Neidio i'r prif gynnwy

Amrywiaeth o wybodaeth ei gasglu drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru am deithio llesol gan bobl yn ystod Ebrill 2016 i Fawrth 2017.

Mesurir Teithio Llesol isod fel cerdded am o leiaf 10 munud neu feicio, boed am y cyfan neu ran o'r daith, i gyrraedd cyrchfan arbennig. Canfuwyd y lefelau gweithgaredd canlynol (dim ond yn cynnwys teithiau a wnaed ar gyfer dibenion teithio llesol).

Prif bwyntiau

  • Teithiodd 5% o oedolion ar feic o leiaf unwaith yr wythnos.(r)
  • Teithiodd 3% o oedolion ar feic o leiaf dair gwaith yr wythnos.
  • Roedd 61% o oedolion yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos.(r)
  • Roedd 47% o oedolion yn cerdded o leiaf dair gwaith yr wythnos.
  • Roedd 51% o bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol yn cerdded o leiaf dair gwaith yr wythnos, o'i gymharu â 38% o'r rhai o ardaloedd gwledig.

Gofynnwyd hefyd i ymatebwyr Arolwg Cenedlaethol gyda phlant dibynnol sut mae eu plant yn cyrraedd yr ysgol.

  • Mae 42% o'r holl ddisgyblion ysgolion cynradd  fel arfer  yn cerdded i'r ysgol, ac mae 1% o ddisgyblion ysgolion cynradd fel arfer yn beicio i'r ysgol.
  • Mae 34% o ddisgyblion ysgolion uwchradd fel arfer yn cerdded i'r ysgol ac mae 1% o ddisgyblion ysgolion uwchradd fel arfer yn beicio i'r ysgol.

Mae'r mesur allweddol olaf yn ymwneud ag anafiadau beicio.

  • Cafodd 236 o feicwyr pedal wedi eu hanafu’n ddifrifol eu derbyn i’r ysbyty (yn seiliedig ar Gronfa Ddata Cyfnodau Cleifion Cymru).

(r) Wedi'i ddiwygio ar 1 Chwefror 2018.

Nodyn

Cynhwyswyd Cwestiynau ar Deithio Egnïol yn flaenorol yn yr Arolwg Cenedlaethol yn 2013-14 a 2014-15. Ym 2016-17, ehangwyd yr Arolwg Cenedlaethol i gwmpasu'r pynciau a ofynnwyd yn flaenorol ar bedwar arolwg mawr arall. Er bod hyn wedi newid y cyd-destun y gofynnir y cwestiynau, yn gyffredinol, nid ydym wedi canfod gwahaniaethau mawr yn y canlyniadau ar gyfer pynciau Arolwg Cenedlaethol a gynhwyswyd cyn ac ar ôl yr ehangiad. Felly, gellir cymharu'r canlyniadau ar gyfer y pwnc hwn dros amser.

Adroddiadau

Teithio Llesol, Ebrill 2016 i Mawrth 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 993 KB

PDF
Saesneg yn unig
993 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Teithio Llesol, Ebrill 2016 i Mawrth 2017: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 14 KB

ODS
14 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.