Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau ar ein gwaith ar dechnoleg a’r Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Dyma’r datganiad gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 7 Ionawr 2025 ar ein blaenoriaethau ar gyfer technoleg Cymraeg. 

“Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddio’r Gymraeg mewn technoleg, a byddwn ni’n defnyddio popeth mae technoleg yn ei gynnig i’n helpu ni i ddefnyddio’r Gymraeg.”

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg.

Ein blaenoriaethau

Dyma ein 3 blaenoriaeth ar gyfer technoleg Cymraeg:

  • technoleg fel ffordd o gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg 
  • sicrhau bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Cymraeg
  • gwella deallusrwydd artiffisial (AI) Cymraeg a thechnolegau lleferydd (drwy rannu data a ffyrdd eraill)

Byddwn ni’n cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar ein gwaith ar dechnoleg a’r Gymraeg ar y dudalen hon.

Technoleg fel ffordd o gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg

Gall technoleg Gymraeg cywir, dibynadwy ein helpu ni i gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg, sef 1 o 2 brif darged Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Gall technoleg ei gwneud hi’n haws i ni ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, o addysg a gwaith i sgwrsio gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr.

Rydyn ni’n credu y dylai rhyngwynebau, offer ac adnoddau Cymraeg fod ar gael mor hawdd â phosibl. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid i leihau ‘ffrithiant’ wrth ddefnyddio offer a gwasanaethau Cymraeg fel bod pobl yn gallu defnyddio eu Cymraeg mewn mwy o sefyllfaoedd. Byddwn ni hefyd yn parhau i hyrwyddo ein methodoleg ‘ysgrifennu triawd’ i wneud cynnwys a gwasanaethau mor hawdd â phosibl i’w defnyddio yn Gymraeg.

Mae’r logo Iaith Gwaith yn ffordd effeithiol o ddangos ein bod ni’n gallu siarad Cymraeg. Mae hefyd yn helpu ni ddod o hyd i siaradwyr Cymraeg eraill. Efallai eich bod wedi gweld y swigen oren ar boster mewn derbynfa neu ar laniard i hysbysebu bod gwasanaeth Gymraeg ar gael. Byddwn ni’n gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg, sy’n gyfrifol am Iaith Gwaith, i’w gwneud hyd yn oed yn fwy amlwg yn y byd digidol, fel bod pobl yn teimlo’n fwy hyderus i ddechrau mwy o sgyrsiau a defnyddio mwy o wasanaethau yn Gymraeg. Bydd hyn yn rhan o’n gwaith ehangach gyda’r Comisiynydd ar ddatblygu’r defnydd o dechnoleg a gwasanaethau digidol Cymraeg mewn gweithleoedd a thu hwnt.

Mae gwirwyr sillafu a gramadeg eisoes ar gael. Byddwn ni’n sicrhau bod yr adnoddau hyn yn gyfredol. Byddwn ni’n parhau i gefnogi eu gwella a sicrhau eu bod ar gael ar fwy o blatfformau.

Rydyn ni am i chi wybod am bopeth sydd ar gael a sut i’w ddefnyddio, felly byddwn ni’n diweddaru ein rhestr Helo Blod o offer ac adnoddau yn rheolaidd.

Byddwn ni’n parhau i gefnogi’r gymuned o ddatblygwyr yng Nghymru. Byddwn ni’n gweithio gyda nhw fel y gallan nhw greu mwy o gynnwys a gwasanaethau yn Gymraeg.

Sicrhau bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Cymraeg

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd. Rydyn ni am wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael at dechnoleg Gymraeg i’w gwneud hi’n haws i ni ddefnyddio mwy o’n Cymraeg ni. Mae hyn yn golygu pawb, ble bynnag ydyn ni ar ein taith iaith.

Rydyn ni am ei gwneud hi’n haws i rieni a gofalwyr plant ysgol ddefnyddio mwy o Gymraeg. Byddwn ni’n gweithio gyda’r sector ysgolion i’w gwneud hi’n haws i rhieni, gofalwyr ac athrawon i gefnogi addysg Gymraeg plant. Ar Hwb, byddwn ni’n rhannu mwy o newyddion a diweddariadau ar dechnoleg a chynnwys perthnasol i ysgolion rhannu ac ail-rannu gyda rhieni a gofalwyr.

