn feddygol mewn amgylchiadau penodol ble nad oedd mesurau eraill mwy effeithiol yn bosibl.   

Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn y cyngor hwn ac yn argymell bod pobl yng Nghymru yn gwisg gorchuddion wyneb 3 haen mewn sefyllfaoedd ble nad yw pellter corfforol yn bosibl. Yr enghraifft amlycaf yw trafnidiaeth gyhoeddus ble y mae capasiti o dros 15% yn debygol o olygu nad yw cadw pellter corfforol yn bosibl.  

Gallai gorchudd wedi’i wneud gartref neu sydd wedi ei brynu leihau’r trosglwyddiad o un person i’r llall os yw wedi ei wneud, ei drin a’i drafod a’i waredu yn iawn. Mae’n bosibl golchi rhai goruchddion wyneb a’u hailddefnyddio. 

Mae hyn ond yn berthnasol i bobl nad ydynt yn symptomatig. Mae’n rhaid i bobl sydd yn symptomatig barhau i hunan-ynysu am saith diwrnod ac yna gael eu profi.   

Peidiwch â gadael i orchudd wyneb wneud ichi deimlo yn rhy ddiogel.  Nid yw gwisgo gorchudd wyneb yn esgus am anwybyddu mesurau pellter corfforol.  Mae cadw pellter corfforol ble bynnag y mae’n bosibl yn ddull mwy effeithiol na gwisgo gorchudd wyneb, ond gallai y ddau gyda’i gilydd fod o fudd ble nad yw pellter corfforol yn bosibl.  

Mae’n bwysig defnyddio gorchuddion wyneb yn iawn a golchi dwylo cyn eu gosod neu eu tynnu i ffwrdd.  Ac mae’n bwysig peidio â theimlo yn rhy ddiogel wrth ddefnyddio gorchudd wyneb: ac mae hylendid, golchi dwylo a defnyddio hylif diheintio dwylo a chadw at y pellter o 2 fetr yn parhau i fod yn bwysig.  

A yw eich taith yn hanfodol?

Dim ond am y rhesymau canlynol y dylech deithio:

  • i fynd i'r gwaith ac yn ôl adref, os na allwch weithio gartref 
  • i nôl bwyd neu gyflenwadau meddygol hanfodol
  • i helpu rhywun sy'n agored i niwed, os na all neb arall wneud hynny
  • i wneud ymarfer corff dyddiol, gan aros yn lleol

Ni ddylech deithio os ydych: 

Cyn ichi deithio, dylech ystyried a yw eich taith yn angenrheidiol ac a yw'r rheolau yng Nghymru yn ei chaniatáu. Os byddwch yn teithio i ran arall o'r DU, cadwch y rheolau sy'n gymwys yn y rhan honno o'r DU mewn cof, ynghyd â'r angen i gydymffurfio â'r rheoliadau yng Nghymru pan fyddwch yn dychwelyd i Gymru. 

Ceisiwch deithio llai. Os bydd angen ichi deithio, meddyliwch yn ofalus am yr amseroedd y byddwch yn teithio, a'r llwybrau a'r dulliau y byddwch yn eu defnyddio, gan y bydd hyn yn golygu y bydd gan bob un ohonom fwy o le i gadw'n ddiogel. Bydd hyn yn sicrhau y gall y rhwydwaith trafnidiaeth barhau i weithredu ac yn galluogi pobl i deithio pan fydd hynny'n hanfodol. Gallwch deithio llai drwy wneud y canlynol:

Cerdded a beicio

Dylech gerdded neu feicio os oes modd. Mae'n llesol i chi ac i'r amgylchedd. Bydd cerdded a beicio hefyd yn lleihau'r pwysau ar y system trafnidiaeth gyhoeddus a'r rhwydwaith ffyrdd. 

Ceisiwch gadw pellter corfforol pan fyddwch yn cerdded neu'n beicio, er enghraifft wrth nesáu at feicwyr neu gerddwyr eraill neu fynd heibio iddynt, neu wrth aros wrth groesfannau a goleuadau traffig.

