Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio rhaglen beilot newydd arloesol heddiw sy'n cynnig teithiau bws am ddim ar y penwythnosau i deithwyr ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y peilot fydd yn cael ei gynnig ar bob bws ar rwydwaith eang TrawsCymru yn dechrau ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf ac yn rhedeg bob penwythnos tan o leiaf mis Mai 2018. Y gobaith yw y bydd y cynllun yn sbardun i bobl deithio ar fysus yng Nghymru, gan roi hwb nid yn unig i nifer y teithwyr ond i'w hannog hefyd i fentro ar lwybrau TrawsCymru. 

Wrth lansio'r cynllun, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: 

"O Fangor i Gaerdydd ac o Abergwaun i Wrecsam, rwy'n gobeithio y gwnaiff y cynllun hwn roi'r esgur berffaith i bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt neidio ar fws a threulio'r penwythnosau'n mwynhau golygfeydd hardd ein gwlad. 

"Mae rhwydwaith TrawsCymru'n gwasanaethu llawer i ardal yng Nghymru, rhai ohonyn nhw'n ardaloedd nad oes unrhyw gludiant cyhoeddus arall yn mynd iddyn nhw. A ninnau ar drothwy tymor gwyliau'r haf, rwy'n disgwyl ymlaen at weld yr effaith y gallai mwy o deithwyr ei chael ar yr ardaloedd hyn yn arbennig. 

"Bydd y gwasanaeth newydd yn gyfyngedig i'r seddi fydd ar gael, ond rydym wedi rhoi arian ychwanegol i awdurdodau lleol er mwyn i weithredwyr allu defnyddio mwy o fysus i gwrdd ag unrhyw gynnydd yn y galw. Mae trefniadau wedi'u gwneud hefyd i ddigolledu cwmnïau bysiau lleol sy'n gweld gostyngiad yn nifer eu teithwyr nhw yn sgil y peilot, er ein bod yn hyderus y gwelan nhw gynnydd. 

"Pleser digymysg imi yw cael lansio'r cynllun arloesol hwn ac rwy'n disgwyl ymlaen at weld cymaint o bobl â phosib yn manteisio ar y cynnig ardderchog hwn i deithio o gwmpas y wlad am ddim ar fws." 

Gobeithir y bydd y cynllun peilot o fudd i deithwyr ac y bydd hefyd yn hwb i fusnesau a chyrchfannau i dwristiaid sydd ar hyd lwybrau’r teithiau bws a thu hwnt. Un cyrchfan i dwristiaid sy’n gobeithio elwa ar y fenter yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol y Parc Cenedlaethol, John Cook:

“Bydd menter teithio am ddim ar benwythnosau TrawsCymru yn galluogi mwy o bobl ar draws Cymru i fwynhau’r hyn y gall Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei gynnig. Mae llawer o drefi ac atyniadau ar hyd llwybrau gwasanaethau bws T6 a T4 gan gynnwys ardal eang ac agored Canol y Bannau, tref farchnad Aberhonddu a Pharc Gwledig Craig y Nos. Rydym yn annog pawb i fynd allan a defnyddio gwasanaethau bws am ddim T6 a T4 er mwyn crwydro Bannau Brycheiniog yr haf hwn.”

Bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio'r peilot i ddeall yn well sut y gall gostyngiadau o'r fath effeithio ar y galw am gludiant cyhoeddus cyn penderfynu ar ei ddyfodol ar ôl Mai 2018.

Wefan: TrawsCymru (dolen allanol).