Neidio i'r prif gynnwy

Amrywiaeth o wybodaeth ei gasglu drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru am deithio llesol gan bobl yn ystod Ebrill 2017 i Fawrth 2018.

Mesurir Teithio Llesol isod fel cerdded am o leiaf 10 munud neu feicio, boed am y cyfan neu ran o'r daith, i gyrraedd cyrchfan arbennig. Canfuwyd y lefelau gweithgaredd canlynol (dim ond yn cynnwys teithiau a wnaed ar gyfer dibenion teithio llesol).

Prif bwyntiau

  • Teithiodd 6% o oedolion ar feic o leiaf unwaith yr wythnos.
  • Roedd 58% o oedolion yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos.
  • Roedd 47% o bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol yn cerdded o leiaf dair gwaith yr wythnos, o'i gymharu â 33% o'r rhai o ardaloedd gwledig.
  • Roedd dynion, pobl iau, y rheini heb salwch cyfyngol a'r rheini sydd â chymwysterau yn fwy tebygol nag eraill o seiclo.
  • Roedd pobl ifanc, y rheini heb salwch cyfyngol, y rheini â chymwysterau a phobl o ardaloedd trefol yn fwy tebygol nag eraill o gerdded am fwy na 10 munud i gyrraedd cyrchfan arbennig.
  • Mae 44% o blant yn teithio'n llesol i'r ysgol gynradd, ac 34% i'r ysgol uwchradd (data diweddaraf ar gyfer 2016-17).
  • Mae'r mesur allweddol olaf yn ymwneud ag anafiadau beicio: cafodd 236 o feicwyr pedal wedi eu hanafu’n ddifrifol eu derbyn i’r ysbyty yn 2017-18 (yn seiliedig ar Gronfa Ddata Cyfnodau Cleifion Cymru).

Adroddiadau

Teithio llesol, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 830 KB

PDF
Saesneg yn unig
830 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.