Pan fyddwch yn defnyddio beiciau, gan gynnwys beiciau wedi'u llogi o orsafoedd docio, golchwch eich dwylo neu defnyddiwch lanweithydd dwylo cyn ac ar ôl beicio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Gweithiwch gartref os oes modd. Os bydd angen ichi deithio, dylech gael y wybodaeth deithio ddiweddaraf ar gyfer eich llwybr gan eich gweithredwr trafnidiaeth, gan gynnwys lefel y gwasanaeth a pha mor brysur yw hi.

Gall gymryd mwy o amser na'r arfer i deithio ar rai llwybrau o ganlyniad i lai o gapasiti a mesurau cadw pellter corfforol. Caniatewch ddigon o amser os bydd angen ichi newid rhwng gwahanol ddulliau o deithio yn ystod eich taith. 

Cynlluniwch ymlaen llaw drwy nodi llwybrau ac opsiynau eraill i'w defnyddio yn achos tarfu annisgwyl.

Teithiwch ar adegau tawel os oes modd. Gall eich gweithredwr trafnidiaeth roi gwybod ichi pryd bydd yr adegau tawel. Mae'n bosibl y gall eich cyflogwr gytuno ar oriau gwaith gwahanol neu hyblyg i gefnogi hyn.

Lle bo modd, prynwch eich tocynnau teithio ar-lein drwy ap neu wefan docynnau eich darparwr trafnidiaeth. Dylech ystyried defnyddio dulliau talu digyffwrdd i brynu tocynnau. 

Bydd dewis llwybr llai prysur a lleihau nifer y newidiadau (er enghraifft o fws i drên) yn eich helpu i gadw pellter oddi wrth bobl eraill. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell y dylid cadw pellter o 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl eraill. Lle bo hyn yn anodd, dylech dreulio cyn lleied o amser â phosibl o fewn 2 fetr i bobl eraill ac osgoi cyswllt corfforol. 

Ceisiwch ddechrau neu orffen eich taith gan ddefnyddio gorsaf neu ddull teithio y gwyddoch ei bod/ei fod yn dawelach neu'n fwy uniongyrchol. Er enghraifft, cerddwch filltir gyntaf neu olaf eich taith, neu gadewch y bws neu'r trên mewn gorsaf gynharach, lle bo hyn yn bosibl. Gwisgwch orchudd wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd pan nad yw cadw pellter corfforol yn bosibl.

Os bydd angen cyngor a chymorth arnoch i deithio, er enghraifft os oes gennych anabledd neu angen penodol, holwch y gweithredwr trafnidiaeth perthnasol ymlaen llaw i gael cyngor a thrafodwch yr hyn y bydd ei angen arnoch. 

Y pethau y dylech fynd â nhw gyda chi

Dylech ystyried gwneud rhestr o bethau i fynd gyda chi a mynd â chyn lleied â phosibl o fagiau ar drafnidiaeth.

Ar eich taith 

Gall rhai llwybrau fod yn brysurach na'r arfer o ganlyniad i fesurau cadw pellter corfforol neu newidiadau i amserlenni blaenorol. 

Dylech dalu sylw i gadw pellter corfforol wrth giwio mewn safleoedd bysiau a gorsafoedd trenau. Gwisgwch orchudd wyneb tair haen pan nad yw cadw pellter corfforol yn bosibl. Ceisiwch ddarganfod a oes gan bobl eraill yn y ciw anghenion teithio mwy hanfodol, er enghraifft a ydynt yn weithwyr iechyd neu ofal cymdeithasol? Os na allwch fynd ar fws neu drên penodol, byddwch yn amyneddgar dan yr amgylchiadau anodd hyn. Bydd pawb yn gwneud eu gorau glas. Peidiwch â rhuthro at ddrysau bws neu drên gan achosi torf neu roi teithwyr eraill ag anghenion penodol dan anfantais. 

Wrth deithio, dylech geisio cadw 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â chi. Mae'n bosibl y bydd sefyllfaoedd lle y gall hyn fod yn anodd, er enghraifft wrth gyrraedd neu adael y cerbyd, ar wasanaethau prysurach, ar adegau prysurach o'r dydd neu wrth gerdded drwy gyfnewidfeydd. Os byddwch yn dod o fewn 2 fetr i bobl eraill, dylech osgoi cyswllt corfforol, ceisio peidio â wynebu pobl eraill, a threulio cyn lleied o amser â phosibl o fewn 2 fetr i bobl eraill. 

Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo gorchudd wyneb tair haen ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gall gwisgo gorchudd wyneb fod yn fuddiol rhag ofn. Gall gynnig rhywfaint o ddiogelwch ychwanegol ichi a diogelu eraill os ydych chi wedi'ch heintio, p'un a ydych wedi datblygu symptomau ai peidio. Os byddwch yn gwisgo gorchudd wyneb, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei wisgo'n gywir a'i fod yn ffitio'n dynn dros eich trwyn a'ch ceg. Peidiwch â gadael i'r ffaith eich bod yn defnyddio gorchudd wyneb roi ymdeimlad ffug o sicrwydd ichi: dylech barhau i gadw pellter corfforol a chynnal hylendid da gan gynnwys golchi eich dwylo cyn gwisgo neu dynnu gorchudd wyneb, a golchi eich dwylo am 20 eiliad neu ddefnyddio glanweithydd dwylo cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau eich taith. 

Nid yw gwisgo gorchudd wyneb yn ofynnol yn ôl y gyfraith ond argymhellir gwneud hynny wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu pan fydd hi'n anodd cadw pellter corfforol o 2 fetr (dylid treulio cyn lleied o amser â phosibl yn agos at bobl eraill yn yr achosion hyn). 

Yn y sefyllfaoedd hyn, nid yw gorchudd wyneb yr un peth â'r mygydau llawfeddygol neu'r anadlwyr a ddefnyddir gan weithwyr gofal iechyd a gweithwyr eraill megis gweithwyr gofal corfforol fel rhan o'u cyfarpar diogelu personol (neu PPE). Dylech barhau i gadw cyfarpar diogelu personol manyleb uwch ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal corfforol a gweithwyr mewn lleoliadau diwydiannol, er enghraifft lle y byddant yn dod i gysylltiad â llwch a pheryglon tebyg eraill. Os byddwch am ddefnyddio gorchudd wyneb a'ch bod yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar un, mae'n bosibl gwneud gorchuddion wyneb gartref os bydd angen.

Dylech gael gwared ar orchuddion wyneb na ellir eu hailddefnyddio yn ofalus mewn biniau sbwriel neu gynhwysyddion eraill a ddarperir at y diben hwnnw, neu fynd â nhw adref a’u gwaredu nes ymlaen. Peidiwch â thaflu gorchuddion wyneb wedi eu defnyddio ar y llawr: nid yn unig maent yn sbwriel ond gallent hefyd gyfrannu at ledaenu’r coronafeirws. 

Dylech drin staff trafnidiaeth â pharch a dilyn y cyfarwyddiadau gan eich gweithredwr trafnidiaeth. Gall hyn gynnwys:

  • hysbysiadau am ba seddi i'w defnyddio neu sut i giwio
  • sgriniau, rhwystrau neu farciau llawr ychwanegol
  • negeseuon yn gofyn ichi fynd i mewn i'r cerbyd drwy ddrysau gwahanol neu symud i ardaloedd llai prysur

Byddwch yn ystyriol o'ch cyd-deithwyr a staff trafnidiaeth:

  • arhoswch nes y bydd teithwyr eraill wedi mynd i mewn neu allan o'r cerbyd cyn ichi fynd i mewn
  • peidiwch ag ymgynnull yn agos at fynedfeydd ac allanfeydd, o dan ganopïau, mewn safleoedd bysiau, ar blatfformau na'r tu allan i orsafoedd
  • byddwch yn barod i giwio neu ewch drwy fynedfa neu allanfa wahanol mewn gorsafoedd 
  • arhoswch am y gwasanaeth nesaf os na allwch gadw eich pellter yn ddiogel ar drên neu fws
  • parchwch ofod personol pobl eraill wrth deithio
  • byddwch yn ymwybodol o bobl feichiog, oedrannus ac anabl y gall fod angen iddynt gael sedd neu le ychwanegol, er enghraifft er mwyn rhoi cadair olwyn yn sownd
  • byddwch yn ymwybodol y gall fod gan rai unigolion anableddau cudd
  • byddwch yn ymwybodol o bobl y mae angen iddynt gael cymorth arbennig, er enghraifft, os bydd angen i rywun ddarllen gwefusau, dylech ystyried codi eich gorchudd wyneb wrth gadw pellter corfforol priodol
  • os bydd rhywun gerllaw ichi yn ei chael hi'n anodd clywed, darllen neu weld hysbysiad neu'n ei chael hi'n anodd cael gwybodaeth fel arall, byddwch yn barod i'w helpu fel y byddech yn ei wneud dan amgylchiadau arferol, gan gadw pellter corfforol

