Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithredu’n ofalus mewn perthynas â theithio rhyngwladol oherwydd y perygl o ddal y coronafeirws dramor a mewnforio ffurfiau newydd o’r feirws i’r DU.

Rydym wedi cynghori pobl i beidio â theithio dramor oni bai bod eu taith yn hanfodol, gan eu hannog i ystyried cymryd gwyliau yn y DU.

Diolch i lwyddiant ein rhaglen frechu ardderchog, mae’r mwyafrif helaeth o oedolion Cymru bellach wedi cwblhau’r cwrs sylfaenol, dau ddos o’r brechlyn Covid-19. Yn ogystal, mae dros 1.8m o oedolion yn cael eu hamddiffyn ymhellach gan ddos atgyfnerthu neu, yn achos oedolion imiwnoataliedig, drydydd dos sylfaenol, gan ddarparu amddiffyniad ychwanegol hanfodol yn erbyn yr amrywiolyn Omicron.

O amgylch y byd, mae ymdrechion i frechu pobl ym mhobman yn parhau. Yn ddiweddar, dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod llwyth o 1.1m o frechlynnau Covid-19 a anfonwyd i Rwanda yn cynnwys y biliynfed dos a gyflenwyd drwy COVAX. Serch hynny, rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy mewn sawl rhan o’r byd i gynyddu mynediad at frechlynnau Covid-19 a hybu ymdrechion brechu.

Wrth inni symud y tu hwnt i’r don Omicron o Covid-19, byddwn hefyd yn gweld mwy o gyfle i unigolion fynd yn ôl at wneud penderfyniadau yn ôl eu hamgylchiadau eu hunain. Ar y sail honno, ac oherwydd y llwyddiant brechu a nodir uchod, ni fyddwn mwyach yn cynghori pobl mai dim ond ar gyfer teithiau hanfodol y dylent deithio dramor.

Yn hytrach, rydym yn gofyn i bawb sy’n ystyried trefnu gwyliau dramor feddwl am eu hamgylchiadau personol a theuluol ac am ffyrdd o ddiogelu ei gilydd os byddant yn penderfynu teithio dramor eleni. Rydym yn annog pawb sy’n agored i niwed i gymryd camau ychwanegol i ddiogelu eu hunain.

Os ydych yn bwriadu teithio dramor, cofiwch:

  • Edrych ar wefan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i weld y gofynion mynediad penodol ar gyfer y wlad y byddwch yn teithio iddi – mae’r rhain yn cynnwys gofynion o ran brechlynnau a phrofion ar gyfer Covid-19.
  • Gwirio’r gofynion penodol ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 18 mlwydd oed yn y wlad y byddwch yn teithio iddi.
  • Gwirio’r sefyllfa o ran y coronafeirws yn y wlad y byddwch yn teithio iddi cyn ichi fynd.
  • Diogelu’ch hun tra byddwch i ffwrdd drwy ddilyn yr un mesurau â’r rhai sy’n helpu i’ch diogelu gartref.
  • Gwirio a dilyn y gofynion mynediad ar gyfer dod yn ôl i’r DU – mae’r rhain i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
  • Ar ôl dychwelyd, ystyried cymryd camau ychwanegol i’ch diogelu chi, eich ffrindiau a’ch teulu, gan gynnwys gwneud prawf llif unffordd cyn ymweld ag anwyliaid agored i niwed; gadael bwlch rhwng ymweld a chymdeithasu ag eraill ac, os oes gennych symptomau’r coronafeirws, hunanynysu a gwneud prawf.

Rydym yn parhau i fynegi ein pryderon i Lywodraeth y DU ynglŷn â pha mor gyflym y mae wedi dileu mesurau diogelu iechyd y cyhoedd mewn perthynas â theithio rhyngwladol a’r erydiad parhaus o’r mesurau hyn.

Yn benodol, mae dadfeiliad y system wyliadwriaeth ar gyfer teithwyr rhyngwladol sy’n cyrraedd y DU yn gadael bwlch mawr yn y mesurau diogelu at y dyfodol. Rydym yn parhau i ddadlau dros ddull mwy rhagofalus drwy gadw mesurau diogelu iechyd y cyhoedd o’r fath oherwydd y risg o fewnforio amrywiolion newydd o Covid-19 drwy deithio rhyngwladol.

Serch hynny, oherwydd yr anawsterau ymarferol sylweddol a fyddai’n cael eu hachosi gan drefniadau gwahanol i’r rhai yn Lloegr yn y maes hwn – mae nifer sylweddol o deithwyr o Gymru yn defnyddio meysydd awyr a phorthladdoedd Lloegr – rydym, yn anfoddog, yn parhau i gadw cysondeb â’r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU ac y cytunodd y llywodraethau datganoledig eraill arnynt.

Wrth wneud hyn, byddwn yn cymryd y camau canlynol i helpu i leihau’r risg o fewnforio amrywiolion newydd yn y dyfodol:

  • Gweithredu mesurau i annog teithwyr sy’n cyrraedd Cymru i gymryd prawf llif unffordd, a phrawf PCR dilynol os yw’n bositif.
  • Cynnal cyngor a chanllawiau clir ar gyfer teithwyr rhyngwladol.
  • Parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gynnal system wyliadwriaeth gadarn yn y DU sy’n defnyddio ein system ragorol ar gyfer dilyniannu canlyniadau prawf positif i fonitro am amrywiolion ac asesu eu heffeithiau yn gyflym.
  • Pan fo unrhyw Amrywiolyn newydd sy’n Peri Pryder yn cael ei ganfod, pwyso am gamau cyflym i arafu lledaeniad i mewn i’r DU a chaniatáu cymaint o amser â phosibl i weithredu mesurau diogelu.
  • Pwyso am i effeithiolrwydd dosau brechlynnau, a’r cyfnodau amser pan fyddai angen dosau ychwanegol i ddarparu amddiffyniad yng nghyd-destun teithio rhyngwladol, barhau i gael eu hadolygu’n rheolaidd.

Yn sgil y newidiadau hyn, ni fydd angen i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn sy’n cyrraedd Cymru gymryd prawf ar neu cyn diwrnod dau ac ni fydd angen i deithwyr sydd heb eu brechu sy’n cyrraedd Cymru gymryd prawf diwrnod wyth na hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl cyrraedd.

O 4am ddydd Gwener 11 Chwefror ymlaen:

  • Ni fydd angen i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn (wedi cael eu cwrs sylfaenol llawn) gymryd prawf cyn-ymadael ddeuddydd cyn teithio i’r DU. Yr unig ofyniad arnynt fydd llenwi Ffurflen Lleoli Teithwyr
  • Dylai teithwyr sydd heb eu brechu neu deithwyr anghymwys lenwi Ffurflen Lleoli Teithwyr, gwneud prawf cyn-ymadael o fewn dau ddiwrnod i’r amser y maent i fod i ymadael, a gwneud prawf PCR ar ôl cyrraedd ar neu cyn diwrnod dau.
  • Caiff unrhyw un o dan 18 mlwydd oed, ni waeth beth fo’i statws brechu, nawr ddod i’r DU heb brawf cyn-ymadael. Serch hynny, os byddwch yn teithio dramor gyda phlant byddem yn eich annog i wirio unrhyw ofynion gwahanol ar gyfer plant, gan gynnwys a oes angen iddynt fod wedi’u brechu’n llawn.

Mae tystysgrifau brechu sy’n cael eu rhoi gan y mwyafrif helaeth o wledydd nawr yn cael eu cydnabod, ac mae 16 o wledydd pellach yn cael eu hychwanegu at y rhestr hon.