Byddwn ni hefyd yn ehangu ein rhestr offer ac adnoddau Helo Blod i gynnwys adran benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr er mwyn helpu plant ddefnyddio mwy o Gymraeg yn yr ysgol a thu hwnt i’r dosbarth.

Rydyn ni am gefnogi datblygiadau digidol i helpu pobl deimlo’n fwy hyderus, lle bynnag maen nhw ar eu taith iaith. Mae adnoddau fel y Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg ar gael yn barod gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Byddwn ni’n gweithio gyda’r Ganolfan i ddatblygu’r dechnoleg tu ôl i’w hadnoddau i’w wneud yn haws fyth i bobl ddefnyddio mwy o’u Cymraeg bob dydd.

Rhan bwysig o’n camau nesaf fydd technoleg i helpu pobl sydd ag anghenion penodol. Gallai hyn gynnwys:

  • pobl anabl
  • pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • pobl sydd ag anghenion yn sgil triniaeth feddygol
  • pobl sydd ag amhariad gwybyddol neu gorfforol

Byddwn ni’n gweithio i helpu pawb i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg mewn adnoddau lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei chefnogi i’r graddau mae angen iddi fod.

Byddwn ni’n nodi bylchau ac yn cynnig data ac adnoddau i ddarbwyllo cwmnïau i gefnogi’r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys darllenwyr sgrin a ‘pen-readers’ ar gyfer asesiadau ysgol, ac ymgorffori lleisiau synthetig dwyieithog yn well ar gyfer pobl sydd ag amhariad ar y golwg.

Rydyn ni am i bawb deimlo’n ddiogel ac wedi’u hamddiffyn rhag cynnwys niweidiol wrth ddefnyddio technoleg yn Gymraeg. Byddwn ni’n gweithio gyda rheoleiddwyr a chwmnïau i ystyried sut maen nhw’n ymdrin â materion Cymraeg.

Gwella deallusrwydd artiffisial (AI) Cymraeg a thechnolegau lleferydd

Mae technolegau iaith modern fel y modelau iaith mawr (LLMs) mae AI yn defnyddio yn dibynnu ar lawer iawn o ddata hyfforddi i fod yn fwy cywir, yn ddiwylliannol berthnasol ac yn ddiduedd. Mae angen i bob un ohonon ni rannu mwy o destun, fideo a data arall lle gallwn ni i wella AI a thechnolegau eraill. 

Rydyn ni’n barod yn rhannu data Cymraeg gyda phrosiectau o gwmpas y byd. Rydyn ni’n rhannu data Cymraeg gydag Amazon ar gyfer eu cronfa ddata Massive (Saesneg yn unig). Rydyn ni hefyd yn rhannu data gyda phrosiect AINA (Saesneg yn unig), sydd wedi’i arwain gan Lywodraeth Catalwnia a’r Barcelona Supercomputing Centre. Rydyn ni’n gwneud hyn achos rydyn ni am annog mwy o bobl i rannu mwy o ddata. Gall hyn fod yn uniongyrchol drwy ddanfon cynnig ffurfiol at Microsoft fel rhan o’n partneriaeth neu drwy drwyddedu data addas yn agored.

Er mwyn i ni ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn AI, mae angen i’r allbwn fod yn gywir, yn ddiogel ac yn ddiwylliannol berthnasol. Mae’r un peth yn wir am adnabod lleferydd Cymraeg a dwyieithog. Mae angen i’r systemau allu adnabod a thrawsgrifio’r Gymraeg rydyn ni gyd yn siarad gyda’n cydweithwyr, ein ffrindiau a’n teuluoedd. 

Fel rhan o’n partneriaeth â Microsoft, rydyn ni eisoes wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd ar Microsoft Teams. Mae’r bartneriaeth hon bellach yn cynnwys gwaith i wella Copilot yn Gymraeg: adnodd AI diweddaraf Microsoft. Wrth i ni arfer â siarad gyda chynorthwywyr AI a defnyddio AI i grynhoi ein cyfarfodydd, rydyn ni am sgwrsio â thechnoleg yn y ffordd mae siaradwyr Cymraeg yn gwneud ym mywyd go iawn bob dydd, er enghraifft ‘cyfnewid cod’, sef pan rydyn ni’n defnyddio bach o Saesneg yn ein Cymraeg ac i’r gwrthwyneb. Rydyn ni’n barod yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol er mwyn i'n gwaith ni ar hyn helpu cymunedau amlieithog ledled y byd.