Byddwch yn ymwybodol o'r arwynebau y byddwch yn cyffwrdd â nhw. Ceisiwch gyffwrdd â chyn lleied o arwynebau â phosibl. Defnyddiwch hylif diheintiol dwylo os byddwch yn gwneud hynny. Gofalwch na fyddwch yn cyffwrdd â'ch wyneb. Ewch â hancesi papur gyda chi a gorchuddiwch eich ceg â hances bapur pan fyddwch yn peswch neu'n tisian neu defnyddiwch rywbeth arall fel penelin eich llawes os ydych wedi anghofio hancesi papur, er mwyn lledaenu cyn lleied â phosibl o ddefnynnau. Golchwch eich dwylo neu defnyddiwch lanweithydd dwylo ar ddechrau ac ar ddiwedd eich taith. 

Gofynnwch am gymorth os bydd ei angen arnoch

Os bydd angen cymorth arnoch wrth deithio a byddwch fel arfer yn cysylltu â'ch gweithredwr trafnidiaeth ymlaen llaw, parhewch i wneud hynny er mwyn iddo allu paratoi'n briodol. Os byddwch yn cael problemau wrth giwio neu fel arall wrth symud drwy gyntedd teithio neu ddefnyddio cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus, siaradwch â'ch gweithredwr trafnidiaeth ymlaen llaw i gael cyngor ac esbonio'r cymorth y bydd ei angen arnoch. 

Os bydd unrhyw broblemau'n codi neu os byddwch yn teimlo'n sâl yn ystod eich taith, siaradwch ag aelod o staff trafnidiaeth. Mewn argyfwng, cysylltwch â'r gwasanaethau brys fel y byddech yn ei wneud fel arfer. 

Os bydd angen help arnoch, cadwch bellter o 2 fetr i ffwrdd oddi wrth aelodau o staff. Os na fydd hyn yn bosibl, dylech osgoi cyswllt corfforol a threulio cyn lleied o amser â phosibl o fewn 2 fetr i aelodau o staff.

Plant ar drafnidiaeth gyhoeddus 

Mae'r mesurau cadw pellter corfforol yn gymwys i blant yn ogystal ag oedolion er mwyn helpu i leihau'r risg o drosglwyddo'r feirws. Dylai plant gadw 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl eraill nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â nhw. Os na fydd hyn yn bosibl, dylent osgoi cyswllt corfforol, peidio â wynebu pobl eraill, a threulio cyn lleied o amser â phosibl o fewn 2 fetr i bobl eraill.  

Os mai chi yw'r oedolyn cyfrifol neu'r gofalwr sy'n teithio gyda phlant, ceisiwch sicrhau bod y plant yn cadw pellter corfforol. 

Os bydd teithio'n angenrheidiol, dylech ystyried a ddylai plant gerdded neu feicio ac a ddylai oedolyn cyfrifol neu ofalwr fynd gyda nhw.

Mae'r trefniadau ar gyfer dychwelyd i'r ysgol, ac felly gludiant i'r ysgol, yn cael eu hystyried ar wahân. 

Cwblhau eich taith

Wrth orffen eich taith:

  • dylech ystyried cerdded neu feicio o'r orsaf neu'r safle ar ôl cyrraedd 
  • dilynwch y canllawiau lleol
  • golchwch eich dwylo neu defnyddiwch lanweithydd dwylo, a gwnewch yr un peth ar gyfer eich plant, cyn gynted â phosibl

Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat

Canfod i wybodaeth i yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.

Mewn safleoedd tacsis, ceisiwch gadw pellter o 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl eraill fel yr argymhellir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Ceir preifat a cherbydau eraill

Cynlluniwch eich llwybr, gan gynnwys unrhyw seibiannau, cyn cychwyn ar eich taith.

