Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am bwrpas taith, amser a dreuliwyd, dull cludiant a'r pellter a deithiwyd ar gyfer 2012.

Prif bwyntiau

  • Ar gyfartaledd, mae pobl sy’n byw yng Nghymru yn gwneud bron i fil o deithiau'r flwyddyn, ac yn teithio tua 7,500 milltir neu 144 milltir yr wythnos.
  • Mae’r defnydd o gar, unai fel gyrrwr neu deithiwr, yn dominyddu teithio personol gan bobl sy’n byw yng Nghymru. Gan gymryd 2011 a 2012 gyda’u gilydd, mae’r car yn cyfrif am 69% o’r holl deithiau ac 84% o’r pellter a deithiwyd mewn blwyddyn.
  • Y ddau reswm pennaf am deithiau yw siopa ac ar gyfer ‘cymudo a busnes’ sy’n cyfrif am tua phumed o deithiau'r un; nesaf yw ‘ymweld â ffrindiau (a theulu)’ a theithio ar gyfer pob math o ddibenion hamdden, yn cynnwys ‘ond cerdded’, sy’n cyfrif am tua 15% o deithiau yr un; y tri rheswm bras olaf ar gyfer teithio yw ‘addysg ac addysg hebrwng’, ‘hebrwng arall’ a ‘busnes personol’, sy’n cyfrif am ddegfed o deithiau yr un.
  • Ar gyfartaledd roedd taith bersonol un ffordd yng Nghymru yn 8 milltir. Roedd taith gerdded yn llai na milltir; roedd taith car neu drafnidiaeth breifat arall yn 9 milltir, a thaith fws leol yn 6 milltir.
  • Roedd teithio personol yng Nghymru ar ei uchaf yn 2004 a 2005, disgynnodd i fod ar ei isaf tua 2007 a 2008 ac mae wedi codi’n gyson ers hyn.
  • Mae 8 ym mhob 10 o siwrneiau i’r gwaith yn cael eu gwneud mewn car, ac mae’r gyfran hyn wedi bod yn sefydlog am 10 mlynedd. Mae gan Gymru’r gyfradd uchaf o bobl yn teithio i’r gwaith mewn car o unrhyw ranbarth neu wlad ym Mhrydain Fawr.
  • Yng Nghymru, mae ychydig dros hanner o weithwyr yn teithio i’r gwaith mewn llai na 20 munud; ac 85% mewn llai na 40 munud.

Adroddiadau

Teithio personal, 2012 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 474 KB

PDF
Saesneg yn unig
474 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Teithio personal, 2012: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 27 KB

XLSX
Saesneg yn unig
27 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.