Ceisiwch aros mor lleol â phosibl i'ch cartref. Gall llwybrau fod yn wahanol wrth i ardaloedd lleol wneud newidiadau er mwyn galluogi pobl i gadw pellter corfforol ar balmentydd a llwybrau beicio. 

Os byddwch fel arfer yn rhannu cerbyd â phobl o aelwydydd eraill ar gyfer teithiau hanfodol, rydym yn argymell y dylech ddod o hyd i ffordd wahanol o deithio. Er enghraifft, dylech ystyried cerdded neu feicio os oes modd. Mae hyn yn golygu nad yw trefniadau rhannu ceir na threfniadau eraill i rannu cerbydau â phobl nad ydynt yn rhan o'ch aelwyd er mwyn teithio i'r gwaith os na allwch weithio gartref yn cael eu hargymell ar hyn o bryd oherwydd byddai'n anodd cadw at y rheolau a chadw pellter corfforol.

Ar eich taith 

Gall awyru da (cadw ffenestri'r car ar agor) a wynebu i ffwrdd oddi wrth eich gilydd helpu i leihau'r risg o drosglwyddo'r feirws.

Byddwch yn ymwybodol o'r arwynebau y byddwch chi neu bobl eraill yn cyffwrdd â nhw. Cadwch fannau fel y llyw a dolenni drysau yn lân.

Os byddwch yn dod o fewn 2 fetr i bobl eraill, dylech osgoi cyswllt corfforol, ceisio peidio â wynebu pobl eraill, a threulio cyn lleied o amser â phosibl o fewn 2 fetr i bobl eraill.

Os byddwch yn gyrru, dylech ragweld mwy o gerddwyr a beicwyr na'r arfer, yn enwedig ar adegau prysur o'r dydd. Caniatewch i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd gadw pellter corfforol. Er enghraifft, rhowch ddigon o le i feicwyr gadw 2 fetr o bellter wrth oleuadau traffig. 

Treuliwch gyn lleied o amser â phosibl mewn garejis, gorsafoedd petrol a gwasanaethau traffordd. Cadw bellter o 2 fetr i ffwrdd oddi wrth eraill a defnyddiwch ddulliau talu digyffwrdd os oes modd. Golchwch eich dwylo neu defnyddiwch lanweithydd dwylo wrth gyrraedd a gadael.

Cwblhau eich taith

Wrth ichi orffen eich taith, rydym yn argymell y dylech wneud y canlynol:

  • dilyn y canllawiau lleol 
  • golchi eich dwylo neu ddefnyddio glanweithydd dwylo cyn gynted â phosibl

Teithio dros Ffiniau

Os ydych yn teithio dros ffin o fewn y DU, yn enwedig y ffin rhwng Cymru a Lloegr, byddwch yn ofalus o ran dilyn y rheoliadau a’r canllawiau ar deithio a all fod ar waith yng ngwahanol wledydd y DU.

Teithwyr awyr

Cyn ichi deithio, ysytriwch a yw eich taith yn angenrheidiol ac yn cael ei ganiatáu o dan y rheolau yng Nghymru. Mae cyngor ledled y DU safer air travel guidance for passengers os ydych yn byw yng Nghymru a bod yn rhaid ichi deithio dramor neu eich bod yn ymweld â Chymru.

Teithio rhyngwladol

Os bydd teithio dramor yn hanfodol, cofiwch edrych ar y cyngor diweddaraf gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad cyn teithio. Holwch eich cwmni hedfan, gweithredwr llongau fferi neu weithredwr trenau am y rheolau penodol ar gyfer pob llwybr a chyrchfan.

Cofiwch y gall rheolau cwarantîn fod yn gymwys pan fyddwch yn dychwelyd i'r DU. 

Ar bob adeg yn ystod eich taith, mae'n bwysig eich bod yn dilyn y canllawiau ar gadw pellter corfforol ac yn cadw 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl eraill lle bo modd. Lle na fydd hyn yn bosibl, dylech dreulio cyn lleied o amser â phosibl o fewn 2 fetr i bobl eraill ac osgoi cyswllt corfforol. 

Dylech ddarllen a dilyn unrhyw ganllawiau gan lywodraeth y wlad y byddwch yn teithio iddi, ac edrych ar gyngor iechyd y cyhoedd wrth ddychwelyd i'r DU.

Gall eich darparwr trafnidiaeth roi mesurau ar waith i'ch helpu i ddilyn canllawiau'r wlad y byddwch yn teithio iddi.

Wrth ichi orffen eich taith, rydym yn argymell y dylech wneud y canlynol:

  • dilyn yr holl ganllawiau lleol 
  • golchi eich dwylo neu ddefnyddio glanweithydd dwylo cyn gynted â phosibl 

Gofynion Cyfreithiol a Gorfodi: cadw pellter corfforol a chynulliadau

Nid yw'r gofyniad yn Rheoliadau'r Coronafeirws yng Nghymru i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau pellter o 2 fetr rhwng pobl ar safleoedd yn gymwys i gerbydau (gan nad ydynt yn “safleoedd” yn ôl y rheoliadau) ond mae'r gofyniad hwn yn gymwys i bob gweithle. O ganlyniad i hynny, mae'n gymwys mewn gorsafoedd trenau, gorsafoedd bysiau a meysydd awyr, er enghraifft. Mater o ganllawiau arferion gorau, nid y gyfraith, fydd y rheolau ar gadw pellter corfforol ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn cerbydau trenau ac ar fysiau. O ystyried natur wasgaredig trafnidiaeth gyhoeddus, bydd yn anodd iawn gorfodi unrhyw ganllawiau'n swyddogol a bydd dibyniaeth sylweddol ar y cyhoedd i ddilyn y cyngor a hunanreoleiddio. 

Gall cyngor ychwanegol gael ei roi gan staff trafnidiaeth a phobl eraill a gyflogir at y diben hwn, fel y bydd llawer ohonom wedi gweld mewn archfarchnadoedd lle y caiff mesurau cadw pellter corfforol eu rheoli'n effeithiol mewn ciwiau a'r tu mewn i siopau. 

Mae'r cyfyngiad ar gynulliadau mewn lle cyhoeddus o fwy na dau berson yn gymwys mewn unrhyw le cyhoeddus. Nid bwriad y rheoliadau yw gwneud ciwio am fws, er enghraifft, yn anghyfreithlon, ond mae angen i'r cyhoedd fod yn glir ynghylch eu cyfrifoldeb i gadw pellter corfforol dan yr amgylchiadau hyn. 

At hynny, mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyffredinol i'w gweithwyr o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Gall hynny fod yn fwy perthnasol i staff yn y system trafnidiaeth gyhoeddus wrth i'r galw gynyddu. 

Mae'r darpariaethau ar gyfer gorfodi'n swyddogol wedi'u nodi yn y rheoliadau ac, yn y pen draw, os yw'n bosibl bod trosedd wedi'i chyflawni gall yr Heddlu, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ddod yn rhan o'r mater ac mae darpariaeth ar gael i roi dirwyon os oes troseddau wedi'u cyflawni.

Rhestrau gwirio ar gyfer teithio'n ddiogel

Cynlluniwch eich taith

  • alla' i gerdded neu feicio i ble rwy'n mynd?
  • ydw i wedi edrych ar y cyngor teithio diweddaraf gan fy ngweithredwr trafnidiaeth?
  • ydw i wedi gofyn am unrhyw gymorth rwy'n credu y bydd angen imi ei gael?
  • ydw i wedi prynu fy nhocyn teithio ar-lein neu wedi edrych i weld oes modd talu'n ddigyffwrdd?
  • ydw i wedi cynllunio fy nhaith er mwyn ceisio osgoi mannau poblog a chaniatáu ar gyfer oedi?
  • ydw i'n dewis y llwybr mwyaf uniongyrchol i ble rwy'n mynd?

Y pethau y dylech fynd â nhw gyda chi 

  • cynllun ar gyfer fy nhaith 
  • cerdyn talu digyffwrdd
  • ffôn (os oes angen un ar gyfer diweddariadau teithio, tocynnau, taliadau digyffwrdd)
  • tocynnau
  • glanweithydd dwylo 
  • meddyginiaethau hanfodol 
  • bwyd a dŵr 
  • hancesi papur
  • gorchudd wyneb, neu fwy nag un os yw eich taith yn un hir neu os byddwch yn teithio’n ôl yn hwyrach

Rhannu’r dudalen hon